Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
(fenElliw VSllTEEBir PURE FOOrt Ask for "KEENORA" SELF-RAISING FLOU&. CUSTARD POWDER. BAKING POWDER. BLANC-MANGE, etc., etc. Man uf'acture.r:j AfdJtJflS & JOKES, Limited* ,tivatf#700t, Manoheatar, and Newcastle-on- Tynø.
ITREM I.-
I TREM I. Y Llythyren. Ni wnawn y sarhad a'n darllenwyr drwy ymddiheuro am osod i lawr yma ddat- ganiad mawr Paul am yr Ymgnawdoliad a'r Ymwacad :— Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu: yr Hwn ag Ef yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch it Duw eithr Ef a'i dibrisiodd Ei Hun, gan gymeryd amo agwedd gwas, ac a wnaed yng nghyff- elybiaeth dynion a'i gael mewn dull fel dyn,—Ef a'i darostyngodd Ei Hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau y groes. 0 herwydd paham, Duw a'i tra-dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo Enw yr hwn sydd goruwch pob enw; fel yn enw Iesu y plygai pob glin, o'r nefolion, a'r daearolion, a than-ddaear- olion ac y cyffesai pob tafod fod lesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad. Ni raid inni ddywedyd nad ydym yn honni medru deall y dyfyniad aruchel hwn. A oes undyn yn ei gyflawn ddeall ? Bu cewri meddwl yr Eglwys Gristionogol, o oes i oes, yn ceisio'i egluro, ond ymddangosant cyn belled heddyw ag erioed oddi wrth wneuthur hynny i fodlonrwydd. Yr ys- golhaig, yr athronydd, y diwinydd, y bardd, —-caiff y cwbl fwy na'u hyd, eu lied, eu huchter, a'u dyfnder yma. Bod," ffurf," trais," ogyfuwch," dibrisiodd," ag- wedd," dull," darostyngodd,"—y fath ymegniad meddwl a fu ac y sydd uwchben y geiriau hyn, a'r geiriau sy rhyngddynt! Hyd yn oed wedi bodloni o'r esboniwr ei hun ar ystyr y geiriau ar wahân, cyfyd iddo'r anhawster mwy o ganfod pa fodd yr ym. ffurfia'r gwahanol rannau'n un gwirionedd mawr a chyfan. Arweinir ef i ganol ath- roniaeth gwlad Roeg canys arferir gan Paul, meddir, dermau arbennig o eiddo'i hathronwyr hi. Ond pa mor ddyrys bynnag y gall fod y we o dermau a syniadau Groegaidd a wisgodd Paul am ei athrawiaeth, diau mai prif anhawster y paragraff yw'r athrawiaeth ei hun-yr hyn y mynnai Paul ei fod yn wir am Grist Iesu a'i Ym- gnawdoliad. Mae agweddau ar y pwnc nad all neb ei drafod i fawr o bwrpas oni fedd deip yr athronydd o feddwl. Ac mae'r wedd uchanianol arno'n drech na'r athron- wyr pennaf hyd yn hyn. Ac oni raid i hynny fod ? Od oes ystyr o gwbl i iaith, fe'n dysgir yma fod Crist Iesu'n Dduw. A rhaid cael Duw i amgyffred Duw. Fel y dyfynasom yn ddiweddar o sylwadau craff Syr Henry Jones gyda golwg ar hawliau Rheswrn a