Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Y WINLLAN. IONAWR, 1916. I
Y WINLLAN. IONAWR, 1916. I Pur ychydig sydd wedi efrydu y pwnc dirwestol drwyadled a'r Parch J. Kelly ac nid oes odid i neb yn fedrusach nag efe i roi gwersi i'r plant ar y cwestiwn hwn. Gobeithio y gwneir defnydd cyffredinol o'i gynllun-wers yn ein Gob- eithluoedd. Y mae'n debyg fod Mr Harrison Jones, Dinbych, ymhlith y rhai hynaf o'n pregefchwyr cynorthwyol. Tybed nad efe yr hynaf ? Edrydd yn ddirodres hanes ei bregeth gyntaf a draddodwyd ganddo Chwefror 18, 1855. Boed i'r Arglwydd i gadw inni am lawer blwyddyn eto. Balchter" ydyw testun y Parch D. Morris a sieryd yn blaen am un o'r Saith pechod mewn ol. Ceir gair a stori gan awdur di-enw i rybuddio'r darllenwyr rhag dweyd Celwydd" a gair gweithred a mudan- dod. Heblaw yr ysgrifau hyn ceir amrai o rai hynodol o addas i'r ieuenctid. Nid oes ball ar ddygnwch y "Golygydd" i ddarparu'n bwrpasol ar gyfer ein plant a'n pobl ieuanc. Er nad wyf fawr o awdurdod ar ganu, tybiaf y gellid cael hwyl yn y Gobeithlu gyda Cadlef Byddin Dirwest "-gwaith Myfyr Dyfi, Cefn Goedycymer. Dyna ddarnau gwych i'w dysgu allan hefyd, "Fy Mam" gan J. W. J., Dameg—Y Bdrychiol aeth gan y Gol., Dwfr o Bydew Bethlehem gan Ap Hefin, Aberdar.
NODI ADAU CYFUNDEBOL.
NODI ADAU CYFUNDEBOL. Gan LLYFRBRYF. I Deallwn fod y, Clwb Methodistaidd Wesleaidd, yr hwn sefydlwyd gan brif leygwyr a boneddigesau ein Cyfundeb, yn sicr o fod o wasanaeth werthfawr. Gweithred dda o eiddo cyhoeddwyr y Methodist Recorder ydoedd; eu rhodd o 12op. i Drysorfa y Gweinidog- ion Methedig, am ba un ddiolchwyd iddynt gan yr Ysgrifennydd, y Parch Enoch Salt. Pregethwr neilltuol capel Pendref, Treffynnon, nos Sadwrn a'r Sabboth diweddaf ydoedd y Parch D. Gwynfryn JoneS. Mae enw y pregethwr yn gwar- antu cynulleidfaoedd mawrion a gwas- anaeth werthfawr iawn. Ymhlith y boneddigion enwog a an- rbydeddwyd gan y Brenin gyda'r Birthday Honours," ydoedd y Gwir Anrhyd. Syr Charles Wakefield, Ar glwydd Faer Llundain. Yn awr y mae yn un o Farwniaid y Deyrnas. Weslead arall a anrhydeddwyd gan y Brenin yn ei Birthday Honours oedd Mr William Middlebrook, Trysorydd Trysorfa Capeli ein Cyfundeb. Bon" eddwr teilwng ymhob modd o'i alw yn Syr William. Pregethwr arbennig cylchwyl flyn- yddol Ysgol Sabbothol Bethania," Bagillt, ydoedd y Parch William Morris Jones, B.A., yr Wyddgrug. Pan yn traethu ei genadwri alluog cafodd amser da. Peth dymunol ydyw gweld eglwysi yn gwahodd eu cyn-weinidogion i lenwi eu pwlpudau. Gwelwn fod Pwyllgor ein Colegau wedi bod yn ymdrafod y cwestiwn pwysig o wneud ar lai o golegau yng ngwyneb y ffaith fod can lleied o efryd- wyr- tua deg a thriugain ydyw eu nifer i fynd dan addysg. Y rheswm am hynny ydyw fod nifer mor fawr wedi ymuno a r fyddin. 