Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Y Naill Beth a'r Llall.I
Y Naill Beth a'r Llall. I Mawi rrplar Undeb y Oymdeith- j asaevi Cymraeg ar tarwolaeth y Cymro J brwdfrydig Thomas Matthews, M.A., Eryl, Llandebie. Pwy na yram ei lafur dros Gymru 1 Pwy na wyr am ei ysgrifau meithion yn y "Cymru" o dro i dro ? Gyr pawb a fu'n cydeistedd ag efe ar bwyllgor, mor barod ydoedd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Nid oedd dim yn ormod ganddo i wneud er codi'r hen wlad yn ei hoi. Hyd y gwyddom ni, ni wnaeth yr un Ysgol Ganolradd waith hafal i Ysgol Pengam yn cyhoeddi lien gwerin a gasglwyd gan y disgyblion eu hunain. Dwg Dail y Gwanwyn" ryw awel fwyn i chwythu drps lennyrch gleision ysgolion ein gwlad. Synnwn i ronyn nad aeth fy nghyfaill mwyn i an- amserol fedd drwy orlafur dros Walia, ei wlad. Y mae'm calon yh friw. Tor- rwyd telyn arall yn gynnar yng Nghym- ru. Claddwyd gweithiwr diwyd dros ddelfrydau Cymru. Pwy neidia i'r adwy 0 na ddeffroai llu o aelodau ein Cymdeithasau i ymaflyd yn y gwaith a adawyd ar ei hanner gan Tom Matthews. Cwsg bellach, gyfaill- Mwyn, yn y dyffryn obry hyd ganiad yr udgorn. Blaenu a wnaethost. Trtst iawn ydym ar dy ol. Gwelwn, yn wir > dy enw'n fyw o hyd ar faner Gwlad y Bryniau.—Arthen. Ysgrif ddiddorol iawn yn y "Cymru"' yw eiddo Cadrawd ar Nathan Dyfed. Awen gynhyrchiol iawn, allwn feddwl, oedd awen Nathan. Hysbysir ni y cynhwysai casgliad o'i waith barddon- 01 10 o awdlau, 11 o gywyddau, 368 o ganiadau, 3698 o englynion a thodd- eidiau, ae 8 o duchangerddi meithion. Ceir yma hefyd ddarlun da o'r bardd. I YR ORSEDD. Englynion Volander. Y miloedd yn ceisio moli—welir Yn ein gwyl eleni; Yn Ilys can mae llais cyni Ar ol rhai breiniol eu bri. Enaid ochenaid i'w chanu—yn swn Ei phlant sydd yn trengu; Gwyl oeraidd yw galaru Yn swn y gerdd a'i sain gu. Eto'r delyn trwy y dalaeth-seinia Ei swynol beroriaeth; Daw a'i hwyliau di-alaeth, •A? 'i swn i filiwn yn faeth. O'r golwg y nos hir gilia-cyn hir Daw can arall yma, A gwelir gwyliau Gwalia ( 0 dan rwysg sidanau'r ha'.
