Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Goreu iymro: y Cymro .Oddicartref.-

News
Cite
Share

Goreu iymro: y Cymro Oddicartref. EISTEDDFOD" HEDDWCH ST. HELENS.—Bu cyrchu mawr, o bell ac agos, i'r Eisteddfod uchod, nawn a hwyr y Sadwm cyn y diweddaf, dan nawdd eglwysac ysgol M.C. Hardshaw St. Er fod Neuadd y Dre i gynnwys o fil i ddeuddeg cant o gynulkidfa, gorfu i lu mawr droi'n ol o ddiffyg lie yn yr hwyr. Prawf fod y set Eisteddfodol yn gryf ymysg Cymry a Saeson y rhannau hyn. Y llywyddion oedd Mr. J. W. Rowlands,Lerpwl (ond yn absennol oher- wydd afiechyd), a Mr. J. R. Turner, Maer y dref. Arweinydd y ddau gyfarfod-Mr. R. Vaughan Jones, Bootle, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. j Peron Jones. Beirniaid y Canu, Mr. W., Matthews I Williams, F.R.C.O., Llanrwst, a Mr. J. E. Jones (Pencerdd Tegfan), Lerpwl; yr Adrodd, Mr. J. H. Jones, Gol. r Brython. Barn y rhai a farnai'r beirniaid ydyw iddynt gyflawni eu dyletswyddau'n deg a champus. Beimiad gwaith y nodwydd, Miss Elliott, Ysgolfeistres St. Helens. Wrth yr OfFeryn, ) Misses JUavies, A.T.C.L., Sutton, a Gwladys Jones, A.L,C,M.5 St, HELENS, Dyma'r prif eaillwyr:— Adroddiadau, Emyr a'i Gi, Gwladýo Jones; Gwers i Pwsi, Mary E. Roberts;; Iesu (Golyddan), Miss E. Pugh, Ashton-in-Makerfield; If (Kipling), Miss Hartley. Canu, rr Enetb Ddall, Mabel Robertson, Sutton i r Deryn Pur, Gwladys Griffiths, Earles- town. Canu penillion, Arnold Jones, Ashton. Unawd ar y piano, Miss Madeline Grundy unawd ar y Crwth, Master Ronnie Hart. Ar y prif unawd- au, Clychau Hedd, Miss Hilda Smith, Elm Vale, Lerpwl; Tenor, Saf dros dy triad, F. L. Hart, Leigh Baritone, Mab y miliar, J. Aaeirin Roberts, Seedley, Manchester; Her-Unawd, Mr. Griff. Owen, Bootle Canu Corawl :—Can Ystum i blant ysgol, Windle Pilkington Council School; Cor plant, Mountain Melodies, Carmel, Ashton-in-Makerfield (Mr. Tudor Jones); Cor Cymysg, Blodeuyk bach mewn gardd ayf Ii, Prescot (Mr. Thomas); Cor Meibion, Martyrs of the Arena, Highfield, Runcorn (Mr. Tweedhall), yn oreuo bump i arwaith edau a nodwydd,yrenillwyr Mrs. Henry Thomas a Mrs. Nellie Critchleys. Drwy roddion boneddigion o Lerpwl, a rhai Ileol, derbyn- iwyd symiau da at chwyddo Cronf. Offeryn i'r eglwys. Diolch iddynt. Eralllawer a lafuriodd i sicrhau llwydd-yn eu plith, Mrs. John Parry, G. J. Hughes, Wm. Hughes, R. Thomas, R. Row- Jands,yn egniol iawn, yn cael eu cynorthwyo gan y fcweinidog a'r bobl ieuanc. Disgwylir elw eyl- weddol. OEDFA GOFIADWY MOOR LANE.— Ddydd lau diweddaf yng nghapel Cymraeg Moor Lane (A.), buwyd yn coffhau am un o fechgyn yr eglwys a gwympodd yn y rhyfel, —sef Lieut. Thomas, y deuthai hysbysrwydd iddo gael ei glwyfo a'i golli ym mrwydr Gaza, Mawrth 26, 1917. Daliodd ei rieni a gweddill y teulu i obeithio'n hir ei fod ar gael ond yn methu ag anfon i ddweyd, ac o raid ac anfodd prudd y gorfuwyd ei dad &'i fam-Mr. Evan Thomas, Y.H., a Mrs. Thomas-i blygu i'r ffaith lem fod eu Kannwyl Eddie,—oedd bob amser mor siriol ei wen ft charodig ei gaida a glaft e1 rodiad-le, ei fod wedi mynd o'u gafael byth i ddychwel mwy. Ond y mae ar gael yn serch a chalon pawb a'i hadwaenai, fel y dangosai'r oedfa goffa ddwys hon heno. Y Parch. O. L. Roberts, Lerpwl, a