Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

THE OMNIBUS. I

Outlines of Local Government

Successful Carnival at Cross…

[No title]

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

[No title]

[No title]

Rhys J. Huws.

Llongyfarch y Parch. Ffinant…

BARDDONIAETH. - - - - I

News
Cite
Share

BARDDONIAETH. I ER SERCHUS GOF I Am Miss Hilda Nest Thomas, merch ieuengaf y Parch. T. Thomas, ficer, a Mrs. Thomas, Abergwili. Hunodd yn yr Iesu Hydref 24, 1918, yn 24 mlwydd oed. Lletyai gwawr y bore A" geinion yn ei gwedcl; 0 fewn ei mynwes, mwynder Mai Oedd yno ar ei sedd. Fel mangaw ddail yr Hydref Eurliwia'r ffyrdd a'r tud; Oedd deiliaid glennydd GwiIi dlos Dan ei hawddamor hud. Tryloew fel y bwrlwm Ddug win y ddae'r i'r Ian, Oedd purdeb ei rhinweddau fil Ar Iwybrau heirdd y Llan. Fel heulwen oedd ei hymdailth Yn dwyn pob hedyn bach I ymddatblygu yn ei fyd Mewn hedd dan awyr iach. Fel araul haf ar dwynau Yn deor grawn o'r drain, Oedd gleufer ei gwladgaro l arf Yn dwyn o'r gwylI y cain. Fel seren hi ddiflannodd I'r gwawl o fyd y nos, Ond purdeb ei ffurfafen las A erys eto'n dlos. Fel hafddydd aeth i'w hunell Yn wyn dan fawl y llu, A'r fwyalch gan r oes ei chlod Ym mrig yr ywen ddu. DYFFRYNOG. I BEDD FY MAM. Uwch berw Aberpennar, Ym mrig y gladdfa hen, Mae bedd fy mam lei haul ar dwyn Yn ddisglair ddam dan Geiros lwyn, Yn siarad gyda gwen. Saif amo'i charedigrwydd, A'i Salm fu'n suo hedd; Yn tyfu mae'r cynghorion dwys, Y cariad gwir, a'i geiriau glwys, Yn liliod dros ei bedd. Mae'r creiriau oil yn aros Yn lan heb iwd ar un, A moes yn llamu Ilafn ei dysg Ym myd ei phlant, tra hithau gysg Mewn hedd ei holaf hun. Er serlog res fynyddoedd Saif rhyngwyf fi a'l wedd, Y tyrrau glan, eurgymoedd gant, Gwych demlau heirdd, palasau'r pant, Disgleiriach im' ei bedd. Anwyled deddfau Rhyddid A'n ceidw rhag cael cam; Cymdogion had ar aelwyd dlawd, A'r brawd a ddeil tan gyni'n frawd- Anwylach bedd fy mam. Canfyddaf yn ei arwedd Ysblander gloew' r llyn, Ac anfon beunydd wnaf i' r Nef Am gael fy nghannu ganddo Ef, Rhag britho'i beddrod gwyn. Telora dithau'r fwyalch, Dy Salm o'r Ceiros lwyn, I atal sen rhag dod ar rawd, A gwisgo bedd fy mam a gwawd, Sy' n ddisglair ar y twyn. DYFFRYNOG. I CYMRU NEWYDD.. I Fe eniT Cymru newydd Ym medd y frwydr etch, A daw trigolion byd cyn hir Yn un ynghwlwm serch; I Nid cenedi mwy, ond gwerin, A chariad iddi'n sail, Yn gwneud i bob gelyniaeth ffoi Fel tarth o flaen yr haul. O! boed I Gymru newydd I daro newydd dant, I gelslo gael y byd i' w !e Drwy ddechreu gyda'r plant; Eu harwain a'u golejio Yng nghrefydd bur a moes, A buan i ni Cymru lan A ddaw o flodeu' r oes. 0 Ffrainc al gwlybion ffosydd Daw lief gwroniaid lu Am Gymru newydd," llawer gwell r r oes na Chymru Fu Eu haberth drud sy'n hawlin Gwell deddfau yn ein gwlad; Rydd iawnder ar ei orsedd aur I gauad corn y gad. BRYNFAB BRYNAMAN. I

DYDD Y WERIN. I

CAPEL HENDRE.I

"-!I I CAERBRVN... ,

GLANAMAN.

GARNANT.

CAERAU, TRA PP.

Ammanford Police Court.