Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

BRIWSION O'R BRIFDDINAS. I

News
Cite
Share

BRIWSION O'R BRIFDDINAS. I Gyda'ch caniatad chwi, Mr Gol., ac ar gais rhai o gyfeillion Brunswic, yr wyf yn ymgymeryd, am dro, ag anfon ychydig Friwsion o'r Brifddinas—Briwsion o Bruns- wic yn fwyaf neilltuol. Er yr adeg yr aeth John Henry ar ddifancoll nid oes neb wedi ymgymeryd yn rheolaidd a'r gorchwyl o groniclo digwyddiadau capel Brunswic; ac er nad ymhonwn fedr i lanw y bwlch wnawd yn symudiad John Henry" o Lundain yr wyf yn mentro cymryd gwib yn awr ac eilwaith er casglu yr hyn fydd ddyddorol i Lundeinwyr hen a newydd, ac o fantais i ereill yng Nghym ru deimlent ddyddordeb yn ein hachos ac yn eu cydnabod drigant yn y Brifddinas. Ymhlith llawer o ddigwyddiadau ereill ym Mrunswic cynhaliwyd a ganlyn:— COFFEE SUPPER Y GWRAGEDD PRIOD. —Hwn oedd swper cyntaf y tymor, a bu yn llwyddiant digymysg. Yr oedd y rhan adloniadol y goraf, barn wyf, gafwyd erioed ,-amrai o'r cantorion ymhlith goreuwyr y byd cerddorol; y danteithion yn ddibrin a moethus; a'r casgliad yn cyrraedd y swm anrhydeddus o yn agos i £ 20 Llan- wyd y gadair gan Miss Jones, King's Cross (Aston gynt), yn cael ei chynorthwyo gan y ddau weinidog, gan yr hon, befyd, y cafwyd rhodd deilwng o'r amgylchiad, ac o honi ei hun. Priodol ydyw crybwyll ddarfod i ran helaeth o'r casgliad gael ei wneud ymlaen llaw gan a thrwy ddyfal- wch Mrs Owen, Notting Hill, a Mrs Alfred Jones, Fulham. Credaf na buasau hanes y eyfarfod hwn yn deîlwnget cystal popeth arall yno-heb son am gan gampus Alaw I Tegla (a.adnabyddid er's talwra wrth y llythyrennau cyfrin, D.S."), oblegid cod- odd y datganiad bawb i ardaloedd uchel 1 ddydd." Wnaeth Eos Dar a Mynydd- t og" erioed ddim mwy tarawgar ac i'r pwynt.. Diolchwyd yn gynnes a llawn i bawb am eu gwasanaeth gan y Mri E. J. Evans ac E. Gomer Jones. YR YSGOL SUL.-Y mae'r flwyddyn ddi- weddaf a'i therfysg wedi gadael eu hoi ar ein Hvsgol Sul. Y mae'r bechgyn ieaanc i gyd wedi ein gadael am faes y gad, neu i ymbarbtoi. Yn ystod yr wythnosau diw- eddaf ymunodd ein harolygwr am y tair blynedd diweddaf-Mr Lloyd Davies, Chemist, Veterinary Corps. Etholwyd Mr H. O. Evans, o Ddolgelley, i gymeryd ei le, a hyderwn y ceir, o dan ei arolygaeth, 11 Flwyddyn newydd dda," ac y gwelir y bechgyn oil yn dychwelyd o'r gad yn fuan, iach, a dianaf. Y CABTREF ODDICARTREF.—Dyma un o landmarks y flwyddyn ym Mrynswic. Ed- rychir ymlaen at y cyfarfod gyda dyddor- deb yn hir cyn ei gynnal-yr unig gyfarfod cyhoeddus sydd gennym, medda nhw, nas wneir casgliad ynddo !—pobpeth i'w gael am ddim digonedd o bob moethau cyn- hefin i'r tymor: a phawb ddaw yno yn teimlo mor rhydd a hapus a pha baent gartref. Treuliwyd y dydd Llun ar ol y Nadolig (o bump o'r gloch hyd ddeg) mewn canu, adrodd, chwareu, a bwyta. Y plant fu yn ein dyddori gan mwyaf gyda'r adrannau cyntaf, a gwnaethont eu rhan yn rhagorol. Yng nghwis y cyfarfod anrhegwyd hwy gan y Parch J. Ellis Wil- liams gyda llyfrau—ddegau ohonynt-yn cael eu cyflwyno (yn ogystal a chusan) gan Mrs Jones, Roman Road. Canwyd yn y cyfarfod hwn hefyd gan Alaw Tegla, a gosododd Ilioll mewn cyflwr o abandon- ment lwtopeaidd. Yr M.C. oedd Mr Allan Mitchell, a gwnaeth ei waith i fodlon- rwydd cyffredinnol. Diolchwyd i'r mer- ched ieuainc oedd wedi rhoddi eu pryd- nawn i barotoi, ac i bawb arall roddasant ac a wnaethant rywbeth tuagat wneud y cyfarfod yn llwyddiant. Ni enwir hwy y tro hwn. OLD Boys REUNION.—Cofus gennym rywdro son am y priodoldeb o gael hen aelodau y Gymdeithas Ddiwylliadol (yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf) i gyfar- fod a'u gilydd mewn dadl. Aeth hynny i'r clawdd, ond fe gawsom rywbeth tebyg yn ymgomwest y Cartref Oddicartref eleni. Yr oedd John Henry yno yn yr yspjyd, canys canwyd can o'i eiddo yn darlunio y cyfarfod, ei gydnabod, ei hir- aeth, a'i fodddhad. Yr oedd Mr a Mrs Pierce Jones a'r teulu yno, hefyd, o Lerpwl; a'r Misses May a Winnie/Jones, o Dre- fprest, ger Pontypridd; ynghyd ag eraill oeddynt ar ymweliad a Llundain o wa- hanol rannau o Gymru Yr oedd y mwy- afrif yno am yr edrychent ymlaen i fwyn- bau y cyd gyfarfyddiad. Yr oedd eu gweled yno gyda ni yn llawn cymaint, os nad mwy o fwynhad i ni ag oedd bod yno iddynt hwy. Y mae iddynt barch diled- ryw ym Mrunswic. Dewch eto, er gosod cymal newydd yn y sefydliad hapus hwn. Bpiw SHioN. I

ICAERWYS. II

MYNYDD SEION, TAN-Y FRON.…

CAERSALEM, TON PENTRE.

Advertising

ASBTON-IN-MAKERFIELD.---