Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
ASK, FOlk "SIRDJtr SAUCE Delicious and Appetising. David Jones and Co. Ltd. LIVERPOOL, MANCHESTER and SWANSEA. Wholesale Agents.
Advertising
TY ?BIKO JL JL JOl rLTD.s I  '? W ? €S' CELEBRATED TAl. ARE SHOWING A Fine Selection of 0VE eÐATS Excellent in Every Particular AT MOST MODERATE PRICES Concession to Ex-Service Men. 2/6 in the £ discount Allowed on all purchases to men demobilised during last 4 months 37 to 43 Lonion Road, I 28 & 30 Church Street, Open until 6 30 p.m., Wednesdays until Op0n 051611 6"30-» P'm-» Saturdays 1p.m. 1 p.m., Sa?urd%ys untU 8 p.m. Open untIl 6-30., p.m., Sa.turdays 1 p.m. LIlifBRPOOL; PkdfKt 3925 Bank. PhM' 580 Bootle Wm, GRIFFITHS &S0!\I5 MAKERS OF SMARTOlOTHES I 19 South John St., Liverpool, 1 A!iD j | 849 Stanley Road, Bootlo, Military Uniforms. Lounge Suits, j Naval Uniforms. Overonate. J Gostumes. &.adies' Coate 1.1 ■••■■■« WMWHUUIUIIWS 1 ATyw^ch lygaid yn eich biiao ? fw potilaien trarn ai-wtog ao ? Oyas arwydd rhybudd iletWbdy llygal, 4ytech ai an hedryuh rhai? bksa (fU asraatbyga h:1Jš?u.) Oalhra ai, ^yds'a hofler rmhyoh rosea svryrtraa ae os &lly, eish cyflsswi i'r rhai a haras f wyaf ) le ichw-L Oklirosi *I»HTV— ilt.ê $ON-'A Srttlgki Hvoeteifot*. 73 LOlia aTEYi Sefydlwyd 1848. L HARTLEY & GO., Liverpool 12 MOSS STREET, eALESBY AUCTION EVERY tUBRDAY AND FRIDAY AT ONE. SATURDAY NIGHT AT SEVEN VALUABLE HOUSBHQLD FURNITURB OF ALL D-BSORIPTIONS. MAOVrriORNT NSW AND sSfOND-HAND PIANOFORTES. LARGJE VARIETY Of BEDSTEADS BEDDING, &c. EVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING ATTRiqD THESE SALES AND SAVE AT LEAST SO PER OENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF fUPBtllOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN ITOOK, AND ANYTHING MAY BE PURCHASED 8T PRIVATE TREATY. GOODS STORED. On view 8.30 a.m.to 91.30 p.m.; Saturday 1 p.m. Saphon 1793 Royal. CONSIGNMENTS ( EITHER LARGE OR SMALL I ON ANY DESCRIPTION INVITED FOR FHBSL aLES, BEsr RESULT GAURANTHBD. • «■ API A TQTl§ J New pattern Round Brass Fronts, also silencers for Ford Care and Radiators for Heavy Commercial Vehicles. P&rtieul jvrs and Prices spply to JAMES CHEW <3 CO. LTD., "OiPARADISE 'TRMT,lt.tVERPO<M. a) ] EIVERiPOOL 'I The SHAFTESBURY- MOUNT PLEASANT About i rains, walk fram'Ljiits St. & Central Stat. A First Glass lemparanna Hiatal. Moderate Charges Tele.Shaftesbury Hotel, Lirerpool, Phone, ASK FOR Idris Table Waters Th Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE, etc., etc. IDRIS & CO., Ltd.. Northumberland St., LIVERPOOL. Specialities in Ladies' and Gentlemen's NECKWEAR, MOTOR WRAPS, RUGS, DRESSING GOWNS, UMBRELLAS i D.H. GRANT D.9TI | (Proprietor. F. H WOLFE), HOSIER, GLOVER & OUTFITTER, 6Lime St., Quadrant, and I 8 Manchester St., LIVERPOOL. i
! : I TREM I
