Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
J XeabingThouse for I I j?urnttm-?, ?ayp&ta I lIincns.C,bin6.mle:$6,1)romuongeryetc.  I tOT\SST FWNTSHINO Stores j ) <  t    VN,N, Stores | ?tot9,?ot& Street T?erpoo?  I Caabor Outof Income. SB JJ| 1\\1 \\1 ,I 1\ .Ù \lh\\h\t\l"H' ,c
Ein Ginedi ym Manceinion.
Ein Ginedi ym Manceinion. Cenhadon y Sul Nesal. Y METHOD1STIAID OALFINAIDD Moss SIDE-10.30 a 6.30 J Owen, Cricieth Pendleton—10.30 R E Jones, Oldham 6 R, Williams HEYWOOD ST—10.30 R Williams 6 E W Roberts VICTORIA PK—10.30 E Wyn Roberts 6 R Ernest Jones FARNWOETH—2-30 a 6 LEIGH—10.30 a 6, W AP.RINGTON-lO.30 a 6, J Peron Jones EABIESTOWN—10.45 a 5.30, ASHTON-UNDER-LYNE—10.45 a 6.30, EGLWYS UNDEBOL ECCLES-ll a 6.30, YR ANNIBYNWYR CHORLTON RD—10. 30 a 6.15. J M Edwards, Sarnau BOOTH ST—10.30 J Morris 6.15 M Llewellyn QUEEN'S ROAD—10.30 a 6.15 LD DUNCAN ST, 8AIFOBD-10.30 a 6.15 HOIUNWOOD—10.30 a 6.15 John M Williams. Saiford Y WESLEAID DEWI SANT—10.30 J S Williams, 6 Efrydydd floREB-10.30 H Roberts 6 John Felix SEION—10.30 J Felix 6 G Tibbott BEAULAH-2.30 D R Rogers 6.30, J Felix OALFAEJA—10.30, Efrydydd 6D R Rogers WEASTE-10,30 D R Rogers 6 Haiold Roberts Y BEDYDDWYR tjp. MEDLOOK ST.—10.30 Cyf Gweddi 6 J H Hughes LONGSIGHT—10.30| 6 30 Pregeth ROBIN'S LANE, SUTTON—10.30 a 5.30 CANLYNIAD Y LVITHIO.-Wele restr o enillwyr y gwobrwyon yn Arholiad Undeb Ysgolion Sul Manceinion a'r cyffiniau. Dos- barth I, dan 10 oed Arholiad ar lafar. Arholwr, Mr. O. R. Williams, Moss Side. Rhoddwyd gwobr i bob un a wnaeth ymdrech deilwng Idris Pugh, Tyldesley Rd. Emlyn Davies, Earlestown; Mary L. Williams, Gwyneth Williams, Edward Arthur Lewis, Farnworth Megan Price, Dorothy Griffiths, Warrington Hywel Wyn Roberts, Ellis Wyn, Roberts, Efa Lloyd Jones, Olwen Hughes, Gwendoline Lloyd., Moelgwyn Hughes, Ellis Davies, Heywood Street Owain Gwynedd Williams, Pendleton. Yr laith Gymraeg Arholwr, y Parch. G. Parry Williams, M.A., Wyddgrug. Dysgu allan Salm xlvi, a Marc vi, 32-44; Ysgrifennu traethawd byr yn Gymraeg dosbarth II, dan 13 1, Kitty Powell Davies, Heywood Street 2, Glyn Parry Jones, Warrington 3, Trefor Owen Jones, Moss Side rhoddwyd gwobr fach i 18 ereill. Dosbarth III, dan 16 yr un maes 1, Olwen Owen, Moss Side; 2, Blodwen Williams, Farnworth Idwal Parry Jones, Warrington. Ysgrythyrol arholwr, y Parch. G. Parry Williams dosbarth II, dan 13 Gwyrthiau Crist, yn ol Gwerslyfr y Cyfundeb 1, Kitty Powell Davies, Heywood Street, 95 o farciau o'r 100 2, Glyn Parry Jones, Warrington, 91; 3, Trefor Owen Jones, Moss Side, 90.; rhoddwyd gwobr fach i 25 ereill a enillodd hanner