'Rbedd yn foddhad mawr inni ddarllen fod Cymdeithas Lenyddol a Diwinyddol Mynydd Seion, Lerpwl, wedi pasio pender- fyniad fod y papur a ddarllenwyd gan y lienor galluog Cephas, ar "Cyfraniad Wes- leaeth i Bulpud a Llenyddiaeth Cymru," i gael ei anfon i Olygydd yr Eurgrawn," gyda dymuniad y Gymdeithas iddo ym- ddangos yn y misolyn hybarch a gwerth- fawr hwnnw. Mawr hyderwn y cawn y pleser a'r fraint o ddarllen cyfroddiad Cephas. Diau mae boddhad gan bawb o ddar- llenwyr y Gwyliedydd Newydd ydyw ganddynt welea eu henwau yn cael eu cof- nodi yiiodo ynglyn a ryw weithred neu wasanaeth dda o'u heiddo i'r achos da; ond a gawn ni yn ostyngedig a pharchus ofyn pa nifer o honynt sydd wedi gwneud ryw help i'r G.N." trwy gymhell ein newyddiadur i'w cyfeillion, a'n gweinidog- ion, pregethwyr a swyddogion i chwyddo derbynwyr y Gwyliedydd Newydd ? Cyflwynwn hyn o eiriau caredig i ystyr- iaeth oreu Wesleaid Cymru. Dyddorol bydd i'n darllenwyr gael darllen y difyniad canlynol o'r "Goleuad": Awgrymodd rhywun y dydd o'r blaen fod dwy adran o Fethodistiaid, y gellid eu galw yn Hen Ysgol ac yn Ysgol Newydd. Tybed fod gwir yn hyn? Dywedir ei fod yn wir am y Wesleaid yn Lloegr, ac mai arweinydd yr adran ieuanc ydyw Mi Run- ciman, Llywydd Bwrdd Masnach, Wesle- aid selog ac ymroddedig iawn. Efe, pan geisiwyd codi helynt parthed penodiad y Parch F. Jackson, oherwydd rhai o'i olyg- iadau, a arweiniodd brotest adran ieueng- af y Cyfundeb Wesleaidd yn erbyn y peth mewn dull urddasol a llwyddiannus. Os oes adran ieuane ymhlith Methodistiaid pwy yw ei harweinydd ? 'Roedd yn hyfrydwch inni weled The Magazine," cyhoeddiad misol yr Eglwys Wesleaidd Seisnig, wedi ymddangos mewn gwisg newydd hollol. Nid hynny yn unig ond wedi newid ei ffurf a'i helaethu-ym- hob modd mae'n deilwng o'r Eglwys fawr y mae yn ei gynrychioli. Addurnir ef gyda nifer liosog o ddarluniau rhagorol. Y blaenaf un ydoedd darlun o'r Parch R. Waddy Moss, D.D., Llywydd y Gynhad- ledd. Ceir bras-linelliad o hanes ei fywyd a'i gymeriad gan y Parch J. H. Ritson, M.A., D.D., Ysgrifennydd y Feibl Gym- deithas. Ysgrif ddyddorol y Parch T. E. Westerdale, Scarborough's Perils and Soirows.' Cyfroddiad gwerthfawr ydyw'r un ar Missions in War Time' gan Dr. Henry Haigh How can I help my Mas- ter.' gan y Parch Dr. Horton Lord Rec- lesdale's Memories,' gan y Golygydd—y Parch John Telford, B.A.; Our New Pro- tectorate,' gan St. Nihal Singh, a nifer o erthyglau eraill wedi eu hysgrifennu gan lenorion o fri ac adnabyddus. Mae'n rhifyn cyfoethog a darllenadwy. Argym- hellwn ef i sylw em darllenwyr goleuedig sydd yn hoffi darllen cylchgronau Seisnig.
