Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
USE IKEE 'SELF-RAISING FLOUR The ideal Flour for every kind of fancy Bread and Pastry Scones, &c., &c.
Advertising
DURING JANUARY ONLY. I 10th YEAR OF BEATY BROS LTn, Remarkable and Important Offer. Suits to Measure, Excellent Satisfaction Value. TUt? ?J? Assured, Worth Double. Good-class Materials and Beautifully made. ONLY ADDRESSES- CHURCH STREET & LONDON ROAD, LIVERPOOL. Note.-Order Department closed on Wednesdays 1 o'clock. (Open Saturdays). r A w'ch Llygaid yn eich bli no 7 Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd Uethdod y llygad, a dylech gael eu hedrycturhag blaen; eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gydaOn hofler gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a'i rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw: ARCHER & SONS, Eyesight Specialists, 73 LORD STREET, I Sefvdlwvd 1848. LIVERPOOL. Pbone-392S Bank. m PnfHthe ? CM W. Siiffii & SOD, TAILORS, 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AMO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootle.  Mr. H. W. "[LY. ¡ DANNEDD GOSOD Dant, heb yr ias leia o boen efo ffordd Lloegr a'r Amerig. PRISIAU CYMEDROL Y cyngor aOrtelerau ynrhad ac am ddim Foneddigesau i weinl Telir cludlad cwsmeriald o'r wlad 13 Norton Street, Liverpool (oongl London Road). SL- Orian,—9 i 7. ''¡(''is 'Phone, 1436 Royal. COOK & TOWNSHEND, are now shewing The Newest and Smartest Overcoatsf or Winter Wear. Warmth without Weight. PRICES 21/- 25/- 30/- and 35/- Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. iSK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SBLTZBR WATER. LaMON AB. B.XT OINOZR ALB. tte.,ete. IORIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL LLYFRAU AIL LLAW. LlyfrGweddi y Catholig, neu Ymarferion Bywyd Cristionogol yn ol athraw. iaethau gwir eglwys lesu Grist, Argraffedig yn Lerpwl yn 1837. Yohydig gopiau, 1/6, cas lledr. Hugh Evans d'Sonsi 358 Stanleyi Road,Liverpool. ROBERTS EDWARDS NSTATE", AGENTS, 64 Kirhdale Rdtõ, Liverpool Telephone: 2193 Royal,
ft LAN Y TAFWYI
ft LAN Y TAFWYI [GAN Y GWYLIWR Westminster, Nos Lun, 29 xii. 1913. Saib Heddwch. I DAW tangnefedd gwynfydedig, Ar adsnydd dydd Nadolig," meddai rhyw hen rigwm, a diau fod tuedd yn Y Gwyliau i leddfu teimladau anheddychol gwleidyddwyr ac ereill a garant ymrafaelio. Dywedir fod y Prif Weinidog a Mr. Bonar Law yn cynnal ymddiddanion "-y gair a arferir yn awr am geisio dod i gyd-ddealltwriaeth-ynghyleh y cwestiwn Gwyddelig. Pe bae arweinwyr politicaidd yn debyg i ddynion ereill, gallasem ddisgwyl i'r cyfryw ymddiddanion ddechreu cyn ac nid wedi i Syr Edward Carson a Mr. Law geisio rhoi'r eithin ar dan, ond y cwrs mwyaf anhebgor ac afresymol yw'r un a gymer gwleidyddwyr bron yn ddieithriad. Modd bynnag, gwell hwyr na hwyrach, ac os