draddododd y bregeth V goffa, oddiar Heb. x, 35-36; a chwedi'r bregeth, dadorchuddiwyd tabled goffa, a hynny, ar ran y gweddill, gan Mr. Elias Edwards, blaenor hynaf yr eglwys, a'r holl gynulleidfa ar ei mud-sefyll d-istaw a dwfn ei ddylanwad. Yna aeth Mrs. Baldwyn Thomas dros y Dead March ar yr offeryn, a dibennwyd yr oedfa ddwys a ehofiadwy &'r Fendith Apostolaidd. Marmor gwyn yw'r tabled, a hyn arno mewn llyth- yren ddu Cysegredig gan yr Eglwys hon i goffad- wriaeth ei haelod ac Organydd, Lieut. Evan Llewelyn Thomas (Eddie), a syrth- iodd ym mrwydr Gaza, Palestina, Mawrth: 26, 1917.-Rhyfel 1914/1918. j Rhodd yr eglwys yw'r dabled, a osodwyd ar y mur yn ochr dde'r pulpud, yn agos i'r organ y canodd Eddie gymaint ami yn y iyddiau gynt. Y fo oedd yr hynaf o feib- ion Mr. a Mrs. Thomas, Cartref, Famworth j nid oedd ond un ar hugain oed a dyna ddewr ac urddasol y daliodd ei dad a'i; Jam eu loes lem era oyd i CYMDEITHAS GYMREIG NOTTING- HAM.-Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Gymdeithas hon yn y Y.M.C.A. nos Iau j ddiweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. J. E. Jones, Goruchwyliwr Glofau Wollaton (gynt o Sychtyn). Yn ei adroddiad. dywedai'r ysgrifennydd (Mr. J. R. Thomas, M.A.), mai'r Gymdeithas Gymreig oedd yr unig un o wahanol Gymdeithasau tiriog- aethol y dref i oroesi'r rhyfel. Mynegodd fod y Gymdeithaa wedi gwneuthur gwaith ardderchog y pedair blynedd diweddaf trwy edrych ar ol buddiannau'r milwyr Cymreig, yn enwedig y clwyfedigion, a bod dros fil o Gymry wedi cael cymwynas ganddynt yn ystod eu trigias yn y dref. Casglwyd yn agos i £600 tuagat gronfa'r cysuron. Rhifai'r Gymdeithas hanner cant, a'u hanner yn Gymry uniaith. Diolchwyd i'r ysgrif- ennydd am ei adroddiad, a rhoddwyd teyrn- ged o glod iddo am ei lafur gyda'r milwyr clwyfedig. Diolchwyd hefyd i Mr. a Mrs. Jones, Wollaton, am eu caredigrwydd yn agpr eu cartref Cymreig i Gymrv ieuainc digartre y dref. Ail-etholwyd Mr. J. R. Thomas yn ysgrifennydd am y degfed tro, a Mr. J. Bowen Hughes, Y.H. (Arolygwr y disgybl-athrawen), yn llywydd. Ar ol y cyfarfod rhoddwyd cyngerdd gan yr aelodau. Cymerwyd rhan gan Mr. W. Hughes (Sparrow and Hardwick's), Mrs. Nickless, Mr. Ll. O. Jones (disgynnydd o deulu Ceiriog), Mr. J. Hughes (Llanrhaeadr- ym-mochnant), Miss Tudor, Mri. E. H. a G, W. Jones, J. B. Thomas, a Miss Redgate. Canodd y C6r Y Bwthyn ar y Bryn, Ti wyddost beth ddywed fy nhgalon, a'r Emyn- d6n Rachie, nes awyno'r Saeson oedd yn bresennol. Dyma ddywed un o bapurau dyddiol y dre Those to whom the Welsh language is a sealed book, nevertheless derived great enjoyment from the music, admirabiy interpreted-as it was in every instance. The choir displayed the qualities for which one inevitably looks in a choral body of Welsh singers, the tone being rich and the balance and ensemble most commend- able." BIRM.INGHAM.