Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
27 articles on this Page
DYDD MAWRTH.
DYDD MAWRTH. AFLWYDDIANT Y GELYN. Mae r Ffrancod a'r Germaniaid yn parhau i frwydro oddiamgylch amddi ffvnfa Douaumont, a'r pentref o'r un enw. Ceisiodd y Germaniaid fedd umnu y gelyn, ond methodd eu hvm osodiadau ffyrnig. YngIyn a'r fIos, ni fu ond abwyd i nvydo>r German iald. Mae r Ffrancod erbyli hyn wedi amgylchynu y lie. ADRODDIAD GERMANAIDD. j Yehydig o hawliad sydd gau adroddiad Germanaidd ddoe. Hawl iant eu bod wedi clirio Penrhyn y Meuse yn Champagne, a'u bod wedi gwthio eu llinellau tuagat Vackerau ville a Bras. Ar ffrynt gorllewinol Yerdut1, dywed yr adroddiad fod brwydro pwysig wedi cymeryd lie Plawlia y gehTn eu bod wedi medd iannu gorsaf Eix, 5^ milltir o Verdun, ond dywcd yr adroddiad Ffrengig eu bod wedi ei hadfeddiannu drachefn. Hawlia adroddiad Berlin neithiwr, eu bod yn ChamFlgnc wedi meddiannu milltir o ffosydd y Ffrancod yn Nav aru, ac fod mil o garcharorion wedi syrthio i'w dwylaw7. —: o: — BRWYDR VERDLN. I Mae pellebrau Gcrmanaidd yn dar lunio y fruydr oddiamgylch Verdun fel y fwyaf ofnadwy yn hanes y byd. Amcangyfrifa blaciiiaid mihvrol goll edion y Germaniaid yn filoedd lawre. Telir pwysigrwydd aruthrol i'r mud iad Ffrengig yn Champagne gan ddynt. Dywed adroddiad o Zurich I fod dinasyddion Berlin wedi cyffroi pan hysbyswyd am golledion Verdun. — x — AMDDIFFYNIAD VALONA. I Dydd Sadwrn.- cyfariyddodd Cyngoi' I Dydd Sachn-n. CYfarfYddOdd C "ngÜ'r I I Rhyfcl Itali i drafod cwestiwn Albania. Ystyriai y Gweinidogion fod y safle yn parluu i fod yn ffafriol. Nid ydyw y ffaith fod j r Italiaid wedi gadael Durazzo yn unrhyw bwysig rwydd mliwrol, gan y bydd y rhaglen Italaidd yn Albania yn parhau i am ddiffyn Valona. Y DARDANELLES. I Cyfaddefa adroddiad o Gaergysenyn ddoe fod distrywyddion i'r Cyngreir wyr ar ffrynt y Dardanelles wedi tan belennu cymydogaehaau Icnishakir ac Orchane, ond hawliant fod eu magnelfeydd ar y lan wedi eu gorfodi i encilio. Nid oes dim cyfnewidiad i'w hysbysu o unrhyw ffrynt arall. —: 0 YM MESOPOTAMIA. I Hysbysodd y Swyddfa Ryfel neith iwr fod byddin y Cadfridog Aylmer ym Mesopotamia ar yr 22ain cyfisol, wedi yniosod ar wersyll y gelyn ar ochr chwith y Tigris. Gwnaed dif rod difrifol ganddynt, a dioddefodd y gelyn golledion trymion. Mae'r gelyn yn ffoi o'r lie yn anrhefnus. Hysbysir fod gwrthryfel wcdi torri allan rhwng y milwyr Twrcaidd a'r boblogaeth yn Neif. i ♦ V Y FYDDIN SERBIAIDD. lVlewn cylchgronau swyddogol Serb iaidd, dywedir fod y fyddin Serbiaidd yn cael ei hail sefydlu yn foddhaol, a'u harfogi gan y Cyngreinvyr yn Corfu, ac y bydd eto yn dechreu cymeryd rhan yn y gweihrediadau yn y Balkans yn fuan. —: x — YR AIFFT. Dywed y Press Bureau fod y frwdy yn yr Aifft dydd Sadwrn wedi troi allan yn llwyddiant i'n harfau. Gor fodwyd y gelyn i encilio o safle bwysig 15 milltir i dde ddwyrain Batant. Gadawodd y gelyn fwy na 200 o laddedigion a chlwyfedigion ar ol. Syrthiodd dau swyddog Twrc aidd yn garcharorion i;i dwylaw. Meddiannwyd un gwn peiriannol gen nym hefyd.