ymarciau. Dosbarth III, dan 16, yr un maes 1, A. Cemlyn Jones, Moss Side, 87; 2, Gwyneth Roberts, Hey- wood Street, 85; 3, Gwilym C. Roberts, Heywood Street, 83. Dosbarth IV, dan 21, yr un maes 1, Jennie Rowlands, Heywood Street 2, David T. Jones, Stockport 3, Gladys Owen, Bolton. Dosbarth V, draB 21, II Corinthiaid I-VII: 1. John Hughes, Warrington 2, Ellen Griffiths, Oldham 3, Polly Hughes, Oldham. AM CHORLTON ROAD.Lled ddi- weddar y daeth Adroddiad eglwys Chorlton Road i law. Er nad oes bugail i ofalu am y praidd, mae eu rhifedi wedi cynhyddu. Mae'r cyfraniad au yn rhagorol iawn, ychydig yn eithriadol ac er fod llawer o ieuenctid mewn oed ran tyner, gellir bron gyf rif y rhai sydd heb ysgwyddo rhan o faich ariannol yr achos gyda bysedd unllaw. Sieryd hyn lawer am sel ac aberth. Wrth roddi'r derbyniadau a'r draul yn y glori an, saif y ddeupen bron yn gydwastad. Ceir mestr faith o enwau y gwyr sydd yn y fyddin, dau wedi croesi i fyd arall, sef Griffith A Roberts, a fu farw o'i glwyfau yn y Dardanels, ac Arthur Evans, a fu farw trwy ddamwain. Hefyd mae Jenkins Daniel yn garcharor rhyfel yn Ruhleben. Wele dd au grybwylliad yn yr Adroddiad sydd yn werth eu caclw yn y cof dyfodiad Elfed i gynnal y Gymanfa, Mehefin 24 a 25; hefyd dethlir canmlwydd yr enwad ym Manceinion, Hydref 28 a 29. Y CAPTEN NEWYDD.—Penodwyd y Parch. E. Wyn Roberts, bugail eglwysi Hey- wood Street a Victoria Park, yn gaplan i'r fyddin. Rhyddhawyd ef o'iofalaetheglwysig tra pery y rhyfel. Gofala'n awr am fudd- iannau ysbrydol milwyr Heaton Park. Mab Hywel Tudur, Clynnog, yw'r Capten Wyn Roberts, a brawd Capten Idwal Roberts, caplan i adran o'r fyddin Gymreig, ac a aeth gyda hi i'r Dardanels. SGLEINIO MEWN OPERA.-Parhau i gael canmoliaeth am ganu y mae Mr. Powell Edwards yng nghwmni opera Syr Thos. Beecham. Hefyd, yn y Gaiety Theatre, mae'r O'Mara Opera Company, ac un o'r prif gantorion yno yw Miss Towena Thomas, merch Mr. Evan Thomas, Y.H., Widnes, a nith Mr. Hugh Jones, arch-lywydd y Ford Gron. Miss Thomas a gymerai y brif ran yn -ymera i y brif ran yn Tannhauser. COFIO'R CL WYFEDIG. Gwahoddir pob milwr Cymreig sydd ynysbytai achlafdai ochr dde y dref, i de prynhawn Sadwrn (Mai 27) yn ysgoldy Moss Side. Y trefniadau yn llaw y pwyllgor a gynrychiola eglwysi Cymreig y dosbarth. AR BEN Y RHESTR.—Llongyfarchwn y Parch. John Felix ar ei etholiad i fod yn llywydd Synod Wesleaidd Gogledd Cymru. Bu'n ysgrifennydd y Synod, am dymor maith, a gweinydda ami swydd bwysig yn y Cyfun- deb. Ystyr yr enw Felix yn y Lladin yw Hapus, a'n dymuniad yw iddo gael tymor hapus yn ei swydd newydd. -0-
I Basgodaid olp Wlad.
