Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
PETH O'R CYNNWYS.
PETH O'R CYNNWYS. Tud. Y Rhyfel 1 Y Naill Beth a'r Llall 1 Beirniadaethau Pontardawe. 2 Gwlad y Datguddiad 2 Trethu Adnoddau'r Wladwriaeth 2 Llythyr- at Jac Pen-yr-heol 3 Catiau Catwg 3 Llith y Tramp 3 Cyflog y Glowyr 4 Undebau'r Alcanwyr 4 Y Gadair Ddiwinyddol 4 Forward Movement-I ble L. 4 COlofn y Plant 5 Bwrdd y Gol. Rhymni a Glyn Nedd 5 Yr Eisteddfod Genedlaethol. 6 Papur Mr. Dan Jenkins, Llancrwys 6 Nodion o Aberafon 6 Y Wylan yn Aberystwyth 7 0 Ben Cloc Mawr Tredegar 7 Undeb y Bedyddwyr ym Mhonty- cymer 7 Y Mabinogion 8 Colofn y Beirdd 8 Glennydd yr Ogwr 8 Glannau Aman 8 Eisteddfod Penygroes 8
Map o Wledydd y Beibl y mae…
Map o Wledydd y Beibl y mae Rhyfel ynddynt. GAN BERIAH GWYNFE EVANS. Mae'r Map diddorol hwn bellach yn barod a lleinw dudalen o'r "Darian" nesaf. Gofaled derbynwyr cyson y Darian" irvrw*? pry;d gjn eu copi, a, rhodded rhai nad ydynt dderbynwyr cyson, ond a garent gael rhifyn y map, archeb am dani i'r newyddiadurwyr. Ni argreffir o'r Darian" ond y nifer y gofynnir am dano erbyn bore Llun nesaf.
Y Nalll Beth a'r LlalL I
Y Nalll Beth a'r LlalL I Yr oedd yn llawen gennym am y derbyniad gwresog a gafodd y Parch. D. Davies, Penarth, gynt o Brighton, pan aeth i lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol i dderbyn gwobrau am- draethodau pwysig. Efe yw awdur Echoes from the Welsh Hills a More Echoes from the Welsh Hills." Nid drwg fyddai cael rhagor eto, a'r iI'hai hynny'n Gymraeg. Ceir yn y "Cerddor" am fis Medi barhad o ysgrifau y Proff. David Evans, Mus. Doc. (Oxon) ar Gerdd- onaeth yng ngwasanaeth Ymneilltuol CYI11ru. Yn y rhifyn hwn awgryma Synllun o wasanaeth a gymerai i fewn fwy o gerddoriaeth, a gofyn farn gweinidogion ac arweinwyr arno. BYdd yn ddiddorol iawn clywed beth fydo gan y rhai hyn i'w ddweyd, a dlChon y ceir gair ym mhellach am y cynllun yn y "Darian." » ysgrif David Amheuthun yw darllen ysgrif David Davies/ Tabernad, Caerdydd, ar yr Ysgol Sul a'r Gymraeg" yn Seren OYmru." Rhydd ddarluniad o. Ysgol ?l y bu ynddi, a fynychir gan blant na chlywant air o Gymraeg ar yr aelwyd, a r rhai hynny nid yn unig, yn medru arllen, ond hefyd ddeall yr hyn oedd Ida,il sylw yn y wers. A'r hyn a gyfrifai am hyn oedd fod yr athrawon a'r athrawesau yn arfer gyflwyno'r addysg yn Gymraeg ac yn cymeryd trafferth i uro u gwersi. Cymwynaswyr goreu ymru heddyw yw athrawon felly. ?y?o," medd y Goleuad, sydd ?n ? yd ar iaith y fyddin, ac y mae lie i '?flll fod sail i'r gwyn. Y mae swyddog- ? ? yn arbennig, is-swyddogion, yn ddwfn vn y camwedd, ac anodd yw i ,ddynion 0 fagwraeth ac arferion rijCUs oddef y driniaeth. Ymddengys hef-, nad oes neb yn medru tagu'r dBrw °'. ? mae'r Parch. J. Williams, rynsIencyn, a'i bregeth fawr, Dar- fvtfd 6 y Pechaduriaid o'r tir, ac na fydded yr annuwiolion mwy." Paham na ? hon i swyddogion y fydd P "? fyddin 1 Ond tybed, wedi i Gristion fedru er,(Iu' yng nghyfreithlondeb milwriaoft unwaith, fod eisiau iddo gWvnn Q m f yn tyngu ac yn rhegu IPyn.
