Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
Tnt OLD pOST OFPICE JJjj LARGESJ SILECtlON -LOWEST PBICES TELEPHONE 3075 ROYAL.
HWB, CAM A NAID.
HWB, CAM A NAID. FFUNEN BOCED SAT AN.-Dyna yw Gwasg Felen Llund ain ac os y w'r feg yn rhy dyn ar safn Gwasg Germani, y mae'n llawer rhy lefc ar safn y glymblaid groch sy'n cael cyfarth pobl i fewn ac allan o swydd ac awdur- dod, fel y mynnont hwy. Dyma'r gwir a ddywedir uchod wedi ei gyfleu mewn hir-a- thoddaid gan y Prifardd o Lan Ffestiniog :-0 Sel y Daily Mayl (y diawl a'i malo !) I gyrrion gerwin geir yn ei gario A'i dwrw gwaedwyllt gwna' i rad ergydio Y Prif Weinidog fel pryf i neidio A'nharwr, drwy'i flinherio,-wnay cnaf Yn gwae hynotaf, neu gocyn hitio ELFYN. Ac ebe'r Proff, Miall Edwards yn Y Bqimiad diweddaf Gellid yn hawdd ddychmygu byd gwell (na hwn)—byd heb ryfel er enghraifft, heb ddigasedd ac anlladrwydd a meddw- si dod, ie, heb y Caiser ac heb y Daily Mail (0 baradwys fendigaid !)." + CEISIO TYLLU'R PARED.-Y mae gan y Parch. Thos. Hughes, ei olygydd, nodiadau diddorol iawn yn Eurgrawn Wesleaidd mis Mai am ei gyfarfyddiad a hwn ac arall yn y Gynhadledd Ddiwinyddol a fu yn Bradford fis Mawrth diweddaf dan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion y Deymas. Dyma un o sylwadau Dr. Garvie, wrth draethu ar The Theological Outlook in Times of War: Gyda golwg ar ddyfodol y rhai a syrth- iodd ar faes y gwaed methai ef a chanfod "ynyrYsgrythyrnacyn ffeithiau bywyd chwaith unrhyw sail i'r golygiad a goledd ii gan rai fod y rhai a fu farw heb unrhyw gyfnewidiad moesol yn eu hanes H blaenorol wedi eu hachub, am ddarfod iddynt aberthu eu bywyd er mantais eraill. Dysgeidiaeth gyson yr Efengyl ydyw mai trwy aberth Crist yr achubir dynion ac nid trwy hunan-aberth. Ond <! y mae'n bod yr hyn a alwai ef yn moral continuity rhwng bywyd dyn yn y pres- 45 ennol a'i fywyd yn y dyfodol, a chredai ef gyda golwg ar y rhai y cyfeiriai atynt, os buont farw mewn ysbryd hunanaberthol <c y byddai hynny'n fantais i'w tyfiant moesol mewn byd arall; ac os deallais ef yn iawn, tueddai i gredu y gallai'r eyfryw ddod hefyd i iachawdwriaeth yng Nghrist mewn sefyllfa ddyfodol." Ond ni waeth i Syr Oliver Lodge na Dr. Garvie heb geisio tyllu'r pared sydd rhyngom a'n hanwyliaid. Y mae o'n denau iawn, ydyw, ond o ddeunydd rhy ddurol i fwledi logic neb ohonoch ei ridyllu byth. Y mae tipyn o wyleidd -dra Agnosticaidd yn llawn mwy cref- yddol na'r gorgywreinio busneslyd yna i gyf- rmachau r Anfeidrol ac ewch a'r sylw hwn adref efo chwi, addywedodd un o Gymry call a gwyleiddiaf Lerpwl yma Yr wyf yn credu yn Nuw am ei fod 0 wedi cuddio Tragwyddoldeb mor odidog. Y mae 0 wedi ei sod o ry wsut fel yr wyf yn credu ei fod yna, ond mewn ffordd, yr un. "pryd, na fedra i byth rno'i brofi na chlebar yn bend ant amdano. Ni fedrai neb ond Dduw ei guddio fel y gwnaeth." Ao felly, dos di a finnau ymlaen gyda'n gwaith, nes y daw Angau i rwygo pared dy gorff, a dichon y gweli wedyn beth sydd tu ol i'r Lien y buost yn ysu mor hir eisiau gweld ytudrawiddi. + 1 DAWNSIO v. GORFOLEDDU.