I IFFAWD GWRAIG GERMANAIDD
FFAWD GWRAIG GERMANAIDD ialac gwraig Germanaidd o Frank fort, wedi ei hanfon i garchar am fis am roddi dillad, ncwdydiadur, a cigar enau i garcharor Prydeinig.
[No title]
Anfonodd Mauritius 2,25op yn ych- waneg er pwrcasu awyren at wasan- acth y Swyddfa Rhyfel. Bydd hon y drydedd awyren roddwyd gan Mauritius. Mae gan Rumania fyddin o 250,000 yn awr ar safle filwrol. Ceisia gweithwyr dociau sychion De Cyniru gad codiad o swllt yn y dydd, ac fod y dydd i ddechreu am saith y bore drwy'r flwyddyn, yn lie 6 o'r gloch yn ystod misoedd yr haf.
Advertising
SUDD TACHAOL DA J L CARN YR EBOL gan Griffith Owen, Caernarfon, ydyw ei fod yn rhyddhau y phlegm, ac yn cilio poen y frest. l I'w gael mewn poteli is 2C yn y Siopau Druggist; gyda'r post. is 6c.
LL YS APEL CAERNARfON. I
LL YS APEL CAERNARfON. I GWRANDO DAU APELYjjD CYDWYBODOL. Cynhaliwyd cyfarfod o'r uchod nos LUll: Mr Chas. A. Jones (Maer) yn y gadair.. Y cynrychiolydd milwrol ydoedd Capten Richard Jones. Yr t oedd hefyd yn bresennol y Mri D. T. Lake, J. P, Gregory, John Griffiths, J. Pletcher, A. H. Richards, R. T. Jones, David Jones, Mrs Nath. Roberts, a Mrs Vaughan Davies. Gwrandawyd apel ar ran clerc yn Swyddfa y Llys Sirol. Honid y buaasi yn amhosibl cael un i gymeryd ei le, heb yn gyntaf gael blwyddyn fan leiaf o hyfforddiant. Bu&sai ei gymeiyd ef i ffwrdd yn fater difrifol i'r cyhoedd. Caniatawyd chwe mis iddo. Gwnaed cais gan gyfreithiwr ar ran un o' i glercod. Dywedodd yr apelydd fod dau o'i glercod yn perthyn i'r Tiriogaethwyr pan dorodd y rhyfel allan, ac mai peth digalon iawn ydyw myned i swyddfa fawr a dim ond mi clerc wrth ddesg fawr. Nid ydyw y clerc arall sydd ganddo yn gwybod dim am waith swyddfa, ac yn ol barn yr apelydd, gwaith pairot wna, set "shorthand typist." Gwrthodwyd y cais. Apeliodd cigydd ar ran ei lywod raethwr. Yr oedd dau o'i wasan aethyddion wedi ymuno. Os y buasai ef yn gorfod ymuno, fyddai waeth iddo gall ei siop i fyny. MeNvil ateblad i Mr A. H. Richards, dywed odd nad oedd wedi llenwi safleoedd y ddau oedd wedi ymuno, ac y buasai yn amhosibl iddo gael un i gymeryd lie y dyn hwn. Caniatawyd tri mis iddo. Apeliodd masnachwr am esgusodiad Dywedodd y buasai yn gorfod cau ei siop i fyny os byddai raid iddo ymuno. Yr oedd mam weddw, 74 mlwydd oed, yn dibynu arno hefyd. Rhodd wyd esgusodiad am dri mis iddo.
