Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
DRINK DWYRYD TEA. I The Tea of Old Time flavour,
Advertising
USE KEENORA SELF-RAISING FLOUR F?UuK The ideal Flour for everykind of fancy Bread and Pastry Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros ltd. THE € CELEBRATED TAILORS I THE PREMIER LIVERPOOL FIRM — FOR —~ Good Class Tailoring, AT REASONABLE PRICES. ONLY ADDRESSES I London Rd. and Church St., I LIVERPOOL. I Closed on Wednesdays at I p.m. Open all day Saturdays. A yw'ch Llygaid yn eich blino? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwu ni gyda"n hoffer gwyddonol ddweyd wrthycli os oes amoch anen gwydrau; ac os feMy, ech cyaenwi a't rhai a barai fwyaf o lea i chwi. Galwch heddyw: ARCHER & SONS, Eyesight Specialists, 73 LORD STREET, I Sefydlwvd 1848. LIVERPOOL- Phone—3925 Bank. W. Mi & Sod, TAILORS, 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD,BOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootie. Mr. H. W. HELY. DANNEDD GOSOD Irynnutoh Dant, heb yr ias lei a o boen efo ffordd Lloegr a'r Amerig. PRISIAU CYMEDROL Y oyngor a'r telerau yn rhad ac am ddim Foneddigesau I welnl Tellr cludiad cwsmeriaid o'r wind 13 Norton Street, Liverpool (oongl London Road). Orian,-9 i 7. 'Phone, 1436 Royal. NOW READY, THE NEW WALES: Some aspeots of NATIONAL IDEALISM with a PLEA for Welsh Home Rule. By GWILYM O. GRIFFITH. INTRODUCTION BY EDWARD T. JOHN, Esq, M P. Price, 6d.; By Post, 7d. Published by HUGH EVANS 6 SONS, 356-8 Stanley Road. Liverpool ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, SODA WATER. POTASH WATER. SBLTSBR WATER. LBMONADa SKY OINCIER ALB. Sto., eto, IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL ROBERTS 0 EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 Klrlidale Rd., Liverpo oj Telephoae: 2193 Royal I
FL LAN Y TAFFFYS I
FL LAN Y TAFFFYS [GAN Y:GWYIJWBi W estwmster Nos Fawrth, 24 ii, 1914. Nog y Naw. CAFODD gwyr y Wasg "—a phobl ereill o ran hynny, gryn ddifyrrwch y bore yma gyda comedy a chwaraewyd gan gyfeillion (V) y Cadfridog Botha ar fwrdd yr Umgeni. Mae'n gofus gan ddarllenwyr Y BRYTHON i'r arwr Boeraidd drawsforio naw o gynrychiol- wyr y gweithwyr yny Transvaal oblegid eu hymwneud a'r strikes yn Johannesburg a lleoedd ereill. Cludwyd hwy ar hyd nos, ac yn groes i'r gyfraith, mcdde' nhw, i long a ehvir yr Umgeni, a gwrthodwyd rhyddid iddynt lanio nes cyrraedd tir Prydain. Gwyddid hanes y Hong, ac yr oedd disgwyl mawr ymhlith teulu Llafur yn y Brifddinas am yr "alltudion" oedd ar ei bwrdd. Aeth Mr. Arthur Henderson, ysgrifernydd Plaid Llafur yn y Senedd, a dirprwyaeth gyda ef, i lawr i Gravesend gyda'r cyfddydd i groesawu eu brodyr o'r tu draw i'r m6r. Ond yn awr fe ddechreuodd y digrifwch. Am rosymau anodd iawii eu doall datganodd Mr. Bain, arweinydd y nnw, eu penderfyniad i lynu wrth y Hong a gwrthod gianio. Beth ddigwyddasai pe daliasent at ou penderfyniad yr Andros wyr Ond ni ddarfu iddynt ddal ato. Cymerasant eu perswadio gan Mr. Hen- derson a Mr. Bowerman fod gwell lie iddynt yn Llundain nag ar fwrdd yr Umgeni, a bod yn Hawn mor hawdd mynd yn ol i Ddeheu- barth Affrica ar ryw long arall, os felly y pen- derfynir, ac os caniata General Botha a'r awdurdodau yn Cape Town. Cyraeddasant i Charing Cross oddeutu pump ar y gloch, ac y maent yn awr yn ddiogel o dan