Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
Y Glowyr a Gorfodaeth. Bydd y Mesur Gorfodol yn ddeddf yn y man, ond y mae yr argoel yn par- hau i gynyddu mai Mesur yw sy'n sicr o rannu y wlad yn nydd ei gofwy a i pherigl. Y mae y glowyr yn bendantj yn ei erbyn. Cyfarfu Cynhadledd Cenedlaethol y Mwnwyr, yr hon oedd wedi ei galw'n arbennig i ystyried y Mesur Gorfodol, yn Llundain. Llywyddwyd gan Mr Robert Smillie, ac yr oedd 150 o gyn rychiolwyr yn bresennol. Preifat oedd y cyfarfyddiad. Ar y diwedd cyboedd- wyd fod y ffigyrrau fel y canlyn :— Yn erbyn y Mesur 653,190 Ob?idyMesur 38,100 Amhleidiol 25,240 Penderfynwyd cynnal cynhadleddl arall i ystyried pa gwrs i'w gymeryd yn y dyfodol os y pesir y Mesur. Gorchymynodd Swydd Gaerhirfryn, Swydd Efrog, Swydcl Gaer, Durham, Swydd Derby, Somerset, a Northiimber- land i'w cynrychiolwyr bleidleisio yn i erbyn y Mesur. j Bu cyfarfod arbennig o Gyngrair; Mwnwyr De Cymru yng Nghaerdydd* a j phenderfynwyd drwy 211 o bleidleisiau j yn erbyn 35 i wrthwynebu y Mesur I Gorfodol. Er mwyn rhoddi grym pell- ach yn y penderfyniad pasiwyd fod y gynhadledd yn datgan o blaid polisi 0 roddi arfau i lawr os pesir ef. Yr oedd y pleidleisio fel y canlyn :— [ 0 blaid 163 Yn erbyn 83 Yna pleidleisiwyd ar y cwesti wn a ddylid dilyn y polisi o streicio yn union- j gyrchol. Pasiwyd fod y cwestiwn 0 streic i gael pleidleisio arno gan yr boll lofeydd drwy'r Deyrnas Gyfunol. Yr oedd y pleidleisio fel y canlyn :— Oblaid 127 Yn erbyn 109 Yn sicr y mae y pethau hyn yn dyweyd y dylai y Llywodraeth ym- j bwyllo. Ni ellir meddwl am ddim per •j yclach na rhannu y wlad yn y fath argyfwng. I
[No title]
IF *»• Dr. Clifford a'r Mesur Gorfodol, Wrth aunerch cyfarfod yn Manches- ter, cyfeiriodd y Parch Dr. Clifford at yr i ymgais i ddwyn i Brydain orfodaeth filwrol. Dywedai fod y gorfodwyr yn brysur a phenderfynnol. Nis gall! milwriaeth, meddai, lywodraethu heb! orfodaeth, ac yr oedd gorfodaeth yn parotoi y ffordd i filwriaeth. Gadawer i orfodaeth ddyfod, ac fe geid Caisar yn dilyn. Ildier y gwasanaeth milwrol rhydd, a byddwn ar y gori wared: collid senedd rydd, collid gwasg rydd, a chollid rhyddid llafar. Dywedai wrth- ynt am sefyll yn gadarn yn y rhyddid a ennillwyd iddynt gan eu tadau, a rhodder y rbyddid hwnnw i bob dyn. Na rodder unrhyw hawliau personol at I drugaredd deddfwyr. Y mae Dr. Clifford wedi bod mor bybyr a'r pybyraf yn y wlad ymhlaid y rhyfel. Tystiodd nad allai Prydain wneud- dim ond ymladd; ond yn awr cwyd ei lef yr un mor groew yn erbyn I gorfodaeth. Geiriau plaen, diamwys, a rhybuddiol yw y rhai uchod: yn ben- difaddeu rhaid i'r Dr. ymgroesi neu fe'i cyhuddir toe o fod mewn ryw berthynas ddirgelaidd a'r Germaniaid. a ft A gfi A
[No title]
Mae History of the King's Court of I Great Sessions in Wales," gan Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., yn awr yn barod, ac yn Haw Syr Vincent Evans, ysgrifennydd Cymdeithas y Cymrodor- ion.