Ffydd mewn crefydd, a phwyslais arbennig ar hawl Rheswm; priodol, hefyd, mewn cysylltiad a'r testun y tro hwn, yw cydnabod hawliau'r naill a'r llall, a phwys- lais arbennig ar hawl Ffydd. Teimlir wrth ddarllen rhai awduron ar y mater eu bod yn ceisio'i ddeall fel problem uchanianol yn unig, ac yn cau allan bopeth ond yr hyn y gallant ei amgylchu a'u deall. Ac i'r cyfryw, nid rhyfedd eu bod yn tybio anghys- ondeb a gwrthwynebrwydd rhwng Paul a'r Iesu. Yn ei lyfr diweddar ar Jesus and the Christian Religion, mae gan Francis A. Henry bennod ar Paulinisrn; a therfyna'i ymdriniaeth yn y casgliad,—" Amhosibl inni fod ar unwaith yn ddisgybllon Paul y diwinydd ac Iesu Fab y Dyn." Cais yr awdur galluog hwn esbonio ymaith athraw- iaeth yr Ymwacad fel y dysgid hi gan Paul. Plyg i fyny, a gesyd o'r neilltu y wisg o ogoniant yr ymddiosgodd y Crist, yn ol yr Apostol, ohoni ar ei ymddarostyngiad. Ond wrth ddarllen syniadau Francis A. Henry, cofiem sylw o eiddo'r Parch. E. Keri Evans, M.A., rn ei Esboniad galluog. Cred- wn nad oes ym Mhulpud Cymru heddyw yr un dyn cryfach mewn deall (intellect) nag ef, na'r un craffaeh ei ganfyddiad ysbryd- ol. Mewn Adnodiad o'i eiddo, ar athraw- iaeth yr Ymwacad, dyry "rybudd" i'r darllenydd j Y rhybudd yw hwn y mae o'r pwys mwyaf iddo i gofio mai pwyslais moesol a rydd Paul ar ymwacad Crist, ac na ddeuir o hyd i'w wir ystyr drwy unrhyw ddamcaniaethau uch-anianegol, cywir neu anghywir. Ac aiff ymlaen i ddyfynnu eglurebau cad- arnhaol i hynny o eiddo Dr. Forsyth. Cred- wn fod i rybudd" Mr. Keri Evans ei rym gyda golwg ar fwy nag un dosbarth o ddarllenwyr yr Ysgrythur—damcaniaeth- wyr o bob math. Ceir rhai yn ceisio toddi athrawiaethau mawr Paul i ffurf (mold) rhyw ddamcaniaeth o philosoffi,—fel y dywedant hwy ddarfod i Paul ei hun wneuth- ur a philosoffi Groeg,—am yr hyn y con- demniant ef. Ac mae eraill, a gyfrifir yn "uniongred," yn ceisio toddi Paul i ffurf damcaniaeth rhyw Gredo neu'i gilydd. Gyda golwg ar yr athronydd a'r diwinydd yn eu damcaniaethau," fel rheol, nid oes fawr o ddewis rhyngddynt: mae'r naill a'r llall mor oraclaidd a gorthrymus a'i gilydd. Anodd iawn yw i ddyn cyffredin weld ei ffordd at Paul na Christ tra bo'r rhain yn gwylio'r pyrth, ac yn ein poeni a'u cwestiynau anorffen a rhagfarnllyd. Ond mae Keri'n fwy gwahoddgar, ac wrth ein cymell i osod y "pwyslais moesol" ar y broblem yn s6n am yr hyn y gall pawb ohonom ei 'nabod a'i werthfawrogi.
Advertising
ASK FOR SAUCE Delicious and and es Appetising. David Jones and Co. Ltd. LIVERPOOL, MANCHESTER and SWANSEA. Wholesale Agents.
