Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
A YW eich enw i lawr ?I
A YW eich enw i lawr ? Os yw, y mae llythur yn eich aros yu Llythyrdy Trelew. Cartas detenidas en la Oficina de Trelew hasta el II de Marzo. LETRA A.—Anej Bano, Arias Juan Gon- zalez, Alvarez Gregorio, Andres Gonzalez Jose, Alvarado Casimiro, Acosta y Alvaro, Azpiroz Josefa, Andreolio Angela, Arnaiz Cobo Jose, Arias Ernestina, Araujo Hiquet J. M., Aguilera Silveiro, Adomez Segundo, Abal Cayetano, Armitage W. T. LETRA B.—Barne Juan, Badal Bernardo, Bergonzi Pietro, Betran Juan, Bermejo Ho- racio, Bandino Pedro, Buceta Vicente, Ban- guiata Angulo, Beatriz E. Maria, Brall F., Buceta Vicente. LETRA C.—Cervera V. Agustina, Cuesta Clemente, Cancho Domingo X., Carbonel Manuel, Camba Doreteo, Coombes Enrique, Carrera Saraqueta P., Carrodeguas Jose, Catala Bosch Jose, Correntino Lemos, Corbera Ramon, Cassiola Batista. LETRA D.—De Marzo Domenico, Duarte Miguel. LETRA E.—Evans D., Evans Ivor, Evans A., Erazu Benedito. LETRA F.—Fernandez Jose, Fernandez Vi- llanueva M. LETRA G.-Granualdo Juan, Garcia Juan, Gonzalez y Alvarez J., Gofof I., Giovanttista Cacciola, Gimenez Abel, Garcia Lino, Geri- c6 Miguel, Grenier F., Gonzalez Maximino, Gutierrez Eleodoro, Griffith David. LETRA H.—Hidalgo Ciceron, Haine Luis, Hughes Juan S., Harri Benjamin, Humphreys Luis, Harris Tomas, Humphreys R. M. LETRA I.Idalgo Arnolfo, Ibanez Lino. LETRA J.- Jones Dilys, Joven Jose, Jones Evan John, Jones Eduardo John, Jones Da- vid. LETRA K.-Kliligspor Carl. LETRA LI.-Llerena Sildvestre. LETRA L.—Leared A. Fco., Lobos Fco., Leis Emilio, Lisazuain Tomas, Ling Jara, Lagos Delicio. LETRA M.-Mancilla Genaro, Manguini Lo- renzo, Martinez Sevando, Morales Jose, Mar- tin Felix, Morancho Ramon, Moran In- terno, Mancine Vitaronze, Manguine Aro- zino, Martinez F., Mariano Pedro. LETRA N.—Nunez Enrique, Noia de Gi- ussepe. LETRA O.-Osorio Alfredo, Ongay Fran- cisco. LETRA P.-Parete Jose, Pedro AnacJeto, Purita Fco, Pugh T. John, Podesta Juan B., Pesce Domenico, Price Lewis, Pawtoski Stefan, Paso Jose. LETRA R.—Rodriguez Rosa, Roco Anton- io, Rodriguez Santiago, Romero Estanislado, Riquelme Belamina, Rodriguez Abicto, Ruy- es Carmen, Ruiz Florinda, Roberts A., Ro- man Maria, Russo Vito. LETRA S.—Suarez Jose, Schneikarl Miguel Soler Antonio, Suarez Josefa, Sepulveda Amando, Santander Sara, Sima Alfredo, Senisky Senitsky, Serrano Roman. LETRA T.-Telechea Ignacio, Torre Alejo, Treorki Escuela. LETRA V.—Viloria Fernandez A., Villaliz Martin Felix, Vosecky Antonio, Veccio. LETRA W.—Williams Ricardo. LETRA Z.—Zimmerrnann Ricardo, Zaneti Eloi, Zarzuela Polonic.
.CORRESPONDENCE CERTIFICADA…
CORRESPONDENCE CERTIFICADA y, de CARGO CERTIFICADA Ayala F., Bonzada Ponsa Seberiano, Cacciola Giambatista, Chonse Choni, Garcia Lino, Hughes Meirion, Jones Hugh J., Jones Edward, Jones Luther Lloyd, Mignatti Ar- mando, Moseteau Juan, Matey Juan, Sallis G. W., Segura Gil Fernando, Tisnado Antonio, Williams E. David, Zeni Celestino, Zimmer- mann Ricardo. CARGO. Berwyn Dilys J., Coombe H. J., Costa Sr., Conti Francisco, Di Noia Giuseppe, Gallegos Pedro, Loumage L., Massari, Owen H. D., Dolan Near Bryn, Parry William, Roberts M. (Drofa Dulog), Vicezo Cappelare, Withers Leonardo, Wotowice Josse. M. A. TAMBURINI.
