Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

I -Cyngor Tref Pwllheli.

News
Cite
Share

I Cyngor Tref Pwllheli. Cynhaliwyd nos Fawrth —Dr. R Jones 1 Evans, y cyn-Faer, yn y gadair. CYDYMDEIMLAD. Pasiwyd penderfyniad yn cydymdeimlo a theulu y diweddar Henadur R. Ifor Parry, ac yn datgan gwerthfawrogiad o'i wasanaeth i'r Cyngor ac i'r dref. Siarad- wyd ar yr achlysur gan y Cadeirydd a Dr. O. Wynne Griffith.-tiefyd pasiwyd pleid- lais o gydymdeimlad a theuluoedd y milwyr a syrthiasant yn y rhyfel yn ystod y mis. CYDNABOD LLONGYFARCHIAD. Darllenwyd llythyr dyddorol oddiwrth Sergt Major R. H. White yn cydnabod llongyfarchiad y Cyngor ar ei lwydaiant yn enill y D.C.M Dywedai fod amryw o filwyr Pwllheli wedi enill enwogrwydd am eu gwroldeb ar faes y gwaed. Hefyd llongyfarchai Mr. G. Cornelius Roberts, y Maer, ar ei ail benodiad i'r gadair faerol, a hyderai y gwelai y milwyr yn d'od yn ol cyn diwedd y flwyddyn, gan ei fod wedi gwneyd cymaint i'w sirioli a'u cyfnerthu PwYLLGQR YR YMBORTH Cynygiwyd amryw bersonau i'r sedd wag ar Bwyllgor yr Ymborth, a phenod- wyd Mr. David Pugh, yr hwn a enwid gan Undeb Gweithwyr y Rheilffyrdd. NWYDDAU I'R FARCHNAD. Argymhellai y Pwyllgor Cyffredinol i ddiolch i'r ffermwyr canlynol am anfon ymenyn a nwyddau gyda chysondeb i'r farchnad Mri. John Thomas, Bronllwyd, T. E. Jones, Plas Tudur, J R. Jones, Ty Engan, a W. Davies, Ty'nycoed. Dywed- ai Mr. T. W. Thomas fod y priswyr a Mr. J J. Edwards yn gwneyd eu goreu i ranu y nwyddau mor gyfartal ag yr oedd modd. Gofidiai na ddeuai digon i't farchnad i gyfarfod y gofynion, ac yr oedd yn ddrwg ganddo am y merched oedd yn gorfod aros am oriau yn y Neuadd am ymenyn Yr oedd rhai o'r masnachwyr wedi gwneyd eu goreu i gynorthwyo y farchnad, tra yr oedd eraill yn gwneyd eu goreu i roddi rhwystrau ar eu ffordd. Gofynai Mr. R. A. Jones a oedd yn ffaith fod swm mawr o ymenyn yn cael ei anfon o'r farchnad i drefi eraill, tra yr oedd teuluoedd y dret yn methu a chael dim- Eglurai Mr. T. W. Thomas nad oedd gan y Pwyllgor awdur- dod i rwystro ymenyn i fyned o'r dref. Sylwai Mr. Hugh Pritchard nas gallai ef ddeall sut yr oedd neb yn anfon ymenyn ymaith o'r dret tra yr oedd y pris uwchat i'w gael am dano yn y dref. Y CYNGOR A'R GERDDI. Cyflwynai Mr. Lewis Jones adroddiad Pwyllgor y Rhanddaliadau, yr hwn a ad- roddai fod diffyg ar y cyfrit, ac yn argym- hell i godi rhenti y gerddi yn ogystal a'r caeau a osodid i Mr. G Cornelius Roberts. Bu Mri. Edward Japheth, R. Hughes, G. Griffith, John Thomas, Owen Jones, David Williams, a J. J. Edwards yn ymgynghori a'r Pwyllgor ar ran y garddwyr. Dywedid fod Mr. Roberts wedi cynyg i roddi tenant- iaeth y caeau i fyny os oedd rhywun arall yn foddlon i roddi rhagor o rent am y tir. Argymhellid i wahodd cynygion am y tir mor fuan ag y rhoddid hwy i fyny gan Mr. Roberts. Gofynai Mr. R. Albert Jones paham y codid y rhenti o gwbl. Eglurai Mr. E. R. Davies, y Clerc, nad oedd y derbyniadau yn ddigon i gytarfod y gofvn- ion. Yr oedd yno ddwy ardd heb eu gosod. Dywedai Mr. Hugh Pritchard nad oedd yn iawn i godi rhenti y than- ddalwyr er talu am y darnau oedd heb eu gosod. Credai ef mai eu dyledswydd oedd prisio y tir i'w werth masnachol. Dywedai y Clerc tod y rhanddalwyr yn honi fod y meusydd a osodid i Mr. Cornel- ius Roberts yn werth rhagor nag a delid gan Mr. Koberts am aanynt, ac na bydaai angen codid eu rhenti hwy pe y codid rhent teg am y meusydd hyny Sylwodd Mr. W. M. Toleman y gwyddai ef am ddyn a roddai fwy o 3p. 10s. am y meus- ydd yn awr. Dywedai Mr. Hugh Pritch- ard nad oedd ef yn credu mewn gwahodd tenders am y tir. Yr oeddynt yn ymos- twng i weithredu yn fwy anheilwng na'r math salaf o landlords. Buasent i gyd yn condemnio tirfeddianwr pe baent yn gwa- hodd rhywun i gynyg am fferm uwchben tenant. Heblaw hyny, te allent gael rhywun i gynyg rhagor am y lie o falais neu o awydd i wneyd bywoliaeth ar draui anwybyddu hawliau pobl eraill. Credai Mr. O. Ellis Jones mai y tir berchenogion ddylai ostwng rhent y tir os oedd y der- byniadau yn rhy tach i gyfarfod y galwad au. Dywedai Mr. John Ellis (y cyfrifydd) fod Mr. Cornelius Roberts wedi cymeryd y meusydd hyn oddiar ddwylaw y Cyngor flynyddau lawer yn ol pan yr oeddynt yn methu a chael neb i'w cymeryd. Pasiwyd ar gynygiad Mr. Hugh Pritchard, yn cael ei gefnogi gan Mr. Richard Jones, i anfor. y mater yn ol i'r Pwyllgor. T AI AC ANFOESOLDEB. Cyflwynai Mr. T. W. Thomas adrodd- iad y Gynhadledd Sirol a gynhaliwyd i ystyried cwestiwn y tai i weithwyr. Dy- wedai fod angen 5° o dai yn y dref, a thua 183 yn y wlad. DywedodJ Mr. Hugh Pritchard, yr hwn gymerai ran flaenllaw yn y Gynhadledd, fod y ffaith fod mor ychydig yn priodi yn Lleyn i'w briodoli i ddiffyg tai. Yn rhanol mae cwestiwn y cyflog hefyd yn gymhlethedig. Cytunai Dr. O. Wynne Griffith, gan sylwi nad oedd yno dai i lafurwyr amaethyddol nac i feibion ffermydd i fyned i fyw iddynt ar ol priodi. Yr oedd llawer o fan-ddal- iadau wedi eu diddymu a'u gwneyd yn un fferm fawr. Ategai Dr. R. Jones Evans fod prinder tai yn gyfrifol am lawer iawn o'r afiechyd a'r anfoesoldeb oedd yn y wlad. Cyflwynodd Mr. Charles Lloyd Roberts hefyd adroddiad o'r Gynhadledd.

[ _Tafarnau Pwllheli.

Llythyrau Oddiwrth ein Milwyr.

Advertising

PWLLIIELI.

Advertising