Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
SIACED FRAITO.
SIACED FRAITO. DYWEDDI'R FIGER.—Y mae'r Parch. Owen Davies, M.A., Acer Gorsedd, Tre- fivnaoa, wedi ei ddyweddlo a Miss Margery, ail ferch y diweddar Mr. R H. Roberts, cyn-faer Dinbyeh, a Mra. Roberts, The Hollies, Dinbych. Mae dyweddio yn un o eiriau tlysa'r iaith ac mor briodol y geilw'r Beibl yr Eglwys yn ddyweddi'r Cri8t.  ?V? NGHROMBIL LL?N??OT???. -Llan digon llonydd fu Llanfrothefi ar hyd y blynyddoedd, heb fawr ddim yn ei gyn- kyrfu ond ambeil awel oddiar grib y Moelwyn oer ond y mae'r lle'n dechreu bywnau, sef yw hynny y mae mwy a mwy o ddynion yn cael gwaith ym mhwll mwn Bwlch y Plwm a phwll m?n Pen'rallt, oedd ynghau n's deugain mlynedd, i'w ail agor. Y mae'r I gw?r cyfarwydd -wedi bod hyd y ddaear ffordd honno i chwilio'i chrombil, ac o'r farn fod yno faint fyd a fyaner o f wn yn aros I i'w .g xi o'i choluddion. Gobeithio eieh I bod chwi'n talu cyflog teilwng i'r rhai sy'n fcurio, eanys gwaith afiacn iawn ydyw, a'r lleithfcer a'r myllni yn andwyo megin anadlu pawb a erys yno'n o hir, heblaw glasu eu hwynebauâ brych ysmotiau o liw'r plwm. Yr hen Rufeiniaid, gryn ddwy fil o flynydd- eedd yn ol, a ddechreuodd durio'r plwm .'1' pyllau hyn, ebe'r gwybodusion. Baedd- weh gan'ileied fedrwch ar Lanfrothen, canys V mae o yn lIe pur lan a sweet, byth er pan fu'r Bedyddiwr galluog Jones o Ramoth yno'n efengylu a lefeinio bro'r clogwyni saawreddog, TYNNUAT EI OYNEFIN.—Clywsom ddwedyd, gan nad pa gan belled y crwydra yr eog, y daw'n ol ymhen hyn a hyn o ber- fedd yr eigion i'r smotyn lle'i ganed yn y Srwd. A dyma'r papur yn dwedyd fod y Parch. E. Cefni Jones, bugail Bedyddwyr Cymreig Hirwain, sir Forgannwg, wedi eyd- synio a'r alwad a gawsai o eglwys Penuel, Bangor, lie y bydd yng ngolwg yr ynys a'r Llan—Llangefni—He'i ganed. YnLlanbens a Hi. Ffestiniog y bugeiliodd cyn mynd i gadw trefn ar Shoni Hois y Sowth. (t DOWCII, BOB COP A.- Y n lie gwastraffu atampiau a pheri llafur afraid, dyma sut y darfu Maer nowydd Gwrecsam-Mr. Thos. Savage Gosod hysbysiad ym mhapurau'r dre ei fod yn cynnal Dowch Acw (At Home) ar y diwrnod a'r diwrnod, a phwyso ar y fcrlgolion dderbyn ei wahoddiad cynnes i'r synulliad y noson honno, sef eystal a dywed- yd Dowch bob copa ohonoch." Syn. kwyrol iawn, Savage. G'WILYDD 0 BETH.-Cwynid yng Nghyngor Dosbarth y Weun (Chirk) fod 4ynifer a deg o bobl yn byw dan yr unto mewn ty un-ystafell ym Mhontfadog a bod l-liaw3 o deuluoedd yn ardal Glyn Cairiog yn olemio o eisiau ty tra bod amryw o dai'r ardal ynghau dros y gaeaf, h.3b neb ar eu cyfyl, am eu bod yng ngofal pobl o Loegr a ddaw iddynt i dorheulo'r ha. Ac y maent mor eiddigus o'u tai nes na chaiff deryn to ddim disgyn ar astell y ffenestr, i edrych a wel o argoel am friwsonyn yn rhywle, heb anfon ynghyntaf at y perehennog :j, Loegr. CWLWM DOLEN.—Dwedodd y Barnwr Bray'r wythnos ddiweddaf ei fod wedi ded- frydu rhwng cant a hanner a dau gant o bobl am amlwreicio yn ystod y ddwy neu dair blynedd diweddaf a bod y trosedd hwnnw wedi mynd yn rhemp o gyffredin yn ddiweddar bod yn rhaid ei gosbi'n llawer llymach na chynt.