Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

,CYLCHDAITH. CEFN MAWR. iiI

News
Cite
Share

CYLCHDAITH. CEFN MAWR. I Cynhaliwyd y cyfarfod Chwarterol yn Rhos, dydd Mercher. Ionawr 5ed, 19JG, o dan lywyddiaeth y Parch John Smith. Yr oedd hefyd yn bresennol y Parch J. Lloyd Jones, ynghyd a'r ddau oruchwyliwr, Mri Evan Williams ac Edward Jones, hefyd cymychiolaeth o bob eglvvys. D^echreuwyd y cyfarfod gan y Parch J. U. Jones, Rhos. Darllenwyd a chadarnhawyd y cyfrifon. Derbyniwyd cyfrifon yr eglwysi a llon- gyfarchwyd eglwysi y Cefn a Plasbenion ar eu hymdrechion i dalu cyfran dda o'r cl-ddyled. Diolchwyd ac ail-etholwyd y Parch J. Lloyd Jones yn Ysgrifennydd Addysg y < Gylchdaith. Etholwyd Mr Ben Jones, Rhos, yn ys- grifennydd y cyfarfod chwarter, yn lie Mr Ted Hughes, Cefn, yr hwn sydd wedi ymuno a Byddin Prydain Fawr, a diolch- wyd iddo am ei wasanaeth tel ysgrifen- nydd. Etholwyd Mr Theophilus Williams, Cefn, gyda Mr Chas. E. Jones, yn archwil- wyr y Genhadaeth Dramor. Diolchwyd i Mri Evan Williams a Ed- ward Jones, Cefn, Goruchwylwyr y Gyichdaith, am eu gwasanaeth yn ystod y flwyddyn, a gofynwyd iddynt barhau am flwyddyn arall. Cydsyniodd Mr E. Wil- liams, ond dymunodd Mr Edward Jones am gael ei newid, ac yr oedd yn bur ddrwg gan y cyfarfod am hyny. Enwodd yr Arolygwr Mr D. L. Price i gymeryd y swydd, a phasiwyd ef yn unfrydol. Fasiwyd ein bod fel Cylchdaith yn gwneud symudiad yn ystod y flwyddyn hon. i glirio y ddyled sydd ar y Gylchdaith. Fod y Gymanfa Ysgolion i'w chynnal yn Rhos, dydd Mercher, Ebrill 2üain,:U.Jl G. Cafwyd adroddiad gan Mr Thomas Evans, Stryt Isa, o'r casgliadau wnaed yn yr eglwysi i'r War Emergency Com- mittee,"—derbyniwyd lp. 12s. Trwy unfrydedd y cyfarfod estynwyd gwahoddiad i'r Parch J. Meirion Jones, Taayfron, i olynu y Parch J. Lloyd Jones, yn Rhos yn 1917. Llongyfarchwyd eglwys y RPos ar y golwg hardd sydd ar yr addoldy, wedi ei adgyweirio a'i lanhau, hefyd am yr organ ardderchog sydd ynddo. Hefyd eglwys Stryt Isa am ei haelioni yn casglu yn ystod y flwyddyn ddiweddaf y swm ardderchog o £100 tuagat leihau y ddyled sydd ar y capel. Daeth un mater pwysig iawn o flaen y cyfarfod, sef ein bod fel Cylchdaith yn cynnal Cymanfa Bregethu yn flynyddol. Siaradwyd gan amrai o blaid, a phender fynwyd fod y mater i gael sylw yn yr eglwysi yn ystod y chwarter a'i drafod eto yn y cyfarfod chwarter nesaf, yr hwn a gynhelir yn Cefri Mawr. Pasiwyd pleidlais o gydyrrdeimlad a'r tculuoedd canlynol :-Mrs A. Williams, Cefn; Mr Ben Jones, Rhos; Mr Enoch Lewis, a Mr Samuel Morris, Stryt Isa Mr W. Eaton, Johnstown. Yr oedd te rhagorol wedi ei barotoi gan gyfeillion y Rhos cydrhwng y ddau gyfar- fod dan ofal Mrs J. Lloyd Jones, Mrs R. Jarvis, Mrs E. Evans, Mrs David Jones, a Mrs R. Richards. Terfynwyd yr eisteddiad gan y Parch J. Smith. YSG. I

CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABER-…

PENRHYNDEUDRAETH.I

HERMON, PEMBRE.I

I BANGOR. I

Advertising