-Tack. 29, yn eglwys Annibynnol Wheeler Street, cynhaliwyd yr ail gyfarfod1 croesaw i'n bechgyn fu yn y fyddin a'r Ilynges. Mae'r Eglwys erbyn hyn wedi cael y pleser o groesawu'r cwbl yn eu holau, a da gennyf ddweyd na ddi- gwyddodd dimannymunol iawn i'r un ohon- ynt. Cafodd amryw eu clwyfo bu un yn garcharor ond y maent erbyn hyn ar y ffordd i'w eynefin iechyd i gyd. Cafwyd t6 yn y prynhawn, ac ni arbedodd y pwyllgor na thraul na thrafferth i wneuthur y rhan yma yn llwyddiant, yn ogystal a'r cyfarfod cyhoeddus a ddilynodd. Llywyddwyd gan Mr. Edward Lloyd, a datganwyd gan y C6r o dan arweiniad Mr. W. W. Watkin. Un- awdau gan Mri. W. Williams, R. Jones, Misses J. Ethel Evansi-Maggie Evans, Mrs. Tom Pritchard, Deuawd, Mr. W. W. Watkin a D. Williams cAn groesaw (y geiriau wedi eu cyfansoddi yn arbennig gan Gwynonwy), gan Mrs. D. J. Pritchard pedwarawd, Mrs. Tom Pritchard, Mrs. D. J. Pritchard, Mri. Edward Jones a D. J. Pritchard; unawdau ar y piano ganMiss Gwladys Lloyd, A.R.C.M., a Miss Gwladys Davies dadl, Miss Mary Pritchard a Mr. J. T. Edwards adroddiadau, Mr. J. Pritchard a -Miss Kate Roberts can gwerin, Gwenni aeth i ffair Pwllheli, gan g6r y plant; anerchiadau ar ran yr eglwys gan y ddau ddiacon hynaf, —Mri. W. Evans a R. Jervis (Gwynonwy); Cyfeilydd, Miss Gwladys Lloyd, A.R.C M. Cyflwynwyd anrheg fechan i bob un o'r bechgyn, a diolchwyd i'r pwyllgor am eu gofal a'u caredigrwydd yn anfon parseli, etc., i'n bechgyn trwy flynyddoedd y rhyfel. Diolchwyd gan Mri. Griffith Lewis, J. E. Roberts. Mr. T. J. Evans oedd yr ysgrif- ennydd, a Miss Mary Pritchard oedd trys- orydd y pwyllgor. Y Piano.-Penderfyn- odd aelodau'r eglwys gael piano newydd yn offrwm diolch am ddyehweliad y bechgyn a sefyddiad heddwch. Mae'r Gymdeithas Lenyddol yn dal yn flodeuog: Mri. E. Humphreys, J. Jones a J. Pritchard ddar- llenai bapurau diddorol. Cartref, Herber Evans, a Robert Peel oedd y testynau —Gohebydd. < MILTON STREET, WIDNES.-Rhag. I 9, dan navrdd Cymdeithas Ddiwylliadol I yr eglwys, cynhaliwyd cyfarfod amryw- j iaethol dan arweiniad y Parch. G. Gwynant j Owen. Datganwyd gan Mrs. H. H. Griffiths a Miss SaHie Griffiths, a'r Mri. J. D. Owen a John Roberts. Cyfeiliwyd gan Miss Molly Griffiths. Adroddwyd darnau swynol j yn bert gan Gwyneth Edwards a C. Jones. Enillwyd y prif wobrau gan a ganlyn :— Dehongli damhegion, Mr. John Edwards; darllen darn heb atalnodau, Mr. Thomas I Jones adrodd emyn, Mr. J. Edwards a Miss Williams harddu diddosben, Mr. R. Williams beirniaid, Mri. Owen Davies, W. T. Williams, Mrs. Williams a Mrs. Pritch- ard. Diddorol oedd yr holi a'r ateb ar wybodaeth Feiblaidd. Gwnaed cyfiawnder a'r danteithion a ddarparesid gan y chwior- ydd a diolchwyd i bawb gan Mri. T. Jones a R. Parry. Yr ysgrifennydd yw Mr. Willie Williams a Miss Madge Griffiths sydd i ofalu am y pwrs. Ymwahanwyd yn llawen, wedi canu Hen Wlad fy Nhadau. 0 W ARRINGTON.-Cynhaliwyd cyfar- fod amrywiaethol gan y Gymdeithas Len- yddol yn ysgoldy Capel Cymrafeg Warring- ton, Rhag. 1. Trefnwyd gan y chwiorydd ieuainc gyda chynhorthwy Mrs. J. Griffiths a Mrs. R. Roberts. Cymerwyd rhan gan Misses N. Thomas, Blodwen Peris Jones, Buddug Griffiths, Blodwen Griffith Jones, Megan Woodward, M. A. Roberts, Dorothy Griffiths. Llywyddwyd gan Mr. J. H. Jones. Darparwyd gwledd, o ddanteithion, a llawen oedd gweled Mr. L. W. Jones, yr ysgrifennydd gweithgar, wedi ail ymgymryd a'i swydd ar ol ei waeledd. Cyfarfod Ilwydd- I iannus, a Mr. A. Woodward a'r Parch. R. Parry Jones yn diolch. -'0'-

"Yr Hen John yn ei ogoniant!"

" Waeth gen i glywed band…

Advertising

I Basgedaid o r ,Wlad.