ICWRS Y RHYFEL.
I CWRS Y RHYFEL. I ADOLYGIAD YR WYTHNOS. GAN BERIAH. WYTHNOS BWYSICAF Y RHYFEL. DIRGELWCH Y BALKANS A DRWS YR OCHR ETO. RWMANIA WEDI YMUNO A Ni. EGLURO SAFLE RWMANI A, A'R GANLYNIADAU. ,I YR EFFAITH AR BRIS Y BARA. CYFLWR GRESYNUS GROEQ A BWLGARI A. I Y DIAFOL YN COSPI El WAS. Ar rai ystyron gellir edrych ar yr wythnos ddiweddaf fel wythnos bwysicaf y rhyfel ymron o'r cychwyn. Sicr yw mai yr wythnos dduaf a wel- odd Germani o'r dydd y treisiodd hi Belgium gyntaf ydyw. Fel y rhag awgrymwyd yn yr erthygl yn y "Darian yr wythnos ddiweddaf, daeth awr Rwmania i daro. Wedi i mi ysgrifennu yr erthygl, a chyn iddi ymddangos yn y "Darian, yr oedd Rwmania wedi taro. Cyhoeddodd ryfel yn erbyn Awstria, a chyhoedd- odd Germani ryfel yn ei herbyn hithau. Mae amryw bethau yn gwneud cyfryngiad Rwmania yn y rhyfel, ar hyn o bryd yn enwedig, yn arwydd- ocaol a phwysig dros ben. Nodaf rai o'r amlycaf o honynt: I  T RWMANIA. NERTH MILWROL RWMANIA.j Gellir cyfrif cyfanrif milwyr Rwmania yn filiwn (i, ooo, ooo). O'r miliwn hyn mae o leiaf bum can mil (500,000) yn gallu cymeryd y maes yr wythnos hon, a bydd y 500,000 arall yn barod erbyn y daw galw. Mae pob Rwmaniad yn cael ei dysgu i fod yn rhyfelwr o'i febyd. Ysgol Sul pob llanc o Rwmaniad yw y maes drilio; Capten yn y Fyddin yw arolygwr yr Ysgol Sul, a'r Dril Sarjent yw-ei athraw. Bob Sabath, ar derfyn y gwasanaeth boreol yn yr eglwys, ymgasgl pob bachgen o 14 mlwydd oed yn y cae yn ymyl yr eglwys, ac yno cant eu drilio mewn milwriaeth gan Dril Sarjent yr ardal. Ymhen yr awr cymerir eu lie gan yr oedogion, yn wyr priod ac yn fechgyn sengl i fyny hyd 46 mlwydd oed-nid er mwyn dysgu drilio, ond er mwyn cofio yr hyn a ddysgasant gynt, ac er mwyn cadw eu hunain yn filwyr addas i'r maes. Felly, i bob diben ymarferol mae pob bachgen a gwr yn Rwmania, o 14 i 46 mlwydd oed, yn filwr dis- gybledig. PARADWYS Y MERCHED. Gellir galw Rwmania yn "baradwys y merched," canys mae y gwrrywod yno yn lluosocach lawer na'r merched. Pe y priodai pob merch yn Rwmania buasai yno ddegau o filoedd o "hen lanciau diobaith am briod am na fyddai yr un i'w chael. Peth anghyffredin iawn yno yw "hen ferch," ac ni cha'r gwragedd gweddwon fod yn hir yn weddw o ddi'ffyg cariadon Rhyw 7,000,000 neu 7,500,000 yw cyfanrif poblogaeth Rwmania oil. Felly ceir un o bob saith o'r boblogaeth yn awr o dau arfau, ac os byddai rhaid gellid ychwanegu o leiaf chwarter miliwn arall atynt, gan wneud cyfanrif ei ogwyr arfog yn I,2So,000-neu o bob chwech o'r, boblogaeth. Yng Nghymru rhyw un o bob deg o'r boblogaeth sydd yn y Fyddin. Dan unrhyw amgylchiad buasai ychwanegu 500,000 (ac wrth raid 1,000,000) o filwyr disgybledig at Fyddin Prydain a'i Chynghreiriaid; ynddo ei hun yn beth pwysig iawn. PWYSIGRWYDD