Y RHYFEL 0 DDYDD I DDYDD.
Y RHYFEL 0 DDYDD I DDYDD. Dydd Llun, Ionawr 3ydd, Brawychwyd y wlad tua'r Sul gan y newydd fod Hong arall perthynol i'r P. et O. Company wedi ei suddo trwy i torpedo ei tharo tra yn hwylio am Bombay. Yn agos i ynys Creta y bu hyn, lie bu Titus yn gweinidogaethu. Ni wyddisi sicrwydd pa nifer a goilwyd, ond glaniwyd 150 yn Alexandria. Pum munud y bu ar y wyneb wedi ei tharo. Yr oedd Consul American- aidd ar y bwrdd. Dywedir na roddwyd rhybudd o gwbl cyn ymosod arni. Diau y ceir nodyn arall o'r America er fod teimlad y wlad yn ferw o herwydd yr an- fadwaith. I Galicia y troir ein golwg yn awr yn y brwydro gyda Rwsia a'r Austriaid. Y mae'r front yn gan milltir, a cheisir enill Tarnafol, cyffordd pwysig. I'r gogledd-ddwyrain o Czernovitz, bu i'r Rwsiaid gymeryd amryw uchel-fannau a 870 o garcharorion. Cyrhaeddodd y brenin Pedr o Serbia i Salonica dydd Sadwrn. Dymunai cyn marw ddod agosed ag y gallai i dir ei wlad. Y mae hyd ein gwarch-ffosj dd yn Ffrainc yn ddeng mil o filltiroedd. Hyd y maes yw 500 milltir, ond a'r ffosydd i gam o gam, mewn ambell fan, o fewn deg Hath i eiddo'r gelyn. Yn Berlin nos Calan llanwyd yr eglwysi gan bobl yn gweddio am heddwch. Teyrnasai distawrwydd y bedd ar y ddinas. Deallir y gelwir ymhen ychydig ddydd iau y rhai a berthyn i ddosbarthiadau 6. 7. 8. 9. o dan gynllun Arglwydd Derby, i fod yn barod Chwefror laf. Dydd Mawrth, Ionawr 4ydd. Suddwyd agerlong Brydeinig arall ym mor y Canoldir gan y gelynion. Allan o 120, deg yn unig sydd ar goll. Llwyth o ymenyn ac wyau oedd ynddi, ar y ffordd adref o'r Dwyrain. Prysurodd yr Arlywydd Wilson adref ddiwrnod ynghynt na'i drefniant cyntaf, oherwydd trychineb y Persia. Yr oedd pedwar Americanwr ar ei bwrdd. Oherwydd afiechyd peryglus gohiria'r Caiser ei ymweliad a Chaercystenyn hyd adeg amhenodol. Yn y Cameroons bu i'r lluoedd Pryd einig yrru'r gelynion ar ffo, a chymeryd meddiant o'u cadle. Helynt a hanner sydd yn Salonica. Cymerwyd 350 o bersonau i'r ddalfa gan y Cydbleidwyr am fod yn ysbiwyr, ac yn eu plith saith Groegwr a Chonsul Norway. Credir fod yr olaf mewn cyfathrach dirgel a'r gelyn. Bygythia Bwlgaria a Twrci gosbi carcharorion y cydbleidwyr yn eu meddiant os na ryddheir eu consuliaid. Yn 01 rhestr ddiweddaf colledion Prwsia gwelir fod nifef y lladdedigion, clwyfedigion a choll yn 2,316,366. Apeliodd mil o guradiaid Llundain at yr Esgob am ganiatad un a'i i ymuno a'r fyddin, neu ynte i weithio rhywbeth yng- lyn a'r rhyfel. Dydd Mercher, Ionawr 5. Bydd gan Rwsia fyddin o 4,000,000 yn barod o'r newydd ymhen ychydig amser. Pan gofir mai dynion ieuanc a wna i fyny'r fyddin, ychydig o obaith sydd y gall henafgwyr Germani ac Austria eu cyfarfod. Y mae Essad Pasha wedi cynnyg ei hun ac 20,000 o'r Albaniaid at wasanaeth y cydbleidwyr. Llwyddodd yr Italiaid trwy anhaws- terau lu i dorri llwybr o gymundeb cyd- rhwng Valona a Durazzo. O'r lie olaf yr anfonir help i'r Serbiaid. Dydd Iau, Ionawr 6. 