CWRS Y RHYFEL.I
CWRS Y RHYFEL. I ADOLYGIAD YR WYTiiw.. ERGYDION TRYMION ETO. Y BRWYDRO MAWR YN FFRAL,, SAFLE RWMANIA ETO. PECHOD ANFADDEUOL Y TWRC AMHARCHU TY DDUW MAHOMET Y GARREG WENN A RODDODD GABRIEL I ABRAHAM. PYRTH HAEARN Y DANIWB. Cyfiawnhawyd yn natblgyiadau mil- wrol yr wythnos a aeth heibio bopeth ar a ddywedwyd yn yr ysgrifau hyn am effaith cyfyngiad Rwmania ar gwrs y rhyfel. GWRONWAITH BYDDIN RWMANIA. Mae Byddin Rwmania wedi cyflawnu mwy yn yr amser byrr y mae wedi bod ar y maes nag a wnaeth odid unrhyw Fyddin arall mewn cyn lleied o amser—oddigerth o bosibl Byddin Germani ar ddechreu y rhyfel pan orlifodd wlad Belgium. 0 fewn wythnos ar ol taro yr ergyd cyntaf yn y rhyfel enillodd Rwmania 7,000 milltir ysgwar o dir oddiar yr Awstriaid. Mewn geiriau eraill cymerodd Byddin Rwmania o fewn saith niwrnod diriogaeth agos cym- aint o'r oil o Gymru o Gaergybi i Gaerdydd » Ac mae llawer o'r tir a enillwyd: felly yn fynydd-dir anhawdd i'w deithio gan Fyddin, a lie y gallasai nifer cymharol fy ;<haii o filwyr pen- derfynol ddal gelyn cryf yn ol dros lawer o ddyddiau. Wrth ennill y tir hwn enillwyd pob bwlch yn y mynydd- oedd a meddiannwyd holl reilffyrdd y rhanbarth. Felly, er bod Byddin Rwmania wedi treiddio, ymhell i dir y gelyn, nid oes ball na rhwystr ar ddwyn cyfarpar, bwyd, ac adgyf- nerthion i'r flaenfyddin fel bo'r angen. ENNILL ORSOVA. Ac nid tir diwerth mewn ystyr filwrol yw y tir a enillwyd. Cymer- wyd nifer o drefi pwysig, ac yn eu plith Orsova, y ddinas gadarnaf ei hamddiffynfeydd yn "yr holl wlad oddi- amgylch. Mae Orsova I Transylvania ryw- beth yn debyg i'r hyn yw Verdun i'r rhanbarth o Ffrainc y ceisiodd ac y methodd y Germaniaid ei hennill. Adeiladodd Ffrainc amddiffynfeydd cedyrn o amgylch Verdun; adeiladodd Awstria amddiffynfeydd cyffelyb o am- gylch Orsova cyn dechreu y rhyfel, a chadarnhaodd hwynt yn ddirfawr o fewn y deunaw mis diweddaf. Edychid ar Orsova fel lie nas gellid ei ennill gan unrhyw elyn, gan mor fawr a chadarn ei hamddiffynfeydd. Ond cymerwyd y lie gan y Rwman- iaid mewn cynifer o dd'iwrnodau ag y bu Germani o fisoedd yn ymosod yn ofer ar Verdun A thra thebyg yw mai y gynnau mawrion a wnaed yn Germani, ac a werthwyd gan Ger- mani i Rwmania wedi dechreu y rhyfel, a alluogodd Fyddin Rwmania i chwalu amddiffynfeydd cedyrn Orsova i bedwar gwynt y nefoedd PYRTH HAEARN Y DANIWB. Mae i Orsova bwysigrwydd ar- bennig arall mewn ystyr filwrol. Saif gerllaw yr Afon Daniwb, ac yno y ceir un o'r ddwy bont fawr sydd yn cario rheilffyrdd Awstria dros y Daniwb. Gerllaw Belgrade, prif- ddinas Serbia, y ceir y bont arall. Felly, wrth ennill Orsova, a meddiannu'r bont yno, torrwyd i lawr i'r hanner gyfleusterau y gelyn i gludo milwyr a holl reidiau rhyfel rhwng Awstria a Bwlgaria. Yno hefyd y ceir "Pyrth Haearn | enwog y Daniwb. Afon fawr for- dwyol yw y Daniwb, fel y Tafwys ger Llundain, yr Hafren ger Bryste, neu'r Ferswy ger Lerpwl. Ger Orsova rhed yr afon fawr drwy le cul, creigiog, peryglus iawn i'w dramwy