Advertising
lilt nUL 4 BEATY R;  CELEBRATED TAIL R ARE SHOWING A Fine Selection of Excellent in Every Particular 9 AT MOST MODERATE PRICES ConcesMon to Ex-Service Men. ■ £ discount 12/6 in the ?discount Allowed on all purchases to men demobilised dwng last 4 months 137 to 43 Lo?on Road, § Open until 6 30 p.m., Wednesdays until I 1 1 p.m.Sat-LirdAys uxitil 8 p.r*n. 28 & 30 Church Street, I Open until 6-30., p.m., Saturdays lp.m. I I y I.IYBRPOOL. | ) H ———— j Phone 3925 Bank. Phone 580 Bootle Will. GRIFFITHS & SONS MAKERS OF SMART CLOTHES 19 South John St., Liverpool, AND 349 Stanley Road, Bootle, Military Uniforms, Lounge Suits, gfavai Uniforms. Overcoats. Costumes Ladies' Coats costumes. ™r^™l A yw'ch Llygald yn eich blino ? • '1111 psthaa'a troi'n niwlog &c aueiwig ? 9 N Dyaa arwydd a rhybudd llethdod y llygad, 9 jB a dyleoli gaei ou hedryoh rhag blaen., eu 9 wna Iu hssgaalso- Qaliwa ai, 9 £ ydi'n hoflsr gwyddoaol,,I.,i t wrthych m 9ss arnaah angea gwydrau: ae 03 11 a felly, eich cyfisavri fr rh u a barai fwyaf 9I -I Lee i Galwoh hiidjrw— a ??<o?s:? & a??? I ? E70..sht Suaciatisto 9 73 LORD IIT!kgiTi a 8efyd!wyd 1848. ^OVSRPOOLJ HARTLEY & CO., Liverpool 12 MOSS STREET. MALES BY AUOTION EVERY atJBSDAY AND FEIDAY AT ONE. SATURDAY NIGHT AT SEVEN TALUABLK HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DSSORIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND fBOOND-HAND PIANOFORTES. LARGE VARIETY Of BEDSTEADS BEDDINS, Ac. EVERY NEOESSITy FOR HOUSEKEEPING ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAST sill j,,Pra OENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF $UPS stIOR FURNITURE 18 ALWAYS KEPT IN UWOK, AND ANYTHING MAY BE PURCHASED STOCPKR, IVATE TREATY. GOODS STORED. On view 8.30 a.m.t,o S.30 p.m.; Saturday 1 p.m. feiaphone 1793 ROYRoI. CONSIGNMENTS ( EITHER LARGE OE SMALL) OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR MESB 3 4X.ES. BESI, RESULT GAURANTEF.m. FOHD StAPlATOi^. Now pattern Round Brass Fronts, also Sileneers for Ford Cars and Radiators for Heavy Commercial Vehicies.11 Particulars and Prices applyfto JAMES CHEW & CO. LTD., SO-GOIPARADISE TREET,;UVERPQOU.i^ LIVERPOOL the SHAF'TESBURY, MOUNT PLEASANT, About 4 mins. walk fromlLTme St. & Central Stat. A First Glass Temperance Hotel. Moderate Charges Tele. Shaftesbury Hotel, Liverpool." Phone, ASK FOR Idris Table Waters in Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE, etc., etc. IDRIS & CO., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL. Specialities in Ladies' and Gentlemen's NECKWEAR, MOTOR WRAPS, RUGS, DRESSING GOWNS, UMBRELLAS. D.H. GRANT (Proprietor, F. H WOLFE), HOSIER, GLOVER & OUTFITTER, 6 Lime St., Quadrant, and I 8 Manchester St., LIVERPOOL. ":<: :;> > "'C
I I TREM II.
I I TREM II. I Yr Ysbryd. Cawsom lawer o fwynhad wrth ddarllen sylwadau'r Athro David Smith, ynglyn a'i lyfr newydd ar The Life and Letters oj St Paul. Yn fuan wedi iddo gyhoeddi ei gyfrol enwog ar The Days of His Flæsh- tua 13 mlynedd yn ol—dechreuodd yr awdur bartoi'r gyfrol hon. Yr oedd agos yn barod pan gychwynnodd y rhyfel,yr hyn a'i rhwystr- odd i'w chyhoeddi. Ac awgrymiadol iawn, yn y cysylltiadau hyn, yw ei eiriau. Cred nad anfantais fu'r oedi. Ni fu delw'r. Apostol allan o'i feddwl trwy'r blynydd- oedd, hyd yn oed pan na byddai'n ei ef- rydu'n