YR ADEG A'R LLE. Ond ychwanegir yn ddirfawr at bwysigrwydd nerth milwrol Rwmania gan bwysigrwydd yr adeg yr ymunodd yn y brwydro. Darllener eto' yn a fyfyrgar yr hyn a ysgrifennais yn "Y Darian yr wythnos ddiweddaf am safle filwrol Rwmania, a gwobr ei phetruster, a d'eallir yn well bwysigrwydd y lie. Hyspys ydoedd i'r byd-ac i Ger- mani gymaint ag i neb-mai "nofio gyda'r llif a wnai Rwmania. Gwyddai pawb mai aros ydoedd Rwmania er cael gweled pa un o'r ddwy blaid fuasai yn sicr o ennill. Mae y ffaith fod Rwmania, ar ol petruso cyhyd, wedi dod allan yn awr o'n plaid ni yn profi o leiaf dri pheth pwysig, sef— (1) Fod rhod y rhyfel wedi troi. (2) Fod Rwmania -(a'r byd) yn credu yn bendant ac yn ddios mai colli wna Germani, ac mai ennill wnawn ninnau. (3) Fod rhagolygon y rhyfel yn y dwyrain yn gyfryw ag i argyhoeddi Rwmania nad oes lawer o berygl i'w gwlad hi ddioddef tynged Belgium a Serbia drwy gymeryd rhan yn y rhyfel yn awr. Ychwaneger at hyn y ffaith fod yr Awstriaid ar ei therfynau eisoes ar encil o flaen Byddinoedd. Rwsia, a bod Rwmania yn taro Bydoin Awstria yn ei hystlys aswy ar yr awr pan fo Rwsia, yn ei tharo yn ei hwyneb, a gwelir pwysigrwydd yr adeg yn amlycach fyth. I PWYSIGRWYDD Y LLE. Ond pwysicach na nerth ei Byddin, na'r adeg y daeth allan i ryfel, yw safle ddaearyddol Rwmania yn ei pherthynas a'r gwledydd sydd yn brwydro. Anha wdd gwneud hyn yn glir, heb gymorth map. Cymerer Rwsia a Bwlgaria ynhyntaf. Mae Rwsia yn ymladd gyda ni, a Bwlgaria yn ein herbyn. Mae Bwlgaria yn llawer iawn nes i Rwsia nag ydyw i ni-ond ein Byddin ni sydd yn ymladd yn erbyn Bwlgaria, ac nid Byddin Rwsia. Mae Rwsia yn ffinio a gwledydd y Balkans, tra mae miloedd o filltiroedd 0 for rhyngom ni a'r Ile-ond ni, "ac nid Rwsia, sydd yn ymladd yn y Balkans. SAFLE DDAEARYDDOL RW- MANIA SYDD YN CYFRIF AM HYN OLL. Meddylier fod Sir Gaernarfon yn ymladd a Sir Aberteifi. Os edrychwch ar Fap Cymru gwelwch na fedr Sir Gaernarfon ddwyn Byddin i Sir Aberteifi dros y tir-am fod Sir Feirionydd yn gwahanu'r ddwy. Ond meddylier fod Sir Feirionydd yn ymuno a Sir Gaernarfon-yna, dyn a helpo Sir Aberteifi canys ymunai Byddinoedd Sir Gaernarfon a Sir Feirionydd i ymosod ar Sir Aberteifi, gan gyd-deithio drwy diriogaeth Meirion i wneud hynny. Dyna mewn cyffelybiaeth y safle yn y dwyrain-Rwsia yw Sir Gaernarfon, Bwlgaria yw Sir Aberteifi, a Rwmania yw Sir Feirionydd. Tra yr arhosai Rwmania yn amhleidgar, amhosibl oedd i Rwsia ymosod ar Bwlgaria oddigerth o'r mbr yn unig. Yn awr, wedi i Rwmania ddod allan ar yr un ochr a Rwsia, geill miliynau milwyr segur Rwsia groesi tiriogaeth Rwmania i ymosod ar Bwlgaria. Os, a phan y gwnant hynny bydd Bwlgaria rhwng maen uchaf a maen isaf y felin, c 'anys tra Byddin Rwsia yn dod i lawr i Bwlgaria o'r