tongau. "Y Pyrth Haearn y gelwir y creigle hwn. Am gannoedd o fillfiro-edd o bob tu i'r Pyrth Haearn hyn mae'r Afon Daniwb yn fordwyol i longau mawrion. Oddiyno ymlaen am 200 milltir ar ei ffordd i'r mor yr Afon Daniwb yw y ffin rhwng Rwmania a Bwlgaria, ac yna am 1 50 milltir arall cyn cyrraedd y mor rhed drwy ganol tiriogaeth Rwmania. Tra yr oedd y pyrth haearn hyn yn agored, gallasai llongau rhyfel Awstria ymosod ar d'refi a gwlad Rwmania o'r afon. Wedi cau y "Pyrth" mae tir Rwmania yn ddiogel rhag llongau rhyfel y gelyn, tra y geill llongau rhyfel Rwmani a (neu Rwsia) fordwyo'r afon uwchlaw y Pyrth Haearn, gan ymosod ar drefi a thirlogaeth Awstria. MANTAIS SAFLE RWMANIA. Ceisiais roi yr wythnos ddiweddaf rywfath o syniad am safle Rwmania yn ei pherthynas a Rwsia ar y naill law, a Bwlgaria ar y. llall. Edrycher 3to ar y darlun a ganlyn Awstria ) Rwsia Y Serbia Rwmania M o Bwlgaria r i Groeg ) Twrci D u Sylwer ar y pethau a ganlyn — 1. Mae Awstria yn ffinio a Rwsia, Serbia, a Rwmania. Hynny yw geill Awstria ddanfon milwyr i unrhyw un o'r tair gwlad heb ymyrryd_a'r ddwy arall. 2. Mewn cyffelyb fod ffinia Rwman- ia ag Awstria, Rwsia, Serbia, a Bwlgaria. 3. Ffinia Bwlgaria drachefn a Serbia, Rwmania, Groeg, a Thwrci. Gwelir pwysigrwydd y gwahanol ffiniau hyn pan gofir pwy yw y pleid- iau o bob tu. (a) Mae Awstria, Bwlgaria, a Thwrci yn ffurfio un blaid yn y rhyfel. (b) Mae Rwsia a Rwmania yn ffurfio y blaid wrthwynebol. (c) Mae Groeg, hyd yn hyn, yn amhleidgar, ond (d) Ar diriogaeth Groeg, yn y rhan- barth sy'n ffinio a Serbia, Bwlgaria, a Thwrci, y mae cyd-fyddin fawr Salonica. (e) Er fod Serbia yn ymladd o'n hochr ni mae'r gelyn wedi meddiannu ei holl diriogeth hi. Felly hefyd- 1. Geill Awstria (a Germani) gyrraedd Bwlgaria a Thwrci drwy Serbia. II. Ni eill Rwsia gyrraedd Serbia na Bwlgaria dros y tir, ond trwy dir Rwmania. III. Pan yr adenillir Serbia neu y meddiennir Bwlgaria gennym ni, torrir pob cysylltiad rhwng dau pen llinell y gelyn. Hynny yw gwahenir Germani ac Awstria yn gyfangwbl oddiwrth Twrci a'i byddinoedd yn y Dwyrafti. IV. Felly, wedi cael Rwmania o'n tu, geill Rwsia ymosod ar Bwlgaria o'r gogledd, a Byddin Salonica ym- osod arni o'r dehau. Neu, mewn geiriau eraill, Bwlgaria bellach yw maen do cadernid milwrol Germani yn y vDwyrain. Tynner ymaith y maen clo, a syrth yn ganddryll y bwa sydd yn cynnal Germani mewn ystyr filwrol yn y Dwyrain. Gelhr disgwyl felly y bydd i Ger- mani wneud pob ymdrech i gadw, a ninnau bob ymdrech i dorri, y cysyllti- ad presennol rhwng Germani a Bwl-, garia. Heb help Byddin Germani amhosibl fydd i Bwlgaria. ddaI yn hir yn erbyn Rwsia a Rwmania o'r gogledd, a Byddin Salonica o'r, dehau. Heb yr help a ga Germani o Bwlgaria a Thwrci syrth i'r llawr holl obaith y Caisar yn y Dwyrain. A sefydlu ei ymerodraeth yn y Dwyrain, drwy'r Balkans, drwy Asia Leiaf, a thrwy Mesopotamia i lannau Mor Persia draw, oedd un o brif am- canion y Caisar yn cyhoeddi rhyfel, ac yn tywallt moroedd a wad. N