I TREM I I Humpty Dumpty. FEL y meddyliem am rai gogwyddiadau presennol yn ysbryd ac arferion y byd, daeth i'n cof yr hen rigwm Humpty Dumpty sat on a wall, Humpty Dumpty had a great fall. Paham y cododd peth fel hyn i'n meddwl yn y cysylltiadau, ni wyddom. Ymddang- osai i ni ar y cyntaf fel peth mor annisgwyl- iadwy ag i un weld llygoden yn neidia allan o'i het silc. Ond wrth bensynnu ar y rhigwm, tybiasom, wedi'r cyfan, fod ynddo awgrym go gywir o'r hyn sydd wir am y genhedlaeth bresennol o bobl ein gwlad. Eisteddai Humpty Dumpty ar y wal. Ac nid lie diogel iawn yw'r wal i neb eistedd ami. Rhaid i'r neb a wna hynny fod yn bur ofalus, a chadw'i hunanfeddiant. Os diofala, gall golli ei fantol, a disgyn yn awta oddi ar y wal, ac efallai ei ladd ei hun yn y codwm. Daw i'n cof ddarfod i nifer o fechgyn direidua ddringo i ben gwal gardd led uchel, ac eistedd ami, yr hyn nad oedd gennym hawl i'w wneuthur. Yr oeddym yn gryn lanciau yn ein tyb ein hunain. Yn y man gwelem y garddwr yn anelu amdanom, Disgynnodd pawb ond un i'r ffordd ond cyffrodd yr un hwnnw gymaint fel y collodd ei fantol, ac y cwympodd i fewn i'r ardd hynny yw, i'r tir gwaharddedig. Daliwyd ef gan y garddwr, a bu raid iddo ddioddef cur nid yn unig drosto'i hun, eithr dros y gweddill ohonom. Tipyn o orchest gennym oedd dringo'r wal, ac eistedd yn ddiofal ami. Gwal go uchel oedd hi, a chul gyda hynny. Gwell fuasai inni eistedd hyd yn oed ar ein sodlau mewn man diogel. Ond oherwydd ein rhyfyg fe ddigwyddodd yr anffod gry- bwylledig i un ohonom Humpty Dumpty sat on a wall, Humpty Dumpty had a great fall.
ITRBM II. Ii I
TRBM II. i I Da a Drwg. I Ac, erbyn meddwl, ymddengys i ni fod tuedd bur gyffredinol yn yr oes hon i eil- fyddu Humpty Dumpty. Mae miloedd ar filoedd ar bobl yn hoffi byw ar ryw wal neu'i gilydd o hyd,—ar ffiniau tir gwaharddedig, y wal yn ami yn bur gul, ac mor fynych a pheidio-a dywedyd y llaiaf-fa gwympir i'r ochr arall iddi. Hoffant fyw ar y ffin rhwng da a drwg—petai'r fath beth yn bosibl. I fod yn fanwl, nid oes digon o wal i neb eistedd arni rhwng drwg a da. Ond na wthier y ddameg yn rhy bell. Mae'n wir ddarfod i rai godi gwaliau ffansi rhwng drwg a da, a chyfri'n bechod yr hyn nad ydoedd. Codwyd Uawer gwal fympwy rhwng y bydol a'r cysegredig. Cofiwn fel y bu'r diweddar Brifathro T. C. Edwards yn tynnu llawer gwal felly i'r llawr, ac yn hawlio i'w fyfyrwyr ymarfer a chwareon diniwed, A gwyddom mor groyw y con- demnia Syr Henry Jones yr unrhyw ffiniaul A chredaf fod pawb ohonom, bellach, yn cytuno'n weddol ar hynny. Ac eto, credwn fod y dynion mawr a da- hyn yn cydnabod y perigl, drwy ynfydrwydd, i droi'r hyn sy ddibechod ynddo'i hun yn achlysur niwed barnol drwy ei orweithio. HwynthWy, o bawb, a'n dysgant fed canolbwnc bywyd dyn yn foesol ac ysbrydol, ac y rhaid i'w holl amgylchedd fod mewn iawn berthynas a'r canol hwnnw, a than ei reolaeth. Ond yn ofni'r ydym fod miloedd ar filoedd o bobl heb ystyried hynny, ac yn gosod yr amgylchedd yn y canol, gan fwrw'r canol i ymylon pellaf y cylch. Nid yw cyweirnod cadarn union deb yn aeinio allan mor glir ag y dylai o fywyd y byd heddyw-hyd yn oed O fywyd llawer o broffeswyr y Bregeth ar y Mynydd. Problem fawr gan liaws yw, -Pa mor agos y gallant fynd at ddrwg heb fynd iddo ? Carant fyw