I Basgodaid olp Wlad. CAERDYDD.-Mai 11, bu farw Mr. Huw Owen, yn ei breswyl, 38 Cyncoed Road, yn 37 mlwydd oed. Ganed ef yn Lerpwl. Mab ydoedd i Mr. a Mrs. John Owen, Benllech, Sir Fon. Mae'r teulu'n adnabyddus i gylch eang a phwysig yn Lerpwl, a mannau ereill. Cyn ei ymneilltuad i F6n, bu Mr. John Owen yn bostfeistr yn Lerpwl, Gwrecsam, a Crewe, a gwasanaethodd eglwys Crist fel blaenor gyda'r M.C. yn yr holl leoedd hyn, fel y gwna yn awr ym Mhenllech. Tridt meddwl am y rhiaint hyn, ar eu hymneilltuad i dawelwch v fam-ynys, gan ddisgwyl orig dawel cyn nos- wylio ohonynt, eu bod ym marwolaeth Huw yn gweled yr olaf o'u plant yn eu rhagflaenu i'r tragwyddolfyd. Bum mlynedd yn ol, priododd ein diweddar gyfaill a Miss Katie A. Owen, Mittagong, New South Wales. Ei thad oedd Mr. John Owen, yn frodor o Fryn gwallen, Llangefni. Ymfudodd i Awstralia tua'r flwydd.yn 1859. Yr oedd yn adnabydd us drwy holl daleithiau Awstralia a New Zea- land. Mae'r holl reilffyrdd a gweithfeydd cyhoeddus a adeiladwyd dan ei gyfarwyddyd yn tystio i'r rhan flaenllaw a gymerodd yn natblygiad Awstralia. Bu farw tua phedairi blynedd yn ol, yn llawn anrhydedd. Brawd iddo oedd y d.iweddar Mr. Edward Owen, Breeze Hill, blaenor galluog a ffyddlon yn eglwys Stanley Road, Bootle. Ar eu priodas, symudasant i Gaerdydd. Yr oedd buddian- nau'r firm a wasanaethai fel goruchwyliwr, sef Sumner & Co., Chemists, Lerpwl, yn galw am hynny. Ganwyd iddynt fab bychan, John Russell, sydd yn awr ar fin pedair oed. Byr fu eu bywyd priodasol, ond hapus ry- feddol. Prudd meddwl, pan oedd dedwydd- wch yn ymagor o'u blaen, y dyfodol i bob golwg yn llawn o obeithion gwynion, eto Angau'n dod i dorri'r cysylltiadau anwylaf ar y ddaear hon. Byr fu ei gystudd, ond caled. Goddefodd y cwbl mawn amynedd gwylaidd, a brofai ei hyder yn ei Dduw. Yr oedd ein cyfaill wedi gwneud lie cynnes iddo ei hun yng nghalon cylch eang. Perthynai rhyw atyniad i'w fywyd-d awn i wneud cyfeillion, a'r hyn sydd anhawddach—eu cadw. Yr oedd yn drylwyr gyd a phopeth, yn gywir ei amcanion. Yr oedd iddo gyfuniad hapus o'r grasusau hynny sydd yn gwneud bywyd yn werthfawr a defnyddiol. Lluniwyd ef fel y gwnelid ef yn fend ith i ereill. Yroedd wediei wneud gan y Crochenydd Dwyfol yn llestr mor brydferth ag ydoedd o ddefnyddiol. Os oes fer a gafodd, yr oedd yn un llawn a chyf- oethog. Gellirdweyd amdano feI Cowper am I ei gyfaill Unwin, That he was desirable in this world, because he was so well prepared for a better." Cu iawn oeddit gennym ni." Claddwyd Y m mynwent Anfield, Lerpwl, Mai 13. Yn y ty, gwasanaethwyd gan y Parch. E. P. Jones, B.A., ei weinidog yn Anfield gan y Parchn. R. R. Parry, Rhuthyn, a John Owen, Anfield. Mae ein cydymdeimlad yn fawr a'i weddw a'i blentyn bach yn eu galar hi ymhell o'i gwlad, ac mewn pryder am ei brawd, a berthyn i'r fintai Awstralaidd yn Ffrainc hefyd a'i rieni yn eu hunigrwydd mawr. Diddanwch Duw fyddo eu rhan.- R.R.P. BETHESDA.-Cymanfaoedd Y.qolion Sul, Sadwrn, lai 13.