gronglwyd. Felly y darfu y digrifdod, ond y mae pwysig- rwydd y safle yn aros o hyd, a rhaid wynebu hwnnw cyn y bydd terfyn ar yr helynt. I Tro-Di-ras. O'r naill Senedd-dymor i'r llall, y mae Svr Herbert Roberts ar hyd y blynyddau yn ceisio cael gwrandawiad i'w Fesur Dirwestol i Gymru. Y mae ei ffyddlondeb i'r achos wedi mynd yn ddihareb, ac y mae'n resyn meddwl fod unrhyw aelod Cymreig i'w gael fuasai yn ei faglu pe medrai. Ond fe ddigwyddodd peth mor sal a hynny y prynh&wn hwn. Gofynnodd Syr Herbert yn ffurfiol am gan- iatad y Ty i ddwyn i mewn y Mesur Dirwestol. Fel rheol, fe ganiateir hynny as a matter of course, ond y tro hwn fe wrthwynebwyd y cynhygiad gan un o gyd-aelodau Syr Herbert Roberts, sef yr Anrhydeddus W. Ormsby Gore, cynrychiolydd Bwrdeisdrefi Dinbych. Tybed gen'i y diolcha hyd yn oed Geidwad- wyr ei gynrychiolaeth iddo am ei ymyraeth anghyfeillgar a pheth mor ffurfiol a chyflwyno Mesur i'r Ty am y waith gyntaf. Nid oes neb yn gwarafun i Mr. Ormsby Gore wrthwynebu Mesurau Dirwestol os teimla mai hynny yw ei ddyledswydd ond mae'r fath beth a moesau da i'w cael ymhlith gwrthwyneb- wyr, ac nid ydym yn credu i gynrychiolydd y Bwrdeisdrefi ei ddangos y tro hwn tuag at gynrychiolydd y Sir. Cariwyd y peth i ymraniad, a danghosodd Ty'r Cyiffredin eu barn trwy ganiatau cais Syr Herbert Roberts trwy fwyafrif sylweddol, 246 yn erbyn 96. Cymry Llundain a'r Ddrama. Mae'r ddrama Gymreig yn lledu cor- tynnau ei phreswylfa yn y Brifddinas. Nos Sadwrn ddiweddaf, perfformiwyd Beddau'r Proffwydi (Mr. W. J. Gruffydd) yn y Cripple- gate Institute. Aelodau o Undeb y Cym- deithasau Cymreig oedd y chwaraewyr, ac o dan nawdd yr Undeb y cynhelid y chware. Nid oes angpn i mi fyned dros stori'r ddre,ma -y mae hynny wedi cael ei wneud yn Y BRY- THON fwy na.g unwaith, ond gellir dweyd i ni gael psrfformiad tra rhagorol. Cymeriad anodd gwneud cyfiawnder cyson ag ef yw cymeriad Emrys, ac nid bai Mr. Luther Evans yn gyfangwbl ydoedd ei fod yn gwneud Emrys yn fwy o staqe villain nag o freu- ddwydiwr ac o "ddiwygiwr." I'n tyb ni, yr oedd y tyddynwr Rhobat William, gan Mr. J. Davies, yn llenwi'r darlun, ac yr oedd &weinidog Silo a'r blaenoriaid yn types digon .14 awdd eu hadnabod. Yr oedd y merched Miss Margaret Jenkins, Miss Morfudd Rees (merch y cadeirfardd Machretli), a Miss May Jones, yn dda dros ben, ac os oedd y Gymraeg weithiau yn swnio yn agosach i the bells of Bow nag i odre'r Wyddfa, yr oedd eu gafael ar yr hen iaith yn haeddu Ilawer iawn o gy- meradwyaeth. Rhoddodd llywydd yr Undeb -y Cadfridog Syr If or Herbert o Lanarth, ei gefnogaeth i'r perfformiad, ac edrychid ar ol y trofniadau gan yr ysgrifennydd, Mr. L. N. Vincent Evans, a'r trysorydd, Mr. Evan Evans, Hatton Garden. Ifor a'i Ddafydd. Nos Iau, er mor ddrycinog ydoedd, daeth mwy nag arfer o Gymrodorion at ei gilydd i Hanover Square i wrando Mr. Ifor Williams, o Goleg Bangor, yn traethu ei len ar Ddaf- ydd ab Gwilym a'r Clerwyr." Y mae ga.ir uche] iawn i Mr. Ifor Williams ymhlith dysg- edigion y Brifddinas, ac yr oedd yn ddy- wenydd mawr gennyf ddeall i'r cyfarfod Cymrodorol droi allan yn un diddan ac addysg- iadol. Pleser gennyf hefyd glywed fod y darlithydd yn y dyfodol agos yn bwriadu dwyn allan argraffiad newydd sbon o wir gywyddau Dafydd. Y wyf yn sicr y bydd croesaw eiddgar iddynt.