-Oes, y mae, «anys nid cwlwm dolen a rhedeg mo'r cwlwm kwn i fod, eithr cwlwm gwlwm," na ellir ei ddatod na'i dorri ond gan yr Ysgarydd Diweddaf. Yn y ring hyd yr angau," ebe pawb sy'n priodi o serch cywir a dihalog. MEWN DJFRI !-Yr oedd pedwar crwt ifanc iawn o flaen y fainc yng Nghaernarfon yr wythnos ddiweddaf am waeddi. a gwerthu papurau ar y Sul. Dywedai'r heddgeid- waid y gwerthid o fil i ddwy fil o bapurau yn y dre bob Saboth a bod rhai bechgyn yn ennill o goron i bymtheg swllt efo hynny, ar ddydd yr Arglwydd. Dydd yr Arglwydd, wir Dydd y Wasg Felen, yn hytrach, sy'n tomennu golud yn gynt heddyw nag erioed a miloedd o grefyddwyr-nage, o "I broflfeswyr crefydd-yn eu prynu a'u cadw'n tyw. DAOW HIG YN Y OWMWT,y rnae diaconiaid Cyfarfod Misol Gorllewin Meir- ionydd wedi pasio i godi'r gydnabyddiaeth "Sabothol o ddeg swllt ar hugain i ddwybunt, I ddechreu'r nwyddyn newydd. Dyna dipyn bach o las trwy'r cwmwl i'r gweinidogion ;■ a dalied yr hie i ledu, ebe'r trueiniaid sy'n tiemio ar ol mynd o'r pulpud gartre. DEGHREU DISGLEIRIO.Doeedim byd yn gloywi cymaint ar lygaid rhieni a gweld arwyddion fod eu plant yn debyg o ddisgleirio a dringo llethrau serth clod. Dyna Aledwen Hughes, Trawsfynydd, ao Edwin Morgan, HI. Ffestiniog,—dau o fac- wyaid Ysgol Sir y He olaf-wedi cipio ysgol- oriaeth £20 bob un. Dim ond -un disgleirio arall sy'n well na disgleirio mewn dysg disgleirio mewn daioni a gras. Gofalwn bryderu a gloywi mwy fyth wrth edrych a fo hynny'n ein hiliogaeth, aed pobeth arall lle'r elo, canys gras a daioni yw dau bwnc arholiad Coleg y Nef. HYFRYD SWN YR EBILL.—Y mae ehwareli sir Feirionydd ar lawn waith yr archebion yn dylifo'n domen am ben y penaethiaid a swn hyfryd yr ebillion a'r tanio'n ail glecian drwy'r clogwyni yn debyg i'r fel y byddai ugain a deugain mlynedd yn ol. Ond tai sydcl ar ol. AM Y TEW A'U BABA.V.-Un o'r pethau a ddeffrodd ac a agorodd lygaid pobl Llandudno yr wythnos ddiweddaf oedd baby show, sef am y tlysa'i bryd, yr iachaf a'r graenusa'i groen, a'r gwytnaf a'r dycnaf i ddal tywydd,canys nid y rhai soeglyd dew yw'r rheini at ei gilydd. Dywedodd un o yswiryddion Edinburgh yr wythnos ddi- weddaf mai pobl deneu sy'n byw hwyaf, yn ol llyfrau a thaliadau ei Gymdeithas ef. Brau yw bloneg ynddo'i hun, oni bo gewyn a durweh dano. GWREIGEN GANT OED BRYNLLWYD -Yr oedd Mrs. Elizabeth Owen, Brynllwyd, Moelfre, yn gant oedd ddydd Gwener cyn y diweddaf, a dyma'r llythyr tirion a gafodd i ganlyn cildwm bore ddydd Sadwrn oddi -wrth Syr Owen Thomas, yr aelod dros Sir, o Dy'r Cyffredin I Annwyl Mrs.Owen,—Cododd ynof awydd danfon i chwi air bach o annerch cynnes ar eich canfed dydd pen blwydd. Fy Jiun nid wyf ond hogyn wedi troi y tri. gain oed Ond^fel p&wh o hogia Cymru, 'rwy'n ymserchu yn y merched. Mae prynhawnddydd Oes dda, fel prynhawn hirddydd haf, yn meddu prydferthwch a swyn o'i eiddo ei hun, a rhyw allu cyfareddol i leddfu lludded y sawl sydd o hyd yn yr harnais. Gyda theimladau felly yr wyf yn danfon i chwi fy nymun- iadau goreu ar eich dydd pen blwydd, gan hyderu y cewch ddiwrnod hapus iawn, a llawer un cyffelyb eto. Dymunaf amgau ichwi rodd fechan fel cofarwydd am eich canfed dydd pen blwydd. Yr eiddoch yn gywir, OWBN THOMAS. Dyna ichwi werbh uwd rhynion M6n, rhagor y ta a'r moeth-dameidiau- sy'n f.eiddilo'r Monwyson crebach heddyw. PUMGANT MR. ISaOED JONES.