ο»Ώ Dechreuad YmnetHduaethI ym Mhr/llhelf.|1913-01-29|Yr Udgorn - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

13 articles on this Page

Advertising

I NODION A HANESION. j

I I Merched y Bleidlais a…

Ffaith o Bwllheli.

Helynt Mynydd Cilan.

Disgyn Tros Glogwyn.I

. -0- Pum' Mlynedd o Ben d…

-u- i Bywoliaeth Ryfedd.I

Dechreuad YmnetHduaethI ym…

News
Cite
Share

Dechreuad YmnetHduaeth I ym Mhr/llhelf. CYFARFOD ARBENIG YM I MHENLAN. Cynhaliwyd y cyfarfod uchod, o dan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion y dref, nos lau, Ionawr 23am, 1913. Llywyddwyd gan Mr Samuel Williams (Is-Lywydd y Cyngor) Yr oedd taf- leni wedi eu hargraffu a'u dosbarthu drwy y gynulleidfa yn cynwys emynau cyfaddas i'r amgylchiad. Dechreuwyd drwy ganu yr eniyn, "0 Arglwydd, ein preswylfa ni," &c. Yna darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr ac offrymwyd gweddi gan Mr Evan Parry, Ysgubor Wen. Caf- wyd ychydig sylwadau agoriadol gan y cadeirydd. Cyteiriodd at y cytnewid- iad sydd wedi cymeryd lie yn hanes y gwahanol enwadau yn eu perthynas a'u gilydd. Bu adeg pan y buont yn ym- ryson y naill yn erbyn y Hall ond erbyn he Hyw y mae heddwch yn teyrn- asu yn ein plith, a'r pedwar enwad yn canu a gweithio mewn gwell cydgord nag erioed. ANMBVNWYH.—Galwyd ar y Parch J. Rhydderch i roddi hanes dechreuad yr achos Annibynol yn y dref. Sylwodd fod cyflwr y wlad yn y dyddiau gynt yn cael ei nodweddu gan anwybodaeth, otergoeliaeth, gwaseidd-dra, a llac- rwydd moesol, ond fod goleuni yr Efengyl wedi bod yn foddion i leihau y pethau hyn i raddau pell. Cyfeiriodd at y ffaith mai tua'r flwyddyn 1646 y ceir yr hanes cyntat am bregethu ym M hwllheli gan rai oedd yn credu yn egwyddorion Ymneillduaeth. Enwodd y brodyr canlynol fel rhai fu yn amlwg gyda'r achos yn ei gyfnod boreuaf,— Mri John Williams, Eiiis Rowlands a Henry Maurice. Dywedodd fod dau frawd o Leyn yn cymeryd rhan flaen- llaw, sef Mr Jeffrey Party, Madryn, a Mt Richard Edwards, Nanhoron. Son- iodd hefyd am Walter Cradoc, Vavasor Powell a Morgan Llwyd fel Yi-iineilldu- wyr selog yn y cytnod hwnw. Mae hanes am yr olaf yn cerdded heolydd Pwllheli ar ddydd marchnad neu ffair, a'i Feibl yn ei law, nes oedd y bobl yn cilio o'r neiildu gan ofn a dychryn. Yr oedd John Williams yn ddyn duwiol iawn ac yn bregethwr galluog, er yn otnus a llwfr ar adegau. Gwnaeth waith rhagorol, ac efe fu yn gyfrwng i gychwyn yr achos adwaenir heddyw fel "Penlan," Symudodd yn 1662 i Kent. Anfonodd lythyr oddiyno at Mr Edwards, Nanhoron, i ofyn am dyddyn i'w fam. Digwyddodd y llythyr fyned i ddwylaw rhai oedd yn barod i wneud camddefnydd o hono. Newidiwyd ei gynwys rhoddwyd geiriau ynddo yn mynegi teimladau gelyniaethus tuag at y Brenin a'r Llywodraeth. Cyhuddwyd John Williams o ysgritenu y geiriau hyn, a gorfod iddo dalu dirwy o ^36. Bu pregethu am flynyddoedd cyn codi capel. Trwyddedwyd ty i un o'r enw William Griffith ar gyfer pregethu Nid oedd capel cyn 1689, pryd y daeth Deddf Goddefiad i rym. Ceir hanes am un o'r enw James Owen yn dod i J Bwllheli, ac yn pregethu yma am oddeu- tu naw mis. At ol hyny symudodd i Groesoswallt Ceir hanes hefyd am un gweinidog, sef Daniel Phillips, or- deiniwyd yn 1688, yn cael profiad braw- ychus un tro pan ar ganol pregethu. Daeth dyn i'r odfa gyda'r bwriad o saethu y pregethwr, ond yn rhaglun- iaethol, pan ollyngwyd yr ergyd, aeth y saeth i'r pared, ac arbedwyd ei fywyd. Yn nghysgod dy law y'm cuddiaist," meddai y pregethwr yna aeth ymlaen gyda'i bregeth. Tua'r flwyddyn 1748 daeth un o'r enw John Thomas yma, ac ar ei ol ef Lewis Rees o Lanbrynmair. Yn y Gwynfryn y bu gweinidogion Pentan yn byw am 150 mlynedd. Er- lidiwyd llawer arnynt gan Harri Roberts (adnabyddid et fel