daw cyfaddawd yo hytrach nag ystorm, bydd pawb ar eu hennill. Yr wythnos ddiweddaf, bu Mr. Asquith yn treulio cryn amser gyda'i Fawrhydi'r Brenin-mwy o amser nag a roddir yn gyffredin i ymweliadau gweinidog a, theyrn-ae maVn sicr fod yr helynt Gwyddelig o dan ystyriaeth. Ffaith flaenaf y sefyllfa ar hyn o bryd ydyw fod y Weinydd- iaeth yn benderfynol o gario'r Mesurau sydd eisoes wedi eu pasio yn Nhy'r Cyffredin, ac wedi eu gwrthod yn Nhy'r Arglwyddi. Nid oes dim yn yr etholiadau diweddar, nac ym mam y wlad, yn cefnogi.galwad yr Wrthblaid am Etholiad Gyffredinol cyn rhoddi'r Parliament Act mewn gweithrediad. Y cyfan sydd yn bosibl yn y ffordd o gyfnewidiad yn y Mesurau y cyfeiriwyd atynt ydyw awgrym- iadau yn Nhy'r Cyffredin pan y dygir hwy ymlaen am y trydydd tro. GeHir anfon y rhai hynny i Dy'r Arglwyddi, nid fel amendments, ond fel suggestions, ac os dengys y Ty hwnnw duedd i'w derbyn, hwyrach y gellir gwneud cyfnewidiadau yn y Mesurau fydd yn dder- byniol gan y Weinyddiaeth a'r Blaid Rydd- frydol. Ansicr ddigon yw'r dyfodol gyda golwg ar hyn ond gyda neu heb gydsyniad, credwn yr ennill Ymreolaeth a Dadgysylltiad y dydd yn y Senedd-dymor fydd yn dechreu ar y lOfed o Chwefrol. Cael lie i r to sy'n codi. Cwestiwn dyrys ac anodd i'w ateb ydyw pa fodd i drefnu dyfodol yr oes sydd yn codi. Mae bechgyn a genethod Cymru wrth y cannoedd yn gofyn am "Ie i weithio," a lleoedd nid oes iddynt yn ami ond drwy ddyfal ymchwil a ffafr. Oddeutu blwyddyn yr ol, bum yn galw sylw at sefydliad Appbint- ments Board-Bwrdd wedi ei fwriadu i gasglu gwybodaeth am y lleoedd sydd yn agored mewn gwahanol gylchoedd i bobl ieuainc, a'r modd i fynd o gwmpas i'w sicrhau. Cyfarfu PwyUgor y Bwrdd yr wythnos ddi- weddaf yn Llundain, o dan lywyddiaeth Syr J. Herbert Roberts, pryd yr oedd yn bresennol Arglwydd Kenyon, y Gwir Anrhyd- eddus J. Herbert Lewis, Syr John Prichard Jones, Syr E. Vincent Evans, Syr Harri Reichel, Syr Edward Anwyl, Mr. Evan D. Jones, Mr. S. N. Jones, y Prifathro T. F. Roberts, Mrs. Edward Davies, Llandinam, a Mrs. Mary Davies. Yn y cyfarfod hwn, ymddengys i ysgrifennydd y Bwrdd, Mr. Silyn Roberts, roddi adroddiad lied galonnog o'r gwaith sydd wedi ei gyflawni ereigych- wyniad. Hysbyswyd fod ugeiniau lawer o bobl ieuainc yn bennaf efrydwyr o'r Colegau, wedi cofrestru eu henwau, a bod y Bwrdd, drwy ei swyddogion, wedi llwyddc i gychwyn nifer mawr ohonynt ar eu gyrfa yn y byd. Fel y daw gwaith y Bwrdd yn fwy adna- byddus ymlilith meistriaid, gellir disgwyl llwyddiant ychwanegol. Wrth gwrs, yn y dyddiau hyn, nis gellir esgeuluso'r rhyw fun- ywaidd, ac nid y peth lleiaf diddorol yn hanes y cyxarfod dan sylw ydoedd y He a roddwyd i adroddiad boneddigesau'r pwyllgor o berthynas i aaghenion y rhyw y perthynant iddo a'r modd i'w diwailu. Nid oedd yr adroddiad mor gyflawn ag y dymunid, yn