gogledd drwy Rwmania, bydd Byddin Salonica yn dod i fyny i Bwl- garia drwy Groeg o'r dehau. Mae Rwmania yn ffinio a Rwsia tua'r goglead-ddwyrain; yn ffinio a Hungari (rhan o Awstria) ar y gogledd; yn ffinio a Serbia ar y gor- llewin, ac yn ffinio a Bwlgaria ar y dehau. Eglurwyd yn y "Darian" yn ddiweddar fod Rwsia wedi gyrru Byddinoedd Awstria ar ffo ar hyd terfyn gogleddol Rwmania. Pe medrai Byddin Rwsia deithio trwy dir Rwmania, rhwydd fuasai i'r Rwsiaid fyned y tu cefn i'r Awstri- aid, a'u llwyr ddifetha. Ond ni fedrai wneuthur hynny y pryd' hwnnw heb droseddu Deddf y Gwledydd. Yn awr, gall wneud ac mae yn gwneud. Mae adran o Fyddin Rwsia yn croesi tir Rwmania tua Bwlgaria, ac adran arall wedi ymuno a Byddin Rwmania, ac yn ymosod ar ystlys Byddin Awstria yn Transylvania, ymhell y tu ol i linell brwydr Awstria a Rwsia. Gesyd hyn fyddinoedd Awstria sydd yn dal i wynebu Byddin Rwsia mewn enbydrwydd. Mae cyd-fyddin Rwsia a Rwmania wedi croesi terfyn rhwng Rwmania a Hungari, ac wedi ennill nifer o drefi a safleoedd pwysig eraill ar y cyffiniau. Deallir pwysigrwydd hyn yn well pan gofir dau beth, sef: i. Mynydd-dir uchel yw'r ffin rhwng y ddwy wlad, a'r "bwlch yn y mynydd yw'r unig ffordd y gellir tramwy. Ceir rhyw wyth "bwlch" felly rhwng tiriogaeth Awstria a thiriogaeth Rwmania. Mae hanner dwsin o'r rhai hyn eisioes wedi eu hennill gan Rwmania. Golyga hyn gadw drws agored i gyd-fyddin Rwsia a Rwmania i diriogaeth Awstria. 2. Mae holl gyfundrefn rheilffyrdd Awstria, sydd yn rhedeg i ganol Awstria ac i gyfeiriad Rwsia, yn ymuno ac yn cyplysu a rheilffyrdd Rwmania ar ochr Awstria o'r mynydd- dir. Wrth ennill y bylchau a chroesi'r mynydd-dir daw cyd-fyddin Rwsia a Rwmania i feddiannu rheilffyrdd o'r tu ol i fyddin Awstria, a rhyngddi a'i gwlad ei hun. CAU UN 0 BRIFFYRDD MAWR GERMANI. Mae gwaith Rwmania yn ymuno a ni yn cau un o'r ddwy briffordd fawr oedd gan Germani i Gaer Cystenyn a'r Dwyrain draw, ac yn peryglu y llall. Danghoswyd amryw wythnosau yn ol y modd yr oedd Germani wedi ymosod ar Serbia er mwyn cael meddiant o'r rheilffordd fawr drwy Serbia a Bwlgaria i Gaer Cystenyn. Un o'r ddwy ffordd fawr o Berlin i Bagdad oedd honno. Y llall oedd yr Afon Daniwb. Afon fawr fordwyol yw hon, yn rhedeg o Awstria ar hyd terfyn gogleddol Serbia am dros 100 milltir; rhwng Rwmania a Bwlgaria am 200 milltir, ac yna am 200 milltir arall drwy ganol Rwmania, gan ymarllwys i'r Mor Du. Ac am y 500 neu 600 milltir hyn mae yn afon fawr fordwyol. j Croesir hi yn Serbia gan ddwy linell rheilffordd, ac yn Rwmania gan bedair llinell rheilffordd—oil yn ar- wain o Awstria tua Chaer Cystenyn. Drwy waith Rwmania yn dyfod allan o'n hochr ni cauir ffordd fawr y Dan- iwb, a, phedair allan o'r chwech llinell rheilffordd rhwng Germani