— Y mae Mr. Isgoed Jones wedi awgrymu i eglwys M.C. 8eion, Llanrwst, ei fod yn barod i gyfrannu pum cant o burmau y flwyddyn nesaf ar yr amorf fod yr eglwys yn casglu pumcant arall atynt, er mwyn toddi'r ddyled ar yr achos. Y mae iechyd Mr. Jones yn gwla ers dwy flynedd, ond bydd yn picio pan fedro i'w le ar faine ynadol y dre. PRYNWN HI, FE DAL YN Y DYF- ODOL.—Y mae Cyngor Gwledig Dosbarth Oroesoswallt wedi amlygu eu bwriad i brynu chwarel gerrig Trefiach. Carreg galch las ei lliw sydd yn y gloddfa, ac ohoni hi y caed cofgolofn Huw Morus sydd ar Fuarth Pont y Meibion. :0:
Clep y
Clep y I [GAN Yn HUTYN.] Margpjl Morgan ar i Jyny. —Mae'r Is-Gapten cyfoethog a charedig, Littleton Powys, wedi gadael pum mil o bunnau yn ei ewyllys i'w forwyn ffyddlon a da, Marged Morgan ac eglur yw mai Cymraes ydyw hi. Rhagorol yr Is-Gapten byddai'n dda i gyfoethogion ereill eich efelychu, ac yna ni fai cymeriadau gwasanaethgar fel Marged mor brin yn y wlad. Dyna'r ffordd effeithiolaf i gael morynion da. Fe wnaeth y gwr yma, drwy ei ewyllys ddoeth, fwy i godi safle'r forwyn yn y tir na dim. Megan a Morgan.-Mae hi'n dri ohan mlwydd geni Morgan Llwyd o Wynedd, a da gwneuthur coffa o hynny, er nad oes fawr berygl i lwydni gripio dros ei hanes. Y mwyaf cofiedig yw ef ymron o holl arwyr Cymru. Eto, da cadw'i hanes a'i enw o hyd gerbron ar gyfer yr- oes sy'n codi a'r oesau i ddyfod hefyd. Gosodwyd maen gwych gerllaw ei weddillion ryw saith mlyn. edd yn ol yn hen fynwent yr Ymneilltuwyr yn Rhosddu, a gofynnir i Mrs. Lloyd George osod torch yr wythnos nesaf ar y beddfaen coffadwriaethol a ddadorchuddiwyd ganddi yr adeg honno. Dowch bawb, Gymry, i dynnu eich hetiau i Megan a Morgan y dydd hwnnw. Wyllys Peter Williams.—Gwelir ddarfod i Peter Williams, Brymbo, adael pedwar ugain mil ar ei ol, yn ol ei ewyllys. Cododd o'r gwaelod bron, i fyny'n uchel yng ngwas- anaeth Cwmni'r Gwaith Dur a da gweld Cymry tlodion yn llwyddo mewn ystyr ariannol. Ond siomedig yw'r Clawdd, er hynny, na adawodd gryn symiau i achos crefydd ac addysg, i'r rhai yr oedd mor ddyledus. Sut y bu hyn ? Anodd gennyf feddwl nad oedd wedi cofio am y capel a'r gweinidog ffyddlon. Disgwyliaf glywed ei fod. Moelwyn yng Ngwrecsam.—Cawsom y fraint o'i wrando y noson o'r blaen yn pregethu yn un o bulpudau y dref,—noson y Cyfarfod Misol-sef yn Haion, M.C. Edrychai'n llesg, ond pregethai'n gryf. Amheuaeth oedd ei bwnc—amheuaeth yn gyffredinol, ac amheuaeth loan yn y carchar yn neilltuol. Pregeth feddylgar, farddonol ei brawddegau, ac athronyddol ei harddull. Cynulliad da a gwrandawiad astud. Nid yw Moelwyn yn floeddiwr, ac nid oes angen iddo floeddio; mae'r pethau ar eu goreu heb fioedd. Yr oedd pawb yn mwynhau. Nid mynych y daw i'r dref hon, ond credaf y bydd galw mwy amdano o hyn allan. Diolch iddo am ei genadwri y tro hwn. Dilynydd Smallwood.