Hide Articles List

18 articles on this Page

THE OMNIBUS. I

- -IInvestiture Day.I

Army Council's Thanks to to…

[No title]

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

[No title]

[No title]

GLANAMAN.

News
Cite
Share

GLANAMAN. BLODYN ATGOF AR OL MISS LILIAN JONES. Gwaith digon prudd a siomedig i mi yw ysgrifennu ar ol y rhiain hawddgar, Lilian, unig ferch Mr. a Mrs. Evan Jones, Bodiwan. Gwlychwyd gruddiau lawer gan ddagrau pan glywyd am ei hymadawiad sydyn, oherwydd rodiddi le annwyl a chynnes ym mynwesau ei chydnabod. Rhyfedd y fath gorsennau ysig ydym; ni wyr angau wahaniaeth rhyngom, ac nid yw'r cryfaf ohonom ond etifeddion erw Duw y dyddiau galarus ac angeuol hyn. Un o'r telynau a dorrwyd yn gynnar ydoedd hi. Byr iawn fu ei hoes o'i chyfrif yn ol nifer blynyddoedd, ond oes lawn o weithgarweh. Mae miloedd yn bodoli yn yr hen fyd yma am bedwar ugain mlynedd. ac eto heb fyw un diwrnod. JNid yr un ftordd mac- Duw a dyn yn mesur oes; y dyn a fesura wrth rif y blynyddoedd, eithr ei Luniwr doeth wrth swm y gwaith. Ni chafodd hi fyw' n hir, ond bu fyw ei phroffes, ac lesu gadd ei hoes i gyd." Geneth garedig a phrydferth ydoedd Lilian, a datblygodd yn un o'r cymeriadau hawddgaraf y Cwm. Ni phetrusai ddywedyd yr hyn a feddyliai yn y wyneb heb rith cenfigen a brad." Myn rhai pobl ddweyd yr oil yn y cefn, ac eraill y cyfan yn y wyneb a dim yn y cefn. I' r olaf y perthynai hi, am nad oedd mel ar ei thafod a gwenwyn yn ei mynwes, a thrwy hynny enillodd bawb yn hollol i'w charu. Meddyliai'n uchel am Oy yr Arglwydd a gweis yr lor. Pwy fu'n ffyddlonach yng Nghyrddau'r Plant, y Cwrdd Gweddi, y Gyfeillach, y Gymdeithas DdiwyIliadol a'r Ysgol Sabothol na Lilian? Mae' r peTarogl hyn yn ameuthyn Ãr saint mewn oes mor ddi- fedawl ac esgeulus o' r pethau goreu. Ond hi a gymerwyd ymaith yn gynnar yng nghanol ei ffyddiorideb a l defnyddioldeb, am mai lesu wyr beth sy oreu." Pan oedd clychau a hooiers aflafar yr ardal yn cyhoeddi Hedd- wch fore Llun, Tachwedd II, diangodd hi i ardal lonydd yr aur delynau," yn 19 mlwydd oed. Prynhawn dydd Iau canlynol, rhoddwyd yr hyn oedd farwol yn naear Hen netnel, a r rarch. U. t-iarford Evans, Cross Hands, yn gweinyddu. Cydymdeimlwn yn ddwys a'r teulu trallodus yn eu profedigaeth, a dymunwn iddynt gael profi'n helaeth o gysuron yr Efengyl Fawr. Clychau r llawr oedd ar ei chlyw 'N canu Heddwch, Pan aeth at delynau Duw I'r dedwyddweh, N ugain mlynedd namyn un, Ferch heddychol, Yn cael Heddwaii Duw Ei Hun Yn dragwyddol. I Camp y dydd yw cwymp y dail, F yrdd yn disgyn; Mwy o gamp gweld merch ddi-ail Fry yn esgyn, At ganghennau' r bywiol bren- Pren y Bywyd, Sydd a i dda,il tuhwnt i'r lien, I Yn rhoi iechyd. Mud yw'r darlun ar y mur Ym Modiwan, Yno'n gysgod am y bur Fanon Lilian Gwag yw'r sedd yng nghylch y Cor, Lie bun -ffyddlon, Ac mae bwlch yn Eglwys lor Ym Mryn Sion. Ar nawn Sul mor dda oedd hi Yn y cornel, Yn y Dosbarth gyda ni Ar yr Oriel; Nef i mi fod gyda hwy Ferched hyglod, Ond ni chlywaf Lilian mwy 'N dadrys adnod. Lilian annwyl, uwch dy fedd, Wylo'r ydym, Tithau n glyd mewn hyfryd hedd, Oddiwrthym Wylo ar dy ol yn drist I Mae llaweroedd, Tithau' n llawen gyda Christ Yn Ei Nefoedd. Un o fit ydoedd Lilian-ddiangodd Gydag engyl eirian; Eneth gu, fe aeth y gan Yn dawel o Bodiwan. Glanaman. J. J, M.

I ENGLYN I WY. I

[No title]

I ER COF I

FFARWELIAD Y MILWR. j

I CYFARCHIAD

M r Y TORRWR CERRIG -

- - _- _ - - -BRYNAMAN.

I PENYGROES.

IRHYDAMAN.

-_- - - - -Ammanford Police…