DAU WRTHWYNEBIAD CYDWYBODOL.
DAU WRTHWYNEBIAD CYDWYBODOL. Apeliodd clerc am esgusodiad oddiar safon gwrthwynebiad cydwybodol. E>ywredodd ei fod yn gwrthwynebu unrhyw fath o ryfel, ac y buasai yn gallu profi hyn os yn angenrheidiol. Y Maer: Oni fuasech yn ceisio atal y Germaniaid? Yr Apclydd: Na fuaswn. Y Maer A fuasech yn gallu edrych arnynt yn cam drin eich chwacr? Yr Apelydd Buaswn yn ceisio eu hargyhoeddi. Y Maer: A fuasech yn gwrth wynebu gofalu am y cleifion? Yr Apelydd: Buaswn ar hyn o bryd. Credaf 11a fuaswn ond yn ei wneud yn barod i fyned yn ol i'r ffosydd drachefn. Y Prif Gwnstabl: Yr ydych yn barod i dderbyn amddiffyniad y Wladwriaeth» ond ni roddwch unrhyw beth fel ad daliad. Gallwch gyflawni gwaith negeseuydd neu yriedydd yn y ffrynt. A ydych yn barod i wneud hyn? Yr Apelydd: Trwy wneud un o'r pcthau hyn buaswn yn cynorthwyo i gario y rhyfcl ymlaen. Yr wyf wedi bod yn ddinesydd da i'r wlad. Mr A H. Richards: A ydych yn credu mewn aberthu? Yr Apelydd Yd wyf, ond ni wnaf aberthu dros fy mrenin a'm gwlad. Capten R. Jones: Beth ydyw eich gwrthwynebiad i ryfel? Yr Apelydd Am mai scfydliad pob rhyfel ydyw gorthrwm a thrais. Capten R. Jones: Beth afn Grist yn defnyddio gallu i droi allan y cyfnew idwyr arian o'r deml ? Yr Apelydd Yn ol fy ngwybodaeth i o'r Ysgrythyrau, nid oes dystiolaeth ei fod wedi defnyddio gallu i droi y dynion hyn allan. Y Cadeirydd Pe buasai dyn yn eich taro, a fuasech yn ei daro yn ol. Yr Apelydd: Na fuaswn. Gwnaed cais cyfFelvb gan ohebydd. Dywedodd yntau fod ganddo wrtli wynebiad C37dwybodol i unrhyw fath o ryfel, ac na allasai ufuddhau ond i'w gydwybod ei hunan. Y Cadeiiydd A fuasech yn rhoddi cymorth i filwr cl wyfedjg? Yr Apelydd: Na fuaswn. Bai y milwr ei hun ydoedd iddo gael ei glwyfo. Mae gennyf frawd wedi ei glwyfo dair gwaith. l\fac'r cartref yn dibynnu arnaf hefyd. Y Cadeirydd Pe buasai rliywun yn eich taro, a fuasech yn ei ilro yn 01 ? Yr Apclydd: N a fuaswn. Y Cadeitydd: iBuasech yn codi gwys yn ei erbyn? Yr Alydc1 = Nis gwn beth am hvnnv. Mr R. T. Jones: Darfu i rywun daln am eich brawd neu mi fuasech hebddo heddyw> onide? Yr Apelydd: Do, ond ni allaf ymgymeryc1 a gwasanacthu g\-da'r R.A .M.C., gan ci fod hcddyw yn rhan o'r peirianwaith brwydrol. Mr J. P. Gregory: Dcallaf mai gohebydc1 ydych. Onid ydyw hyn i raddau yn wasanaeth rhyfel? Yr Apelydd: Yr oedd w 11 yn ohebydd cyn y rhyfel, a fy ngwaith ydyw C3;flenwi iiewyddion i'r cyhoedd. Mr A. H. Richards Beth pe buasai eich ty yn Belgium. Beth fuasech yn wncud pan ddeuai y Germaniaid? Yr Apetydd: Ni fuaswn yn eu gwrthsefyll. Mr A. H. Richards: Ni fuasai gwahaniaeth genmxh' pe dcuai y Germaniaid yma? Yr Apelydd Na fuasai. Nid wyf yn crcdu mewn rhyfel. Buasai'n well gcnnyf gael fy saetliu 11a sacthu neb fy hunan. Mr R. T. Jones: Nid ydych yn credu mewn unrhyw fath o fnktklro, brwydr argraffwyr, neu unrhyw fwydr lafur arall? Yr Apelydd Yr wyf yn gwybod am beth yr ydych yn cyfeirio, ond a gaf egluro, ond sylwodd y Cadcirydd nad oedd y drafodaeth yn ateb unrhy.w ddiben. Cymeradwywyd y ddau i wasanaeth gwiad heb orfod trin y cledd.