ar y ffin. Yn wir, gellid tybio fod rhai yn meddwl y gallant gymryd gwib yn awr ac yn y man drosti, i'r tir gwaharddedig, a dychwelyd yn ol yn ddianaf,—fel hogyn yn meddwl ei fod o'r goreu pan allo bicio dros glawdd i berllan a llenwi ei logelli ag afalau,ondiddo fedru dianc yn ol heb ineb ei weld Yr ydym yn caru rhyddid, yn cashau gormes. Myn- nem i'n pobl ieuanc fwynhau pob braint a berthyn iddynt mewn bywyd. Ond fel y dymchwelir yr hen waJiau uchel a chaeth oedd am fywyd gynt, daw mwy a mwy o angen am ganfyddiad moesol craff ynom, modd y gallo pob un drosto'i hun ganfod y pethau sydd a gwahaniaeth rhyng- ddynt," a chystal a hynny ddethol yr hyn sydd oreu o'r pethau sydd gyfreithlon. Diau fod llawer o reolau disgyblaethol y Piwritaniaid gynt yn rhy lym. Er hynny, i fod yn gyfiawn tuag atynt, rhaid cofio lygrediced yr oes yr oeddynt yn byw ynddi, a'u bod yn ceisio cau pob adwy i ddiogelu crefydd ysbrydol. Mewn oes eithafol ei drwg, naturiol oedd i fesurau eithafol gael eu harfer i'w wrthwynebu. Ond wedi deall o ddynion eu hawl i ryddid, amhosibl eu cadw mewn caethiwed. Ymddiosgasom o hen arferion caethiwus y Piwritan. Ond y mae arnom eto angen ei ddyhead am sant- eiddrwydd, dyfnder ei argyhoeddiadau, a'i wroldeb oesol. Nid oedd yr arferion celyd ond y plisgyn allanol, ac mae enewyllun Piwritaniaeth fyth yn iach. Ofnwn, medd- wn eto, fod tuedd gref a chyffredinol y dydd- iau hyn i fyw'n y cyrion pell oddi wrth y canolbwnc ysbrydol. Pobl yn byw ar y ffm yw'r rhai a ofynnant beunydd, Pa ddrwg sy'n y peth ?" Eisteddant ar y wal, yr hon, i lawer, a dry'n "wal ddiadlam." Wrth edrych ar nifer y rhai a gwympodd yn archolledig a marw ar y tu gwahardd- edig iddo, teimlwn fod rhigwm yr Humpty Dumpty'n rhy ysgafn i'w ganu uwch eu pennau. Ond yma y mae—y great fall."
Advertising
:.i. | WeUiSRANTEEBW | PURE FOOD Ask for "KEENORA' SELF-RAISING FLOUK CUSTARD POWDER. BAKING POWDER, BLANC,MANGE, etc.. etc. Manufacturers- f, j & JOPVE:6, Umfte#* t$\f&Fgsoof* P¡;2tl!!J:h4Jtitrr. -.nlll Ito c- astle- oLn- F-vo- el.
I!TREM iiI. ,I
!TREM iiI. I Yfed ar y Wal. I Byw, yn wir, ar ben wal-yr ydwyt, Fol prydydd yn wadal Ond wyt ti, Dewi 'n dal,— Wyt ti eto'n Titotal ? Yn y blynyddoedd gynt codwyd gwal a elwid yn Gymedroldeb ar y ffin rhwng Sobrwydd a Meddwdod. Yr oedd hynny, ar y pryd, yn rhywbeth, petai'n ddim or d arwydd o aflonyddweh cydwybod yn wyneb y distryw a achosid gan anghymedroldeb. Daeth yn annioddefol i beidio a gwneuthur rhyw ymgais at welliant. Ond anodd, dros amser, fu symud ymhellach ymlaen na hynny. Ao fe deimlai dynion yn lied fodlon ar gael yfed "yn gymedrol." Beth bynnag, fe brofwyd yn bur eglur mai gormod o gamp i'r lliaws oedd cadw ar y ffin. Eis- teddent yn rhesi ar ben y wal i yfed, a'r canlyniad fyddai eu gweld yn cwympo drosodd, yr ochr draw, i ffos meddwdod— yn ddiarwybod iddynt hwy eu hunain. Gallent ddringo i fyny'n well na disgyn i lawr. Ac wrth syllu ar y miloedd clwyfedig a marw wedi cael eu codwm ar y tu gwahardd- edig i Gymedroldeb, argyhoeddwyd rhywrai nad oedd y wal honno'n