a Bwlgaria a Thwrci. Yn ol yr hanes ddaw i law pan yn ys- grifennu hwn (dydd Gwener) mae yr Awstriaid yn cilio yn ol ymhob cyfeiriad o flaen y Rwsiaid a'r Rwmaniaid. Mae Byddin Rwmania eisoes1 wedi medd- iannu tir yn Awstria, yn mesur 350 mill- tir o hyd, ac o 10 i 25 milltir o led. Cy- merasant eisoes nifer mawr o garchar- orion. Hen diriogaeth Rwmania yw y tir a enillwyd hyd yma gan ei Byddin. Mae y boblogaeth yno yn edrych ar Awstria fel gormeswr, ac yn ffafrio Rwmania. gan mai pobl o'r un gwaed, yr un iaith, a'r un cyff cenedl a'r Rwmaniaid ydynt. Mae Byddin Rwmania yn Transylvania yn debyg i'r hyn a. fyddai Byddin o Gymry yn Llydaw, lle mae'r iaith yn debyg a'r bobl o'r un cyff cenedl ag eiddo Cymru. CYFLWR GROEG A BWLGARIA. I Er cynddrwg yr ergyd i Awstria a Germani, mae gwaith Rwmania yn dod allan o'n tu ni yn ergyd gwaeth fyth i Bwlgaria a,c i Frenin Groeg a'i gydgyn- ffonwyr Germanaidd yn y wlad honno. Cyfeiriwyd yr wythnos ddiweddaf at y ffaith fod Byddin Bwlgaria, yn Groeg yn ceisio amgylchu Salonica, ar ffurf bwa mawr 200 milltir o hyd. Gwyddis yn awr fod awdurdodau milwrol Groeg wedi rhoi gorchymyn i ildio'r wlad, a'r trefi, a'r cestyll, a'r cyflegrau yno oil i Bwlgaria heb daro ergyd. Felly y daeth y Bwlgariaid i feddiant o borth- ladd Kavala. (Neapolis yr Apostol Paul), Drama (yr hen Philippi), a lle- oedd eraill. Cawsant dros gant o gyflegrau mawr, ac ystor fawr o gyfar- par rhyfel perthynol i Fyddin Groeg i'w meddiant trwy frad Brenin Groeg. Gosodwyd Byddin Bwlgaria felly mewn gwell mantais i wrthsefyll Cyd-Fyddin Salonica pan symudai honno ymlaen tua Serbia. Rhagorol iawn oedd hyn oil i Bwl- garia, a'r bradwyr yn Groeg, tra y par- haai Rwmania yn amhleidgar. Ond pan ddaeth Rwmania allan yn erbyn Ger- mani, cyfnewidiwyd yr holl amgylch- iadau i Bwlgaria ac i Frenin Groeg. Gyda Byddin Rwsia yn croesi Rw- mania ar y ffordd tua Bwlgaria, gwaeth- af oil i Bwlgaria po bellaf oedd ei Byddin oddicartref. Mae angen pob milwr a fedrir ei gael heddyw yn Bwl- garia i amddiffyn y brif-ddinas, Sofia,' yn erbyn y Rwsiaid. Mae Byddin Bwl- garia ar lan y. mor yn Groeg gannoedd o filltiroedd oddicartref. Mae eu pres- enoldeb yno wedi chwerwi cenedlaethol- wyr Groeg, y rhai ydynt yn galw ar y Llywodraeth yn Athen i'w gyrru allan. Gymaint yw chwerwedd Gwerin Groeg, fel y mae'r Cabinet wedi ymddiswyddo —a bywyd y Brenin mewn perigl. Daeth si ei fod ef a'i briod (chwaer y Caisar) wedi ffoi am eu heinioes tua Germani. Yn anffortunus nid gwir hynny. Eto dichon mai gwell iddo pe bae wedi gwneud. Am Fyddin Bwlgaria y mae cymaint o'i heisieu gartref; ni wyr pa beth i'w wneuthur, canys y mae yn gyfyng arni, o'r ddau tu. Os erys lie y mae, gedy ei gwlad yn agored i'r gelyn. Os ceisia gilio yn ol tuag adref er