DYNES AT HARGYHOEDD. IADAU,
DYNES AT HARGYHOEDD. IADAU, I Yn Llawenhau wrth Atal I Ymrestru. Yn Llys Heddlu Westminster, d) dd Sadwni, anfonwyd Mrs Nellie Pest, Hogarth Buildings, Westminster, i garchar am chwe mis am gyttoeddi pamphledau a gunvud sylwadau aliai rwystro ymrestru. huddcdig ei bod wetli gwneud ei goreu i atal ymrestru er dcchreu y rhyiel. Iddi hi nid ydoedd ymrcstru ond ym- uno ym masnach llofruddio, yr hyn waherdd.ir yn nysgeidiaeth Iesu Grist, yn yr Hwn y credai. Yr oedd yn gweddio bob boreu ar Dduw ei har- wain at fechgyn mewn oed ymrestru, er mwy 11 iddi geisio eu hargyhoeddi. Yr wyf ny falch o ddweyd, meddai, fy mod yn gyfrifol am rwystriad can- nocdd o ddynion yn y brifddinas rhag ymuno ym masnach llofruddio.
METHIANT ARIANDAI GER. MANAIDD.
METHIANT ARIANDAI GER. MANAIDD. I Metha Ilinryw a-riandai yn Germani gario eu busnes 3-mlaen. Un o'r rhai diweddaf i ddirwyn i fyny yw Ariandy Essen (y Rheinische). Credir y bydd i gannoedd o weithwyr gwaith Krupp golli eu cynilion drwy hyn. >♦♦♦■
IDARLUN 0 AMBROSE LLOYD.I
I DARLUN 0 AMBROSE LLOYD. I Mae Mr C. Francis Lloyd, New- castle-oll-Tyne, mab i'r dhveddar John Ambrose Lloyd, wedi anrhegu Llyfr- gell Rydd y Wyddgriig gyda darhm mewn oil painting o'i dad.
ILLOFRUDDIO BARNWR, I
I LLOFRUDDIO BARNWR, I Daw adroddiad o Madras, fed y Barnwr Indiaidd Herbert Hardiugfe wcdi ci lofruddio tra'n myncc1 i'r llys. Mae'r hwn a'i llofruddiodd yn y ddalfa.
BYW AM 96 MLYNEDD YN YRII…
BYW AM 96 MLYNEDD YN YR II UN TY. Bu Mathew Wren, yr hwn sydd newyTdd farw yn 96 mlwydd oed, Y11 Kingston (Herts), fyw ei holl I yn yr 11 n ty.