ddigon uchel rhwng Sobrwydd a Meddwdod. Penderfynasant godi gwal uwch Llwyrymwrthodiad. Yn y fan hon y daeth Sobrwydd a Meddwdod i ysgariaeth hollol oddi wrth eu gilydd, ac yma y dechreuodd y frwydr rhyngddynt yn ei hangerdd. Ffyrnig iawn oedd hyd yn oed gymredolwyr yn erbyn y gwa- harddiad i eistedd ar y ffir,a chael eu gwydr iad cwrw. Os oedd dynion ereill yn ddigon dwl i bowlio dros y terfyn i'r ochr arall; arnynt hwy, meddid, yr oedd y bai, a cheb- ystro beth oedd atal dynion call i eistedd ar y wal i fwynhau eu dioden-yn gymedrol. Safent dros ryddid dyn, a'i hawl i fwynhau y mwyniannau a ddarparesid gan natur ar eu cyfer. Ymysg pethau diddorol eriP a edrydd y Parch. William Hobley, Waen- fawr, yn y Gymraes, ynglyn a hanes Dir west yng Nghaernarfon, sylwa ddarfod i'r Parchn. Dr. David Charles a Henry Rees ymweld a'r Dref. Dr. Charles oedd yn siarad ar y pryd, ac wele hen weinidog yn gwaeddi ar ei draws, Chware teg i drugareddau fy Nuw." Ac atebodd Mr. Rees yn chwap, Duw rhai yw eu bol." Erbyn heddyw, beth bynnag, ni faidd yr un "hen weinidog" godi lief felly dros ddiod feddwol. Mae'r goleuni ar ei drygioni, o bob cyfeiriad, yn rhy danbaid. A phan fo ffit o ddigalondid yn dyfod dros ddirwest- wyr, purion tonic yw cofio sut yr oedd pethau gynt. Meddylier am yr hanes rhwng y pen gloywddu oedd gan y digymar Plenydd, pan yn cychwyn ar ei yrfa ddisglair fel diwygiwr dirwestol, a'r pen gwyn anrhyd- eddus sy ganddo heddyw Yn sicr i chwi, mae yma ramant gogoneddus mewn cynnydd. Ond,ond mae'r trafaelio o Sobrwydd iFeddw- dod yn parhau ymlaen o hyd, ac fe fyn t6 ar ol t6 o bobl ieuanc ddringo'r hen wal, ac eistedd arni-i yfed yn gymedrol. Ond fe brawf y miloedd ar filoedd a orwedd ar draws ei gilydd, lawer yn feirw gorff ac enaid, ac ereill tan eu clwyfau a'u parlys, y stori druenus am y canlyniadau. Ac er pob ymdrech a wneir i geisio atal yr aflwydd, ni lwyddir yn agos i fel y dylid cyhyd ag y caniateir rhyddid i'r Fasnach sy'n codi ei 1. gwydreidiau hudolus i olwg dynion o'r t. arall i'r wal. Yr hyn y rhaid ei gael yw i'r Wladwriaeth, a braich ei chademid, ysgub- o'r Fasnach fall sy'n hudo cynifer o feibioa a merched i'w dinistr,—ei hysgubo o'r tir yn Hwyr, a'i gosod tan yr un reolaeth a J; gwenwynigion ereill. Mae i gymdeithas 7 ddigon o elynion, ac mae brwydr Purdeb a Sobrwydd er iachawdwriaeth ein cenedl yn ddigon caled, heb y gelyn a drwyddedir ac a gadarnheir i'w herbyn gan y Wladwr- iaeth a aiff drwy ddefosiwn o gydnabod Duw ac erchi ei fendith ar ei gweithrediadau. Cliried ymaith yr Hudoles a estyn y gwvdryn i olwg ein plant o'r tu arall i'r wal. Oes, mae yrna a great fall
."REM IV. i
