Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

EBENEZER, CYLCHDAITH TREGARTH.

News
Cite
Share

EBENEZER, CYLCHDAITH TREGARTH. Cynhaliwyd Watchnight eleni yn.y lie mchod yn bennaf trwy ddymuniad y bobl ieuainc. Y mae yr arferiad o gynnal y cyrddau hyn wedi bod mewn bri mawr yn y He hwn yn yr hen Dabernacl cyntaf, ac yr oeddyut yn talu eu ffordd yn lied dda, ond pan aed i'r Tabernacl presennol, buom ars ddeng mlynedd ar hugain hebddynt, a chadwyd hwy wedyn am dymor, a dyma un eto wedi ei chynnal, a throdd allan yn dda mewn mwy nag un cyfeiriad. Llyw- yddwyd gan y Parch Einion Jones, Rhiw- las. Dechreuwyd am hanner awr wedi Raw, ac aed trwy y rhaglen ganlynol Ton gyffredinol. Cystadleuaeth adrodd "Y Dryw Bach," a gwobrwywyd y rhai can- lynol,-Richard Jones, New Street; Nellie Jones, Erw Fair Violet ac Olive Rawlin- son Bessie, Maggie, a Catherine J. Davies, New Street. Cystadleuaeth canu, Cudd- ia Fi," 1, Gertrude Pritchard, a Willie Roberts, Cefn Coch; 2, Mem Jones, New Street; a Maggie Williams, High Street. Cystadleuaeth canu, Y Milwr Bach," 1, 1 Catherine Jane Vsolet Rawlinson; 2, Catherine Jane Davies: 3, Nellie Jones. Cystadleuaeth adrodd, Gwna bopeth yn iawn," Gertrude Pritchard, Willie Roberts, Mem Jones, Bertie Rawlinson. Cystadleuaeth Un- shyw Unawd," y buddugol allan o naw o ymgeiswyr ydoedd Miss Katie May Evans, Deiniol Road. Deuawd ar y Piano gan Meistri T. O. Hughes a W. M. Hughes. Cafwyd adroddiad — Heno'r Hwyrol gloch ni chan gan Mr John J. D. Jones, Foel Rhiwen. Hefyd cafwyd adroddiad Cyfnewidiad," a canu penillion ar amrai alawon Cymreig gan Mr Richard Morris, Waenfawr. Clorianwyd yr ymgeiswyr, yr adrodd gan y Parch R. Einion Jones, ac R. Morris: canu, gan yr Athro T. O. Hughes, Mona House, Ebenezer. Cyfeil- iwyd gan Mr William Morris, Birmingham House, Ebenezer. Pan yn gorffen yr hen fiwyddyn, terfynwyd trwy weddi afaelgar gan y Parch Einion Jones. Teimlad pawb wrth ymadael oedd eu bod wedi eu bodd- hau, a llawenychai y rhieni yn fawr am y Ilafur gymerwyd gyda'r plant gan y chwaer Miss Kate Hughes, Caradog Place. En Miss Hughes yn arbennig o ffyddlon ac amyneddgar gyda'r rhai bach. Diolch iddi. COFIO Y MILWYR. Hefyd, cofiodd yr eglwys am y milwyr sydd oddicartref ac yn dal cysylltiad a'r achos trwy anfon ychydig roddion iddynt, fel arddangosiad o'n teimladau da atynt ynghyda'n dymun iadauam iddynt gael Nadolig Ilawen a blwyddyn newydd lawer iawn gwell na'r :n.. wedi ei arwyddo gan y Parch Einion Jones. Ymddiriedwyd y gwaith o ddewis y rhoddion i'r ddwy chwaer ieuaiac—Miss Mary Ann Thomas, Gwalia House, a Miss Kate Hughes, Caradog Place. Casglwyd atynt gan Mr Owen R. Jones, Erw Fair, a Mr Hugh T. Williams. GOH. CBydd Cloesaw i'r cyfroddiadau ar hen I ftyddloniaid y Tabernacl.-GOL.)

PENYGROES. I

HOREB, YSTRAD RHONDDA.I

LLANRUG. I

'LLANGOLLEN. !

PENNAL. j

I MAFTLON Y MYNACH MALDWYN.

.RHYL.I

ILERPWL. I

AMLWCH.

ASBTON-IN-MAKERFIELD.---

RHUDDLAN.I

.LLANGYNOG.I