Harri Dene). Daeth i'r Gwynfryn un tro gyda'r bwriad o wneyd niwed i'r gweinidog. Aeth merch Daniel Phillips i agor y drws, a phan ddywedodd Harri ei neges taraw- odd Miss Phillips ef nes y syrthiodd ar lawr. Aeth Harri yn ei ol yn gyflymach nag y daethai yno, ac ni flinwyd hwy ganddo ar ol hyny. Un arall fu'n wein- idog yn Mhenlan oedd Rees Harries. Un o'r De ydoedd, fel amryw o'r rhai a enwyd eisoes. Yr oedd yn debyg i esgob o ran ei ymddangosiad. Gwnaeth | wasanaeth mawr i'w enwad. Bu farw yn 5° oed. Un arall o weinidogion yr Annibynwyr oedd Benjamin Jones. Ordeiniwyd ef yn Pencader. Daeth i ( Bwllheli yn 1789. Bu yma am 34 ) mlynedd. Yr cedd yn athrawiaethol fei pregethwr ac yn esboniwr rhagorol. Ysgrifenodd rai llyfrau, megis y "Drin- dod" a "Ffynhonau lachawdwriacth." Ei f ii mwyaf oedd diffyg ysbryd cen- hadol. Claddwyd ef yn mynwent Pen- Ian, ac y mae ei weddillion marwol yn gorwedd yn y ddaear yn ymyl y set! fawr bresenol. Bu Capel Helyg a Penlan mewn undeb a'u gilydd am 5° mlynedd. Dechreuwyd pregethu yn Nghapel Newydd Nanhoron yn 1740, ond mae hanes y ddau le yma wedi ymddangos yn Yr Udgorn eisoes. Terfynodd Mr Rhydderch ei sylwadau drwy ddweyd mai y ddau beth am!ycaf yn hanes y Tadau Y mneillduol uchod, oedd cariad mawr at Grist a awaitli mawr (Iron Grist. METIIODISTIAID. -R hodd%vyd hanes dechreuad yr enwad hwn yn y dref a'r cylch gan y Parch Thomas Williams. ) Yn 1741 y daeth Howell Harris i Sir Caernarfon gyntaf. Ceisiodd bregethu yn Glastryn Fawr ond rhwystrwyd ef. Daeth i'r dref ar nos Sadwrn. Deall odd fod y Canghellor Owen yn pregethu yn Llannor y diwrnod dilynol. Aeth H. H. yno i'w glywed. Gwnaeth y Canghellor gyfeiriadau at H. H. yn ystod y bregeth fel "heretic" y dylid gwylio rhagddo. Ni wyddai fod y gelyn hwnw yn bresenol. Ar derfyn y gwasanaeth siaradodd 1-1. H. a'r Cang- hellor. Deallodd yr olaf mai yr heretic "oedd. Hysbysoda y dorf o hyny, a diangodd H. H. oddiyno dan gawod o gerrig. Aeth o Lannor i Lanfihangel. Afreidiol yw rhoddi ei hanes yn Lleyn gan fod y cytryw wedi ymddangos eisoes yn y papur hwn. Bu Pwllheli am 25 mlynedd heb sefyd- liad Methodistaidd ar ol dyfodiad H. H. i'r wlad. Pregethid am amser maith cyn codi y capel cyntaf. Ceir hanes am un yn pregethu mewn cae, tra yr oedd nifer o bohl yn chwareu tennis mewn rhan arall o'r cae. Dyna sefyllfa peth- au oddeutu 150 mlynedd yn ol. Cym- eriad hynod oedd Huw Thomas, hen ddyrnwr wrth ei alwedigaeth-byddai hefyd yn gwau rhwydau mewn ymgudd- fa, gan ei fod yn llwfr ac yn ofni'r gelyn, yn Lon Fudr, Dinas, y treuliodd ran o'i oes. Cariai ei fwyd yn ei boced wrth fyned o gwmpas i bregethu. Soniai un tro yn ei bregeth am y pwys- igrwydd o droi i'r noddta thag Hid a dialedd yr Anfeidrol. Cyfeiriai at y nefoedd fellle ag iddo do aur, drwy ba un ni ddeuai y tan dinystriol i losgi y rhai fyddai odditano. Bu Williams, Pantycelyn a Peter Williams yn preg- ethu yn y dref gerllaw yr adeilad adnabyddid fel y Coleg y pryd hwnw -yn y fan lie y mae y Metropolitan Bank yn awr. Ty annedd oedd y capel cyntaf perthynol i'r Methodist- iaid yn y dref. Safai yn y fan 11a y mae y capel presenol, sef Penmount. Michael Roberts oedd y bugail cyntaf ar Penmount. Dacth yma i gadw ysgol yn 1803-bu hefyd yn cadw ysgol yn Nghlynnog. Ordeiniwyd ef yn 1813. Mae rhai yn dweyd ei fod yn fwy o bregethwr na John Elias, Gwisgai yn debyg i Esgob. Bu yn gyfrwng i sefydlu y Cyfarfod Ysgol cyntaf, yn Pentre Ucha y cynhaliwyd hwnw. Dywedir fod Michael Roberts wedi darllen y Beibl 42 o weithiau cyn bod yn 60 oed. Gwyn fyd pe efelychid ef yn y peth hwn gan grefyddwyr yr oes hon. (I'w barhau). --0

Cyflog Gweithwyr y Ffyrdd.

Geneth o Lanrwst ar Goll.

Gweithred Lawfeddygol ar y…

O'r Aifft i Gyrllru.