-Dyved y papurau fod Adran Gymreig y R.A.M.C., wedi gadael Llandrindod yr wythnos ddi- weddaf, ac iddynt gadw clobyn o gyngerdd a dawns nos Fercher, yn gyfarfod ffarwel. Pwy addawnsiodd, tybed ? Nid y Cymry, mi wn, ond y Sgotiaid a'r Gwyddelod, canys hwy a'u piau hi o ddigon ar y camp corfforol hwnnw; phan ddaeth trwp o Geltiaid coes- noeth yr Alban i'r Eisteddfod Genedlaethol un tro, a dawnsio'u Highland reels y buont nes oeddynt yn chwys diferol, chwysu fel arall yr oedd rhai o'r Cymry .Wylo yn swn canagor- foledduynswn pregeth y medrant hwyoreu ami. Ond y mae dawns a gorfoledd yn berth. ynasau agos yn y bon, canys sylwch ar yr adnod hon o'r Ail Samuel, vi, A phan gychwynnodd y rhai oedd yn se dwyn arch yr Arglwydd chwech o gamre, yna efe a offrymodd ychen a phasgedig- ion. A Dafydd a ddawnsiodd a'i holl egni gerbron yr Arglwydd a Dafydd oedd wadi ymwregysu ag ephod lian," T. Salesbury Jones, Crewe, dyna i chwi destyn llun diddorol CYMRAEG YN YR WYDDGRUG.- Gofynnai argraffydd yn yr Wyddgrug yr wythnos ddiweddaf am gael cadw un o'i weithwyr rhag gorfod mynd i'r Fyddin, am maiy fo oedd yrunig uno weddill ei weithwyr a fedrai gysodi Cymraeg, ac fod yr hen iaith yn rhan anhebcor o'i fusnes argraffu. Dim ond miso oediad aganiatawyd. Rhyfedd fod dim Cymraeg ar gael yn yr Wyddgrug pan gofiwch nad ywhi fawrfwy nahwb cam anaid 9 Gaer, ac fod y lath ddylif Seisnig ynysgubo drosti ers cyd o flynyddoedd. Rhaid fod yr hen iaith fel y dywedai Robert Davies Nantglyn, ei bod hi Lie i ddirnad nad oes lladd arni." Y mae yna lawer iawn o Saeson seimlyd Stafford a siroedd glofaol eraill yn gwladychu yno fwyfwy'r blynyddoedd hyn ond hen dref John Blackwell a Glan Alun a Daniel Owen a Roger Edwards ac Ambrose Lloyd yw hi i ni'r Cymry, wedi'r cwbl. Y MERCHED GLPISION. -Y mae'r Rhyfel yma'n graddol ddwyn rhyw Ewrop newydd iawn i'r amlwg, ac un o'r pethau newydd ydyw'r rhagolwg am weld y merched yn heddgeidwaid mor fotymog a gleision eu gwisg a'r meibion. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus mawr yn Manchester yr wythnos ddiweddaf i gymell awdurdodau heddgeid. wadol y ddinas honno i fabwysiadu'r peth a dyma rai o'r pethau y pwysid arnynt y gallai'r merched heddgeid wadol eu gwneuthur yn amgenach a gwedd eidd iach nag y'u gwneir gan y meibion :— Cadw trefn mewn parciau a lleoedd cy- hoeddus. Gwrando cwynion merched a phlant mewn achosion treisio ac ymosod ac yn y blaen. Edrych ar ol merched mewn, carcharau a gorsafoedd heddgeidwadol. Chwilenna ar hyd yr heolydd gwedi bo nos i arbed genethod rhag llwybr llithrig anniweird eb. Y mae llawer iawn i'w ddywedyd dros yr uchod, ac yr oedd yr Esgob Welldon, y Proff Weiss, a dynion cyfrifol iawn eraill yn cefn-" ogi'r syniad. GOLLWNG Y GWYNT 0'1 GORUN.- Ystyrrir amddiffyniad y Ffrancod o Verdun yn un o'r gorchestion milwrol gyda'r mwyaf dewr a medrus mewn hanes ond yn lle'i gyd- nabod a'i werthfawogi megis y dylynt, y mae rhai Saeson eiddigus yn taflu mai drwy help y Prydeiniaid a'u gynnau y galluogwyd i gadw'r gelyn draw. Mewn ynys y mae John Bull wedi cael ei eni a'i fagu y mae ef felly'n gul arhagfamllyd iawn, ac wedimynd i gredu ers cenedlaethau nad oes neb tebyg iddo ef, o holl genhedloedd y ddaear ond y mae rhyfel fawr y Cyfandir wedi gollwng llawer o'r conceit Jingo aidd o'i go run. Un o'r pethau salaf a mwyaf mean a feclr dyn ei wneuthur byth yw ceisio ysbeilio'i gyd -ddyn o'r hyn y mae arno ef wenwyn iddo sgleinio ynddo. MELYSAF Y CAN EOS. -Dywedirfod eos—y nightingale, mwyn dyn !