mwyn am- ddiffyn ei gwlad ei hun, bydd Cyd- Fyddin Salonica ar ei sodlau. Awgrymiadol iawn yw y ffaith nad yw Bwlgaria wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Rwmania, er fod Germani, ac Awstria, a Thwrci wedi gwneud. Gellid tybied fod Bwlgaria am droi'r gath yn y badell," gwerthu'r Caisar, a cheisio cymodi a ni. Sicr yw fod Brenin Bwl- garia, Ferdinand, cyd-fradwr teilwng a'r Caisar ac a Brenin Groeg, yn rhwym o golli ei orsedd, os nad ei fywyd. Dy- wedir fod ei fab, ac etifedd y goron, yn barod i arwain gwrthryfel yn Bwlgaria yn erbyn ei dad, gan obeithio felly y geill wneud ffryndiau a Rwsia, a chael cadw'r goron a'r orsedd yn y teulu gan nad beth a, ddaw o'r hen wr ei dad. DYLED GWEITHWYR CYMRU 1 RWMANIA. I Mae gweithwyr Cymru o dan rwym- au i Rwmania am ddod allan yn awr, I gan y bydd hyn yn sicr o ostwng pris y bara yn y wlad hon. Mae dau reswm mawr dros hynny: 1. Mae, Rwmania yn wlad sy'n cyn- hyrchu llawer o wenith. Arferai werthu hwn i Germani. Mae y cyn- haeaf eleni wedi bod yn un toreithiog iawn a, daw ei gynnyrch i'r wlad hon yn lie i Germani. 2. Mae gwaith Rwmania yn ymuno a ni yn rhwym o brysuro yr adeg pan y torrir clo drws y Dardanels ac y gellir cael gwenith dau gynhaeaf sydd yn gor wedd yn segur ymhorthladdoedd Rwsia yn y Mor Du drwy'r Dardanels yma. Hyd yn oed cyn agor y Dardanels, gellir cael gwenith Rwsia drwy Rwmania a Bwlgaria i borthladdoedd Groeg ac oddiyno i'r wlad yma. BYRHAU PARHAD Y RHYFEL. Pwysicach efallai na'r cwbl a ddywed- wyd yw y ffaith y rhaid i gyfryngiad Rwmania yn y Rhyfel fyrhau tymor par- had y Rhyfel. Mae wedi torri clwyf newydd o'r hwn y llifa gwaed bywyd Byddin Germani. Meddylier am lestr mawr a'i lonaid o ddwfr, wedi cronni, a ffrwd fechan yn llifo yn gyson iddo. Meddylier fod dau dwll wedi cael eu torri yn ochrau y llestr, drwy yr hwn y rhed allan mwy o ddwfr nag a ddaw i mewn o'r ffrwd. Yna, meddylier fod y ffrwd ei hun ymron sychu, a thwll new-, ydd wedi cael ei dorri yn gwaelod y llestr. Amlwg yw y bydd y trydydd twll yn gwneud i'r dwfr yn y llestr redeg allan yn gyflymach nag o'r blaen, ac y daw y llestr yn sych mewn llai o amser. Dyna gyflwr y gelyn. Yr oedd Rwsia wedi torri twll yn y dwyrain, a Phry- dain, Ffrainc, a'r Eidal wedi torri twll arall yn y gorllewin. Yr oedd ffrwd adgyfnerthion cartrefol Germani ac Awstria yn gyflym sychu, a hwythau yn gorfod cael help Twrci a Bwlgaria i (Parhad ar tudalen 5.)
Advertising
Y DARIAN" FEL CyPRWNG I HYSBYSU EISTEOOFODAU. yn ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar odds wrth Ysgrif sn* yadion Eisteddfodau a roddasent -ilyabysiad yn y Darian eleni, am y to cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- ¡ad ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu •eisteddfodau.