Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYLCHDAITH WYDDGRUG. I

News
Cite
Share

CYLCHDAITH WYDDGRUG. I Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Pendref, Wyddgrug, dydd Meicher, Rhag fyr 29,1915, o dan lywyddiaeth y Parch W. M. Jones, B.A., Wyddgrug. Yr oedd hefyd yn bresennol y Parchn G. O. Roberts (Mor- fin), a R. T. Roberts, Mr John Davies, Goruchwyliwr, ynghyda chynrychiolaeth o'r gwahanol eglwysi. Darllcnwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Derbyniwyd cyfrifon a chyfraniadau yr eglwysi. Pasiwyd ynglyn a'r Gymanfa Gerddorol ein bod yn gofyn i'r Ysgrifennydd a'r Trysorydd i wneud y cyfrifien i fyny erbyn y cyfarfod nesaf ac hefyd ein bod yn gofyn i bob lie dalu am y rhagleni y flwyddyn hon yn ddioedi, a bod i'r lleoedd sydd heb wneud casgliad at y gymanfa i wneud hynny ar unwaith. Cynhygiwyd gan y Parch G. O. Roberts (yn ol rhybudd a roddodd yn y cyfarfod chwarter neilltuol) fod ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau pregethwyr o gylch- deithiau eraill i wasanaethu y gylchdaith, as fod eu henwau i fod ar y Plan. Diolchwyd ac eil-etholwyd y swyddog- ion canlynolMr Thos. Hopwood, ysgrif- ennydd addysg y gylchdaith Mr Charles Pownall, Wyddgrug, ysgrifennydd y Cap- eli; Mr Thos. Hughes, Gwernymynydd, ysgrifennydd y cyfarfod chwarterol; a Mr Frederic G. Evans, trysorydd Trysorfa Ymgeiswyr am y Weinidogaeth. Diolchwyd yn wresog i Mr Wm. Roberts, Coedllai, am ei wasanaeth fel Goruchwyl- iwr, ac ail-etholwyd ef am flwyddyn arall. Yr oedd tymor Mr John Davies, y gor- uchwyliwr presennol i fyny, ac yr oedd yn erfyn am gael ei newid. Diolchwyd yn wresog iawn iddo am ei wasanaeth, ac etholwyd Mr Henry Richard Williams yn oruchwyliwr yn ei le. Cafwyd trafodaerh ar y sefyllfa ariannol a pasiwyd fod yr Assessement yn cael ei gadael fel ag y mae am y presennol. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Wm. Garston, Coedllai, yn ei brofedigaeth. j Hefyd, a Mr Thos. Jones, Bethania, yn ei brofedigaeth yn colli ei annwyl fam. Cafwyd gair gan yr Arolygwr ar ag- wedd ysbrydol yr achos. Y cyfarfod nesaf i fod yn Pendref, Wyddgrug. Darparwyd yn garedig ar ein cyfer gan gyfeillion Pendref. Cwasanaethwyd wrth y byrddau gan Mr Charles Pownall, Mrs H R. Williams, a Miss Jones, High Street. Diolchodd y frawdol aeth yh wresog iddynt am eu caredigrwydd. I T. HUC-HES, YSG.

I CYLCHDAITH PONTYPRIDD.

CYLCHDAITH CAESDYDD. I

CYLCHDAITH BLAENAU FFESTINIOG.…

I..PORTHMADOG. I

TOWYN. I

CYLCHDAITH RHYL.

CYLCHDAITH MACHYNLLETH.

[No title]