-yn canu'r nosweithiau hyn mewn cwmwd snec tuallan i'r Drenewydd, sir Drefaldwyn, ac fod y bobl yn heidio i'w chlywed ar frys ac heb gau eu hesgidiau. Bu hi neu ynteu eos arall yn yr ardaly llynedd.—ym Mochdre, ychydig filltir- oedd o'r lie y mae eleni. Allearallhoffgan Eos ddod yno i ganu yw Coed Nant y Ffridd, wrth ymyl Bwlch Gwyn-un o'r ceunentydd tlysa'i goed o'r un yn y Cread, ebe Mr. Kirke, yswain y PI as sy'n byw yno, ac wedi gweld pob cwmwd arall oddiyma i Awstralia, a dewis hwn ohonynt i gyd yn fangre i fyw ynddo. Ond at yr Eos :—■ Mwynber, yn nyfnder y nos,-mal d wsmel Yn llys yr awel yw llais yr Eos, ebe tinrys ond eithaf peth i chwi a finnau gofio'r hen dd ihareb, (icloeth a llawn athron- iaeth a phur angenrheidiol ar rai ohonom :— Melysaf y can Eos, ond nid erchis Duw i'r fran dewi." A diolch yn fawr iddo Ef am hynny,-y mae'n gysur a chynhaliaeth mawr i rai distadl a di-lais y byd yma. Gwn mai peth ardderchog yw llais, a pheth iawn i dynnu pobl ato ar frys ac heb gau eu sgidiau ond nid yw'r Eos ddim yn dodwy fawr i neb yriarblaensy'ngwneud hynny, acynclwcian yn ddigon eras pan fo wedi gwneud ond y hi am wy os yr oes am Iais. Ie, mwyn yw llais, o ble bynnag y'i elywir,-ai o big aderyn fel yr eos, ai o big soprano fel Edith Wynne, ai o bigtenorfelEosMorlais, aiobigpregethwrfel y Parch. Hyfrydlais Ellis; ond yr ieir sy'n dodwy, serch hynny. Ond tro gwael fyddai cau'r nodyn am y r Eos heb godi'r bluen a roes Alun iddi yn yr olaf o'i dri phennill :— ( Er dichon fod ei chalon wan ,i Yn delwi dan y dulid, Ni chwyna i flino'i hannwyl rai,— Ei gwen a guddia'i gofia .Ni pheidia'i chan trwy ddunos faith, Nes gweled gobaith goleu Yn twynnu megis llygad aur Trwy bur amrantau'r bore. Ond ernachanodd yrunbardd bill erioed i mi, ac na sgrifennodd yr un gohebydd ansoddeir- iol lith foliannus arnaf i bapur na chylchgrawn ac nad oes neb yn heidio ganol nos i'm clywed yn canu, yr wyf yn eithaf bodlon os caf ddal i ddodwy tipyn er lies a chynhaliaeth moes achrefydd achenedlaethol- deb yr Hen Wlad Wen. Os yw'r Eos yn dda, ganol nos, panddylai pawb fod yn eu gwelyau sylwch mor guchiog y bydd pob un ohonoch os na fydd yr hen iar wedi dodwy wy i chwi erbyn eich brecwest. Ac wrth estyn eich gyddfau i wrando eosiaid y llwyfan yng nghyngjierddau'r byd, ac Eosiaid y pulpud yn Sasiynau'r wlad, peidiwch ag anghofio'r bobl dda a disyched-am-glod sy'n dodwy o'r golwg gartref. Goreu clwc clwc yr iar. Mor wir yr hen ddihareb arall; "Mwyn gan bob aderyn ei lais ei hun." MAB Y SAER ARALL. -YmaeWesle- aid Deheudir Affrica newydd ethol Cymro'n llywydd eu Cynhadledd yn y fro bell honno, sef y Parch. G. W. Rogers, Cape Town, mab i saer o'r Trallwng- Welshpool os gwell gen- nych—ac a ddechreuodd hela'i damaid wrth edrych ar ol stondin bapurau yng ngorsaf ffordd haearn y dref honno. Aeth tri brawd iddo hefyd i'r weinidogaeth a'i chwaer, fe briododd hithau bregethwr. Yroedd Rogers yn athro