I j MARW POSTFEISTR ABERTEIFI.…
MARW POSTFEISTR ABERTEIFI. ) 1 Yr wythnos ddiweddaf bu far\ Mr Henry Thomas, postfeistr, Aberteifi. Bu yii gysylltiol a'r Ilythvrdy 3-11 < Llangoileii am saith mlynedd ar j ] hugain. 1
Advertising
PYTATWS. LLWYTH LLONG 0 DATWS Jfrrcfdercfiog II 2Ip~fo~3)ated o'r StOerddon, ai JFeadyd neu Vmfjorth. Newydd Gyrhaedd Porthladd Caernarfon. -——————— o ——————— Mewn Bagiau 11Z Pwys yr un, 4s 6c y Bag (A'R BAG YN GYNWYSEDIG). -——————— o PWYSIG— ANFONIR LOTIAU 0 DDWY DUNELL, AC UCHOD, AM Y PRIS HWN, I UNRHYW ORSAF RHEILFFORDD YN MON NEU ARFON, A THELIR Y CLUDIAD. TELERAU ARBENIG. Rhaid Talu am y Tatws cyn eu symud. Anfoner pob Archebion i LAKE & Co. Ltd., 18, BRIDGE STREET, CARNARVON.
[No title]
Cwtoga Corfforaeth Hull eu ham- :angyfrifon mcwn modd trwyadl, a llwyddasant hyd yn hyn i arbed 75JoooP.
DYDD LLUN. DYDDLLUN.,I
DYDD LLUN. DYDD LLUN. I YR YMDRECH AM VERDUN. 11 Bu v brwydro am Verdun yn hynod I ffyrnig yn ystod diwedd. yr wythnos, I cr fod yr adroddiad Ffrengig neithiwr yn cfaveyd fod y gelyn yn dipyn mwy gwanaidd nag oeddynt y ddau ddiwr- riod cynt. Ymosododd y German- iaid yn bendcrfynol, heb unrhyw y- tvriaeth o gwbl i'w colleclion. trym- ion blaenorol. Bu y brwydro yn liynod ffyrnig yng nghymydogacth Fort Douaumont. Dywedir fod y tir Oddiamgylch wedi ci crchuddio gyda chyrfr Germanaidd. Dywed y Ffrancod nad oes na maguel na milwr yn yr amddiffynfa hon, ond hawlia yr adroddiad Germanaidd ei bod yn am- ddiffynfa bwysig. -:0:- HAWLIAD GERMANAIDD. Hawlia yr adroddiad Germanaidd ;ddoe eu bod wedi mcddiannu yr am- ddiffynfa hon, a'u bod wedi atal pum ymosodiad Ffrengig i'w hadfeddiannu. Hysbysodd adroddiad Berlin nos Sad- wrn eu bod wedi eymeryd pentrefydd Champ NeuvIlle a Talon Hill, ac fod y milwyr Germanaidd wedi gwthio eu ffordd i gymydogacth coedwig Bros, tua pum milltir i ogledd Verdun. Hawltant eu bed wedi cymeryd drcs T5,ooo o garcharorion. ■ = I  YR ADRODDIAD FFRENGIG. 1 Dywed yr adroddiad swyddogol > ffrengig nos Sadwrn eu bod wedi ad- feddiannu yr amddiffynfa, ond dywcd I adroddiad arall ddoe fod ychydig o'r gelyn yn aros mewn rhai parthau ohoni. Cyfaddefa y Ffrancod eu bod ar ffrynt y Wocvre, yng ngogledd- ddwyrain Verdun, wedi tynu-eu llinell rhwng Orncs a Hennemont, i waelod bryniau y Meuse, hynllY yw, yii agos- aeh et yr amddiffynfa. Dywedir fod y Germaniaid wedi dioddef collcdion "difrifol yn ystod y brwydrau hyn, a phan hysbysir yr ymerodracth o'r cyf- anrif bydd yn sicr o achosi terfysg. — 0 — YSBAIL RWSIA. I Hysbysa Petrograd mai ychydig o golledion gawsant, pan gymerlr i v > tyriaeth y llwyddiant mawT gawsant. Cymerasant yn garcharorion Erzerum 234 o swyddogion Twrcaidd, a 12,753 0 ddymon ynghyda 323 o ynnau. Ar wahan i hyn, njeddianwyd amddi- fiynfa Twrcaidd o'r dosbarth blaenaf ganddynt, a chyflenwad aruthrol o arfau a bwydydd. Maent yn parhau i erlid y T\\Tciaid sycld yn ffoi, a 50 milltir i