atur- iol felly yw disgwyl am bethau mawr i ddigwydd yn fuan ynglyn a Bwlgaria. PERIGL DENMARC A HOLAND. Rai misoedd yn ol gelwais sylw yn yr erthyglau hyn at berygl Denmarc a Holand. Dyhead mawr Germani yw llvwodraethu glannau Mor y Goeledd. Saif Denmarc, Holand, a Belgium I fel rhagfur effeithiol rhyngddi a chyrraedd ei huchelgais. Mae yn bwysicach heddyw nag erioed i Germani feddiannu glan y mor. Pan dorrir ei chysylltiad a'r dwy- rain, fel y nodwyd uchod, bydd wedi cael ei chau oddiamgylch yn gyfan- gwbl gan gylch o elynion. Derbyniai lawer o Rwmania, yn, enwedig def- nyddiau bwyd, a "petroi" at wasan- aeth pob rhyw fath o beiriannau milwrol. Derbynia heddyw lawer o Twrci, ar draul newynnu cannoedd o filoedd o breswylwyr Asia Leiaf. Pan sychir y ffynhonnell ho-n eto bydd yn gyfyng ofnadwy arm. Heb feddiannu glan y monnid oes obaith iddi allu taro ergyd cryf ar Brydain. Pe meddiannau lannau Holand a Denmarc ychwanegai yn ddirfawr at effeithiolrwydd y sudd- longau a'r Zepelins fel arfau yn erbyn y wlad hon. Mae llwyddiant ein hymosodiad ni ar lannau'r Somme yn Ffrainc yn ei I gwneud yn debyg y ceisia'r gelyn daro ergyd mawr ac annisgwyliadwy yn rhywle arall. Mae'r Caisar wedi dweyd ers talm y bydd iddo y mis nesaf (Hydref) daro ergyd yn erbyn Prydain fydd yn sicr o ddwyn y rhyfel i derfyniad cyn y gaeaf. Byddai ennill tir Holand a Denmarc yn rhoi iddo well cyfle nag a gafodd erioed hyd yma i wneuthur hynny. Ni bydd y ffaith nad yw na Denmarc na Holand wedi gwneud dim yn erbyn Germani yn un rhwystr i Germani ymosod arnynt os tybiai y buasai hynny o ryw 'fantais iddi yn y rhyfel. Heb fyned mor bell a dweyd mai hyn a wna y Caisar, ni buaswn yn synnu dim i'w weled yn gwneud rhuthr ar y naill a'r llall o'r ddwy wlad. ERGYD MAWR NEWYDD YN FFRAINC. Yr wythnos ddiweddaf dechreuodd Prydain a Ffrainc daro ergyd grymus newydd ar y gelyn yn Ffrainc. Dech- reu yr ail bennod ym Mrwydr Fawr y Somme yw yr ergyd hwn. Eglurwyd dro yn ol mai ymladd tuag i fyny y bu ein milwyr ni o ddechreu'r frwydr yn Gorffennaf. Bellach maent wedi cyrraedd crib y mynydd-dir ar hyd yr holl ffrynt, ac yn dechreu ymosod ar y gelyn yn y dyffryndir a'r gwastadedd yr ochr draw. Yno bu brwydro ofnadwy yn ddi- weddar. Glynai y gelyn yn gyndyn wrth bob safle oedd ganddo yno, gan wybod o hono fod pob troedfedd o dir a enillid gennym yno yn peryglu ei afael ef ar Bapaume, Combles a Peronne. Pan gyll efe y lleoedd hyn, rhaid fydd iddo gilio ymhell yn 01. Tybia rhai ei fod eisoes yn parotoi i gilio. Eitlir nid gorchwyl hawdd fydd iddo symud ei Fyddin fawr a'i gyflegrau trymion yn ol i ddiogelwch. Mae yr hyn a fu yn gymaint mantais iddo hyd yn hyn yn.troi yn anfantais iddo yn awr. Er mwyn gwneud y goreu fedrai yn. y brwydro, dygodd i'r llinell brwydro yma gannoedd o'r cyflegrau trymaf a feddai. Rhaid oedd parotoi gwelyau cryfion o concrete i ddal pwysau y rhai 1 hyn. Cymerodd amser maith i'w cael i'w safleoedd presennol, a gorchwyl anawdd ac araf iawn fydd eu symud oddi yno.. Gellir