Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y Diweddar Mr. Richard Ellis.I

News
Cite
Share

Y Diweddar Mr. Richard Ellis. I Yn yr Observer ceir y sylwadau caulynol ar un o'r Hen Wladfawyr, a theimlwn yn ddiolchgar i un o garedigion y DRAFOD am alw ein sylw at ysgrif sydd yn sicr o fod yn dderbynioi gan nifer favyr o'r rhai sy'n cym- eryd dyddordeb yn y Wiadfa Gymreig. Gyda gofid dwys y bydd i gyfeillion llu- osog Mr. Richard Ellis, ddeall am ei farwol- aeth, Gorphenaf 16, mewn canlyniad i ymos- odiad o'r pneumonia. Daeth Mr. Ellis allan i'r wlad hon gyda'r fintai gyntaf yn y flwyddyn 1865, a sefydlwyd ganddynt y Wiadfa Gymreig. Yroedd pawb adwaenai Mr. Ellis yn ei hoffi yu fawr, a pherchid ef o hervvydd ei nodweddion rhin- weddol. Ar ol treulio cyfnod byr yn Nyffryn y Camwy bu raid iddo adael am Patagones o herwydd gwaeledd iechyd ei wraig. Yn fuan drachefn symudasant i Uruguay i'r amcan o gadw defaid. Yn 1870 derbyniodd Mr. Ellis concession yn nhrefedigaeth Roldan, F. C. C. A., ond ar ol cyfnod, pan nad oedd ffawd yn gwenu arno, peuderfynodd roddi i fyny fifermio, ac aeth i wasanaeth Central Argentine Railway," yn Chwefror 1875, a gwnaeth ef a'i deulu eu cartref yn Villa Maria. Wedi treulio cyfnod o 17 mlynedd yn Villa Maria dychwelodd Mr. Ellis i Rosario i gymeryd gofal agersugnedig (steam pump), ac ar 01 33 mlynedd o wasanaeth ffyddlawn i'r Central Argentine Railway," derbyn- iodd bensiwn yn 1906. Yma y bu yn byw hyd ddydd ei farwolaeth gan dreulio ei amser mewn ymweled a'i hen gyfeillion, a rhoddi llyfrau i'r rhai oedd ynei plith yn wanaidd a methedig, a siriolai eu bywydau gyda'i ymddiddanion calonpgol. Cymerwyd y gwasanaeth crefyddol ar Ian ei fedd, yn nghladdfa'r Protestaniaid, gan y Parch. C. Yoder, Cariwyd yr arch at y bedd gan Mri. W. ac A. Hardy, W. Parry a W. Parry (ieuanc), J. Anderson a J. Weiland. Dilynwyd y corph at y bedd gan berthynas- au a nifer fawr o gyfeillion, ac yn eu plith yr oedd y personau carilvnol :-Parch. L. H. a Mrs. Yoder, Mr. a Mrs. C. Godward, Mr. a Mrs. Boyle, Mr. a Mrs. Nichols a'u mherch, Mr. a Mrs. J. Weiland, Mrs. Jones, Mrs. God- ward, Meistri. W. J. Martin, A. Watson, R. Milne, T. Mitchell, T. a J. Richards, A. Mac Farlane, W. Mac Crindle, T. Seddon, L. H. Heinert, A. Greensdale, A. Jones, Meistri L. Woodward, A. Diddon, a llawer eraill. Yr oedd yr elor wedi ei gorchuddio gyda phlethdorchau prydferth o flodau naturiol a chelfyddydol oedd wedi eu rhoddi gan berthytiasau a chyfeillioii. Yn yr hwyr cynhaliwyd gwasanaeth cofia hynod eft'eithiol gan y Parch. L. Yoder. Yn ychwanegol at y trallod achoswyd trwy farwolaeth Mr. Ellis, daeth profedigaeth arall i'r teulu trwy farwolaeth ei wyres, Phoebe Edith Parry, yr hon a'i dilynodd i'r bedd ddau dcliwrnod yn ddiweddarach. Ganwyd hi ar Hydref 2, 1902, a merch ydoedd i Mr. a Mrs. William Parry. Amlygir cydymdeimlad mawr a'r teulu- oedd yn eu profedigaeth." Deallwn mai brodor o Ffestiniog oedd Mr. R. Ellis, ac yr oedd y diweddar hybarch Gutyn Ebrill ac yntau wedi gohebu llawer a'u gilydd. Heddwch i lwch y naill a'r llall.

.. 1- - Yr Undeb Efengylaidd.I

TREORCI.

Advertising