Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Trelew.
Trelew. Nos Sabbath diweddaf, yn y Tabernacl cafwyd Anerchiad rhagorol gan y Br. R. E. Jones ar "Gadwraeth y Sabbath." Hon oedd yr ail o gyfres o anerchiadau gwyr ieuanc yr Eglwys, a gobeithiwn y bydd y safon uchel hon yn cael ei chadw ar hyd y gyfres. Y mae y Gerddorfa o dan arweiniad y Br. Ben Dir Lewis yn cael hwyl anghyffredin, a deallvva y bydd yn b.irod i chwareu yn y gwasanaeth Sabbothol cyn pen ychydig iawn. Nid yw Cymdeithas Dewi Sant eto wedi gwneud i fyny ei chyfrifon wedi'r wyl, ond deallwn fod yr elw yn tynu at ddwy fil o ddoleri. Golew ynte ? Pa le y mae y Gymdeithas Ddramayddol ? Onid yw yn bryd iddi ddeffroi o'i chvvsg ? Os cywir y deallais onid hyd ar ol dydd Gwyl Dewi y gohiriwyd yr ymarferiadau. Efallai y rhydd y perfformiad yn y Gaiman nos Iau diweddaf rhyw fywyd newydd yn nghymdeithas Trelew. Deallaf fod y Br. R. E. Roberts, fu yn ngwasanaeth yr C.M.C. ar ei ffordd yn ol o Gymru. Yn sicr fe gaiff dderbylliad croes- awus gan ei luaws cyfeillion. Drwg genyf cldeall fod tri neu bedwar achos o'r Typhoid wedi tori allan yn ein tref eto. Yn ddiddadl y mae'n bryd i'r Cyngor wneud ymchwiliad manwl i achos yr haint, a hyny yn ddiymdroi.-WELERT. —— ——
Cwrdd Ymadawol Br. John S.I…
Cwrdd Ymadawol Br. John S. Williams. Yn gymaint ag i mi orfod ymadael o'r swper ymadawol yn nwesty Br. H. S. Pugh Gaiman, cyn yr adeg y buwyd yn siarad, defn- yddiafy cyfleustrahwn ifynegi fy nheimladau goiiest obertl-iyiias i'r Boneddwr anrhydeddid, a dymunaf ganiatad y Br. Golygydd i'w cyhoeddiyn y DRAFOD yn union fel yr ysgrif- enwyd hwynt ar gyfer eu darllen. Foneddigion:- Ystyriaf hi yn fraint o'r fwyaf o gael bod yn eich plith i ganu'n iach i'n cyfaill a'n cyd- wladfawr Mr. John S. Williams. Colled nas gwyddom ei maint ydyw colli o'n mysg ddynion o safle, o allu ac o egwyddor Mr. Williams. Y mae wedi llenwi safleoedd pwysig yn ein Gwladfa ar hyd y blynyddoedd; yr oedd efe yn fasnachwr llwyddianus ac ai-irl-iydeddusacofnaf fod anrhydedd masnach- ol yn nwydd pnn yn ein mysg y dyddiau hyn. Bu yn Gadeirydd Cynghor Rhanbarth y Gaiman am dymhorau lawer a phrofodd ei hun yn wleidyddwr doeth a darbodus; yr oedd efe hefyd yn batrwm o amaethwr ac uwchlaw yr oil yn foneddwr a'i safon o foes- oldeb yn uchel, ac onid rhwyg anhawdd ei chyfanu ydyw ymadawiad o'n mysg ddynion a'u moesau a'u daioni yn uehel? Un o'n prif anghenion fel Gwladfa y dyddiau hyn ydyw dynion egwyddorol, moesol ac anrhyd- eddus i wrthweithio y cenllif cymysglyd sydd megis am ein traflyncu. Oni bydd genym yn ein mysg nifer o ddynion all ddal y safon i fyny, breuddwyd ac ofer fydd y syniad o Wladfa Gymreig, ac onid arwydd ein bod ar y llithrigfa yw y codir gormod o ddynion i safleoedd pwysig mewn byd ac eglwys sydd yn dra phrin yn y rhinweddau sydd yn nod- weddiadol o'n cyfaill. Nid oes I geiiyf ond ciyii-iuiio iddo bobllwydd- iant a chysur weddill ei oes yn Ngwalia Wen ac y bydd i ddeuparth yspryd y ffyddloniaid gwladfaol ddisgyn ar rywrai o'n ieuenctyd i lanvv v bvlchau nwvsie hvn. I L" JOSEPH JONES.