Advertising
At ein Gohebwyr. CYFELRIER POB GOHEBIAETH— V Goiygydd, Gwyliedydd Newydd Y Gelli, Coed-y-Flint, Flint, Gogtedd Cymru.
BWRDD Y GOL. !
BWRDD Y GOL. RHOSFAWR.—Diolch yn gynnes i chwi am eich gair caredig ac am eieh help. Bydd yn dda iawn gennym glywed oddiwrth- ych ynghylch digwyddiadau crefyddol a Wesleaidd yr ardal a'r cylch. R, J.Wel, dyna'n barn ni, a llawen gen nym eich bod yn cydolygu. Un peth ydyw gwladgarwch, peth arall yw gorfodaeth, onide? DECHREU LLAMU TROS Y CLODDIAU."—I Diolch lawer iawn, ond oblegid lliosog. rwydd adroddiadau o Gyfarfodydd | Chwarterol rhaid ei gadael hyd y rhifyn nesaf. Dyddorol yn wir. "BILLY SUNDAY."—Deallwn y prisir yr, ysgrifau ilynyn fawr, ond am fod new- yddion lleol ers wythnos neu ddwy fel i pe'n ein trechu, rhaid gadael yr ysgrifj hon, ac amrai eraill, hyd yr wythnos! nesaf. CARWR UNIONDEB.-Ond, frawd annwyl, tybed mai gennych chwi yn unig y mae cydwybod ? Clywais fy nhaid yn son am "gydwybod y ci at y cosyn," ac 'rwy'n ofni i mi weled cydwybod felly droion cyn hyn. Y mae croen tipyn o olygydd yn bur dew, welwch chwi. W. D.-Cydolygwn a chwi fod nodiadau A. W. D." ar yr Ysgol Sul, ynghyda syiwadau Billy Sunday," yn ein rhifyn i diweddaf, yn rhagorol iawa. Pe tael pawb mor ymdrechgar a chwi gyda'r G.N. ni byddai arnom bryder, Diolch) lawer i chwi. MACHYNLLETH.—Gwelwch fod un arall o'ch blaen diolch i chwi serch hynny. Onid oes modd cael pwt o Faglona yn amlach ? ABERGYNOLWYN.—Hanes yr wyl bregethu eisoes wedi ymddangos. Bydd yn dda gennym glywed oddiwrthych bob amser. RHY HWYR Y TRO YMA.—Ystumtuen, Cerrygydrudion. ALLAN 0 DDIFFYG GOFODJ—Penmaclmo, Bethesda; Pontypridd; Pentredwr; Caerau Machynlleth; Soar, Cyffin Garth, Maesteg; Ashton-in-Makerfield; Abermaw Lerpwl; Borth; Tre'r Ddol; Colwyn Bay; Rhyl; Ebenezer, Bl. Ffestiniog Seion, Aberdar; Dinas Mawddwv Bwlchgwyn Aberdyii; Abergynolwyn Llanrhaeadr-ym-Moch nant Dyffryn y Dyfi.
Cyfarfod Taleithiol y De.
Cyfarfod Taleithiol y De. Cynhelir yr uchod ym Mountain Ash o'r Sul, Mai 7fed, hyd ddydd lau, yr lleg. Diwrnod pregethu ddydd Iau. LL. MORGAN.