0 Africa daw'r newydd am frwydro ar Lyn Tanganyika, pryd yr ymosodwyd ar yr agerlong arfog Kinjani, perthynol i Germani. Gorfodwyd hi i ymostwng wedi deng munud o frwydr. Lladdwydyr holl swyddogion ar ei bwrdd, ac er fod yr agerlong ar soddi, llwyddwyd i'w chael i borthladd. Ystyrir fod Czernovitz ar syrthio i ddwylaw y Rwsiaid. Dyma brif-ddinas Bukovina. Perthyn pwysigrwydd mawr i'r amgylchiad, gan nas galll beidio ag effeithio ar Rwmania, y rhai a welant y Rwsiaid bellach o fewn dwsin o filltiroedd i'r terfyndir. Nid oes lawer o newyddion o Ffrainc, ond ffafriol i ni yw yr hyn a ddaw oddi- yno. Yn ol y newydd a ddaw o Salonica y mae llu o filwyr Germani a Bwlgaria yn rhifo 160,000 wedi casglu ynghyd ar der- fynau Groeg, a diau y ceir clywed am ymosodiad buan yno ar ein milwyr. Deil yr Italiaid i enill tir oddiar yr Austriaid yn y Tyrol. Nifer y swyddogion a gollwyd trwy gael eu lladd, eu clwyfo, neu ar goll ym' mrwydr Loos ydoedd 2,378, a 57,288 o'r rhengoedd. Deil ein rhyfel-longau ar adegau i dan- belenu safleoedd y Twrc yn y Pardanels. Y ddadl yn y Senedd ar fesur gorfodaeth yw y peth pwysicaf yn y newyddiaduron. Gyda'r wybodaeth sydd gennym ni welwn angen o gwbl am orfodaeth. Dywed y Daily News fod y nifer a ellir ddisgwyl o dan y mesur yn llai na dau can mil. Dydd Gwener, Ionawr 7 Wedi dadl frwd am ddau ddiwrnod bu i Dy'r Cyffredin' basio Mesur Gorfodaeth Mr Asquith trwy fwyafrif o 298. 0 blaid y Mesur 403 yn eibyn 105. Yr oedd amrai o'r aelodau Cymreig yn erbyn. Pob parch iddynt! Yn ol addewid y Prif Weinidog, bydd Swyddfeydd Ymrestru yn ail-agor dydd Llun, er rhoi cyfle eto i ddynion ieuainc i ymrestru, ac os gwnant ystyrrir hwy ar yr un tir a'r ymrestrwyr blaenorol. Cyfarfu cynrychiolwyr LIafur yn Llun- dain ddoe, a thrwy fwyafrif aruthrol pen- derfynwyd gwrthwynebu Mesur Gorfod- aeth pan y daw eto gerbron y Ty. Dyma y ffigyrau. 0 blaid Mesur o Orfodaeth er gorfodi dynion ieuainc i ymrestru, 541,000. Yn erbyn, 2,121,000. Yr ail benderfyniad a argymhellai Aelodau Llafur i wrthwyn- ebu'r Mesur yn ei holl rannau. Dros y penderfyniad, 1,715,000 yn erbyn, 934,000. Rhoddwyd yr ail wefliant gerbron fel prif benderfyniad y Gynhadledd, a phleidleis- iwyd fel y canlyn :—Drosto, 1,998,000 yn erbyn 783,0,00. Felly dyna'n agos i filiwn a chwarter yn erbyn y Mesur Gorfolol. Canlynwyd hyn gan