Gaiman.I
Gaiman. Nos Wener, Mawrth 6ed, cyfarfu ychydig o gyfeillion a chydnabod y Br. John S. Wil- liams, i "swper" a roddid ar ei ymadawiad i Gymru. Efallai, mai dwy flynedd yn 01- pan ymadawodd ef a'r teulu oddiyma y dylai hyn fod wedi cymeryd lie, pa un bynag, yr oedd yr un cystal nos Wener diweddaf, pryd y cyfranogodd tua 30 o hono yn ngwesty y Br. H. S. Pugh. Tua deugain mlynedd yn ol, y daeth y Br. J. S. Williams allan gyntaf i'r Wladfa, yn ddyn ieuanc, a llawn o obeithion y dyfodol yn enyn sel a brwdfrydedd ynddo i wneyd ei ran mewn hyrwyddo a dadblygu y Wladfa yn ei gwahanol agweddau. Tuedd gyffredin dynion ieuanc pan yn sefydlu mewn gwlad newydd, yw anghofio y graig eu naddwyd o honi,-an-hofio a dibrisio y gynysgaeth dda a etifeddwyd o aelwydydd anwyl a chrefyddol Hen Gymru bu y Br. J. S. W. yn eithriad i hyny. Heblaw adeiladu cymeriad cryf iddo ei hun, ymdrechodd gasglu gwybodaeth, a diwylliodd ei hun mewn gwahanol gyfeiriad- au, fel y daeth yn aelod gwerthfawr i gym- deithas, ac hyrwyddwr goleuedig ar y gwa- hanol bwyllgorau a byrddau y penodid ef iddynt. Wedi myned drwy arlwyon y wledd, a rhydd-ymgomio difyr ac adeiladol, galwodd y Br. J. Howell Jones ein sylw at Arwr y Noson (Br. J. S. W.) Teimlai y Br. Howel Jones anhawster i roi mynegiant i'w deimlad- au am ei fod yn colli cyfaill mynwesol yn yr ymadawiad hwii,hen deimladau ynparhau i losgi mewn adgof o gydymdeimlad trylwyr yn awr y brofedigaeth ddu." Sylwodd y Br. Elias Owen, mai colled fawr i'r Wladfa yw ymadawiad cymeriad da fel eiddo'r Br. J. S. Williams o'n plith dygodd dystiolaeth iddo fel dadleuydd teg ar fwrdd hyrwyddol yr C. M. C. Parch. Tudur Evans ddywedai nad oedd wedi parotoi dim i'w ddweyd, ond eto, nas gallai lai na datgan ei edmygedd o un a chymeriad fel y Br. J. S. W., a bod ei ym- adawiad yn siwr o fod yn gulled wirioneddol i'r sefydliad. Yn dilyn caed gair gan y Br. M. Ph. Jones; cydolygai a'r hyn ddywedwyd parthed cym- eriad y Br. J. S. W., ac mai fel ei athraw y daeth i gyffyrddiad ag ef gyntaf, yn un o ysgolion dyddiol cyntaf y Gaiman,-credai ei fod yn athraw trylwyr; amaethwr gonest; blaellor tangnefeddus, a chanddo gydymdeim- lad ag angenoctyd pawb a ddeuai i gyffyrdd-. iad ag ef. Br. D. Rhys Jones a sylwai arno fel dir- westwr aiddgar, bod y swper hwn yn wahanol i'r rhelyw o honynt, am ei fod yn glir o win- oedd a diodydd alcoholaidd, a bod hyn o barch i ddirwestiaeth y Br. J. S. W., a'i fod yn credu ei fod yu un o'r dirwestwyr cydwybodol hyny a gadwai aurhydedd yr egwyddor lie bynag y byddai. Br. Wm. T. Griffiths a sylwai ar y Br. J. S. Williams fel cydweithiwr gyda gwahanol symudiadau y Wladfa dygai deymed gym- eradwyol iddo fel un o deimladau crefyddol cynes, a chymydog parod a ffyddlawii. Br. D. Davies (Pant y Blodeu) a darawodd danau ffres a byw am J. S. W. fel un diwyd a dirwgnach wrth gario ami i groes yn y bywyd gwladfaol. Edrychaiy Br. Hugh Griffiths arno fel cyd- Ha r-xrHfilwr a rhvHorarrharor • pi fon fel aelod am flynyddau ar Gynghor y Rhl I barth yn siarad yn uchel am dano fel un teilwng o ymddiriedaeth, ac wedi gwneyd gwaith mawr yn y swydd a'r safle hono. Br. E. J. Roberts a sylwai arno o bwynt y byd masnachol"—ei fod pan yn hogyn wedi cael siwt o stor y Br. J. S. Williams a'i fod wedi methu ei gwisgo allan, a bod brawd iddo wedyn wedi methu, ac na wyddai nas gallai rhanau ohoni fod ar gael yn bresenol 1 -yr oedd yn fasnachwr gonest. Br. Tom Williams a ddatganai.ei edmygedd ohono, a themlai braidd, am nad oedd wedi cael llawer o'i gwmni yn ystod ei ymweliad y tro hwn bod ami i lyfr a dderbyniodd gan y Br. J. S. Williams yn anrheg, nid yn unig yn fynegiad o ddymuniad da, ond danghosai dueddiad llengar y rhoddwr. Br. J. H. Rowlands a draethai am dano fel meistr da "-ei fod ef wedi bod yn gweithio llawer o dano pan nad oedd ganddo fawr o ddim ond gwyneb. Yr oedd y Br. J. S. W. yn ol ei gredo ef yn Pioneer mewn adeiladu ty da yn gartref; a bod y sawl nad allai ddangos ty da yn gartref, y gellid ei ystyried yn is raddol ar raddfa bodolaeth (?) Br. Griffith Pugh a sylwai fod J. S. Williams y dyfodol yn yr Hen Wlacl, a phwysleisiai ar fod dynion ieuainc y Wiadfa yn fyw ac egniol i gario allan yr hyn sydd wedi ei ddechreu gan eu rhieni. Wedi ychydig eiriau pellach gan y Br, Howel Jones a gair gan y Br. W. Edwards— cydymaith Br. J. S. W. ar ymweliad-cafwyd arawd gan y Br. John S. Williams yn dadgan ei ddiolchgarwch am yr ymddangosiad hwn o deimladau da tuag atto. — AAA
LLOFFION.