NODIADAU WKTHNOSOL,
NODIADAU WKTHNOSOL, I Ochel Peth Qwaeth meddir. Mewn llythyr i un o'i etholwyr yng Ngholwyn Bay, dywedodd Syr J. Her- bert Roberts My action in support- ing the Government Bill is dictated by the conviction that in the highest inter- ests it is necessary to maintain the pre sent ministry under the leadership of Mr Asquith." Y mae'n debyg mai y rheswm hwn a gymhellai 11awer o Ryddfrydwyr i bleid- leisio tros y Mesur-ceisio gochel y gwaethaf. N id ynt yn credu mewn un math o orfodaeth," ond ofnent y gallai y blaid filwrol daflu y wlad i ethol- iad, ac yn yr argyfwng ennill buddugol- iaeth, oblegid peth peryglus yn wastad ydyw Khaki Election: a phe enillas- ant oruchafiaeth dywedir wrtbym y sicrheid ar war y wlad fesur o orfodaeth llawer helaethach na'r un sy'n awr ger bron y Ty. Os yw hyn yn wir Bid y Daily Alail wedi'r oil sy'n ben. Bid a f ynno, chwith meddw) fod y wlad trwy ddichell wedi ei gwthio i'r fath safle aruthr. — o» ♦
[No title]
Tri Pherigl Mawr. Wrth siarad ymhlaid Cymdeithas Ddirwestol Eglwys Loegr, cyfeiriodd Esgob Lerpwl at yr arian a werrir am ddiod, yfed ymhlith merched, ac yfed i ormodedd ymblith adran arbennig o weithwyr. Y mae tair o ffeithiau pwysig wedi eu dwyn i'r golwg yn ystod yr un mis ar ddeg div, eddaf," meddai. Y cyntaf oedd fod wyth miliwn o bun- nau yn fwy o arian wedi eu gwario ar ddiod o Ionawr hyd Fehefin nag a wnaed yn ystod yr un cyfnod y flwydd- yn ddiweddaf. Yn ail, fod cynnyd yfed ymhlith merched wedi ei 'achosi mewn rhan gan bryder ynghylch ffrindiau oedd yn absennol, gan unigrwydd, ac 'oherwydd y swm mawr o arian a ci'deu?,,i i i'w dwylo.' Y drydedd ffaith, meddai'r Esgob, yw y perigl y mae'r genedl ynddo oherwydd yfed i ormodedd ym- blith dosbarth arbennig o weithwyr." Gresyn na buasai rhai o Weinidogioa y Goron wedi bod mor benderfynol i orchfygu y ddiod ag y buont i osod iau gorfodaeth ar war y werin. Clywsom fod y ddiod yn fwy o elyn i ni na'r Almaen, ac Awstria ynghyd; ond beth dal y son, y mae "y werin" yn fwy hywaith na'r tafarnwyr a'r distyllwyr. —————————— —————————.
[No title]
Prinder Caplaniaid Cymreig. Pasiwyd y penderfyniad a ganlyn gan Annibynwyr Arfon mewn Cynhadiedd a gynhaliwyd yn Llanddulas y dydd o'r blaen Fod y Gynhadledd hon, o Gyfarfod Chwarterol Annibynwyr Arfon, cynull edig yn Llanddulas, lonawr lleg a'r 12fed, 1916, tra yn gwerthfawrogi dym- uniad yr Awdurdodau Milwrol i gyd- nabod hawliau arbennig y Milwyr Cym- reig yn y Fyddin i gael mwynhau breintiau gwasanaeth crefyddol yn yr iaith yn yr hon y'u magwyd, yn dym- uno yn barchus alw sylw dioed y Swyddfa Rhyfel a'r United Navy and, Army Board at ddau gwyn neilltuol a chyfreithlawn y dylid symud yr achos ohonynt yn ddiymdroi, sef :— (1) Prinder cymharoi y Caplaniaid Cymreig perthynol i r Annibynwyr a'r Bedyddwyr a benodwyd hyd yma i wasanaethu i'r CatrSdau Cymreig. Er fod miloedd o Aelodau o'r Eglwysi An1 nibynol Cymreig wedi ymuno a'r Fydd in, nid oes ar hyn o bryd gymaint ag un Caplan Cymreig perthynol i'r Anni- bynwyr wedi cael ei benodi i un o'r gwersylloedd milwrol ar hyd glannau Gogledd Cymru. Galwn yn barchus; ond yn benderfynnol am benodiad dioedi nifar digonol o Weinidogion Cymreig ein henwad ydynt eisoes wedi cynnyg; eu gwasanaeth fel Caplaniaid i'r Fyddin. (2) Yr anfantais diraid y gosodir mil- wyr clwyfedig Cymreig mewn ysbytai yn nhrefi Lloegr o dano drwy na phen- odir Gweiuidogion Cymreig i ymweled a'r Milwyr Cymreig yn yr ysbytai Dymunwn yn barchus awgrymu i'r Swyddfa Rhyfel, ac i'r United Navy and Army Board, y gellict yn rhwydd symud bob achos cwyn yn y mater hwn drwy benodi y Gweinidogicn Cymreig yn Lloegr a geisiant hynny yn Offici- ating Minister to the Welsh Nqncon- formist Troops in Hospitals and Camps."