-v - -0"R DE.
 -v 0"R DE. [GAN ALBAN.3 YR ydym yn llawen o ddeall fod Mr. Wm. Davies, M.A., athro Cymraeg yn Ysgolion Caerdydd, wedi ei benodi yn is-arholydd y Bwrdd Canol Cymreig mewn Cymraeg ar gyfer arholiadau 1914. Brodor yw o Feirion, sef Minffordd, pentref sydd am y dwr a chartref Golygydd Y BRYTHON. Fe fydd darllenwyr Y Beirniad hwyrach yn fwy cyfar- wydd a'i enw £.1 awdur y gyfres ysgrifau peni- gamp ar Phylipiaid Ardudwy a ym- ddanghosodd dro yn ol. Y mae'n ddyledus arnaf groniclo perfform- iad o'r ddram2, Beddau'r Proffwydi, tan nawdd Undeb Cymdeithasau Cymraeg Caerdydd, a fu yn Neuadd Cory Chwefrol y lleg. Drdhlir Gvyyl Ddewi Pont. y cymer gan berfformiad o'r ddrama uchod. Derbyniodd Mr. John Hugh Edwards, Senpddwr, herr y Sosialydd Hartshorn i ddadl ag ef ar bwnc y Minimum TVage, Ni cha ca,thod dof y Bonciau draethu gair o'u hegwyddorion gwleidyddol, a da fyddai i'r un rheol weithredu er lies ambell vsgoifeistr neu feistres. Wele Ddowlais yn ferw rhwng Undeb Cenedlaethol yr Athrawon a'r Pab- yddion ynglyn a. mater Miss Kiernan, ysgol- feistres sydd prs amser mewn dirfawr berygl o goUi ei swydd am fod anghydfod rhyngddi a'i thad-enaid, y Canon Luca,n. Saif y ddwy blaid yn gyndyn dros ei ochr ei hun. Coges dda, ipchyd da," ebe'r Arglwyddes Ninian Stuart yng Nghyngres Athrawon De a Mynwy J:rr.g1ýn a. dypg y g giD a'r aelwyd, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd y Sadwrn cyn y diweddaf. Credai y dylid talu mwy o sylw i iawn fynegi i'r plant y gwerth o feithrin cysur y cartref. Un o bethau amlycaf ein cenedl ydyw'r arwyddion diogel fod Celf i gael cystal chware teg yng Nghymru yn y dyfodol ag a gafodd ein llrnyddiaeth yn y gorffennol. Fe ddylai pob Cymro dderbyn dau bapur newydd Cymraeg bob wythnos—sef un cenedlaethol ac un enwadol neu perthynol i'w grefydd, ac hefyd ofalu rhoddi cefnogaeth deilwng i'r cyfnodolion fel Cymru ac yn y blaen. Melys fyddai cael clywed gan Mr. O. M. Edwards fod cylchrediad Gymru yn cyn hyddu yn fwyfwy bob blwyddyn. Yn wir, pe dim ond am y darluniau sydd ynghadw tros byth ar ei dudalennau. Y mae ymdrechion Mr. T. Matthews., A!.A., yn enwedig, ac ereill sy'n ei gydgynorthwyo gyda r golygydd, yn deilwng o gynhaeafu yn fras ar chwecheiniog- au'r genedl benbwygilydd. Nid oedd Sais cymwys i'w gael i gymeryd arno faich llywodraethu'r Great Eastern Railway, felly o'r Amerig y daeth gwr dethol ArgJwydd Claud Hamilton. Dyna hi'n ffagl wyllt gyda'r Wasg Seisnig drwy'r ynys. Yng Nghymru, pan oedd prif swyddi