gymaint ag nad oedd yn ymdrin a'r wedd fasnachol, ond addawyd ychwanegu yr adran hon ato cyn ei cyhoeddir. Ar y cyfan, y mae'r Appointments Board wedi dechreu'n dda, a disgwyliwn lawer yn y dyfodol oddi- wrtho. Dandy Cymreig. Nid wyf fi yn gwybod am neb fedr baentio darlun hanner-hanesyddol yn well na Mr. W. LleweFyn Williams, yr aelod dros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin. Fe wna hynny weithiau yn Nhy'r Cyffredin, ond afradedd ar ddoniau hanesydd ydyw eu harllwys yno Y nos o'r blaen, bu Mr. Williams yn siarad wrth fagad ohonom mewn dull diddan dros ben am Beau Nash, y Welsh Dandy. Yn Abertawe y ganwyd Richard Nash, ac y mae'r ty lie ganwyd ef yn aros yn Heol yr Afr hyd hedd- yw. Creadur hynod oedd Nash ar lawer cyfrif. Er ei eni mewn pentre dinod o rieni tlawd,. gwrthododd gymeryd ei wneud yn farchog gan ddau frenin, cyn ei fod yn 30 oed bu fyw fel tywysog drwy oes faith, heb fawr o foddion cynhaliaeth nid oedd o bryd nac o ymddanghosiad dymunol, ond yr oedd yn ffefryn mawr gyda'r rhyw deg; siaradodd Chesterfield a Pope yn ddiraddiol i amdano, ond ysgrifannodd Oliver Goldsmith ei fywgraffiad. Canmolir ef gan George Meredith, ac edmygir ef gan Lecky, er ei fod ymhell o fod i fyny a safon y naill na'r Hall o ran cymeriad na moes. Nid oedd yn berchen dysg, oblegid gadawodd Rydychen cyn graddio, on d ey graddio, ond cyflwynwyd iddo fwy o lyfrau na neb o'i gydoeswyr. Bu fyw fel gambler, ond cymylwyd llawerydd cenedl pan fu farw. Yr oedd bywyd Richard Nash yn rhamant, o'r hyn lleiaf yr oedd felly yn y darlun a roddwyd ohono gan Mr. Llewelyn Williams. .0 -9- I Hai a Helynt! Mae'r Eglwys Sefydledig nid yn unig mewn perygl o gael ei Dadgysylltu, ond ei Dad- gymalu hefyd. Nid wyf fi o'r gorlan hon," ac felly nid oes gennyf ond gwybodaeth ail law megis am y drwg sydd yn bygwth. Ymddengys fod heresi ar y fath waethaf wedi ymddangos yng nghynhadledd Kikuyu draw yn rhywle yn Affrica bell. Mewn canlyniad, yr ydym yn cael Esgob Zanzibar ymhlith cyhuddwyr y brodyr." Dwg gwyn yn erbyn ei gyd-neu ei is-esgobion ym Mombassa ac Uganda, a chyhudda hwynt o heresi yn yr hyn a ddysgant ynghylch ystyr a gwerth Episcopyddiaeth, ac awgryma'n ddigon difloesgni mai eu dyledswydd' ydyw ymadael o'r weinidogaeth Episcopyddol gynted byth ag y mae'n bosibl. Mor bell ag yr wyf fi yn deall, pechod mawr y ddau Esgob sydd dan y cyhuddiad ydyw ddarfod iddynt gyfarfod cynrychiolwyr enwadau Cristionogol ereill mewn cynhadledd i'r diben o ystyried moddion a thelerau cydweithrediad a.c wedi gwneud cymaint a hynny o ddrwg, ychwanegu ato'r drwg anfaddeuol o gydgymuno a'r oyfryw gynrychiolwyr. Ape lia Esgob Zan- zibar at Esgob St. Albans ac Archesgob Caer- gaint yn erbyn yr hereticiaid, ac y mae Uchel-Eglwysyddiaeth yr Eglwys Sefydledig yn gryf o'i blaid. Ond mae'n perthyn i'r Eglwys honno adran Efengylaidd, ac y mae hithau'r ur mor selog o blaid y ddau, Esgob- ion Mombassa ac Uganda. Rhwng y ddwy blaid, y mae Eglwysyddiaeth yn ferw drwyddi a thJlir mwy o sylw'r dyddiau hyn i Gyn- hadledd Kibuyu nag hyd yn oed i Fesur Dadgysylltiad -0