LLOFFION. GAN 'RHEN FFARMWR. "Gallwn feddwl fod y rhawiad olaf o glai pur Italia wedi eiddefnyddio i greu Garibaldi a Hazzini, fel nad oedd yn aros ond baw a sofl i wneyd pob un arall. Nid wyf yn synu eu bod o egwyddor mor ddrwg gan ddarfod eu gwneyd o ddefnydd mor wael, ond yr wyf yn synu eu bod yn gallu gwneyd cymaint o ddrwg a hwythau mor hynod o ddiog."— EMRYS AP IWAN. Blinir rhai eglwysi yn Neheudir Cymru gan Iwyth newydd o grwydriaid,-rhai yn awyddus am ganu unawd o flaen y bregeth ar nos Sul. Dyma ddull y byd hwn o hys- bysu eu hunain."—O'R Goleuad. Hawdd Ilawenhau fod gwaith bendith- fawr Dr. Owen Evans trwy oeshirfaith wedi ei gyclnabocl trwy Royal Bounty Grant. Dyma anrhydedd i wr sydd yn ei lawn deilyngu. Dyddorol ywgwrando arno yn son am droion ei yrfa, ac yn adrodd rai o'i adgofion. Dywed iddo gerdded deng-milltir-ar-hugain unwaith i'w gyhoeddiad, a phregethu bedair gwaith, a derbyn swllt a chwech yn gydnabyddiaeth am ei lafur; ond ymhen haner can mlynedd derbyiiiodd lythur oddlwrth frawd o Batagon- ia yn cyfeirio at y Sul hwn, ac yn mynegi y ffaith mai un o'r pedair pregeth hyn fu yn foddion troedigaeth ac iachawdwriaeth ei enaid. Ni wyr dyn a lwydda hynyma a'i hynacw."—O'R Goleuad. Difyrus gan Lloyd George yw adrodd yr hanesyn canlynol, ag sydd mewn cysylltiad ag ef ei hun Yn ddiweddar tra y dador- chuddid ei ddarlun, yr hwn oedd rodd rhai o'i edmygwyr Cymreig, sylwodd y cadeirydd ddarfod i'r tanysgrifwyr dreulio llawer o amser er ceisio penderfynu yn m'hle i grogi Lloyd George." Efe ei hun hefyd, sydd yn adrodd y stori am ddyn dderbyniodd dystysgrif cyinerad- wyaeth am achub dyn rhag boddi. Tueddai'r arwr i fod yn ddiystyr o'r edmygedd fwrid arno, gan sylwi Mewn gwirionedd, wnes i ddim i haeddu'r fath beth. Gwelais y dyn yn ymdrechu yn y dwfr, a chan nad oedd neb arall yn agos, gwelwn y buasai'n siwr o foddi os na achubwn ef. Felly neidiais i'r dwr, gan nofio ato, ac wedi ei droi er gweled mai nid Lloyd George ydoedd, tynais ef allan." "Mae rhai pobl yn ymffrostio y gallant ddeall y Beibl heb gymorth Esboniad na dim o'r fath, tra y mae eraill ychydig rnwy gos- tyngedig yn cydnabod eu bod yn methu ei ddeall er cael cymorth yr esbonwyr goreu.— DR. CYNDDYLAN JONES. "Gwelais 16 o ddramas yr wythnos ddi- weddaf. Prin y rhaid ychwanegu na ddar- llenais hwy. Ond chwi wyr sydd yn canmol ac yn anwesu y ddrama, beth sydd i ddod o'r seiat a'r cyfarfod darllen ? "—O'R Goleuad.
Advertising
AT Y CYHOEDD. Dymunaf hysbysu ardalwyr Rhanbarth y GAIMAN a'r CYLCH fy mod wedi Sefydlu yn derfynol a pharhaol yn y GAIMAN. Da genyf allu tystiolaethu fy mod wedi cael y pleser i fod o wasanaeth i amryw gwsmeriaid yn yr ardal eisoes. Sylwer o 9 hyd 12 y boreu, ac o i hyd S P.m. JUAN RAYA ORTIZ, I MEDDYG DANEDD. I Y drws nesaf i JESUS ESCRIBANO.