cenedlaethol i'w caffael, dybygid, o ran eu gofyn, gwelodd y Cymry ddigon o sylwedd mewn Sais droion, a bu'r Wasg Gymreig a Chymdeithasau y Cymrcdorion yn ddigon bodlon. Dyma. sta-d Arglwydd newydd Tredegar yn swydd Brycheinicg yn mynd ar werth, ac yn lie bod yn gyfan o hyn allan, fe'i ceir yn sts,d,ii bach," ymypg arglwyddi bach y dyfodol—Cyrghorwyr y Sir. Y mae son yn Y Darian a'r Gweithiwr am Owili fel un tebyg o gael ei ethol yn olygydd Seren Oym.ru, yn ddilynydd i'r annwyl a'r di- weddar Ddoctor Williams. Y mae pwyllgor heddwasanaethj Merthyr am ychwanegu rhifedi heddweision y fwrdaxs. Mynnwch eich cyfle, chwi fechgyn eyhyrog mynyddoedd Cymru. Ewch rhagoch a chymerwch feddiant o'ch etifeddiaeth deg. Anrhegwyd y Parch. T. E. Nicholas, y Glais, gan ewyllys dda ei blwyfolion a phyrsaid o aur ar ei ymadawiad i fugeilio diadell o Annibynwyr yn Sir Aberteifi. Cafodd Cymrodorion Abert-awe ddantaith Gymroaidd, sef darlith ar Gjiiddelw gan y Parch. Idwal Jones, Llwynpia- (gynt o Ddolbenmaen a'r Drefach). Cadeiriwyd gan y Cynghorydd John Meredydd, Treforis. g Gres-ym gweled, Lluis Llafur—papur wvth- nosol gweithwyr Cwmtawe a gyhoeddir yn Ystalyfera-yn Saesneg bron o glawr i glawr. Sefydlwyd yr organ hwn yn 1898, a bu'r di- weddar Rees ei berchen yn un o'r Cymry mwyaf twymgalon yn y Cwm. Hoff gan dudalennau'r BRYTHON godi i sylw enwogion Cymreig hen a diweddar, ac nid oes un mwy diddorol na John L. Griffiths, prif Gwnsel yr Unol Daleithiau yn Llundam ers mis Awst, 1909. Cafodd ei draed yn sengi cysegredig dir ei hoff Gymru y Sadwrn cyn y diweddaf pan oedd yn brif westywr Siambr Fasnach Abertawe. Efe'n awdur amryw lyfrau, ac yn eu plith y ddwy gyfrol ar After-Dinner Speaking a Public Speaking. A danghosodd i deulu Glantawe enghraifft odidog o'r ddawn barablus sydd wastad braidd yn, nodweddiadol o wleddoedd cy- hoeddus. Rhoes bluen i fasnach y borthfa Nid hafan ddibwys mo honno a all, fel Abertawe, gyfrannu 7,000,000 tunell o fasnach at gyfanrif pwysau trafnidiaeth Prydain Fawr." Eiddunodd iddynt ffyn- iant materol ac ehangiad meddyliol ac ysbryd i gydfynd a'u llwyddiant, a dymunwyd i'r Cymro hir oes a llwyddiant byth-gynhyddol ynghanol cymeradwyaeth uchel deiliaid y wledd. Rhyfeloedd a son am ryfeloedd cr.rtrefol sydd yn y dyddiau hyn, ond da gennym. nad oes Ilawer o dywallt gwaed wedi digwydd hyd yn hyn. Ymledu yn gyflym y mae ymdrech y Gymraeg yn y Dehcudir, ac yr ydym mewn ffordd i gael sbri ardderchog ar draul cysgaduriaid y Gogledd. Dyma Aber- tawe wedi