Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Addysg y Wladfa.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Addysg y Wladfa. PARHAD. Mewn gwledydd eraill a manau eraill o'r Weriniaeth Arianin ceir fod y mamau yn ffurfio yn fath o bwyllgor i hyrwyddo addysg yn yr ardal. Ymgynghorant a'r athrawon, ymwelant a'r ysgolion, anogant eu cymydog- ion, cynorthwyant yn mhob achos, cymerant ran flaenllaw yn ngwyliau yr ysgol. Y maent yn effeithio er daioni ar yr athrawon ac ar addysg yn gyffredinol. Beth pe cawsem bvvyllgorau o'r fath yn y Wladfa ? Buan y gwelid gwell llewyrch ar addysg y Wladfa. O'r ochr arall y mae diffygion yn perthyn i ami athraw, nid yw o bwys ganddo golli diwrnod ar yr esgus lleiaf-digon ganddo fod ei ddisgyblion yn alluog i gyfarfod agholiad- au yr arolygydd pan ddaw beibio, nid yw yn aiddgar am eu llwyddiant, nid oes ganddo amcan uwch na chyflawai y rhaglen i'r llyth- yren heb wneyd ymdrech i dynu allan oreu y plant gan fagu a meithrin ynddynt ddyhe- adau uchel, deffro eu meddyliau fel y cyn- hyddo eu hawydd am wybodaeth ar ol gadael yr ysgol. Am raglen addysg elfenol y Tiriogaethau gellir dweyd ei bod yn bur dda, ei bai mwyaf yw ei bod yn rhy elfenol mewn ysgolion gwledig, pe cyfrenid yr oil a ofyna, nibuasai gan blant yr ysgolion dyddiol ond ychydig wybodaeth. Ei phrif amcan ydyw rhoddi gwybodaeth sylfaenol yn mhrif ganghenau gwybodaeth. Rhenir yr ysgol i dri dosbarth. Yn iaf, Ysgol Babanod 2il, Elfenol; yn 3ydd, Uwch- raddol. Perthyna i Ysgol Babanod y radd iaf a'r 2il radd; Elfenol 3ydd ar 4ydd radd; Uwchraddol 5ed a 6ed radd. Perthyna holl ysgolion gwledig y Wladfa i'r dosbarth cyn- taf; yn ddiweddar codwyd ysgolion y pentrefi i'r ail ddosbarth. A ganlyn yw rhaglen swyddogol y Bwrdd Addysg Cenedlaethol. laith Genethlaethol, a™r bu ob. Darllen ac Ysgrifenu, j I 9 aWthr 0 ?Rhi.fyddiaeth J ? ?y-thnos. Hanes Gwladol a Llywod- 2 awr a haner raethol J yr wythnos. Astudiaeth o Natur—50 munud yr wythnos. Ymarferiadau Corphorol, 2 awr pum Cadwraeth lechyd, ? munud yr Caniadaeth J wythnos. Gwaith Llaw—1 awr 40 munud yr wythnos. Darluniaeth—50 munud yr wythnos. Testyn Rhydd-I awr 5 munud yr wythnos. Chwareuon-3 awr yr wythnos. Cyfanswm—21 o oriau 30 mun. yr wythnos. A ganlyn yw'r gofynion yn y gwahanol ganghenau:— IAITH GENEDLAETHOL 2il radd.— Ysgrifenu ar destyn neillduol neu rydd. Ysgrifenu llythyrau cyftredin, gwneyd danghoseg (Pag- are), &c. 4ydd radd.-Ymddiddan ar unrhyw wers o'r gwerslyfrau adrodd ystoriau yn ei eiriau ei hun. Adrodd oddiar V cof, ddarnau mewn barddoniaeth a rhyddiaeth, detholedig o awduron Arianin. Ysgrifau byrion des- grifiadol. DARLLEN zil radd.-Darllen o'r Gwers- lyfrau ac esbonio eu cynwys. 4ydd radd.— Darllen yn synhwyrol gyda mynegiant un- rhyw un o'r llyfrau penodedig i'r 4ydd radd. Egluro eu cynwys. Ymarfer a'r geiriadur. YSGRIFENU: 2il radd.—Y pedair rheol— Metric System. 4ydd radd.—Y pedair rheol mewn rhifau cyfain degranau, twnrifau. Arian estronol o gylchrediad cyfreithlon. ASTUDIAETH o NATUR.Sylwadaeth, ym- ddiddanion a darlleniadau syml am waith natur. 4ydd radd.—Coed, llysiau ac anifeil- iaid y Weriniaeth. DAEARYDDIAETH: 2il radd.—Daearyddiaeth y Weriniaeth Arianin. 4ydd radd.—Daear- yddiaeth Archentina, ei chydmaru a phrif wledydd America ac Europe. Y ddaear fel planed. HANESIAETH: zil radd.—Adroddiadau am ddynion mwyaf pwysig Archentina, eu coffau drwy roddi mewn ymarferiad rywbeth budd- iol. Awdurdodau y Diriogaeth a'r Genedl- dinasyddiaeth. 4ydd radd.—Ymddiddanion neu adroddiadau syml am breswylwyr cyntaf y Wlad darganfyddwyr, goresgynwyr, gwladfawyr mwyaf nodedig. Pobl, gwiad, a llywodraeth. YMARFERIADAU CORPHOROL, &c.: 2il radd- Chwareuon, arferion iachus, glanweithdra, &c. Yr angenrheidrwydd o awyr bur, goleu da, dwfr yfadwy, gorphwysdra, &c. Effeith- iau yr alcohol, narcotics, &c. GWAITH LLAW: 2il radd.—Amaethyddiaeth ymarferol. Gwniadwaith i ferched. 4ydd radd.—Saerniaeth syml; gofal a thriniaeth anifeiliaid eyffredin,i fechgyn. Golchi, smwddio, a choginiaeth i ferched. MOESOLDEB. -Cy in hell ffurfiad o arferion moesol, a datblygu dyheadau uchel a bonedd- igaidd. Yn ol y rhaglen uchod gwelir nad yw plant wedi gadael yr ysgolion gwledig yn feddianol ond ar ychydig wybodaeth gyffredinol; er rhaid cydnabod ei bod yn sylfaen ar ba un y gellir adeiladu gydag ymdrech ar ran y dis- gybl; ond rhaid i'w gylchynion fod y fath ag i'w symbylu i ymgeisio am fwy o wybodaeth; ond ysywaeth nid yw felly fel rheol, yn enwedig yn y Wladfa, lie nad oes raid wrth wybodaeth eang i lwyddo yn y byd. (l'w Barhau). too

I Colofn y Merched. I

Advertising

Barddoniaeth.

Advertising