-Cafwyd un dosbarth M.C. Bethesda yn Jerusalem. Canodd y plant yn swynol dan arweiniad Mri. John Williams, Pen y groes, a Wm. Owen, Llanllechid; a holwyd hwynt yn ddeheig gan yr Athro Wm. Owen, Carneddi. Gwobrwywyd nifer fawr yn y gwahanol arholiad au. Mae'r Gymanfa yma'n ddyledus iawn i'r ysgrifennydd, Mr. J. O. Roberts, Penrhyn House, sydd wrthi ers llawer blwyddyn.-Cyfeiriodd y Parch. H. Jones-Davies yng nghyfarfod yr hwyr ei fod wedi cael y newydd am farw un o blant y Gymanfa yn un o ysbytai Frainc, sef Rd. Jones, Pen y groes, wedi rhoddi ei fywyd dros ei wlad yn ugain oed, nes yr oedd rhyw don o alar i'w deimlo trwy'r capel eang. Dydd Sadwrn, Mai 20, cafwyd Cymanfa'r Annibyn- wyr, dosbarth Bangor a Bethesda, ym Meth- esda; Cafwyd tywydd dymunol dros ben y plant yn eu gynnau gwynion, yn edrych yn dda, ac yn canu fel pe'n cystadlu a chor y wig gerllaw'r capel, dan arweiniad Mr. Griffith Parry, Gerlan. Dyma'r tro cyntaf iddo arwain Cymanfa, ac aeth trwy ei waith yn dda. Cafwyd canu da ynyrhwyr. Ymaeto I gwobrwywyd y plant, a holwyd hwy gan yr Athro John Parry, B.A., Ysgol y Sir. Hefyd daeth John Parry i lenwi y bwlch o ysgrif- ennydd ar ymadawiad R. T. Roberts o'r ardal, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. Jacob Parry, Pen y bryn. Gwnaeth y ddau eu gwaith i fodlonrwydd pawb. Cafodd amryw o'r plant dystysgrifau y Tonic Solffa. Y goreu am gyfansodcli ton i blant oedd Mr. Wm Jones, A.T.S., Bangor am gyfansoddi penill- ion cyfaddas i blant, Mr. Hugh T. Jones, Bangor, yn oreu. Y ddau yn gwneud yr un pefch vny Gymanfa ddiweddaf.—O faes y frwydr etc daw yn tnes yma o hyd Elias Pritchard, o Dregarth, wedi ei ladd, ya ddyn ieuanc hawddgar, yn ddeg ar hugain oed, gan adael gwraig a phlant ar ol, a'r rhai y mae cydymdeimlad yr ardal. William Owen, Lockup Street (Ty Coch), wedi dod gartref o'r frwydr, ond druan ohono, wed.i colli ei olwg, na byth i weled ei briod na'i blant tlysion ond yn rhyfedd iawn, mae'n galonnog ryfeddol dan ei loes droni.-Min Ogwen. O'R HEN SIR, SEF SIR FON.—Dydd Sadwrn diwed.daf, cerddodd dychryn drwy ardal dawel Llanfaethlu, pan wybuwyd i John Elias, mab Mr. John Elias, Tyddyn Bach, ddod i'w ddiwedd mor drist a galarus A'i dad druan y cyntaf un i'w weled yn gor- wedd yn farw o flaen drws y ty. Yn ei ymyl caed dryll, ac ergyd wedi mynd i fewn i'w glust dde, ac allan drwy'i glust arall. Erys eiddiwedd yndywyllwch, Ai d amwain fu, ynteu gwneud amdano'i hun a wnaeth, nid oes a ^yr..Cwlwm tyn a chariadus fu cydrhwng yParch. R. P. Williams ag Eglwys yr Hen Tabernacl, Caergybi, ac am y cyfnod hir o dros chwarter canrif ond bellach i gael ei ddatod. A dyna waith prudd o'r ddeutu. Rhoes Mr. Williams rybudd o ymddiswyddiad i'w eglwys y Saboth o'r blaen, a hynny i ddi- gwydd ymen y flwyddyn. A da i gwlwm a barhaodd am gyfnod morhirgael eiddatod yn araf. Adnabyddir gweinidog y TabernacI fel cedrwyddenlathraidd acefe, o holl weini- dogion y Sir, sydd a'i ben uchaf yn y nefoedd. Y grymusaf ei barabl, ac yn bregethwr sy'n dywysog ymysg tywysogion. Bellach wedi bod tros ddeugain mlynedd yn y weinidog- aeth, ernad ydyw eto'nhen, erys ei feddwl a'i lais gryfed ag erioed. Yn anedig o Fon, a'i babell gyntaf oedd y Waenfawr, ger Caernar- fon, a'i ail oedd yr ardal gymdogol-Eben ezer. Boed iddo nawnddydd tyner a heulog. Dowch