Gyda'r Clawdd I
Gyda'r Clawdd I I Sef Clawdd Offa. I I Gan GYMRO 0'1 GORYN I'W GARN.75 I Dau Seneddwf Gwir Oymreig.—Cafwyd cyf- arfod rhagorol yn y Rhos. Daeth llond y pafiliwn ynghyd i wrando'r Mri. E. T. John, A.S., a Towyn Jones, A.S. a chafodd y ddau groeso cynnes ar eu dyfodiad i'r cyfarfod. Llywyddwyd gan Mr. Robert Jones, cadeir- ydd y Gymdeithas Ryddfrydol. Cynhyg- iwyd penderfyniad o ymddiriedaeth yn Mr. John a'r Llywodraeth gan y Parch. J. P. Gough, a chefnogwyd gan Mr. J. D. Hooson. Rhoddwyd derbyriad brwd i Mr. John pan gododd i annerch y cyfarfod, a thraddododd yntau araith gynhwysfawr ar wieidyddiaeth y dydd a chafodd Mr. Towyn Jones glap gan y dorf, ddigon i sirioli unrhyw ddyn. Dyma ymweliad cyntaf lowyn a'r ardal fel I gwleidydd. Clodd ei araith gyda darluniad o hunanaberth arweinwyr Anghydffurfiaeth, ac apfl am inni edrycb ati hi nad elo'u dioddef yn ofer. Diolchwyd i'r siaradwyr gan Mr. Garner a'r Henadur Jonathan Griffiths. i Canwyd yn ystod y cyfarfod gan Mr. Jacob Edwards. Y mae Rhyddfrydiaeth y Rhos yn iach a byw iawn. Hir y pratho felly. Cynhaliwyd cyfarfod cyffelyb yng Nghefn mawr. Llywydd y cyfarfod yno oedd y Parch. Gv; ilym Roberts, cadeirydd y Gym deithas Ryddfrydol. Areithiwyd gan Mri. John a Towyn Jones, a chafwyd cyfarfod a -hir gofir. Angau dilsyfyd.-Cyfarfu un o'r gweithwyr a'i ddiwedd yn sydyn ac adfydus ym -Nf -Alinau Cobden, Gwrecsam. Ac yntau'n cludo truck i fyny grisiau, syrthiodd yn wysg ei gefn, a tharawodd ei ben mewn hOcllen oedd yn y mur, a bu farw'fI ddiatreg. Yn y trengholiad barnwyd iddo gjfarfcd a'i ddiwedd yn ddam weiniol. Pasiwyd penderfyniad o gydym- deimlad a'r weddw a'i chwe phlentyn. Nid oedd George Thomas-canys dyna'i enw- ond sait), a deugain oed. Dyna un cartref nad oedd y Nadolig yn llawen ynddo Cysured yr Arglwydd hwy.—Ym Mhwll Glc Bryn cinallt, syrthiodd darn o'r nenfwd ar wr ieuanc naw ar hugain oed o'r enw Henry Phillips, o'r Waun, a bu farw. Cydymdeimlir yn fawr a'i deulu yn eu galar. Oorchest Gasglu.-Casglodd Penuel y Rhos £ 186 y Sul cyn y diweddaf, a'r Capel Mawr £ 120, Ebenezer £ 25, a Seion £ 61. Casgliadau chwarterol ydynt. Nid yw'r egwyddor wir- foddol wedi methu eto yng Nghymru a beth y mae Eglwys Loegr yn ei gwyno, gan ofni Dadgysylltiad a Dadwaddoliad ? Aed hithau a gwneled yr un modd. Mor gyson a deddf.—Manteisiwyd ar y dyddiau cyn torri'r ysgolion dyddiol i wobr- wyo'r plant am gadw'u hysgol yn ddifwlch ac am ragori mewn dysg. Rhaid fod yr ardal oedd yma'n iach, er gwaethaf huddugl a brwmstan y gweithfeydd, canys derbyniodd amryw byd o'r plant wobrwyon am gadw'u hysgol heb golli dim am bum mlynedd, ereill chwe blynedd, a rhai saith, heb golli'r un darn diwrnod. Wrth gilio oli ysgol.