Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Teyrnged i Mr. H. Seymour…

News
Cite
Share

Teyrnged i Mr. H. Seymour Berry, Merthyr. Un o'r gwyr mwyaf a dnaby del us yng nghylch Masnach De Cymru heddyw yw Mr. Seymour Berry. Priodolir hynny i'w anturiaethau pwysig mewn gwahano) gyfeiriadau. Yn wir, gellir tybio^n sicr fod ei allu dihafal ef yn ysgogi pob cwmni llew- yrchus sydd yn y broydd hyn. Medd y ddawn i gynllunio mudiaJau sv'n troi'n elw iddo tan ei ddwylo. Lie bynnag yr a daw llwyddiant yn dùifer- ion bras ar ei Iwybrau. Anodd yw dvfalu cvflymder ei feddwi, craffter ei drem, a maint ei athrvlith fasnachol. Cywir hollol fuasai dyfarnu fod gwneud arian cyn hawdded i Mr. Berry ag ydyw anadlu. Nid cyn- nyrch Coleg yw, ond mab athrylith. Dywedir i'w alluoedd dynnu sylw y diweddar Arglwydd Rhondda ar fyr. O'r braidd, felly, mae'n angenrheidiol dweyd ymhellach am ei alluoedd. Ym more ei oes, bu Mr. Berry yn athro yn ysgol feunyddiol Aber Mor- lais, Merthyr. Ber fu ei daith yn y cyfeiriad hwn, am iddo weld ei gam- gymeriad. Dywedir iddo gefnu ar yr ysgol yn lied ddiseremoni, ond yn ddigon penderfynol. Cafodd fwy o flas ar gynorthwyo ei dad fel arwerth- wr nag wrth gyfarw,\Iddo, plantei ofal yn nirgelion dysgeidiaeth. Tua phedair blynedd yn 61 llamodd Mr. Berry i sylw cyffredinol y wlad fel tywysog ym myd masnach. Byth oddiar hynny ei helynt yw dringo, a dringo'n uwch. Dyn ieuanc yw, a bywyd yn berwi ym mhob osgo o'i eiddo. Awgryma ei wyneb glan fod ganddo. gymeriad cryf. Fflachia cyflymder ei feddwl yn ei lygaid, a gwelir ei benderfyniad yn ei en luniaidd. I r. Berrv. Gwr haelionus yw Mr. Berry. Tystia ei ddwy rodd ardderchog i'w dref enedigol bod ganddo galon dda. Tystiolaeth i hynny fydd y J. M. Berry Technical Institute a geir ar fyr yn addurn i Ferthyr Tydfil. Mae'r milwyr a'r morwyr lleol hefyd yn ei ddyled am ei garedigrwydd yn cyflwyno iddynt adeilad hardd a phwrpasol. Ar ddamwain, aeth gyda'i dad-yng- nghyfraith, Mr. S. Sandbrook, G. H., ám dro i Aber Honddu. Ymwelwyd yno a'r Coleg Coffa, sef Athrofa Ddiwinyddol yr Anibynnwyr. Cyn ymadael ohono, cyflwynodd fil o bun- nau i'r Prif Athro er cof am ei dad. Dyna day; engraifft adnabyddus o'i haelioni. Mae efe wedi rhoi miloedd mwy, mae'n ddigon tebig, yn gyfriji- achol. Daeth Mr. Berry i sylw a bri, ych- ydig amser yn 61 ar gyfrif ei frwdfryd- edd mawr yn llunio cronfa ar gyfer cyflogau gweinidogion o bob en wad, yng nghylch Merthyr Tydfil. Bu'r mudiad hwn yn foddion i dd.ihuno ael- odau eglwysig i'w cyfrifoldeb at y weinidogaeth. Arfaethai efe fynnti cyflog o £ 200 y flwyddyn i bob cen- nad hedd. Bendith arno am ei ym- drech o blaid achos mor deilwng. Geill llawer gweinidog yn y cylch hwn dalu ei deyrnged i Mr. Seymour Berry am dynnu sylw at fychander ei gyflog. Gwnaeth efe hynny mewn I modd anrhydeddus, heb ddangos briwiau ac agor clwyfau. Yn ei ysgrif odidog ar "Gyfoeth a Chenedlaetholdeb," cwyna'r diweddar Rhys J. Huws oherwydd prinder nifer I y cefnogwyr sydd yng Nghymru i'n j hiaith a'n llenyddiaeth. Dywed,— "Bu dawn y Cymro 1 ganu'n derbyl-i nodded y castell a'r neuadd gynt, ond ni chaniateir i athrylith Gymreig fynd yn nes nar porth heddyw, ac nid i ganu yr a yno, ond i gwyno a char- do,ta. Diwedda Mr. Huws ei erthygl trwy gyhoeddi mai—"yn nesaf at fendith Duw, angen mwyaf Cymru yn awr yw, aur ei chyfoethogion." Tybed, a oes modd i'n hiaith a'n llenyddiaeth dderbyn nawdd hael Mr. Seymour Berry? Pwy wyr faint y faintais o awgrymu iddo ddull syl- weddol i'r perwyl? Dengys ei gar- edigrwydd fod ganddo olwg eang ar j fywyd, a chydymdeimlad helaeth a gofynion cymdeithas. Brwydra Cymreigyddion Merthyr Tydfil trwy lawer o rwystrau i gadw'r "hen iaith" mewn brio Yn sicr" buasai rhagor o aur yn fendith i led- aenu eu gwasanaeth. Oni ellir dar-, bwyllo Mr. Berry i estyn ychydig o'i gymorth? Hwyrach ein bod fel cenedl yn rhy ddifalch o werth ein trysorau llenyddol i'w parchu a'u cadw. Hwyrach hefyd, na feddwTn dej^gon o ysbryd cenhadol i'n galluogi i geisio nodded gwyr fel Mr. Berry er mwyn rhannu ein gemau. Geilw ein llenyddiaeth I arnom yn y cyfnod hwn i wneud a allom trosti rhag iddi lithro i ebargof- iant. Bydd gwasanaeth i'r iaith yn goron i'r sawl a'i myn. "Yr aur ami a roir yma, I 0 goffr Duw a geiff aur da. J. SEYMOUR REES.

-I Beirniadaeth. j

I o Gwm Tawe. j

Llythyr at y Gol.I

Newyddion.