disgwyl clywed am ymladd ffyrnicach nag erioed yn fuan ar y llin- ell hon yn Ffrainc—ac, o bosibl, ar rannau eraill o'r llinell. AMHAKCHU TY DDUW MAHOMET. Cyflawnodd Byddin Twrci yn Arabia, o dan arweiniad a thrwy orchymyn ei j swyddogion Germanaidd, y pechod an- fadpuol o ymosod ar Dy Dduw Mahomet. Danghosodd Cadfridogion y Caisar ] eu parch at leoedd sanctaidd Cristnog- aeth yn Ffrainc a Belgium drwy ddin- ystrio Eglwysi Cadeiriol enwocaf f byd. Tybient y medrent wneuthur yr un peth yn nhir Mahomet ag a, wnaeth- r ant yngwlad y Cristion. Mae gan y Mahometaniaid fwy o barch nag y sydd gan Gristionogion i < Dy Dduw. I'r Mahometan mae ei gapel, neu ei eglwys (Mosque) bob am- ] ser yn llythyrennol yn ddaear sant- r aidd." Diosga ei esgidiau oddiam ei J draed en croesi o hono y trothwy i Dy ] Dduw. ] Ac o bob dinas santaidd, dinas Mecca yn Arabia yw y santeiddiaf; ac o bob lie santeaidd yn Mecca Eglwys y Kaaba yw y mwyaf parchedig; ac yn y Mosque y peth mwyaf cysegredig yw Y GARREG WENN A RODDODD YR ARCHANGEL Uabriel i Abraham gynt. Yr hyn yw Croes Crist i'r Cristion, hynny yw Car- reg Wenn Gabriel i'r Mahometan. Tua Mecca a'r Garreg Wenn y try pob Mahometan ei wyneb pan yn gweddio-fel y troai Daniel gynt tua Jerusalem pan mewn caethiwed yn Babylon. Gweddia'r Mahometan bum waith yn y dydd, a, phob amser a'i wyneb tua Mecca a'r Garreg Wenn. 1 Yn y Kaaba, yn y Mosque yn Mecca, y mae y Garreg Wen. Beit Alah," neu Ty Dduw (Beth-El) y gelwir y lie santaidd hwnnw. Yn ol traddodiad y Dwyrain Adda adeiladodd y Ty hwn i Dduw; dinystrwyd ef gan ddyfroedd y Diluw; ail-adeiladwyd ef gan Abra- ham ac Ismael ei fab, ac erys hyd y dydd hedayw. Plant Ismael yw yr Arabiaid, ac iddynt hwy mae Abraham mor annwyl ag yw i'r Iddew mwyaf defosiynol. Pan oedd Abraham ac Ismael yn ail- adeiladu Belt Alah," y Kaaba, Ty Dduw, dygodd yr Archangel Gabriel Garreg Wenn o'r nef ac a'i rhoddodd i Abraham i'w gosod yn y mur. Teithia Mahometaniaid defosiynol wrth y miloedd bob blwyddyn yn berer- indodau mawrion i Mecca, ac yno cus- anant Y Garreg Wenn santaidd. Gymaint yw rhinwedd y Garreg Wen fel y maddeuir pob trosodd a phechod i'r neb a'i chusano. Gan amled y cusanwyr ar hyd yr oes- oedd, mae'r Garreg Wen wedi troi yn Garreg Ddu er's canrifoedd. Eithr erys yn santaidd, a'i rhinwedd yr un o hyd. Er mwyn cospi -pennaeTa Arab-aidd oedd wedi gwrthryfela yn erbyn y Swl- tan (yr hwn yw Pen yr Eglwys Fahom- etanaidd) taniodd Byddin Twrci, o dan orchymyn y swyddogion Germanaidd, ar y Mosque. Gosododd y shels y Kaaba, y Beit Alah, Ty Dduw, ar dan. Tarawodd un o'r shels y mur yn agos iawn i Garreg Wenn Gabriel; ychydig fodfeddi yn is a buasai'r shel wedi nmlurio y Garreg Santaidd yn llwch! A pha le bynnag yn yr holl Fyd Mahometanaidd yr adroddir yr hanes, cyffroir digofaint dyfnaf pob credadyn Mahometanaidd yn erbyn y sawl a halogasant felly Dy Dduw, ac a berygl- asant y Garreg Wenn. Ca y weithred hon ddylanwad ymron anamgyffredadwy ar holl Gwra y Rhyf el yn y dwyrain.