yn yr Ysgol Sul pan yn d air ar ddeg oed, yn dechreu pregethu tua'r pymthag yma, ac yn gaplan gyda'r Fyddin yn Folke- stone yn ddwy arhugain. Y mae wedi gweini- dogaethu ymhob tref o ddim pwys yn Neheu- barth Affrica, a dywedir fod ei ddawn bron mor d anbaid ac ysgubol a dawn Robert Rob- erts, Clynnog, a losgodd yn golsyn cyn bod yn ddeugain oed, ac a ddiolchai cyn marw, ei fod yn mynd i gael ei gylchu ag anfarwoldeb nes na chraciai byth mwy." -<" TWT /-Cododd Mr. Joynson Hicks yn Nhy'r Cyffredin ddydd lau diweddaf i ofyn i Ganghellor y Trysorlys os gwyddai fod Dr. Ethe, German a fyddai'n broffeswr yng Ngholeg Aberystwyth, wedi cael dyfamu pensiwn o gant a hanner o bunnau'r flwyddyn iddo'n ddiweddar, er gwaethaf gwrthdystiad Cyngor y dref honno a pha gwrs a gymerai rhag i ariany Llywodraeth gael eu gwario ar y fath beth. Atebodd Mr. McKenna nad oedd ganddo ddim gwybodaeth ar y pen, ond y chwiliaii fewn i'r pwnc.—^Yroedd Dr. Ethe yn y Brifysgol ers blynyddoedd lawer, ac wedi ennill ei bensiwn yn deg, rhyfel neu beidio a pha ddiben mynd a'i fripsyn pensiwn oddiamo ? Fe fydd rhyw Joynson Hicks yn ddigon ffol toe i godi a gofyn pahawl sydd gan yr un German i gael ei achub, ac mai tipyn o harbouring the enemy yw mynd a'r un Hun i'r Nefoedd. SMONE, TH." -Ebe'r Parch. R. R. Rob- ers, B.A., Ll.B., Caerdydd (Caer gynt) ar bregeth I am very sorry, brethren, that you cannot join with me, as some of my Welsh friends who are here could join, me, were I to start singing that hymn of rolling cadences that only we know on the mountains of Wales- (Wele'r pennill fel yr argraffwyd ef mewn papur Saesneg):— Bydd myrdd o dryfedd odau, Ar doriad boreu' wawr Parr ddo plant y tonau Yn dach o'r cystudd mawr. Ole yn eu gynnau gwynion Ac ar eu newydd wddd Yn debyg yn eu Harffwydd Ynn dod i'r lan or bedd. Yn dod i'r lan 6r bedd. Os gellirpeidio sut yny byd, nid daymostwng i arfer sethrair na slang wrth siarad na cys- gritennu onct prm toct yr un gair ond "smoneth yn cyfleu teimlad Cymro cref- yddol wrth weld y Wasg Seisnig yn gwneud y fath gybolfa warthus o emyn mor gu a chysegred ig gan y genedl i gyd. Y Philistiaid dienwaededig sy mor uchel eich brolheddyw eich bod yn taro dros genhedloedd bach, acyn parchu hawl Belgium a Serbia a Poland a Montenegro i dd al eu gafael yn eu hiaith eu hunain. Y mae'r Wasg Seisnig mor Brwsiaid a'r un, ac ol ei sgidiau hoelion ar yr emyn uchod, sydd wedi ei sathru nes ei wneud fel darn o Fflanders. Ffei! -0 WRTH FEDDWL AM GLADSTONE.- Ar ddydd lau y bu farw Wm. Ewart Glad- stone, ac y mae'n arfer gan y teulu ddod at ei gilydd i'r oedfa goffa amdano a gynhelir bob blwyddyn yn Eglwys Blwyf Penarddlag. Felly y deuwyd ddydd lau diweddaf; a digon hawdd gweld mawredd meddwl ac urdd as wyneb y Grand Old Man wed i ei rannu rhwng ei ddisgynyddion. Y mae'r graen Gladstonaidd yn hawdd ei adnabod, a'r boneddigeiddrwydd yn amlwg iawn yn rhai ohonynt—yr yswain presennol yn enwedig. Wrth ymweld y dydd o'r blaen a'r gwaith arfau mawr sydd yn y gymdogaeth, piciodd Mr. Lloyd George at fedd ei hen flaenor ym mynwent Penarddlag; a buasai'n ddiddorol cael gwybod pa beth a fwmiodd wrtho'i hun o dan y goeden