uniongyrchol. Cred ddarfod iddo yn y cyfamser gael golwg gliriach, lawnach, a mwy cyfartal amo ef, ac ar ei berthynas a'r amgylchfyd. Ac ebe ef And my narrative depicts him more simply as I have seen him, less confused than it' might otherwise have been by multitud- inous details and less encumbered by elaborate discussions. Controversy is a foolish and futile employment; and I have endeavoured to portray St. Paul simply as I have perceived him during long years of loving and delightful study of the sacred memorials of his life and labour. Pair y geiriau hyn o'i eiddo inni ddyheu am weld ei gyfrol drwchus. Teimlir wrth ddarllen ei Ragair mai allwedd i agor clo sy ganddo'nei law, ac nid ysgrafell i waedu. Ac mae Paul yn haeddu hynny o leiaf. Wel, gan adael Francis A. Henry i'w ffordd ei hun, teimlwn ein bod yn lied ddiogel i gerdded rhwng Keri a Smith i bresenoldeb yr Apostol Paul, ac ymgolli unwaith eto yn ysblander nefol y gweledigaethau sy ganddo o bethau nad adnabu'r byd." Un o'r mwynderau mwyaf i ni yw cymdeith- asu ag ysbryd mawr y dyn rhyfedd a sant- aidd hwn. Dywed Paley fod Paul weithiau yn cael ei gipio gan air." Ac y mae, ond nid gan y gair yn gymaint a'r gwir- ionedd a welai'n fwy na llond pob gair. Hyfryd i'w ddisgybl yw ei gipio gan ysbryd Paul trwy ei Epistolau, ymollwng o wirfodd i'w ganlyn, i'r lie y mynno a chyhyd ag y mynno. Ac ymha le bynnag y saif, mae gogoniant y Crist yn llewyrchu amom yn barhaus. Ni allsai dim guddio'r weledig- aeth hon oddi wrth ei feddwl. Ni feiddiem ddisgrifio'i weledigaethau nefol fel rhamant: ofnem i'w ysbryd ein taro Y ffaith ddyfnaf a chryfaf ei dylanwad yn ei ymwybyddiaeth ydoedd ei fod yng nghymundeb a Christ. Caiff y fath olwg ar ei ogoniant fel y geilw'r iaith gryfaf y gallasai ei chael i'w fynegi. Anodd gwybod i sicrwydd pa ystyr a roddai i'w eiriau. Hawdd y gellir credu fod es- bonwyr yn darllpn i fewn iddo rai syniadau. Ond nid llai na'r iaith oedd meddwl Paul am fawredd Crist yr Ymgnawdoliad, eithr gnwy na hi. Ac er nad ydym yn ei ddeall, 'gwynfydedig yw mynd i'w ganlyn i'r uchelder nefol, ac i'r dyfnderau obry, hyd raddfa ddifesur yr Ymddarostyngiad. Y fath bell- terau sydd i'r yrfa yn y geiriau uchod Cyffelyb hefyd yw cylchdaith yr Ym- gnawdoliad yn y geiriau hyn Yr hwn a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i'r cenhedl- oedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gym- erwyd i fyny mewn gogoniant. Cychwynnodd o uchter y gogoniant tra- gwyddol, rhoes dro trwy'r dyfnderau isod, ac esgynnodd i'w ogoniant yn ol drachefn. Llewyga Dychymyg wrth geisio dilyn y gylchdaith. Pwy a esgyn i'r uchelder i weld y Crist yn cychwyn i'w ymddaros- tyngiad ? Disgynnodd oddi yno i lawr tua'r dyfnderau eithaf. Os oedd i symud o'i safle o gwbl, rhaid oedd iddo ddyfod ar i lawr nid oedd Ie iddo godi'n uwch. Dis- gynnodd i'n natur, ac i'n hamgylchiadau. Dewisodd fyw tan amodau cyffredin dyn. Ond fe suddodd yn ddyfnach na dyn, ac aeth o tan ei bechod a'i drueni i gyd. Cyr- t haeddodd i rhyw ister na fu digon o bwysau yn neb arall i fynd ddyfned. Aeth mor ddwfn fel y cafodd ei Hun ar lecyn nad oedd 61 troed nac angel na dyn amo o'r blaen. Disgynnodd i lawr "hyd angau, ie, angau'r groes." Uniced ydoedd ei brofiad am eiliad, yn y gwaelod isaf, fel y teimlodd fod ei Dad wedi ei