-Mae'r enw Small- wood yn un annwyl ac adnabyddus yn y cylchoedd hyn, Cysylltir ef a'r patriarch gennad, y Parch. John Smallwood, y Cymau ond y tro hwn y mab sy gennym mewn golwg, sef diweddar ysgolfeistr llwyddiannus Abermorddn—Mr. Jno. Owen Smallwood. Drwg oedd gan pawb ddeall i'w anhwyldeb diwedda beri iddo roddi'r ysgol i fyny, ao yntau'n hen athro mor llwyddíannue-neb mwy felly. Adferer yr Arglwydd ef i'w gyflawn ynni eto, ac ymrodded, fel ei dad, i waith y weinidogaeth o hyn hyd y terfyn. Penodwyd dilynydd iddo ar ysgol Aber- morddu y dydd o'r blaen, sef Mr. Ernest Rogers, Brymbo-gwr pybyr iawn yntau, ac wedi ymladd llawer am godiad cyflogau. Haedda yntau godiad awydd a chyflog yn awr, a gwna ddilynydd teilwng iawn i'w flaen- orydd. Pob bendith a Uwyddiant arnynt ill dau. Bracsio, ac nid cerdded.-Synnodd Y Clawdd glywed fod rhyw bedwar wedi hedeg trosodd o'r wlad yma i Awstralia mewn byr amser-tros ddeuddeng mil o filltiroedd. Am wneuthur hyny rhoddir iddynt yn agos i bunt y filltir fel rhodd am eu llwydd. Wedi dysgu sut i hedeg, y mae'n rhaid mynd yn ol i ddysgu sut i gerdded yn well!, Yr ydym yn gwneuthur popeth ymron yn well na chordded. Heb s6n am gerdded mown ystyr ysbrydol, yr ydym yn gerddwyr sal enbyd mewn ystyr gorfforol. Daliwch sylw a gwelwch mai bracsio y mae naw o bob deg ohonom. Gormes Oribddeiliaid y Lluniau.-Mae'r Clawdd yn methu dyfalu sut y gellir codi Cinemas mawrion diangenrhaid o hyd ac o hyd, pryd na ellir codi ty newydd yn un. man. Hefyd gwelir y Cinema Company yn prynu hanner dwsin o dai'n ami i adoil- adu eu palasau,. gan droi y trigianwyr i'r ffordd. Sut gebystr y goddefir pethau fel hyn ? Y mae'n rhaid mai haid o bobl y C3 ydym. Rhaid ymladd eto, a dyma Ie a gwir angen brwydr arno. Hei ati Y ni yw'r Paganiaid, nid hwy.-Mae'r Parch. T. W. Rees, cenhadwr o'r India, ar Y Clawdd y dyddiau hyn yn traddod anerchiadau brwd iawn. A hyn a ddywed fod Cristionogion yr India yn rhagori'n fawr iawn arnom ni, ac ni synnai ef weled fod y wlad bell honno, cyn hir, yn anfon eu cenhadon hwy trosodd yma i'n hefengylu ni. J Ein Brigyn Brenin.-Priodol iawn yw cael esgid Gymreig ar droed Tywysog Gymru. Felly'r awgrymodd Mr. Lloyd George ym Mangor y dydd o'r* blaen. A gwnaeth y milwyr briwedig esgid iddo a honno'n St. Y mae'n rhaid fod gan y baohgen droed go fawr. Bydd yn rhaid cael siaced iddo'n awr o frethyn cartref Caerfyrddin. Gwn y gwel y Cyn-Faer—Mr. Jno. Lewis,-fod y Tywysog yn gynnes yn ystod oriau oer y gaeaf. < Y Maer a'r Meddvn.—Mae'r Maer newydd Gwrecsam wedi dechreu'n dda dros ben. I Ar y fainc y dydd o'r blaen gosododd ei ddwrn yn drwm ar y rhai sydd yn peri i'r milwyr feddwi ac yn osgoi'r gyfraith. Y rhain sy'n euog, ebe fo, yn fwy na'r truain a ddaw gerbron. Dyna ergyd yn ei le. Un arall eto. Hefyd safodd i fyny yn gryf drot yr heddgeidwaid. Da eto! Ewch t rhagoch, Faer newydd annwyl
GAIR 0 GAER.