—Cynhaliwyd cyfarfod nawn dydd G werer i ganu'n iach i Mr. W. J. Russell, B.A., Y.H., Pen feistr Ysgol Ganol- radd Gwrecsam, ar ei ymddiswyddiad. Y Maer lywyddai, ac amryw'n canmol gwaith Mr. Russell yn ystod y pymtheng mlynedd ar hugain y bu ynglyn a'r ysgol, a dwy flynedd ar bymtheg yn brif feistr arni. Anrhegwyd ef a Rose Bowl arian gan y lIyw- odraethwyr, a chloc gan yr hen efrydwyr, a phawb yn dymuno'n dda i Mr. a Mrs. Russell ar eu hymadawiad. Y mae un o wyr Gwrecsam, end sydd yn byw yn Llundain ers blynyddoedd bellach— sef Mr. Vinsent Thomas—wedi ei anrhydeddu gan lywodraethwyr Bank y London County and Westminster. Bu Mr. Thomas gyda hwy am ugain mlynedd, ac y maent wedi rhoi pension iddo ugain mfynedd cyn yr amser, er mwyn iddo roi ei holl wasanaeth i gerddor- iaeth. Yr oedd Mr. Thomas wedi fturfio cerddorfa o'i gydweithwyr yn y Banc, sydd yn un o oreuon y Brifddinas. Efe yw cyfar- wyddwr cerddorol Cymdeithas Gwyr Dinbych yn Llundain. Rhwng dwy flwyddyn.—Yn y rhan fwyaf o bulpudau'r dyffryn yma rhoddwyd sylw arbennig i'r Nadolig, gan ddangos y eyfle arbennig sydd ar yr vVyl i ddangos ysbryd caredig a maddeugar ac heddychol. Y Sul nesaf i'r Nadolig a neilltuir gan Gymdeithas Heddwch i alw sylw at heddwch, ac i ym- drechu argyhoeddi dynior o ffolineb Rhyfel. Dylai Cymru fod yn ffyddIon. i'r Gymdeithas hon, nid yr unig ar gyfrif ei hamcanion clod- wiw, ond hefyd ar gyfrif cysylltiad ein cyd- wladwr enwog, v diweddar Mr. Henry Richard, a hi. Treuliodd y Maeloriaid eu gwyl yn dawel. Yr oedd trannoeth y Nadolig yn ddiwrnod ystormu? iawn-gwynt nerthol a glaw mawr. Cwynid yma nad oedd y tywydd yn "hen ffasiwr." Druan o'r ty- wydd, y mae'n anodd hyd yn oed i dywydd fod yn hen ffasiwr mewn oes y perchir cy. maint ar y ffasiwn newydd. Erbyn hyn y mae'r tywydd yn hen ffasiwn-yr eira wedi dod, a'r rhew. Y mae'n amhus gennyf a oes unmar yng Nghymru, oddigerth pennau'r mynyddoedd, lie y ceir mwy o rew ac eira nag a geir yn yr ardaloedd yma. Yr ydym ar drothwy'r flwyddyn newydd croesawir hi gan sain utgyrn y gweithfeydd, nes bydd y dyffr, yn diaspedain a phan ddelo, bydded iddi fod yn flwyddyn o lwyddiant digyffelyb i'r Brython, i Gymru-y wlad, yr iaith, a'r genedl, ac i'r byd i gyd.
Advertising
DRINK DWYRYD TEA. The Tea of Old Time flavour,
Advertising
lw EVERY WOMAN ^hobld send 2 stamps for our 32 page Illustrated Book w containing valuable information how all Irreg aS&rities and Suppre-mions may fee entirely avoided or removed by simple means. Recommended by eminent Physicans, ,s the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never fail Thousands of Testimonials. Established r862. Mr. PAUL BLANCHARD CleremsDt Bouse. Datston Lane. LONDON