Hide Articles List

15 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION.

Yr Anthem Genedlae tholI Gymreig.

Darluniau Symudol mewnI Capel.…

Pan gyntaf gyrhaeddodd y i…

I Etholiad Chorley. I -I

Trychineb ar y BrifFordd.…

Dryllio Ty Mr Lloyd George.I

Galanastra'r Suffragettes.

Llyfrgell Gymreig Enwog ar…

Digwyddiad Adfydus. - - &…

Rhal ffeithiau ynglyn a deohreuad…

News
Cite
Share

Rhal ffeithiau ynglyn a deohreuad yr aohos Methodistaidd yn nhref Pwllheli a'r Cylch. [Papur a ddarllenwyd mewn cyfarfod ym Mhenlan, yn rhoddi hanes dech- reuad Ymneillduaeth ym Mhwllheli a'r Cylch, gan y Parch. T. Williams, The Elms, Pwllheli J. Parhad o'r rhifyn diweddaf. I U 11 aral1 o'r arch-erlidwyr yn Lleyn oedd Henry Roberts, neu Harri Deneu fel y llysenwid ef. Cariai chwedlau am y Pengryniaid (fel y gelwid y Methud- istiaid gan eu gelynion) i'r boneddigion yn y wlad, y rhai oedd yn ei logi i erlid y saint. Bu yn y Gwynfryn gyda gwys i ddal y Parch. Lewis Rees, Lianbryn- mair, ond trwy i'r ferch ei daflu ar y palmant cafodd Mr. Rees gyfle i ddianc. Ceisiodd y dyhiryn hwn ddal ei frawd ei hun er mwyn ei alltudio o'i wlad, sef Evan Roberts, yr hwn oedd yn bregeth- wr yn Lleyn. Ond yn Rhydyclafdy y cyfarfyddodd a'i drech Yr oedd pre- gethwr (ni wyddis ei enw) wedi dod i Rhydyclafdy un prydnawn Sabboth. Wedi deal) hyny, anfonodd boneddwr oedd yn y Wern Fawr, Harri, yr hwn oedd yn ei wasanaeth, i aflonyddu ac i erlid y pregethwr. Yr oedd yn byw yn y pentref ymladdwr oedd yn creu ar- swyd trwy'r wlad. Pan y gwclodd hwn Harri yn dod llefai: "Caiff bregethu yn ymyl y das dywyrch yn ymyl fy nhy i, er gwaethaf pawb, ac mi edrychai i am chware teg iddo hefyd." Hon oedd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y pentret hwn. Bu y pregethwr yn lletya y noson hono yn nhy yr ymladd- wr. (Ei swper oedd bara ceirch a thatws oerion, a'i toreufwyd oedd sican gwyn a bara ceirch). Yn ei dy ef, meddir, y bu yr eglwys yn cyfarfod hyd nes yr adeiladwyd capel yn y gymydog- aeth oddeutu I soain mlynedd yn ol. Bu Harri farw yn druenus mewn lie o'r enw y Betris, ger Pal-is Nanhoron. Cafodd Daniel Rowlands a Williams Pantycelyn hefyd eu rhwystro i bregethu yn Gellidara, amaethdy rhwng Pwllheli a Rhydyclafdy. Daeth haid o erlidwyr yno gyda drum i foddi Ilais y pregethwr, fel y bu cor yr Eglwysyn canu yn Ilan Nefyn er eu rhwystro i fod yn glywad- wy. Mae erlid yn bod eto, ond ei fod wedi newid ei ffurt. 44 Ie, a phwy bynag sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol a erlidir. Carwn cyn terfynu ddyweyd gair am Michael Roberts, un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a dylanwadol a god- odd yn Nghymru erioed. Dadleua rhai ei fod yn fwy pregethwr na John Elias. Treuliodd ei oes ddefnyddiol yn y dref hon. Ganwyd ef via LlanJlyfni yn y flwyddyti 1780. Gweinidog parchus gyda'r Methodistiaid oedd ei dad, sef y Parch. John Roberts, Llangwm, fel yr j adnabyddid ef yn gyffredin, a brawd i'r seraph bregethwr, Robert Roberts, Clynnog. Pan yn bymtheg oed daeth i Pentreuchaf i gadw ysgol. Bu hefyd yn cadw ysgol yn Clynnog a Phenmorfa. Vo y flwyddyn 18031 ary (4eg 0 Fawrth, I daeth i Penmourit i gadw ysgol, ac yma y treuliodd weddill ei oes. Dech- reuodd bregethu pan yn 17eg oed. Nid I oes sicrwydd yn mha le, ond dywed rhai mai yn y Dinas. Catodd ei ordeinio yn y flwyddyn 1813. Dyn bychan ac eiddil o gorpholaeth ydoedd yn cael ei flino gan asthma, ond yn hynod o foneddig- aidd yn ei holl ymddygiadau Gwisgai glos du a 'sanau o'r un brethyn. Yr oedd ei wisg yn debyg i un o'r uchelwyr Eglwysig. Yr oedd ynddo gyfuniad o dynerwch a gwroldeb. Gweithiodd yn egniol gyda'r Ysgol Sabbothol. Efe a'i gyd frawd-yn-nghyfraith, sef y diwedd- ar john Jones, Tremadog, fu yn offer- ynau i sefydlu y Cyfarfod Ysgol yn y Sir, a hwy oeddynt yr arholwyr cyntaf. Yn Mhentreuchaf y cynhaliwydy cyfar- fod cyntaf, a'r ail yn Nefyn. Yr ysgrif- enydd oedd Mr. D. Williams, Nefyn. Yr oedd Michael Roberts wedi darilen ei Feibl 42ajo o weithiau cyn bod yn 6oain oed, yr hyn oedd yn ei gymwyso i bregethu ac i fod yn arholwr y Cyfar ( tod Ysgolion. Yn ol Dr. Owen Thomas efe oedd y prif offeryn yn ffurfiad y Cyffas Ffydd yn ei ffurf bresenol, Ilyfr na cheir ei ragorach fel crynhodeb o athrawiaethu yr efengyl yn ol fel y maent yn cael eu dysgu yn syml yn y I Beibl. Adeiladwyd y capel presenol yn Pen- mount yn y flwyddyn 1841, saith mlyn- edd cyn marwolaeth Michael Roberts, yr hyn gymerodd le ar yr 28ain o Ion- awr, 1849, yn 68ain mlwydd oed. Trefn y daith ar y cyntaf oedd Rhyd- yclafdy a Phentreuchaf am fo a 2, a Phenmount am 6. Nid oedd achosion wedi eu sefydlu yn Abererch, Fourcrosses, ac Efail- newydd, hyd y fiwyddyn 1839, yr un adeg ag y daeth y Bedyddwyr a'r Wes- leyaid i'r dref. Pan oedd y tywysog a'r gwr mawr hwn yn Israel, sef Michael Roberts, yn myned oddiwrth ei lafur at ei wobr, tystiolaethai iddo gyfarfod a llawer o frodyr gau yn ystod ei oes, ond meddai, "Yr wyf yn maddeu iddynt oil, fel y maddeundd Crist i minau." Ei eiriau olaf oeddynt: "Arghvydd dcrbyn fy ysbryd," &c. Felly hunodd inewn tang- nefedd gyda gwen siriol ar ei wyneb.

[No title]

Cyngor Dosbarth Lleyn.

Advertising