laburnum sy'n ymledu mor felyn dros Iwch y gwr mawr. »• CYDNABOD OWEN OWEN. -Yroedd ei lu edmygwyr drwy'r wlad wedi cyfrannu pumcant a bunnau at dysteb i Mr. Owen Owen, M.A., prif Arolygydd Bwrdd Canol Cymru ers pedair blynedd ar bymtheg, ac sydd wedi ei gystuddio a'i gaethiwo oddiwrth ei waith ers cryn amser bellach. Cyfarfyddai y Bwrdd yn Llandrindod ddydd Gwener diweddaf, ac achubwyd y cyfle i gyflwyno anerchiad hardd iddo, a £140. Efe'n frodor o Laniestyn, Lleyn, a'i gartref o fewn hwb cam a naid i gartre'r Esgob Owen, Ty Ddewi. CAEL El BIG I FEWN.-Methodd Mr. Lloyd George, er ei gryfed ef fel dyn ac er cystal ei amcan, a chario Senedd Prydain gydag ef flwyddyn yn ol pan geisiodd ganddi basio i genedlaetholi'rJFasnach Feddwol,ac i'r Llywodraeth ei phrynnu a'i chymryd drosodd yn ei chrynswth o ddwylo'r Mri. Barus am Bunt sydd yn ei meddiannu ond y mae'r syniad, er gwaethaf ac hwyrach oherwydd y methiant hwnnw, wedi deffro dychymyg ac ennill serch a chalon amryw o arweinwyr dirwestol y wlad. Er enghraifft, yroedd Syr Thomas Whittaker yn pleidio'r peth mewn cyfarfod mawr cyhoeddus o wyr amlwg Ler- pwl, o bob plaid, yr wythnos ddiweddaf a'r Esgob Chavasse a Syr Thomas Hughes ac eraill yn dweyd Amen am ei gynllun ar ddi- wedd ei araith. Gwelwny bu Mr.Lloyd George a'i ysgrifennydd yn derbyn dirprwyaeth ddydd Gwener diweddaf oddiwrth y bragwyr Gwyddelig, sef gyd a golwg ar gau rhaio ddis- tylldai'r Ynys Werdd a'r troi'n weithfeydd arfau rhyfel. Un breifat oedd y seiat; ac ni wyddis beth a wnaed, dim ond mai Mr. Red- mond oedd blaenor y ddirprwyaeth. Hwyr- ach mai fel hyn y caiff Gweinidog Arfogaeth ei big i fewn yn ei ymgais gyson i ddatod y cwlwm hwn oddiar wddf y wlad.
Advertising
,Sir EVERY WOMAN SHOULD tend a lumps for our 32 page Illustrated Bo*l %u: d 2= =,,? :tg. ?dedewovw g all tg? &ritfu and SMppresMOM may be entirely avatded Cf McM?ed 07 simple me&DL Recommended by emiBentPhy?caat. M the only Safe, Sure and 6. a Bemedy. Never ?tit Thousands of TesdmniaJs. BstaMMMd 1862, Mr. PAUL BLAHCHARD me, LONMN
0 Lofft y Stabal.
0 Lofft y Stabal. VII MISTAR GOLYGYDD.- Waeth un gair mwy na chant, mae'r syniad ar led ma'r dosbarth gida'r isa o weithiwrs ydi'r rhai sy'n cysgu miawn llofftydd stabla, ac ma llawar iawn o'r farn ma nhw ydi'r dosbarth isa i gyd. Wyddoch chi beth, syr, ma'r hen dempar ma sy yna i'n codi fynu miawn munud wrth feddwl am y syniad yma, ac rydw i'n cael traffarth arwinoU ddofi o ond. mi ddaw i'w bwyll yn ara deg, ne fedra i ddim sgwennu fawr o sens, fel tasa. Wel, rwy'n meddwl fod y pwl drosodd unwaith eto. la, yn deud roeddwn i fod y syniad cyffredin am weision ffarmwrs yn un pur anffafriol. "Dim ond gwas ffarm," ebra nhw, ac mi allach feddwl ma'n brwsio gw6 pry copyn odd ar het sile y ma nhw! Mi fum i'n pondro mhen i geisio gneud allan y rheswm am y duadd yma i drychyd i lawr arnon ni. Wrth gwrs, rydw i'n barod i gyd- nabod y gall fod gwahaniaeth rhwng dyn a dyn miawn gallu a theilyngdod, ac 'roeddwn i'n cofio hynny wrth ddeud wrtlio chi o'r blaen fod y gwas yn ddyn, ac nad oedd y mistar ddim mwy na dyn. 