TIPYN 0 BOPETH.
TIPYN 0 BOPETH. Y ng nghyfarfod banner blvnyddol Cymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint, a Meirion, pasiwyd penderfyniad cryf yn condemnio mesur gorfodaeth fel un sydd yn peryglu buddiannau ac undeb y wlad yn gymdeithasol, moesol a chreryddol. Y mae'r Parch Thomas Edmund Williams, gweinidog eglwys Bedyddwyr y Drefnewydd, Sir Drefaldwyn, y fwyaf yng Ngogledd Cymru, wedi ymddis- wyddo o'r fugeiliaeth o herwydd afiech- yd. Y mae Mr Williams, yr hwn sy'n 70ain mlwydd oed, wedi gweinidogaethu am 23ain mlynedd yn y Drefnewydd, ac am 20ain mlynedd cyn hynny bu yn gofalu am eglwys Bedyddwyr Saesneg Aberystwyth. Yn 1910 dilynodd Mr Lloyd George fel Cadeirydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig, a chynrychiolodd ei Gyfundeb yn arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon. Ba befyd yn cynrych- ioli Dirprwyaeth yr Eglwysi Cymreig pan ddywedodd y cadeirydd, yr Ar- glwydd Farnwr Yanghan Williams wrtho fod ganddo y cyfaddasder priodol i wneud barnwr da. Yr oedd Mr Williams yn un o gych. wynwyr Coleg Aberystwyth, a phecod- wyd ef yn Llywodraethwr ar gynnyg Syr Lewis Morris, y bardd, ac yn ol y Siarter bydd yn Llywodraeth am ei oes. Ba yn gt*dei».-ydd Llywodraethwr Ysgol Sir y Drefnewydd pan adeiiadwyd yr ysgolion, ac y mae eto yn aelod. Y mae yn bregethwr hyawdl, ac yn adnabyddus fel areithydd ar y llwyfaa gwleidyddol Brodor o ranbrath Ebbw Vale ydyw Mr Williams. Y mae r Parch John Davies, gweinid- og eglwysi Undodiaid Allt-y-placca, Cwrtnewydd, a Chapel-y-cwm, wedi rhoddi gofal yr eglwysi i fyny ar ol bod yn eu bugeilio am 52 mlynedd. Ar ol y cwrs arferol o bad air blynedd o efryd- iaeth yng N gholeg Caerfyrddin, derbyn- iodd Mr Davies alwad i Allt-y placca yn 1864. Yn 1867 sefydlwyd eglwys yn Cwrtnewydd a sefydlwyd Mr Davies yn weinidog ami hi ag eglwys Allt-y- placca. Rhywdro yh y nineties'' cychwynwyd achos newydd yn Sych- bant, ac agorwyd capel yn ddi-ddyled yno yn 1906. Adeiladwyd y capel cyntaf yn Allt-y-placca yn 1740, a pherthynai i un o'r capeli oedd o dan ofal Davies, Castell Hywell. Am gyfnod helaeth bu Mr Davies yn cynnal Ysgol Ramadegol lwyddiannus ym mhentref Cwrtnewydd. Yn 1875 apwyntiwyd Mr Davies yn genhadwr dros Dde Cymru, o dan nawdd Cym- deithas Brydeinig a Thramor yr Undod- iaid. Drwg gennym ddeall fod y Parch 0. G. Owen (Aiafon), Golygydd y "Drysor- fa," yn bur wael yn Lerpwl ar hyn o bryd. Eiddunwn iddo adferiad buan, Y n ystod 1915 yr oedd y marwolaeth- au a gyhoeddwyd yn y Times yn cyn wys 854 o ddynion a 117 0 ferched pedwar ugain oed a throsodd. Yn eu plith yr oedd saith yn gant oed, a'r oil yn ferched. Y mae ffigyrau y cwmnian insiwrans yn dangos fod merched yn byw yn hwy na dynion. Rhwng 55 a 65 y mae rhif y marwolaethau ymhlith dynion yn llawer mwy na marwolaethau ymhlith merched, a phriodolir hynny gan feddygon i weithio caletach a diofal- wch gyda bwyd.