GAIR 0 GAER. Er mwyn heddwch a'r cyfeillion fu un- waith ymhlith y Cymry yma, wele ychydig o hanes y dyddiau diweddaf :— CYMDEITHAS CYMRY CAER.-Mae hon fel pe wedi cael gweddnewidiad,—pob cyfarfod hyd yn hyn yn lliosog ei rif, yn enwedig y ddau gyfarfod olaf.F Cawsom gwmni'r Athro If or Williams, M.A., Bangor, yn dweyd ei brofiad ar Gymry Ddoe, a Ohymry Heddyw," a phrofiad da ydoedd hefyd. Diolch' i'r Athro am roddi tipyn o "haearn yiig ngwaed Cymry ieuainc sy'n codi fe wnaeth Owen Roscomyl beth felly hefyd wrth ddarlithio i'r Gymdeithas hon fiynyddoedd yn ol. Wedyn daeth y Parch. Tecwyn Evans, B.A., gydag Ann Griffiths, yr Emynyddes o Ddolwar Fach, a chaed gwledd nad a byth yn anghof. Gwel- som gofnodiad am Raglen y Gymdeithas yn Lloriau Dymu Hen Yd y Wlad beth yn ol, a deil i'w chymharu 3. rhelyw'r Cymdeithasaut GYMDEITHAS LEN ALBION PARK (A.).-Mae gwedd hynod lewyrchus ar y Gymdeithas hon, a chwestiynau pwysig a diddorol yn cael eu trafod, ac ambell gypaned o de er mwyn dod i adnabod ein gilydd yn well. Cyfarfod da oedd hwnnw pan aeth y brawd Henry Evans a ni o'r Glyder i Gantre'r Gwaelod, gan sdn am lysiau, coed, mwnau, blodeu, beirdd, cantor- ion, a chartrefi enwog yr ardal ramantus hon a bu gwaith Mr. Hugh Jones ar nos- waith arall yn dadleu hawliau'r Ysgol Sul yn foddion i greu diddordeb newydd ar yr hen sefydliad rhagorol caed hwyl anghyffredin yn y ddadl rhwng Miss M. J. Owen a Mr. Evan Richards ar y testyn dyrus A yw'r Ferch mor ddeallu8 a'r Mab ? Druain o'r meibion y noson honno, a look I out in future. Fel yna eir ymlaen i adeiladu ac i ddifyrru ein gilydd; ac onid yw'n llawer gwell na Whist and Dance y Sais ? Debyg iawn GYMDEITHAS LEN ST. JOHN ST.- Gwelais raglen hon y dydd o'r blaen, a rhag- len ddiddorol yw. Mae rhannau helaeth ohoni'n cael ei chymryd i fyny gan frodyr I ieuainc a fu yn y rhyfel. Dadleuon a thest. I ynau a gwerth ynddynt, fel y dylai ieueng- tyd St. John Street fod yn well dynion ar ddiwedd y tymor nac ar ei ddechreu. GYMDEITHAS Y BRIBLAU.-Cyn. haliwyd cyfarfodydd blynyddol Cangen Gym- reig y ddinas y Saboth cyn y diweddaf, pryd y pregethwyd yn y gwahanol addoldai gan y Parchn. Wellesley Jones, B.A., B.D., cyn- rychiolydd y Fam Gymdeithas, W. G. Owen (Llifon), D. M. Griffith (W.), a G. Hughes, M.A. Yn y prynhawn, daeth tyrfa luosocach nag arfer i Neuadd y Dref. Llywyddwyd gan Mr. Henry Jones. Siar- adwyd gan y brodyr a enwyd eisoes, a chyflwynwyd nifer fawr o lyfrau gwobrwyon i'r plant gan Mr. R. Mills, trysorydd ffydd- lon y gangen, a diolchwyd iddo ef, ac i Mr. Everett Lewis, yr ysgrifennydd, am eu llafur ar hyd y blynyddoedd. OROESO.-Mae Cymry'r ddinas-hynny I yw, y Cymry a gymer ddiddordeb ym mheth- au goreu'r genedl,—yn unfryd yn croesawu y Parch. D. M. Griffith ar ei ddyfodiad i'n I plith fel gweinidog Eglwys Queen's St. (W.). CYNGERDD.-Cafodd Eglwys y Bedydd- wyr gyngerdd a fu'n llwyddiant mawr. Cymerid rhan helaeth ynddo gan G6r Capel Presbyteriaid City Road. Da iawn, onite ? Un enwad yn cynorthwyo enwad arall. } Gwyn fyd na fyddai ychwaneg o beth fel hyn.—Rolant, a gefaist ti ddigon bellach ?— J.L.T.