yma dyma'r cais unfryd. a, thaer a ddisgynnodd ar glyw'r Parch. J. B. Hughes, gweinidog pare hug y Bedyddwyryn y Belan, o eglwys hybarchLlannerchy medd. Ad eallwn iddo yntau ateb "deuaf." Dyma rywbeth amheuthun, ac yn newyddbeth ers tro rhoi galwad i gymydog o fugail. Nid cyrchu dwfr o bellafoedd gwlad, a digon o ddwfr grisialaidd o ffynnon gerllaw. Efe'n ysgrifennydd y Cwrdd Chwarter, ac yn wryr edrychir i fyny ato.Bu pedwar o blant ardal Capel Mawr mor ddiwyd. a'r weny nen yn casglu wyau i galonogi a maethu ein milwyr; a chydrhyngddynt dygwyd cynifer a saith gant a naw ar hugain i fasged Mr. S. Thomas, y Shop a dyna wyneb llawen oedd ganddo wrth eu derbyn. Bend ith ar yr wyau, ac ar y plant mwyn a'u casglodd. -Bu'r henaf- wraig gant oed Mrs. Siddon, Newry Fawr, Caergybi, farw y dydd o'r blaen, a hi yn gwybod beth oedd byw dan hanner dwsin o bennau coronog Prydain Siory Trydydd a'r Pedwerydd, William y Pedwerydd, Victoria, lorwerth y Seithfed, a Sior y Pumed. Ac erbyn hyn dyna hithau, fel hwythau fawr- eddog, a'i phen llwyd yn ddigon isel yn y bedd oer. Beidd.gar, a hyllig ei weithred, oedd y Jordan hwnnw o Belfast, a weithiodd ei ffordd i Eglwys y Pabyddion yng Nghaer- gybi, ac a dorrodd flychau'r offrwm, gan bocedu eu cynnwys mor ddiseremoni. Ond mor iasoer i'w deimlad y disgynnodd llaw ddi-ollwng gwas y gyfraith ar ei ysgwydd ac mor llipa ei wep pan yn cael ei anfon i fyw ar fara cystudd am dri mis.——Nos Fercher ddiweddaf, bu cwrdd hwyliog i gyflwyno rhodd. deg, sef oriawr aur, i'r Parch. W. P. Thomas (B.), Cemaes, ar ei waith yn gwrthod yr alwad gref a dderbyniodd o un o eglwysi cyfrifol y De. Efe'n weinidog ieuanc ag ynddo addewid y gwanwyn am haf ffrwyth- lawn, ac yn wahoddedig i wasanaethu am Saboth yn eglwys Castle Street, Llundain. Gwr sydd a'i wyneb tua'r wawr Yw ef, a'i glod trwy'r Sir Mae Mr. Thomas heddyw'n fawr Ac aiff yn fwy yn wir Hoff gennad ieuanc—dyma ni Mor llawen wedi cwrdd I estyn rhodd fel hon i chwi Am beidio mynd i ffwrdd.- -Llygad Agored. COFGOLOFN T PARCH. 0. G. OWEN (ALAFON).—Mr. John Evans, Denman drive, Ler- pwl, io/6; Dr. Lloyd Williams, Y.H., Llanrwst io/ Mri. Rd. Williams & Sons, Lerpwl, io/ Miss K. Roberts, Maes y groes, Bangor, 5/ Mr, W. Gwenlyn Evans, Caernarfon, 5 /6 y Parch. R. Pryse Ellis, Beddgelert, 5 Miss Nell Williams, Tyddyn perthi, Porthdinorwig, 2.6; Miss Roberts, 7 Deiniol Road, Ebenezer, 2/6; Mr. J. D. Jones, Salem, Betws garmon, 2/6; Mrs. J. O. Jones, Ynysfa, Caernarfon, 2/6. Diweddarach: Mr. E. Jones, Y.H., Maesmawr, Caersws, £ 2/2/ Mrs. Roberts, Maesgroes, Bangor, 10/6; Mr. R. Roger Williams, Isander, Caernarfon, 10/6; Parch. W Thomas, Llanrwst, 10/- Anhysbys, 5 j-; Mr. R. Morris, B.A., Ysgol Sir, Bryn'refail, 5 Mrs. Ellis, Bronant, Bontnewydd, 5 Mr. R. Gwyneddon Davies, B.A., Caernarfon, $ Mr. D. Jones, Bank, Conwy, $ Mr. H. A. Hughes, Dolafon, Llanberis 5/ Parch. W. Williams, Talsarn, 5/ Parch Isaac J. Jones, Penisa'rwaen, 2 /6 Mr. R. O. Jones Waunfawr, 2/6. Derbynnir cyfraniadau gan O. J Jones, Minffordd, Penisa'rwaen, Caernarfon; Thos, Hughes, Y.H., Sunnyside, Caernarfon; R. O. Will- iams, Ysgoldy, Cwmyglo, Caernarfon.