orllewinbarth Erzerum, ar y ffordd 1 Tribizond, gorchfygwyd ad- ran Twrcaidd gafrddynt, a meddianas- ant bentref Aschkala. Dywedir fod y Rwsiaid yn cymeryd tniloedd o gar- charorion yn ddyddiol. Daw new- ydd ion da o Persia Meddiannwyd pentref ICarmunah oddiar y Twrc- iaid. YN YR AIFFT. I lac I)r Iae bn\ydro pellach wdi cymcryd lie yn yr Aifft. > Mae'n ymddangos fod byddm y Cadfridog Lukin wedi atal y gelyn. Cymerodd ein milATr 0 Dde Affrica ran yn y brwydro hwn. Ymosodwyd ar y gelyn yn y bore, ac crbyn 3.30 p.m. yr oeddynt wedi en llwyr orchfygu, ac yr ocddynt yn ffoi i bob cyfeiriad yn anrhefnus, ein gwyr meirch yn eu 'dilyn. Pedwar o'r gloch, hy-sbysodd awyrlongau fod yr erledigacth yn parhau. -;0:- GADAEL ALBANIA. Hysbysir yn swyddogol fod yr holl filvCyr Serbiaidd, Montencgraidd, Al- banaidd, aC Italaidd wedi eu tynnu o Albania. Ddoe, aeth yr Awstriaid i mewn i Durazzo, ond costiodd y I Uwyddiant yn ddrud iddynt. Hawlia yr adroddiad Awstriaidd eu bod wedi cynneryd amryw o garcharorion yn ystod y brwydro am y lie. —: o: COLLEDION Y GELYN. I Dywed adroddiad o Amsterdam fod I y/Ccrmaniaid wedj dod ag adgyfnerth- I ——^—iT——- iadau crvfion i Fflanders. Gwnaed I 18 o ymosodia.dau ganddjiit yn ddi- ueddar, a ffrynt y Cyngro'nvyx yn Steenstraete. ar Gasmlas Comines, yn lie Hill 160. Ni fu ond dau o'r ymos- odiadau yn llwyddiannus, ond yr oedd colledion y Gcrmaniaid yn ddifrifof. Amcangyfrifir fod eu lladdedigion a'u clwyfedigion yn 17,000. Mae'r gelyn yn Schoonaerde wedi adciladu ffatri nwy g^venwynig. —: o — ATAL YMOSODIADAU. I Hysbysa y Pencadlys Prydeinig ein bod nos Sadwrn wedi atal ymosodiad- au o eiddo y gelyn ar ein ffosydd yng ngogledd camlas Ypres-Comines. Bu magnelwyr y ddwy ochr yn hynod fywiog oddiamgylch Hulluch, Armen- tieres, ac Ypres. Ffrwydrodd y mag. nelwyr dair mwnfa yng nghymvdog- actli Loos, a chawsant ganlyniadau rhagorol. Ccisiodd y gelyn fyned i mewn i'll ffosydd yn ne-ddwyrain iMaricourt, ond atalhvyd Invy. —•: x: — GYDA'R ITALIAID. I Yn ol adroddiad o Rhufain, medd- iannodd yr Italiaid ran o ffosydd yr Awstriaid gcr Monte San Michele, a syrthiodd 47 0 garcharorion, yn cyn- nwys un swyddog, i'w dwylaw. Gwnaed yehydig o gynnydd gan yr I. aliaid ar y Peunia, yng ng -illcvin- barth Gorizia. Nid oes dim pwysig i'w h-vsb-vsu 0 "nman arall ar y ffrynt Italaidd. LLWYDDIANT RWSIA. I Ar ol ii Rwsiaid feddiannu Erze- rum, mae'r Twrciaid wedi eu hatal 60 milltir yn bellaeh i'r de. Mae Twrci yn anfon gyniaiut o filwyr ac arfau all tuagat Angora i geisio atal symudiad ynilaen y Rwsiaid. Cafodd y niag- nelw> 1 Rwsiaidd ganlyniadau rhag- orol yng nghymydogaeth Ria. Ger Illaat, mae r ymgyrch i geisio medd- iaiuiu ffosydd yn mynccl ymlaen. —: x — DINISTRIO GORSAF. Cyfaddda adroddiad o Amsterdam fod awýrwyr i'r Cyngreirwyr dydd Sad,yrn wecli yniosod a dinistrio gor- saf rhei ffordd, ac wedi nla-cidio twnel Bleyberg, ar y cyffiniau Belg- iaidd.