'Doec arna i ddim eisio i neb feddwl fod gneud pregath a'i deud hi mor hawdd a gneud berfa olwyn a'i gyrru hi. Ddoth y syniad ddim i nghoryn i fod mor hawdd arwain byddin i frwydyr ag ydi hel gyrr o warthag i'r fuchas. Dydw i ddim yn ddigon o ben meipen i ddeud fod gosod pont bren droi yr afon fechan sy'n croesi'r ffarm yma'n dangos cimin o allu a gosod pont dros y Fenai, no fod ffleio ceit papur yn gyfartal i neud a llywio llonga'r awyr. A dydw i ddim yn dadlu y dyla'r tal fod yn gyfartal am bob gwaith. Y peth sy'n y mrifo i ydi fod rhw bobol yn drychyd i lawr arnon ni, weision ffermydd, fel dosbarth o ddynion. Ma'r dirmyg yma'n brathu calon pob gwas sy'n ymwybodol i fod o'n ddyn, ac yn peri iddo fo ddymuno am rhw gylch arall i ennill i fywoliaeth ynddo. Ac os llwydda dyn i gael rhw waith arall yn lie bod yn was ffarm, y syniad eyffred in ydi i fod o wedi cael promosiwn. A'r cwestiwn sy'n y mhyslo i hyd ydi hwn,-Pam y drychir i lawr arnon ni ? Y fath wahaniaeth a dybir sy rhwng y dd au greaduryma—" gwasffarm," a mab ffarm Yn y rhan fwyaf o lefydd y bum i'n gwas- anaethu yn foes, mi fydda mab ne feibion 0 rany gwaith awneid, 'doedd fawro wahan- iaeth rhyngyn nhw a ninna, ac nid anamal y bydd a'r gwas yn well gweithiwr na'r mab. Welis i'r un mab ffarm erioed na fasa'r hen gyfaill Jac Jos yn i yrru o i'r eysgod-yn i ddydd, wrth gwrs—am redig, Iladd gwair ac ^d, ne am neud tas a'i thoi. A deudweh chi mod i'n camol fy hun, os leiciwch chi, ond mi rasa n thadd gin 1 teddwl am un ffarmwr na mab iddo fo nghuro i ar y petha yna-yn anwedig am redig. Bachgian a adwaenir wrth i waith," medda'r Sgrythyr. Ond tasa chi 'n gosod y dam adnod yna i fyny ar ffarm, fel safon i farnu gwerth gwas a mab, tyt thala hi ddim byd. Ac ma'r un peth yn wir am y merchaid hefyd. Ma merchaid fferm- ydd yn bur gyffredin yn gneud yr un gwaith a mrynion, ac nid bob amsar cystal a'r mrynion chwaith. Ond y fath wahaniaeth sy rhyngyn nhw pan ddeudwch chi "forwyn" am un, a merch am y Ila]] Beth fasa pobol yn i feddwl tasa mab ffarm yn priodi morwyn, a merch ffarm yn priodi gwas ? Basa llawar yn meddwl fod deddfa'r greadigaeth wedi jercio allan o'i morteisia am dro. Rydw i'n addef fod eithriada hefyd. Ma rhai gwrag- add ffermydd wedi priodi gweision < ond hyd y gwelis i, y riwl efo'r rheini ydi-maY'priodi yr hwsmon y bydd gwraig ffarm, a hynny wedi i gwr cynta hi farw. A dydi hynnu ddim mor ryfadd, pan gysidrwch chi'r peth. Dyma ichi ddau reswm go dda yn un peth, mi fydd raid i'r wraig weddw a'i hwsmon gael llawar sgwrs a'i gilydd, a hynnu pan fydd neb ond y nhw'n bresennol. Ac ma amball i hwsmon yn fistar ar drin calon dynas yn gystal a thrin tir,—dim ond iddo fo gael i gyfla'n iawn. A pheth arall, syr, ma gwraig weddw'n amal iawn wedi colli rw hoen ifanc dwl ar garu, ac yn meddwl am fyw. Rwan, pan wel hi fod gynni hi hwsmon yn dallt i waith, ac yn teimlo dyddordab yni hitha hefyd, ma na le i wine go bethma rhwng y ddau, ac ma hi'n digwydd felly amball dro. Y fargan ora nath amball wraig weddw felly fu priodi'r hwsmon, ac ma hwsmon yn was ffarm, wyddoch. Peidiad neb a meddwl mod i yn naddu am gael gwraig weddw felly i I nghymyd i. Taswn i'n priodi o gwbwl, I rhwun tebig i Mari'r forwyn ma faswn i'n