benderfyniad y tri aelod Llafur yn y Weinyddiaeth i ymddi- swyddo ohoni, set Mr A. Henderson (Llywydd Bwrdd Addysg), Mr G. H. Rob- erts, a Mr Wm. Brace. Daeth adroddiad Syr Ian Hamilton allan heddyw yn delio gyda'r methiant ym Mau Suvla. Gesyd y bai yn bennaf wrth ddrws y Cadfridog Stopford. Ebai, Y methiant mawr ydoedd musgrellni, a dyna fri." Colli mewn egni ac yspryd di- ildio a wnaethant, ac er popeth a wnaed yn ganlynol i hyn, nis gellid unioni'r cam, Dydd Sadwrn, Ionawr 8. Ymddengys nad yw Czernovity wedi ei chymdtyd gan y Rwsiaid, ond fod ymladd caled yn mynd ymlaen am feddiant o'r lie. Defnyddia'r gelyn nwyon peryglus a phob dyfais i gadw'r lie, gan ei hystyrir yn un o'r rnaijnau pwysicaf. Bu 400 o gyflegrau Rwsia am 50 awr yn tanbelenu safle'r gelyn. Suddodd Submarine i ni ym Mor y Gogledd gerllaw Texel ar ffiniau Holland. .Achubwyd y criw o 33. Dywedir fod y cancer ar wddf y Caisar, ac y rhaid iddo fynd o dan gyllell y meddyg. Awgrymir enw Mr Herbert Samuel fel olynydd i Syr John Simon yn y Swyddfa Gartrefol. Nid yw ymddiswyddiad y tri aelod Ilafur wedi ei dderbyn eto. Ail- ddarllenir y Mesur Gorfod dydd Mawrth nesaf. Bu i'n cyflegrau ni ymosod yn ffyrnig ar linell y gelyn yn Ffrainc, gan beri niwed i'w warchffosydd. Tfeimlir yn hollol dawel yn yr Aifft ein bod yn abl i wrthsefyll unrhyw ymosodiad a wneir arnom tua Chamlas Suez gany Tyrciaid a'r Germaniaid.
Advertising
COFIANT A PHREGETHAU Y PARCH. Edw. Humphreys GAN Y Parch Edward Davies Un o'r llyfrau mwyaf swynol a ddygwyd allan drwy'r wasg." Dr. HUGH JONES. Mae y gyfrol yn drysor llyfr- gell. Yn waith o safon uchel oran ieithwedd, arddull a chwaeth dda." Parch GEORGE DAVIES, B.A. (A.) Byw a gloew iawn. Gwledd flasus o glawr i glawr." GWYNFRYN. "Unwaith y dechreuir darllen y gyfrol anodd fydd ei rhoi heibio heb ei gorffen." Parch. JOHN FELIX. Darllenais ef drosodd gyda theimladau byw a rhyfedd mae yn dyner a byw." CADVAN. "Ni ddarllenais dim tynerach mewn nofel na dim arall. Amhos- ibl ei ddarllen heb deimlo awyr- gylch ysbrydol o nefol yn cau am danom." "PEDROG" (Brython). "Y Cofiant yn bopeth ellid ei ddymuno." Parch. R. LLOYD JONES. Cyflead syber a chwaethus." Parch. THO-NIAs HUGHES (B) A number of vignette pen-por- traitures, each. dra wn with an artist hand." Parch. DARLEY DAVIES f-Aletiiodist Recorder). Maent (y pregethau) yn ddelw cywir iawn o'i^weinidogaeth." Parch. ISHMAEL EVANS. Telir Cludiad y Gyfrol. 3s. y Gyfrol. 13 o gyfrolau yn y dwsin. IJw cael gan yr Awdur- 35, Berkley Street, Liverpool.
I BWRDD YR ADOLYGYDD.-
Lywydd y Gymanfa. Hyderaf y der- bynia ei gyfarchiad y sylw a deilynga. Gair yn ei bryd, yn ddiau.