"REM IV. i Dawns ar y Wal. Pa niwed sy mewn dawns ? Dim, ynddo'i hun. Mor naturiol yw i fachgen neu enetk ieuanc afieithus ddawnsio ag i'r oen ei branc ar y dd61. Mae'n ymarferiad corfforol iachus. Mae rhai o'r cymeriadau puraf a duwiolaf yn ei arfer ar adegau. Ond ni wahardd hynny inni ddywedyd yn groyw fod i'r ddawns ei pheryglon difrifol, yn ol fel yr arferir hi'n rhy fynych erbyn hyn. Ynglyn a difyrion a phleserau ao arferion yn gyffredinol, er iddynt fod yn gyfreith- lon, gellir ynjhawdd eu gorwneuthur hyd at niwed. Daw'r elfen ormesol i fewn iddynt, a pharant i ddynion aberthu dyletswydd a ~-l rheidiau pwysicach er eu mwyn. Mae rhyw wendid barnol ynom ynglyn & phethau fel hyn. T'rawant ni fel twymyn. Collwn bob syniad am gyfartalrwydd, ac aiff ein hewyllyg tan lywodraeth tuedd a nwyd. Yr ydym yn sgrifennu'r cyfan o'r safbwynt mai i ysbryd yw dyn, mai ysbrydol yw canolbwnc bywyd. Mae son am grefydd yn wagedd onid yw'n gofyn ysbryd i lefaru wrtho a'i feithrin. Ac ni ellir magu ysbryd, mwy na chorff, heb ei borthi a chynhaliaeth addas. Am hynny, os yw'r dawnsfeydd—ynglyn & phleserau ac arferion ereill yr ymroddir iddynt heddyw-yn peri i bobl esgeuluso myfyr y. brydol ac ordinhadau crefydd, ac yn dwyn ymaith chwaeth a bias at wirioneddau i mawrion bywyd, yna, wel,-beth a ddaw ohonom ? Clywsom o lawer cyfeiriad yn ddiweddar fod twymyn y ddawns 'yn ym- daenu dros yr holl wlad, a lliaws o'n pobl ieuanc yn dilyn dosbarthiadau i'w dysgu fel celfyddyd, Clywsom un yn amddiffyn y ddawns drwy gyfeirio at Dafydd. Ac fe wnaeth y gwr hwnnw fel hyn "A Dafydd J a ddawnsiodd a'i holl egni ger bron yr Arg- glwydd." Ond dyna ddawns mewn cylch diogel. A phe buasai pawb wedi eu medd- S iannu gan yr un ysbryd a chymhellion, ni warafunem weld ambell i lawr capel J yn cracio tipyn tan draed y dawnsyddionj Ond yn ol fel y mae pethau ar hyn o bryd, nid yw'n debig y gosodir costau arnom yn y ffordd honno Ond mae'r arferiad o ddawns- io'n dwyn i fewn yr elfen o gv^mni. Mae cwmni n weithredydd nerthol mewn cym. deithas, er da neu ddrwg. Perigl dirfawr i yw dewis yn gymar y dawnsiwr medrusaf, heb ofalu am y eymeriad. Brawvehasom wrth ddarllen sylwadau'r gohebvdd o'r London Clvb Window yn y Daily Post, am i ddydd Sadwrn diweddaf. G"yr y goheb. ydd hwnnw'n dda am gyflwr yr hyn a elwir yn Society. Sonia am dwymyn y ddawns sydd arni'n drwm. Nid yw'n condemnio'r • ddawns. Dywed nad yw'r drygau ynglyn a hi gymaint ag y dywed rhai eu bod. Ond eddyf ddigon i beri i'r ystyriol grynu gan ofn i Also it must be borne in mind that the modern girl has become very emancipated '?< through her war experience, and is as pleased to discuss sex-questions as she is to chatter about frocks. At the same time human nature never changes and is not a negligible quantity. The modem neglect of religion has led to very lax 'f views as to morality. The gospel of Omar Khayyâm is more popular than that of St. Luke. The moralist may sigh, but the chronicler records facts. Under the circumstances, it is merely amazing that ten times more "dancing scandals," do not occur than that a few do, and are '■ grossly exaggerated. « Er yr hyn oil a ddywed y gohebydd mews ffordd o amddiffyn y ddawns, mae un peth yn amlwg trwy'r cwbl—Fod y ddawnn Z fel yr arferir hi'n gyffredin heddyw'n llawn o beryglon. Yr hyn a ddisgrifir ganddo yw pobl ieuanc yn dawnsio ar ben y wal, a'i syndod yw na fAi llawer ychwaneg ohonynt yn cwympo i'r ochrt waharddedig