Cynghor y Geimen.
Cynghor y Geimen. Bechgin ffamws ydi aelode munsipaliti y geimen yma, ma nhw yn gneud strocs an- farwol y dvddie yma. Wf gwi-s ma nhw yn chaps yn gwibod be di be a phwy ddyle dalu treth a phwy ddyle ddim, a nhw syn gwibod ore achos nid bechgin a golwg bir ydi yr un o honyn nhw. Doedd dim math o reswm fod pobl syn byw yn y Geimen yn talu dim ond fifti sens y mis y ilwyddyn ddiwedde am lanhau y vaswra, y mae cyngor leni wedi i godi o i nasional y mis a rhaid i bob torn die a hari i thali hi tase fo mor dlawd a llygoden eglws a dene sin reit. Y ma nhw yn llygad i lie hefid wrth neid i'r ffarmws dali dau nasional yn rhagor am y wageni achos i be ma pethe felli dda ond i ddrillio y ffurdd, a symidiad yn y cyfeiriad iawn ydi gostwng y dreth ar y caregis peder olwin, oblegid os ydi dyn yn gorfod tali yn ddrid am drap didio ddim yn deg iddo fo dali treth arno fo ar ol i gael o. Dina dwtch arferchog ydi codi treth y cigidd o gant ag ugen i ddau cant o nacionals y flwyddin. Ma n hen brid iddu nhw gai i siops a gwerthi cig mewn wagen am forti sens y cilo ar haner cant o nacion- als o dreth yn llei werthi o am thyrti oblegid pwy hawl sidd gan bobl dlawd i fwyta cig ac yn wir dwy i ddim yn dal y dyle neb fwyta cig o siop lan o gwbl y mai on well i dreulio wedi cael ei helcyd yn ol a blaen drwy i llvvch ar gwres. Ond y stroc sidd wedi codi y bechgin yn y ngolwg i nes y mai pobol fel Gladston a Lloid Giorg yn edrich fel babis yn sugno i bodie yn i hymil nhw ydi gostwng y dreth drom afresymol anheg anrhugarog ac anghristionogol oidd yr hen gynor yn godi ar y tai drwg, a dwy i yn credi y bydd i bob capel yn y wlad yma basio penderfyniad o gymeradwyaith iddin nhw am i gostwng hi o fil o nasionals i bum cant o nasionals y flwyddin. Pwy reswm oedd fod y dreth yn i llethi nhw nes oedde nhw yn methi biw yn y lie a nhwthe yn bobol rispectabl ac yn codi ac yn civileisio cymaint ar yn dynion ifainc ni ac yn i gneid nhw mor gri mewn moesai da a phob rhinwedd arall, ac y mai colli nhw o dre yn golled enbid ir doctors achos ma nhw yn gadel swm anrhyd- eddis yn i pocede nhw bob wythnos, heblaw i bod hi yn golled i fasnach yn gyffredinol. Mwya yn y byd feddyliai i am y peth, mwya yn y byd o edmygydd ydw i yn fyndorcrots, Ma mhw n deud fod pobl y biliars yn cwyno o herwydd fod y dreth wedi codi ar y rheini. Rhag ych cwilydd chi I a'r cyngor weditrefnu fod y dreth drom yn cael