Craigcefnparc.
Craigcefnparc. Eisteddfod Elim.—Cynhaliwyd hon nos Sadwrn, Medi'r 9fed. Cafwyd eis- teddfod hynod lwyddiannus a difyr. Wele'r buddugwyr :-Her unawd, Mr. Lewis Thomas, Ystradgynlais. Cor Cymysg, Seven Sisters. Englyn, Ap Valant. Unawd ar y piano (dan 14eg oed)1: 1, Ivy Harding, Gowerton; 2, Caroline James, Ynysmeudwy. Adrodd- iad agored, rhannu rhwng Miss Elsie Bibbs, Pontardawe, a Miss Maggie Lewis, Treforus; rhoddwyd hefyd rodd i eneth fach o Bontardawe, sef Cissy Williams, am adrodd yn swynol y Llwynog a'r Fran." Traethawd, rhannu rhwng Mri. Walter Bowen, y Graig, a Tom Edwards, Pontarddulais. Adroddiad (dan 16 oed), 1, Ethel Thomas, Trebannos 2, Maggie Jones, Godre'rgraig; ac ychwanegwyd gwobr L Maggie Jones, Ynysmeudwy. IJnawd (dan 14 oed) 1, Selina Qook, Treforus 2, Gladys Ashford, Manselton. Adrodd (dan 12 oed) 1, Gladys Jones, Ynys- meudwy 2, Victor Morris, Llansamlet. Unawd i ferched (dan 16eg) 1, Selina Cook, Treforus; 2, Eluned Rees, Clyd- ach. Unawd i fechgyn (dan 16eg) 1, Owen Lloyd, Treforus; 2, Dd. J. Bowen, Irebannos. Unawd i ddechreuwyr, Sam Davies, Ynystawe. Emyn-don, Willie Rees, Ynystawe. Cystadleuaeth sfferynnol (agored), Johnny Allen, Brynaman. Unawd soprano, Miss Esther Anne Joshua, Godre'rgraig. renor, Mr Lewis Thomas, Ystradgyn- ais. Unawd contralto, Miss Naomi Etees, Clydach. Baritone, Ben Jones, Felindre.
Advertising
I "Y DARIAN pEL CYFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFOD AU. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar oddiwrth Ysgrifen* Mdion Eisteddfodau a roddasent I[Yaby,qiad yn y Darian eleni, am y wo cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu 46 Y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- t"d ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu goistedclfodau. I
PETH O'R CYNNWYS. I
PETH O'R CYNNWYS. Marw Tom Matthews 1 OWrs Y Rhyfel 1 Beirniadaeth Pontardawe 2 Er Cof Annwyl, gan Wil If an 2 Llith Shon Chwaraeteg 2 Y Ddadl ar Hoyw, etc. 2 Nodiad ar Lyfr 2 Araith Gwili yn Aberystwyth 3 Shop Dafydd y Orydd 3 Cyngrair y Glowyr 4 Hawliau a Breintiau Llafur 5 At fy Nghydwladwyr 5 Eisteddfod Craigcefnparc 5 0 Fedlinog i'r Amerig 6 Coroni Diwydrwydd Cymro 6 Gwerth Darbodaeth. 6 Map o Wledydd y Beibl 7 Prynhawn Sabath yn Aberystwyth 8 'Crwydr y Mabinogion 8 O Lannau Aman 8 Barddoniaeth 8
.Y MAP. I
Y MAP. I Wele'r Map o'r diwedd ar dudalen, ond siomedig iawn ei wedd ydyw ar bapur y Darian." Beth bynnag, rhydd ryw syniad am yr hyn oedd yn y gwreiddiol gan Beriah, a rhag siomi y rhai a ddisgwylient am F-ap da o wled- ydd y Beibl y mae rhyfel ynddynt, bwr- iadwn ei argraffu ar wahan ac yn ddwbl y maint y mae yn y "Darian," ac ar bapur da. Ni fydd raid i neb ofni na fydd yn hwnnw bopeth yn eglur a dealladwy, a bydd yn drysor i'w fframio a'i roi ar y mur. Ei bris fydd chwe cheiniog.