y  I Ystafell y Beirdd.
 y  I Ystafell y Beirdd. I Y cynhyrchion gogyfsr a'r goiofs bon i'w cyfemo-PEDROG. 217 Prescot rd., Liverpool Y mae gorffwysja eto'n ol.-Deehreu'n bur gyffredin Y mae gorflwysfa eto'n ol I'r rhai sy'n caru Duw, Gorffwysfa well o dan ei got Nag sydd ar dir y byw. Mae yma rai meddyliau da yn y gAn, ac ambell linell yn profi fod gan yr awdur ddychymyg, ond ei fod hyd yn hyn heb ymarfer digon a'r gelfyddyd farddonol. Hiraethgan am Maes—.—Y llinellau yn Ilawn o awen hiraeth, ond yr iaith yn wallus, yn gystal ag ambell gymal mydryddol. Mae tipyn o waith caboli arni, ond byddai'n werth y drafferth pe gwneid hynny. Bydolrwydd.—Yr ydych yn canu'n rhy esmwyth i dychangerdd. Nid oes digon o bigau yn y gan. Er fod gwir yn y llinellau a ganlyn, mae'r arddull—er gwaethaf yr odl-yn gwbl draethodol: 'Ceir gweled rhai pobl yn rhoddi eu bryd Ar fod yn feddiannol ar gyfoeth, A'u golwg bob amser ar bethau y byd, Trvry hyn fe ymddygant yn annoeth.' Angen Byd.-Rhy wallus eu cynganedd- iad. Ymadawiad, &c.-TOstun gwir deiiwng, ond y gin heb fod wedi ei saernlo'n ddigon gofalus. Lladd Anarawd.-Nid dyna'r teitl a roddes y gwalch hwn i'w gan, eithr Llof- ruddiaeth erchyll fy nghyfaill R.J.E." Mi a ddychrynnais yn enbydus ar y cyntaf, ofn fod hyd yn oed prydydd yn digwydd dywed- yd y gwir Llawenychais yn fawr o weld nad ydoedd. Meddyliwch am anystyriaeth y dyn a anfonodd y fath Iwyth o ddyn- ameit a hyn i'r Ystafell yma Nos Wener, yn sydyn, Daeth ysfa arswydus i 'nghoryn (Sy bellach yn foel ac yn wyn) Fe'i cosais am ennyd, a dyna beth syn,— Fe lifodd trwy 'mysedd rhyw eiriau fel hyn,— Fe glwyfwyd Anarawd yn farwol Gan Iago Ddu, fradwr uffernol; A chludwyd e'n ddigon priddellol O'.r Ilwyfan, yn chwirn a di lol." Ac mao gan y dyn ddigon o eonder i ofyn Pa un ai cywydd, awdl, ai englyn, dyb- iwch chwi, sy'n enw addas i'r llinellau hyn ?" I wneuthur y peth yn waeth fyth, fe ddywed, Esgusodwch fy wyneb-galedwch Y peth a wnawn i, o 'wyllys calon," a fai sgrifennu'r darn uchod o'i waith a phin dur, mewn llythrennau annileadwy, eglur i bawb, ar-wel, ar y coryn hwnnw y dywed ef ei fod yn awr yn foel "I Ai meddwl y mae pobl mai dyn gwirion sy'n byw'n yr Ystafell yma ? Yn bendi- faddeu, bydd raid i mi droi ar rai o'r gweilch cellweirus hyn ryw ddiwrnod, a gwneuthur siampl o rai er mwyn y lliaws tebig iddynt. Look-out. CYMERADTVY.