leicio ond dydw i ddim yn siwr am i barn hi ar y matar. Mi ddeudodd wrtha i'n ddi- weddar fod gynhi hi rhw hen lane arall, ond gan na welis i run 0 gwbwl ar i hoi hi hyd y fan ma, rydw i'n meddwl ma nyledswydd i ydi i chredu hi o chwith-fel y rhaid gneud yn amal ar y matar digri hwn. Ond mi ddylwn ddeud ymhellach; y gwn i am amryw hen lancia o ffarmwrs wedi priodi mrynion. Ac ma rhesyma amlwg am hynnu hefyd. Yn un peth, pan fo hen lane wedi dal yn atyfnig am gimino amsar, ac yngwrthod ildio i bob dyfais gin ferchaid ifanc i'w rwydo, mi aiff y merch- aid i feddwl o'r diwedd nad ydi o ddim yn gem, nad ydi o ddim am fusnas, ac mi ant heibio iddo fo efo rhw j6c, a'i adal iddo'i hun. A pheth arall hefyd, mi fydd yr hen bry, erbyn hyn, wedi cael profiad o fywyd, ac addfedu miawn barn. Mi fydd wedi dwad i weld prisia hetia merchaid, ac mor amal y byddan nhw'n newid i ffasiwn. Mi fydd wedi gneud allan gimin o gost roir ar rai ffarmwrs i wisgo'i gwragadd miawn dillad crand, giardia aur, a rhw ddurniada am i gyddfa a'i breichia, amynd a nhw i dangos yny capal, yny dre, ac miawn llefydd fel Trefriw a Llandrindod. Wel, yn sicir i chi, rydw i wedi gweld amball forwyn gall, ffeind, ffyddlon, ac yn arbennig d'i8taw, wedi llwyddo'n y pen draw—heb geisio hefyd, eofiwch-i dymblo amball hen lane o ffarmwr dros i ben a'i glustia i gariad, ac i briodi hefyd. Ac yn ol y welis i yn y nydd, wedi i hen lane, ag y bu pawb yn i roi o i fynd i anobaith,—wedi iddo fo briodi, dyna'r gwiriona a'r ffeindia wrth i wraig o bawb. Mi fydd yn i hannar addoli hi, ac mi geiff bob dim gynno fo. Dydw i cldim yn taflu staf f'hun yn fan ma chwaith, achos dydw i ddim wedi-Diaist i, dyna Mari'r forwyn yy galw arna i Lle'r oeddwn i deudweh, cin imi gael y nrysu ? 0, mi wn. Yn meddwl am betha "yn y cyffredinolrwydd ohonyn nhw"- chwadal Dafydd yr Hendra, pan yn gwerthu ttftws wrth y sach-yr oeddwn i wrth ddeud fod pobol yn syniad yn isal am danon ni, weision ffermydd. "Merch ffarm yn priodi gwas o lofft stabal Mab ffarm yn priodi morwyn o'r gegin a'r cytia moch Diar mi Mi allach feddwl fed un wedi i rhwvmo wrth bost llidiart, a'r Hall wedi i rwmo wrth goedan gelyn. Rydw i'n teimlo focl fy holl natur 1 n cynhyrfu, a bod mwy o ddyfndera yna i i gynhyrfu nag oeddwn i'n feddwl ac ma cwestiwn yn cael i daflu allan ohona i i wymad yr holl fyd, a dyma fo—PAM ? Yn wir i chi, ma'r hyrician ddwaetha na tu tu fiawn i mi wedi deud arna i, nes rydw i'n chwys dyferol, ac ma mhen i fel ffwrn. Wed.i'r ewbwl, ma calon dyn yn beth rhyfadd hefycl Mi glywis son am rhw fynydda tanllyd yn stwyrian ac yn bwrw allan 1 lafa ou ceudod. Mi allwn i feddwl fod rhw styrbans felly yn y natur inna heno. A'r achos o r cwbwl oedd imi deimlo dros urdd as gwas a morwyn. Os daru mi danio cimin, a hyn wrth feddwl am was a morwyn, beth raid fod y cynyrfiada yng nghlonna bygddigions pan fyddan nhw n meddwl am i hurddas Ond fedra i sgwennu fawr chwanag heno. Pwy fasa'n meddwl fod yn bosib i storom fel hon godi ynghalon hen lane unig fel ii, i ddim ond gofyn cwestiwn syml ? Beth bynnag am hynny, syr, ma arna i eisio i'r byd mawr apad y nghwestiwn i-PAM: ? -0 HEN WAS.
I Adolygiad.
