Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

[No title]

IColli Henry Jones.I

News
Cite
Share

Colli Henry Jones. I ER yn gwybod fod y Cynghorydd Henry Jones, Y.H., yn wael, daeth y diwedd yn sydyn ac annisgwyliadwy, gan beri loes lem i'w briod a'i blant, a gofid a chwithtod dwfn iawn ymysg y miloedd a'i hadwaenai yma ac yn y wlad. Bu farw ddydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, yn bedair ar bymtheg a deugain oed, a chieddid ym mynwent Anfield ddydd Sadwrn, Ue'r oedd tyrfa fawr wedi ymgynnull—tyrfa lawer mwy nag oedd o le iddi yng nghapel y fynwent, ac ynddi gynrychiolaeth o bob dosbarth o'r dinasyddion,-yr Arglwydd Faer, henad. uriaid, cynghorwyr, gweinidogion a blaen- oriaid, gwyr amlwg masnach a'r pleidiau gwleidyddol o bob lliw, ac o'i gydwladwvr o bob enwad. Llywyddid y gwasanaeth gan y Parch. O. L. Roberts cymerwyd rhan yn y cape] ganddo fo a'r Parchn. D. Adams, B.A., a W. A. Lewis, ac wrth y bedd gan y Parch. John Morris (Salford). Nid gwiw dechreu enwi'r galarwyr, gan eu lluosoced,—dim ond y weddw y ddau fab, Mri. Ernest H. Jones a H. A. Jones a'r ddwy ferch, Miss J. E. Jones a Miss E. K. JoneS. Yr oedd y cynhebrwng yn un o'r rhai lluosocaf a pharchusaf a welwyd yn y fyn- went, ac yn amlygiad o'r parch a'r anwyldeb digamsyniol a goleddid mor gyffredinol at y gwr anwyl a gleddid. Yr oedd Mr. Jones yn ddiacon yn eglwys y Tabernacl ers tair blynedd ar hugain yn wr tal, lluniaidd a golygus o gorff; yn ddihareb am barodrwydd ei gymwynas, ac am ei ffordd gynnes, gartrefol o ymwneud a phawb a ai ar ei ofyn. Gwasanaethodd fel aelod dewisedig o'r Cyngor Dinesig am flynyddoedd lawer, a hynny a'r ymroddiad a'r hawddgarweh a enillodd iddo barch a chydweithrediad dynion goreu pob plaid. Yr oedd yn wr llednais ac anrhydeddus ym mhob cyswllt, ac wedi cadw enw da i'r Cymry yn lleoedd amlwg y ddinas, yn wleid- yddol, enwadol ac arall. Nos Sul ddiweddaf, yn y Tabernacl, caed oedfa goffad amdano yn y drefn a ganlynCanu emyn, Arglwydd lesu, dysg i'm gerdded," ar y don Rhondda; darllen rhannau o'r Sgrythur gan y gwein- idog emyn Saesneg, Our God, our help in ages past," ar St. Ann; gweddi Gym- raeg; emyn Saesneg, Jerusalem the Golden," ar Ewing pregeth yn Saesneg y, Dead March ar yr organ, a'r dyrfa frith, o aelodau eglwysi eraill dau tu'r afon, ar ei mud-sefyll gweddi Gymraeg emyn, 0 Fryniau Caersalem," ar Crugybar; ac yna'r gyfeillach, Ue y caed gair gan ddau o'r blaenoriaid, Mri. Rd. Williams a W. E. Jones. Dyma rediad pregeth y Parch. 0. L. Roberts, seiliedig ar yr ymadrodd Yn barod i bob gweithred dda "—" ready with all good works"—o'r Llythyr at Tit-us Pan ddaeth ein hanwyl frawd yma, rhyw ddeugain mlynedd yn ol, o eglwys Salem, Caernarfon, daeth llythyr ar ei ol oddi wrth Dr. Herber Evans, yn galw sylw fod y llanc a gyflwynai ei docyn aelodaeth yn un a fyddai'n rhwym o ddringo i gylch uchel o ddefnyddioldeb a gwasanaeth, mewn *tyd ac eglwys ac aeth Mr. Roberts ymlaen i ddangos fel yr oedd y broffwydoliaeth wedi ei gwirio bob gair, ac yn y ddau gylch. 1. YroeddMr. Henry Jones "yn barod i bob gweithred dda am fod ganddo ddelfrydau uchel a dyrchafedig am werth bywyd Pan gyrhaeddodd y ddinas yma,—ymrodd a'i holl egni i gymhwyso'i hun, o ran addysg a diwylliant, a phopeth arall angenrheidiol, 1 sylweddoli'r delfrydau hynny a'u troi'n ffeithiau. 3, Carai lendid moesol a materol y ddinas, gwnaeth ei ran yn helaeth ac yn anrhydeddus i ddyrchafu a dedwyddu pob dosbarth o'r dinasyddion, gan ymladd yn y Cyngor ac allan ohono am Lerpwl lân; 4, Ac wrth gysegru ei alluoedd i wleidyddiaeth bur ac i ddinasyddiaeth ddyrchafol, nid anghofiodd ochr grefyddol ac ysbrydol bywyd, canys heblaw ei waith mawr yn y Tabernacl a thros ei enwad mewn llawer ffordd, gwasanaethodd ei gyd- genedl yn y ddinas, fel ysgrifennydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion, fel un o drefnwyr a hyrwyddwyr mwyaf dyfal a llafurus cyf- arfodydd Diwygiad Grefyddol 1904-5, etc. fel cyd-lafurydd dirwestol a'r diweddar annwyl Gwilym Dafydd. A'r cymhwyster goreu i fod yn barod i bob gweithred dda ydyw gwneud gweithredoedd da. A dyna wnaeth ein cyfaill cu, ar hyd ei oes. Cafodd le i hwn a gwaith i'r Hall; a chry- bwyllodd Mr. Roberts un enghraifft, o fysg ugeiuiau o rai tebyg Un o Gymry'r ddinas sy'n awr yn fyw, yn dod yma rhyw ugain mlynedd yn ol, heb adnabod nemor i neb ac er treio pob man, a fethai'n ltto a chael dim byd i'w wneud. Dywedwyd wrtho am dreio Mr. Henry Jones; ac er na wyddai Mr. Jones ddim byd amdano'n flaen- orol, ffwrdd ag o, o ganol ei fusnes a'i brys- urdeb gyda'r gwr ifanc o le i le, nes o'r diwedd gael gwaith a gorchwyl iddo ac y mae'r gwr, heddyw, yn llwyddiannus ac uchel di safle, ac yn priodoli'r cwbl i'r car- edigrwydd diragrith a'r dyfalwch disyfl a ddangosodd Mr. Henry Jones iddo yn y cyfwng hwnnw. Yr oedd y teulu'n bres- ennol yn yr oedfa, a datganodd Mr. Roberts, dan deimlad dwys, ei gydymdeimlad ef a'r holl eglwys a'r cylch a'r weddw a'r plant yn eu galar a'u hiraeth am briod a thad mor eithriadol o addfwyn. Wedi mynd i gylch ehangach o wasanaeth y mae ein cyfaill, ac wedi cael ei godi i fyny o gyrraedd pob llescedd a phoen. Mawr ydyw'n colled amdano, yn enwedig a ni newydd golli un arall o golofnau'r eglwys hon—y diweddar Mr. Wm. Jones, West Derby. Terfynwyd a gweddi am gysgod Duw dros y teulu a'r eglwys, a deimlent mor amddifad wrth golli un mor gu.

Clep y Clawdd.I

Advertising