Advertising
MITCHELL BROS, Marsh Lane, Bootee. English Manufactured MAPLE BLOCK FLOORING. All Sizes kept in Stock. Largest Stock in the Kingdom Phone 639. Bootle. Tel. Ad. "Peremptory," Liverpoo • r P. Lloyd Jones I FUNERAL DIRECTOR, 1164 Stonley Road, L'pooi. TELEPHONE—263 ROOTLE.  -I TELEPEONE-S75 ANFIELD. 'I ?Y ? T. JONES, Funeral Undgrtcker, EVERTON 40 Aubrey Street, and 55 Brecfc Roa LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all parts* Telephones—Anfield. S09 and 290. 155 KENSINGTON J LIVERPOOL. R. W. EVANS, Funeral and Wedding "Directors All orders personally attended to through- out at moderate charges. Higheuft testimonials can be seen. Removals to and from Wales. BARGAINS.-Underwoods, Remingtons, Yosts, Smith, Premier, Barlocks, Em- pires, Oliver, Blieks, Royal Standard, from £ 2 new condition, See the REX jE23 worth for 12 guineas. -LoNGmoRz, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Carona Portable Typewriters. -m_ COOKS T0WNSHEND Special Value this week. Boys' Oilskin Coats, 8/6 to 12/6 Boys' Sylkoyly Coats. 14/6 to 21/6 Splendid Selection of Boys' Sports Suits, Rugby Suits. 12/6 to 15/6 15/6 to 21/6 Boys' Covert Coats, 12/6 to 21/- Gentlemen's Business Suits to measure, 50/ 55/- and 63/- Byrom St. & Dale St., LIVERPOOL. QA PIANOS FOR SALE.-WHY Pay ?? exorbitant prices for Pianos when ButterfHds have for Disposal 20 Genuin Second-hand Instruments, all by noted Lon- don makers, at less than half the original cost; prices to suit everybody from £ 1 /7 to £ 26/10/ Don't be misled by Budget in- creases. Call now aid secure a bargain. We have a Rosewood, by Waddington, only £ 9/17 /6 a Walnut high-class instrument' by Rogers, London, only £ 14/14/ a gen- uine Mottled WalnutPiano, by Allison's, only £15/15/- a genuine Walnut instrument, good tone, £8/17 /6 17 other genuine Second-hand Instruments. On show all day. Hours 9 a.m. to 9 p.m. All Pianos delivered free. Butterfield's, 73 and 73A Preeoot-et., Liverpool (Tel. 3913 Royal). ALAWON GWERIN MON." Wedi eu casglu a'u trefnu ar gyfer y berdoneg gan GRACE GWYNEDDON DAVIES- Gyda geiriau Saesneg gan ROBERT BRYAN. Folk-Songs from Anglesey." Old Notation and Solffa. Price 1 Y mae'r trefniadau yn haeddu canmoliaeth neillduol, gan eu bod yn ddigon syml ac ar yr un pryd yn wreiddiol a diddorol.Dr. J, Lloyd Williams, yn y Beirniad. THE WELSH PUBLISHING CO* LTD, CARNARVON. For Bedsteads and Bedding W. WHITTLE SON & SlOTT LTD., I 6, 18 0 120 WHITECHAPEL, LIVD RPOOL. a pi a Telephone 2137 Royal. Telephone B8p111"7 Irtahlfflhcd 18tf ROBERT ROBERTS ESTATE AGKNT, ■ dS Netherfield Road Souffc Has Property to list la various parts at owm. Mortage* urrmmged. Vaiaaftlloaa made 205 Established 1884. "Phone 1140 fiootta I 547 WOOSNAM ROBERTS, F.A.I., Estate Agent, Bootle Estate Office, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY ROAD, BOOTLB (2 doors from Bedford Road) Telegrams 11 WoosNAm. BOOTLIL4 Telephoaa No. 7909. J. LEWIS JONES, BSTATL AGBNr Sb TALUBR, 60 Victoria St., Liverpool. Propsrtlee carefully managed. Keats pgg* sonally collected. Porohases and Saiea m- gatSatod. Mortgagjea arranged and lamuramse, ejected. THOMAS JONES, NSTATE AGBNT8 VALUERS. suvsistmmmt SWILDIINGS, 61 Eord Street, Liverpool. Toleghous No. —5E888 Bank. Properties Bought and Sold. Mortgaga# mranged. Valuations made. Rente oolEeotadf Taa. 26 7 Amsss. MovABrxsxiwx) 1879, Stephen Roberts & SOl, EST ATS AGIINTM & VALUBM. 137 Overtoil Road, Liverpool Properties oarefallj mansfed. Renta pw tonally Collected. Purchases and Bign upgotiated. MorilltCet arranged and bo. anrancea affected. Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool ffsai Basts MM, 0. JONES WILLIAMS, F.III. IBTATB AGENT & VALUER, 17 Boundary Place, Moss St. Eiverpool. Eat. 1885. b Telephone I 567 Royal XalaphdM 8586 Ba nk JONES ^THUGHES, EST ASM OFFICE, 13 Whitechapels Llyerpoot FREEHOLD LAND FOR 3ALB. Advances Made. R. E. HUGHEb, Estate Agent,"iuSwrveyor C4 Valuer. Charing Cross, BirtefifiecsC Telephone So.-—56 B'iie&d. H&a Hoosea to Let and for Bale in various parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposss. Advances made to of the ToBwan "lding laid out. Rents 'coIleated,md Property oarefnlly managed. LADIES BLANCH4RD PILLS Are oartvalled for an Irregularities, &s., they spndlll ftfloid rettal and ami fall to aJUvIatf aI! sufiectess, They mptfMda P?aeytoy? FH OochU, Bitter Ap%?go They sup*rvo p?,ge tle b ? t of aU pm for Womea," sold in boxca, 1111, by Boors' B.hu, DATIOB** BranahM, and aU Oisemlits, or post free, nanM pries, SMas LBSLlE "f4QTVTi, Lt.. Chemists.34 Devotee Lane Leadea Boo-tle A. uc-tion lioomai 76 & 78 STANLEY RD., BOOTLB, W. H. Butterfield 6 Co. holds Weekly Sale at their Rooms every Friday Evening, 7 p.m. Furniture and Stocks of every kind houghta for prompt eash. Telephone 1299 Bootle. ANWrD, PESWCH, INFLUENZA-Mae y rhain gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae'r hen feddyginiaeth DAVIES'S COUGH MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerth- fawrcgi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cynhesu y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. I s. I d. a zs. 94 (postage, 3<F.)-HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth MOLRAT.—At Ladd Tyrchod. Ysgrifenna John Pryse, Maee y me.rch j Blinid ni acw gan dyrchod cynhyddent bob blwyddyn, fel yr oedd y tir a golwg ddifrifol arno, ac yr oedd amaf gywiiydd ohono ond clywais fod Mr. Hugh Davies, Chemist, Machynlleth, wedi dyfeisio peth i'w lIadd yn ddidrafrerth iawn.-Ei enw ydyw 'Molrat,' mewn packets it. 6d. yr un. Prynnais backet, a rhoddais ef yn ol y cyfarwyddyd am ben pryfed genwair a rhoddais y rhai hynny yn llwybr y twrch. Ni chod dd y twrch mwy."