Adolygiad. Esboniad ar Epistolau Paul at y Philipiaid a Philemon. Gan y Parch. T. Ifif ryn Hughes. Bangor: Cyhoeddedig yn y Llyfrfa gan P. Jones-Roberts. 1916. Wele Lawlyfr eto," ebe'r esboniwr hyfedr yng Nghyfres Esboniadau y Maes Llafur at wasanaeth Ysgolion Suly Wesleaid." Cymer hwn ei Ie ymhlith y goreuon o'r gyfres honno, neu unrhyw gyfres Gymreig arall o esboniad- au. Gwyr y cyfarwydd fod safon yr esbon. iadu a gylioeddir ar gyfer yr Ysgolion Sul Cymreig yn uchel. Onid yw'n rhy uchel i fwyaf rif mawr aelod au'r Ysgolion Sul ? Onid doeth afyddaidarpariddynthwy esboniadau mwy elfennol ? "Arncenais," ebe'r Parch. T. Istryn Hughes, at fod yn syml, eglur, a theg." A llwyddod d y n ei amcan gyd a golwg ar ddosbarth na eHir me'i anwybyddu. Ond y mae lie i ofni fod ei safon ef, fel eiddo eraill, yn rhy uchel i'r mwyafrif. Dywedir hvn, nid i gondemnio fodd yn y byd ei esboniad rhag- orol ef, ond i alw sylw difrifol at y pwnc, yn neilltuol yn wyneb yr argyfwng yr ydym ynddo. Os nad yw safon ein hesboniadau'n rhy uchel, fe all Cymru ymffrostio'ndftiragrith yn neall a gwybodaeth ei Hyeg-tlion Sul. Y mae Esboniad y Pare i. T. Isfryn Hughes yn rhagorol ymhob ystyr i'r neb a fyn e3boniad cyflawn, cywir a chlir. Dengys nid yn umg gydnabyddiaeth a'r feimiadaeth oreu a'r wWjodaeth ddiweddaraf ynglyn a'r Epistolau ft ymdrinir a hwynt, ond annibyn. iaeth meddwl, amedri fesur a phwyso barnau gwahanol. Y mae'r Rhagarweiniad i'r naill epistol a'rllallynbopeth a ellir ei dd isgwy I a'i ddymuno. Y mae'r Aralleiriad o'r Epia. tol yn llwyddo i wneuthur ei feddwl yn glir, ac ni fyddai o anfantais i'r Cymro uniaith gofio fod yr aralleiriad, fel rheol, yn gyfieith- iad hapus, yr hyn nad yw cyfieithiad llyth* rennol bob amser. Y mae'r eglurhad ar eiriau'n fanwl, ac ar frawddegau'n Hawn a goleu a'r feirniad aeth bob amser yn feistrol gar. Os yw profiad. personol yn safon, nid yn ami yr anghydwelir a'r esboniwr. Efallai fod gannodwedd yr Epistolau rhywbeth i'w wneu- thur a hyn ond onibai am ofal a medr yr esboniwr gwahaniaethid oddiwrtho'n amlach. Cad wyd if gan ei synnwyr cyffredin cryf rhag ei lyncu gan drobwll athrawiaeth yr Ym- waead. "Nid mewn iaith ddiwinyddol nac uwchanianol yr ysgrifennodd yr Apostol," ebe ef yn ddoeth, ac ni ddylid esbonio ei eiriau fel pe baent felly." Eto nid yw'n debyg y cydwel llawer ag ef yn ei ddehongliad or frawddeg ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch a Duw." Onid yw cyfieithiad Moffat yn hapus 1-" Though he was divine by nature, he did not snatch at equality with God, but emptied himself by taking the nature of a servant." Gyda'r eithriad hvn, os eithriad hefyd, y mae'r ymd riniaeth A'r ad-ran hon yn d angos yd iwinyd d a'rebboniwrllwydd. iannus, yn ogystal a'r athro ymarferol. Er y ceidw'r esboniwr rhag pregethu, ymeifl yn y gwirioneddauymarferol aorwedd yny testyn, a gwna'r defnydd goreu ohonynt. CynnwyH ei esboniad bopeth tuag atddeall a mwynhau y ddau Epistol caruaidd at y Philipiaid ft Philemon, a Ilongyfarchwn yr esboniwr am ei waith penigamp.—D.P.
Advertising
OF-vioic TRAINING CLASSES. SPECIAL Rapid Course for thoae who desire to become Shorthand TypiøtøiD one session. NO TIME WASTED BY OUR METHODS. SPECIAL DAY & EVENING CLASSES. Send for prospectus before arranging winter study. UREOO SCHOOL, 21 Harringttt Bt. (off Oastle-St). Phone 8080 Bank.. Rhifyi* y Gwanwyn Y BEIRNIAD CYLOHOEAWN CHWABTKBOL dan navdd Cjandeithasau CjinNig y CoUgM Cenedlaethoi » khan oljgiaakh J. MORRIS JONES. Cynnwys- Y RHYFEL A HOLLALLUOWGRWYDD DUW i Yr Athro D. Miall Edwards GWANWYN T. Gwynn Jones Y CHWYLDROAD CYMDEITHASOL YNG NGHYFNOD Y TUDURIAID R. T. Jenkins GORONWY OWEN Y Parch. T. Shankland Y LLAWLYFR MOLIANT NEWYDD Y Parch. D. Tecwyn Evans A ELLIR DISGYBLU'R MEDDWL ? Yr Athro William Phillips ADOLYGIADAU gan y Parch. Ddr. Maurice Jones, Ifor Williams, a'r Golygydd. Hugh sum a'i feibion, Argrftffwyt* 356,868 Stanlay Be-A Lerpwl