-E* gni arall, Dymuniad j (Album), Priodas Aw A.G., Clod i Dduw, Pentref Gapel Garmon, I'm Genedl, Chwified Baneri, Givroldeb, Goronwch Ef, Er Gof am G.J., Yn y bad i fyny'r afon. BEDDARGRAFF DORA." Daearol iawn oedd DO-RA,-nid addfwyn, Ond deddfol ei gwala Blin ei bloedd, a'i biliau'n bla, 'Ac oer fel caseg eira." PLRDROO. —— I AIL EGNI. Mae pwys gofalon gwaith Yn llethu f'ysbryd i 'R ol rhwyfo amser maith Yn erbyn tonnau'r Ili. Daw pryder du am dir a glan,— Fy rhwyf mor frau, fy mraich mor wan. Af ennyd fach yn 61 Hyd lwybrau mebyd gynt; Mi rodiaf dros y dddl Ar daith drwy Fwlch-y-Gwynt. A mi ar gopa pen y bryn,— Try'r pryder du yn obaith gwyn. ED. EDWARDS, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. DYMUNIAD A YSGRIFENNWYD YN I1 ALBUM MERCH IEUANC. Iechyd a llwyddiant ichwi,-a gwenau Y Gwanwyn i'ch llonni A phob dawn yn Hawn fel Ili, A byw'n iawn hyd benwynni. Byw'n hynaws heb un anaf,—y byddooh, A boddio'r Goruchaf A'i ddoniau Ef, eiddunaf, Harddo'ch bron fel hinon haf. CYNFOR. PLANT Y-MYNYDDOEDD. II Plant y mynyddoedd ym ni, Mynyddoedd hen Gymru Wen, Man lie mae urddas a bri, A'r cwmwl gusanai'r nen. Aelwyd y niwloedd a'r gwynt, Y daran a'r storom fawr, A'r fellten wibiog ei hynt,— Yma mae'n oartref bob un Plant y mynyddoedd fm ni, O'u llethrau yn pyncio cAn, Ger nant a'i throchionnog li,- Yma &'n henaid ar dan Rhodiwn rhwng rhedyn a chawn, A'u gwrid ar ein deurudd iach, Ryw nefoedd fu llawer prynhawn Wrth brancio hyd lwybrau wyn bach. Plant y mynyddoedd ym ni, Yn gwylio toriad y wawr, Lie bu gwroniaid a'u cri, A'u gwaed yn rhuddgochi'r llawr Mae lleisiau o'r oesoedd pell Yn atsain o'n deutu'n awr Gwnewch Gymru yn Gymru well, Chwi blant y mynyddoedd mawr." Prestatyn. MEILIR WYN. FFARWEL HAF. Acen obrudd cynhebrwng-glyw y wig Tra'r glaw yn ymolhvng. Adar byrddydd blinddydd blwng Yn cathlu ar eu cythlwng. LLUN Y PRIF. i-iiaci wenau Llwyd o W ynedd,-gwir lioffus Argraiffiad o'i ddullwedds Cawr ei oes, ac ar ei wedd Lewyrch haul arucheledd I- Wir, IFAN 0 PON. I LLOYD GEORGE. UWr enwog a gwiw arweinydd-yw Sior, A seirian wyliedydd Ein gwlad, gan daenu'i glodydd, Yn mwyn s6n am ei enw sydd. Y CEILIOG. Coelwxw yw can Ceiliog Coch,—Ion geinwas Eilw'n gynnar arnoch Ar y glwyd chwery ei gloch Dda, hoenus, tan ddihunoch. LLYTHYR. vv rtn ei swydd mae'n drosglwyddwr-neges dyn, A gwas da diddwndwr Mewn gwlad y mae yn gludwr Meddyliau a geiriau g-frr. Prestatyn, COLLEIT I FFARWEL Y MILWR. Addawodd Nel lythyr yn fuan i mi, A chariad yn sel ar yr amlen Disgwyliais yn hir wrth yr eneth ddi-nam O r diwedd daeth llythyr yn 'sgrifen ei mam I ddweyd," Mae hi'n croesi'r Iorddonen." Cymerais fy utgorn yn dynn yn fy llaw, A chiliais i fro y cysgodion A'm Hygaid yn lleithio mi sefais fy hun I seinio fy ffarwel i hebrwng fy mun A nghalon i fro y cysgodion. RHYS JONES, _Y__ wBont Newydd, Arfon. JONES,
Advertising