ado Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist ?" Aeth cyn ddyfned mewn hunanaberth ag oedd ddi- chonadwy iddo heb beidio a bod yn Dduw. Ond safodd yn y pwynt pell, trodd yn ol, syllodd eilwaith i fyny tua'i Hen Gartref, a dechreuodd esgyn. Ymddyrchodd uwch- law'r bedd a'r byd. Yr angylion, a fu'n synnu wrth ei weld yn eu pasio ar ei ffordd i lawr, a addolent wrth Ei weld yn eu pasio'n ol ar Ei ffordd i fyny. Esgynnodd hyd i'r Nef. Ar Ei fynediad i fewn iddi gwnaeth Wlad yr Haf Tragwyddol yn llawnacb nag erioed 0'" fywyd a llawenydd. Ym- ddyrchodd --trwy'r Nef, a "goruwch yr holl Nefoedd." Yr hwn a ddisgynnodd yn is na phawb a esgynnodd yn uwch na phawb oil. Eisteddodd ar ddeheulaw'r Tad, clym- odd hanes ei ymddarostyngiad wrth yr Orsedd Wen Fawr a'r hanes hwnnw fydd canolbwnc ei disgleirdeb byth,—yr hon a elwir mwyach yn Orseddfainc Duw a'r Oen." Ac am a wnaeth, aeth gorchymyn allan oddi wrth yltad am i'r holl greadigaeth ei addoli-" Fel yn enw Iesu y plygai pob glin o'r nefolion a'r daearolion, a than-ddaear- olion." Ac eto, waetha'r modd, gwelsom hyd yn oed ambell Gymro a soniai am y Crist Iesu hwn yn y fath fodd dibris fel y gellid tybio na osodasai law ar gap iddope gwelsai Ef ar yr heol A chan nad beth a ddywed ei esbonwyr a'i feimiaid am ffurf yr athrawiaeth, credwn ni, a'n holl galon, fod sylweddoldeb (reality) moesol ac ysbrydol yr Ymgnawdoliad yn llond y- cwbl—ao yn anfeidrol fwy.
TREM III.
TREM III. Bywyd. Mae holl athrawiaethau mawrion crefydd yn rhai ymarferol. Ac mae athrawiaeth yr Ymgnawdoliad felly. Mynnai Paul dynnu'r Philipiaid- yn ddigon agos i'r weledigaeth a feddai o ogoniant y Crist fel y profent y grym oedd ynddi i weddnewid eu bywyd. Bydded ynoch y meddwl (tueddfryd) yma yr hwn oedd hefyd yng Nghrist lesu." Yr oedd am i'r egwyddor foesol oedd yn yr Ymwacad redeg i fewn yn rym Ilywodraethol yn eu cymeriad hwythau. Gan nad beth a wnaeth Crist erom, nid ydym yn achub- edig hyd nes y ffurfier Crist ynom." Ebe loan Yn hyn yr adnabuom gariad, oblegid dodi ohono Ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. Eithr yr hwn sydd ganddo dda y byd hwn, ac a welo'i frawd mewn eisiau, ac a gaeo'i dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef ? Mor naturiol y rhed egwyddor fawr y Crist o'i groes Ef i fywyd y Cristion Fel eg- wyddor, y mae i feddiannu holl fywyd dyn. Pan fo angen, gall farw dros arall ond os mai brawd mewn newyn am fara a ddaw i'w gwrdd, fe gymorth hwnnw. Yr un egwyddor a aiff i'r groes i farw ac a estyn rodd i ddyn newynog ar yr heol. Gwelai Paul berigl hyd yn oed yn Eglwys Philipi, oddi wrth gen- figen, cynnen, ymbleidio. Ac fe ddeisyf ar i'r frawdoliaeth yno agor ei chalon i'r egwyddor ddwyfol, a barodd i'r Crist ym gnawdoli, lifo i fewn i'w bywyd hithau. Nid cywreinrwydd i ddeall, ond grym moesol i galon, oedd ergyd ei athrawiaeth. Problem i'r deall yw'r athrawiaeth, problem i'r ewyllys yw'r egwyddor. Anodd i'w hamgyffred yw'r naill, anodd i'w gwneuthur yw'r Ilall. Meddwl a thueddfryd at ddringo sydd ynom ni. Yr ydym a'n llygaid j fyny at rhyw gyfle i ymddyrchafu. Yn lie ymwadu a dim bri, ymgrafangwn am bob cerpyn ohono fo'n ein cyrraedd. Cy- ffyrdder a'n "dignity," ac yr ydym yn yml chwyddo fel peunod. Ie, anodd yw dysgu ysbryd dyn y ffordd i lawr mewn hunan ymwadiad. Nid oesl[ond Duw" a all gyfg