TOLL PLANT.
TOLL PLANT. Hysbyswycl i-newn cwest yn Man ceinion ddoe (ddydd Llun) fod 21 o blant wedi llosg ii farwolaeth yn y ddinas er Ionawr 6ed.
PRIODAS EURAIDD—YNA MARW.'
PRIODAS EURAIDD—YNA MARW. Mae Mr Peter Hepsham, 84 oed, mil wr gymerodd ran yn rhyfel Cri mca, wedi marw yn Jarrow. Dydd SadwTn yr oedd ef a'i briod yn dathlu eu pricdas euraidd.
GWAHARDD COFFI.
GWAHARDD COFFI. Hysbysir fod Llywodraeth Den- marc wedi cyhocddi gorchymy-n yn gwahardd i goffi gad ei allforio o'r wlad. Ofnir prinder ganddynt.
DARPAR PAPUR. 1
DARPAR PAPUR. 1 Y Cwsmeriaid i Ofalu am Dano. Gofyna cigyddion Llundain i'r cws- meriaid ddarparu eu papur eu hunain i bacio y cig, oherwydd y prinder sydd yn y wlad ar hyn o biyd.
Y SAUSAGE YN DIFLANU.
Y SAUSAGE YN DIFLANU. Yn y cysylltiad hwn diddorol ang- hyffredin yw y ffraetheb ganlynol o'r "Vossische Zeitung" yiiglyn a'r ffaith fod maint y sausage yn lleihau: Boneddiges: Faint yw pris y sau- sage ? Siopwr: 24 heller. Boneddiges: 01 rcit, fe gymeraf un. Siopwr A oes gennych bapur gyda chwi? Mae papur yn brin iawn, mym. Boncddigcs: 0, oes, dyma i chwi docyn tram a gedwais yn ffodus; paciwch ef yn ofalus rhag iddo syrtliio drwy y twll a wnaed yn y tocyn gan giard y tram! ———— .00 ————
ETHOLIAD SENEDDOL.
ETHOLIAD SENEDDOL. DydJ lati bu etholiad Yllg Ngog- ledd Louth (Iwerddon), a gwnaed y canlyniad yn hysbys ddydd Gwencr, fel y canlyn P. J. Whitty (Cen. Swydd.) 2,299 B. Hamill (Heahate) 1,810 Mwyafrif 489 Nid yw Mr Whitty ond 21 mlwydd oed, ac efe, felly, yw yr aelod icuengaf 3tli Nhy'r Cyffredin. Sedd Caer. Yn ol pob tebyg fe ga Syr Owen Philipps ei ddewis yn ddiwrthwyneb- iad dros Gaer yn lie Mr R. Yerburgh (C.).
Y PARCH R. J. CAMPBELL.
Y PARCH R. J. CAMPBELL. Y Cyfarfod Ordeinio. Dydd Iau, ordeiniwyd y Parch R. J. Campbell yn Eglwys Blwyfol Bir- mingham, gan Esgob Birmingham. Mae Cyngor y Gymdeithas Eglwysig, fodd bynnag, o'r farn 11a ddylid ei or- deinio hyd lies iddo dynnu yn ol ei "gamgymeriadau mor gyhoeddus ag y gwnaeth hwy," ac y macnt wedi pasio penderfyniad i'r pcrwyl hwn.