brwydr gyfaddef erchyll, yn orfol- eddus ei buddugoliaeth ymhlaid dysgu'r iaith Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol. Bu pwyllgor addysg y dref yn faes rhyfel byth. gofiadwy yr wythnos cyn y ddiweddaf; ac yn wir, yr oedd clywed ambell Sais yn bwrw yma-droddionselogdrosy Gymraeg yn gyn- horthwy rhagorol i bIeidwyr yr iaith. Cafodd y mudiad wrthwynebiad dygn gan ddau a ysteilir wrth yr enw Philistaidd Colwill a Phowleslands, ac nid a, menyg sidan yr ym- laddodd y ddau gyw hjm ychwaith. Cofied y darllenwyr eu bod ill dau yn bleidiol iawn i faner y Sosialydd, ac yn bendant yn erbyn ein hiaith a'n cenedl beth a feddylir am ffwl mor anwybodus a allasai herio nad oedd dim yn hen lenyddiaeth chwedlonol y Cymro, ac mai Arglwydd Tennyson ydoedd y dyn a wisgodd yr esgyrn sychion a mireinder a phrydferthweh. Nid rhyfedd i'r doniol Henadur Morgan Hopcyn weiddi'n gyf-Frous, Look here, George Colwill, do you know anything about Welsh Literature ? The idea of such a silly reniark Trist oerai a ddaeth gyda'r awel o'r maes cenhadol yn Agra, India, hyd at breswyl y Prifathro Wm. Edwards, B.A.,D.D., Caer- dydd, a'r newydd fod ei ferch, Miss Lillian Edwards, y genhades, ieuanc ac un ystlys iddi newydd ei pharlysu. Mor chwith yw'r troion mil teuluoedd y llawr Owen Glyn Dwr a'r Oes oedd testyn darlith yr Athro Ernest Hughes, o Goleg y Brifysgol, Caerdydd, a draddodwyd ganddo yn Rhymni. Yn wir, y mae ysbryd cenedlaethol yn cael ei wasgaru'n effeithiol dros ben yn y dyddiau hyn, ac y mae'r maes yn aeddfedu i'r cyn- haeaf yn y Deheudir yma. Dyma'r rheswm hwyrach ein bod fwy ar ddihun na'r Ilanciau uwch Conwy. Nos Fercher, daeth capelaid o gyfeillion y Parch. Thomas Hughes (A.), ynghyd i ddathlu'r unfed flwyddyn ar hugain o'i gys- ylltiad ag eglwys Minny Street, Caerdydd. Llywyddwyd gan Mr. John Thomas, blaenor hynaf yr eglwys, a'r boneddigion canlynol yn ei gynorthwyo H. M. Hughes, B.A. (Eben- szer), John Morris (Star Street), D. R. Jones, M.A. (Splott), D. Evans (gYllt o Heol Awst, Caerfyrddin), D. G. Rees (Wliitchurch), J. Idrisyn Jones, Charles Davies (B-, Taber- nacl), Wm. Davies, B.A. (Crwys Road, M.C.), Cara-doc Jones (Maindy, B.) a Mr. Eynon Lewis. Darllenwvd yr anerchiad gan yr 1. yr aii-erch in, d gan -s! r ysgrifennydd, Mr. Ben Davies, ac fe'i cvfhvyn- wyd i Mr. Hughes gan Mr. Thomas Tht rnas. Cafwyd tystiolaeth uchel i woithgaiwch Mr. Hughes, a'i ddylanwad dyrchafol ar fywyd a moes y ddinas. Bu'r un mor llwydd. iannus yn Llansantffraid, Trefaldwyn, yn