ei thynu i lawr oddi ar leoedd ryspectabl er mwyn i'r bobl ifanc adael y biliars damniol i'w henaid a'i cyrff a myned i fwynhau cymdeithas uchel yn y lleoedd hyny. Mi glywes i fod lIawer o faswniaid teilwriaid, cryddion a gwedddwon sydd yn hel eu tamaid drwy wnio ychydig, yn protestio yn erbyn treth y Llywodraeth y mae ysgrifenydd newydd y cyngor wedi ei gosod eleni, ac mi glywes fod y Cop yn ceisio gwingo yn erbyn talu chwech gwaith cymaint o dreth eleni yn y Geimen ag oedd yn dalu y llynedd. Be ydi r helynt sydd ar y Cop ene o hyd, pwy ddyle dalli treth drom ond y fo sydd yn andwyomasnaeh deg a gon- est yn y lleyma drwy werthu i goods yn llawer iawn rhy rad a chodi pris y cynyrchion yn dragwyddol, os ydi treth drom yn Iladd pethau angenrheidiol wel treth drymach fyth ar y Cop y flwyddyn nesaf, i'w ladd os oes modd yn y byd. Does gen i ddim ond camoliaeth digymysg i'w rhoddi i'n hanrhydeddus gyngor, oblegid y mae yn hollol annibynol ei farn ac nid yw yn cael ei dwyso gerfydd ei drwyn gan filystyn o fath yn y byd. Pa gyngor o'r blaen aeth i gost a thrafferth i wneud ffordd i fyny y bryn at fy ny i, for shem i chi bobl anniolchgar ac anodd eich pleiio yn taflu lysnafedd at y cyngor, y gwir am dani, gwenwyn trad sydd wrth wraidd y cwbl. NED DAFIS.
LLONGAU.
LLONGAU. Avellaneda o Buenos Aires, wedi cyraedd i Madryn dydd Mercher, gyda teithwyr a llythyrgod. Mitre wedi gadael Buenos Aires dydd lau (ddoe), am Madryn yn uniongyrchol. Mendoza yn Gallegos ar ei ffordc1 or De. iQuintana i adael Buenos Aires ar yr 2ofed cyfisol, i alw yn San Antonio. Huanchaco o Loegr, i'w disgwyl yn Monte video ar y I sfed cyfisol.
SE REMATARA
SE REMATARA el dia 19 de Marzo proximo una fraccion de 25 Hectareas de chacra en lotes, sembrada de alfalfa, en 80 Mensualidades, con ]a infi- ma base de Cinco pesos ($5.00) por mes, la hectarea. La chacra esta situada al lado de la Iglesia y Colegio de Bryn Crwn, 15 minutos de Gaiman. Por mas datos a J. S. DILLON-Rematador. —Gaiman.
Estancieros y Posteros.
Estancieros y Posteros. REMATE FERIA en GAIMAN, el dia 21 de Marzo a las 2 p. m. de 100 Carneros, y 100 Ovejas puras Ramboullet; procedente del renombrado Establecimiento, La Silvia, pro- piedad del Senor Pascual Daleoso, de Punta Ninfas, Chubut, tan reconocido por la buena Calidad de sus productos. JUAN S. DILLON. REMATADOR MATRICULADO Y AGENTE GENERAL. —o Gaiman. o—
fNewyddion gyda'r Pellebr.
f Newyddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY). BUENOS AIRES, Boreu Iau. Y mae newydduron y Brif-ddinas yn galw yn gryf am i'r Gweinidog Amaethyddol ddi- fodi yr anhawsderau diangenrhaid sydd yn cael eu taflu ar ffordd rhoddi gweithredoedd terfynol ar diroedd yn y Tiriogaethau Cenedl- aethol, yr hyn sydd yn achosi Ilawer iawn o gost a thrafferth a diflasdod i'r sefydlycLd Bona-fide. Y mae y Llywodraeth wedi anfon cylch- lythyr i lysgenhadon y gwahanol alluoedd yn datgan na fydd iddi hi ymyryd yn mater Mexico. Hysbysa y meddygon fod iechyd yr Ar- lywydd Dr. Saenz Penayn gwella yn foddhaol; ar yr un pryd ofni'r nad yw allan o berygl. Cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol i'r Aviator George Newbery yn Eglwys La Mer- cedes, lie yr oedd cynulleidfa o fonedd y ddinas. WASHINGTON,—Bu i'r Arlywydd Wilson yn ei anerchiad o flaen y Senedd ofyn am ddi- fuddio y ddeddf sydd yn gorchymyn codi Hog ar longau estronol fydd yn defnyddio Camlas Panama. Bwriada Ysgrifenydd y Llywodraeth, Mr. W. J. Bryan dalu ymweliad a Chile yn ystod mis Mehefin nesaf. MADRID.—Cymerodd etholiad cyffredinol le drwy yr holl o Ysbaen ac aeth yr oil dros- odd yn bur heddychol, oddieithr rhyw fan ymrafaelion mewn rhai manau. LLUNDAIN.- Y mae Mrs. Pankhurst a deu- ddeg eraill o suffragettes wedi en rhoddi yn y dualfa unwaith eto. Darfu i'r Prif Weinidog-Mr. Asquith, hys- bysu Ty'r Cyffredin o'i gynygiad newydd yn nglyn ag Y mreolaeth i'r Iwerddon; yn ol yr hwn, bydd i bob sir nad yw yn foddlon i'r ddeddf, fod yn rhydd o'i darpariadau am chwe' blynedd. Hysbysodd Mr. Bonar Law y Ty y bydd i'r cynygiad newydd hwn wneud y sefyllfa yn fwy difrifol nag y bu o gwbl. 0 hyn allan gwerthir y Times am geiniog Cymerwyd amryw Sutfragdtes yn garchar- orion am ddinystrio darlun Velasquez yn y National Gallery. ST. Louis Mo.Cymerodd yr Athletic Club dan echnos, a Ilosgwyd dros gant o bersonau i farwolaeth a ehlwyfwycl nifer fawr RIIUFAIN.-Hysbysir fod Signor Gilfotti, prif weinidog Itali, wedi cyflwyno ymddi- swyddiad yr holl Cabinet, ac hysbysir fod Signor Senino wedi ei enwi i ffurfio y Wein- yddiaeth newydd. EL PASO TEXAS.— Y mae gwrthryfelwyr Mexico mewn cadymgyrch yn ymyl El Tor- racon wedi en gorchfygu, ac y mae dros fil o'u dynion wedi eu lladd. BOREU GWENER. MEXICO.—Gwefreb o Mexico City ddywed fod milwyr Huerta wedi can y "Tampico," rhyfel-long y gwrthryfelwyr i mewn yn To- polobampo Bay yn y Gulf of California. PARIs.Hysbysa y Le Temps fod Ym- ei awdwr Germany yn anfon Prince Henry of Prussia ar ymweliad a De America i geisio rhoddi anhawsderau ar ffordd ymlediad dy- lanwad y Talaethau Unedig, ac i dawelu y gweriniaethau deheuol yngwyneb eu perygl oddiwrth y Monroe Doctrine. SOFIA.-Dywedir mewn cylchoedd swydd- ogol fod Llywodraeth Bulgaria wedi erchi amryw Aeroplanes yn Ffraincat wasanaeth y fyddin. LLUNDAIN.-Mewn atebiad i Mr. Russell dywedodd Mr. Runciman fod y bwriad i ail ganiatau anfon a derbyn anifeiliaid i ardal Kildare wedi ei roddi o'r neilldu o herwydd fod y clwy traed a genau wedi tori allan o'r newydd yno. WASHINGTON-Y mae Llywodraeth yr Unol. Dalaethau wedi rhwystro i'r Texas Rangers i fyned drosodd i diriogaeth Mexico, ac y mae yr Arlywydd Wilson wedi gorchymyn anfon byddin o wyr traed i wersyllu ar der- fynau y ddwy wlad. —————
I Y PARCHNAD
Y PARCHNAD Dim cyfnewidiad o bwys yn mhrisiau cyn- yrchion yr wythnos hon. Galw da am hadau Alfalfa o'r dosbarth goreu ond y pris yn dal i ostwng yn raddol.