?o*f ephoae 1157 Royal Established L864 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT 33|;Netherfield„Road South rhs Iroperty to Let in various parts of the cowii. Mortgages arranged. Valuations made Established 1884 Hootie Estate Office, :149 STANLEY ROAD. m■ BCOTLE. T. W. Roberts, F.A.I. 1-. W. D. Litt'F VALUERS and ESTATE AGENTS. TELEPHONE. 1417 BOOTLE f (2 Wires). Telephone No 7909. r J. LEWIS lJONES. ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. I -rerties carefully managed. Rents per sontdly collected. Purchases and Sales ne otiated. Mortgages arranged and Insur mut s effected. THOMAS e JONES, ESTATE AGENTS VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool. TeltphonO No.—3868 Bank. I roperties Bought and Sold. Mortgagee arranged. Valuations made. Rents colleetod Henry Jones, BBTATE AGENT, VALUMB PBOPSRTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, LiTerpati 848..I.i. M. JONES WilliAMS. f.A.t. WBTATM AORNT & VALDBk, i 7 Boundary Placei Moss St Liverpool. EiSillRtl Ttitpfcou, 16) K*y R. E. fiuGbEb. state Agent, Surveyor & Valuer, tborios Cross, Birkenbece- ktolooose go.-U Whood. t Houm to Let and &K EW* in TB?iOM pMt? he Town and oat disw?tix Also Lud to b: M for Bol!ding paxpotee. AdvancM MMU $0 id for 2= rmt. Bent8(0)l.u fidem Ms?M?T manscod, HIGHEST JONES' ILLUSTRATED LI8T Sent FREE on written request. Choice Selection of Residences for Sale. WIRRAL, CHESHIRE, NORTH WALES. 6c. Telephones 158-157. Telegrams-" Estates." offices-I 8: 2 HAMILTON SQUARE. BIRKENHEAD. Oledwyn Hughes & Hughes ESTATE AGENTS. Property Bought and Sold. Mortgages Arranged. — Rents Personally Collected. o %wa/inuaheashes' ?! Duke St LiverpooL 0 R. Hughes Telephone- -Royal 4095. tar eVERY WOMAN f hould send 2 stamps for our 82 page Illustrated Book (ontaining valuable Information how all Irregularities Bd Suppressions may be entirely avoided or removed by Implemeans. Recommended by eminent Physicians as ihe only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never foils. Thousands of Testimonials. Established 1862. Mr, PAUL. BLANCHARD, JifSjpoct fjopse, Dalstoo [-see, LONDON YN BAROD YN FUAN. COFIANT Y DIWEDDAR D. EMLYN EVANS, GAN El FRAWD Y Parch- E. KERi EVANS, M. A., ac yn cynnwys ysgrifau gan Dr. Protheroe, Mr. Owen Jones, Mus.Bae., a Mr. Tom Price. Rheolir y nifer argreffir gan nifer y Tanysgrifwyr. Pris, 4/6, mewn Llian hardd. Trwy'r Post, 4/10. Telir cludiad hanner dweia ac uchod. Anfoned pawb sydd eisio copi o'r Cofiant diddorol hwn, a phawb Bydd yn casglu enwau yn ddioed at y Parch. E. KERI EVANS, M.A.. Priordy, Caerfyrddin. Liverpool Guardian Trade Protection Society 'Phone 4865 Bank. Wirew, 11 Pyemution." The Oldest Prsvincial- TRADE PROTECTION SOCIETY A MT TUAL SOCIETY Gnyerned by a Board Honorary Directors. or terms write- F. MEATBRR. Secretary. 41 North John 81 rnt, Livdrponl.