PEIDIO TORRI'R GWRYCH. OEDI).…
PEIDIO TORRI'R GWRYCH. OEDI). Er fod prinder gweision, y mae Cyngor Gwledig Llanehvy wedi pell- derfynu eymeryd i fyny achos yn crbyn tirfeddianwr ac amaethwr am beidio torri'r gwrychoedd gan, meddir, na chymerir dim sylw o ry- buddion i wneud hynny rodd^vyd iddynt. Dywedodd y Clerc y eawsai yr ushtSlaid benderfynu'r achos. —
LLEIHAU Y TRETHI. :
LLEIHAU Y TRETHI. Pennodd Cyngor Sir Middlesex ar dreth sirol o 8e yn y bunt am eleui, o'i symharu a gic y llynedd. Mae Corfforaeth Belfast wcdi llei- liau y drcth fwxdeisiol 4c yn y bunt, i threth y "tlodion" geiniog yn y bunt.
I GWE PRYF COPYN.
I GWE PRYF COPYN. AWGRYM AMSEROL I FAS- NACHWYR. Darllencd Masnachwyr Cymru yr lianesjnti canlynol, sydd yn rhoi barn Mark Twain, yn ei ddull ffraeth ef ei hun, am Hysbysebu :— I Yr oedd Mark Twain yn ber- chenog papur newydd unwaith yn y Gorllewin, ac un dydd derbyn- iodd lythyr oddiwrth ddarllenydd yn dwcyd iddo, pan agorodd y t papur y diwrnod cynt, ganfod pryf copyn ynddo-a oedd yn arwydd o lwc dda ylite un drwg ? Yr oedd Mark i fyny a'r am- gylchiad fel arfer, a sicrhaodd y da rllenydd nad oedd yn arwydd o lwc dda nac un ddrwg, ac aeth ymlaen:— I "Nid oedd y pryf yna ond yn edrych i lawr y colofnau er gweled pa fasnachwyr nad oeddynt yn hys- bysebu, fel y gallai fyned i'r ystor- dy hwnnw, a gwau ei we ar draws y llawr, a byw ei fywyd o heddwch esmwyth am byth wedyn." Fasnachwyr, cymerwch yr aw- grym; mae Hysbysebu yn talu. Nid yw o un diben i chwi feddu nwydd da os na hysbyswch y cyhoedd o'r cyfryw. Dechreuwch Hysbysebu, a pharhewch i wneud hynny. Mae prif ddynion masnachol y deyrnas wedi llwyddo am eu bod wedi Hys- bysebu yn helaeth. Y cyfrwng goreu i gyrraedd pobl y cylch hwn yn ddiddadl yw Y Dinesydd Cymreig."
Family Notices
GENI. PRIODI. MARW. Geni. WILLIAMS—Chw7efrcr IE, i Mr a Mrs Nathaniel Williams- Penrhiw, Terrace, Llanrug—merch. -JON; r,,S--CllN\cfror 10, 1 Mr a :M!5 William Jones, Tegftyn, Llanrug— > cfeilliaid, dau fab. Priodi yn Eglwys Llanbeblig, Cael nl lon, Sapper Reginald Smith, Mumbles, a Miss Mary Catherine Jackson. 43, North Penrallt, Caernarfon. Marw. WILLIAMS—Chwefror 21, Mrs Mar- garet Williams, 21, New Street. Porthmadog", yn 76 mlwydd oed. ROBERTS Chwefror 22, Mr Rd. Roberts, Biyntiricn, Nant (>w -m■ ant, yn 83 mlwydd oed. WILLIAMS—Chwefror 23, Mr W. G. Williams, Tanydderwen, Po; th- 1 madog, yn 70 mlwydd ced.
Advertising
I J. FLETCHER. LTD.. I MEMORIAL WORKS, CARNARVON a BANGOR. caMana———ni—11111 m 1»i —m* krgraffwyd a chyhoeddwyd ra Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyfn yn 16, Palace Street, Caernarfon..