Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

- . -7- I I I ?, ,I CORWEN.'I

News
Cite
Share

7 ?, I CORWEN. I 11 Llyfrgell Newydd y Wesleyaid. I Nos Fercher diweddaf, Medi 17eg, agorwyd Llyfrgell perthynol i Eglwye y Wesleyaid yng Nghorwen, gan Mrs. Lloyd John. Cyflwyn- wyd cwpwrdd hardd ynghyda Chyfrolau gwerthfawr Hastings Encyclopaedia of Religion and Ethics "an Mrs Lloyd John er cof am ei thad, y diweddar Mr. Williams (Northyn). Cafwyd gwerth £ 5 o Lyfrau hefyd gan Miss Williams, er cof am ei hannwyl dad Mr. Richard Williams, yr Union, ac yr oedd y Parch. Owen Hughes ac eraill wedi cyflwyno amryw gyfrolau. Daeth nifer dda o gyfeillion ynghyd, a llawenychem weled Dr. H. Cernyw Williams yn eu plith. Llywyddwyd gan y Parch. Rbys Jones (Arolygwr newydd Corwen), a chafwyd anerchiad fuddiol ganddo ar le a gwasanaeth Llyfrgelloedd ynglyn a'r Heglwysi. Cyflwyn- odd y Parch, Owen Hughes adroddiad manwl am ddechreuad a chynnydd y Llyfrgell, ac apeliodd am roddion eta mewn arian neu lyfrau. Galwyd ar lirdl John i agor, a gwnaeth hynny mewn ychyMig eiriau doeth a phwrpasol iawn. Yr oecid yn llawen gennym hefyd groesawu Miss Davies, Trewyn, i'n plith. Siaradodd Dr Williams yn ol ei arfer-yu alluog, a phwysleisiodd y pwysigrwydd i gycnydd addysg gydfyned a chynnydd crefydd. Ar t gynhygiad Mr. R J. Jones, U.H, achefnogiad Mr. J. T. Garner, diolchwyd yn gynnes i Mrs. John a'r teuiu, i Miss Williams a Mr Hugbes am eu rhoddion. Cyfeiriodd Mr Hughes at y darluniau oedd yn yr Ysgoldy, wedi eu gosod er cof am ffyddloniaid ymadawedig. Yn eu plith ceir darluniau o Mr. W. Williams (Northyn); Mr. John Jones, Angbarad; Mr. Richard Williams, Yr Union Mr. Samuel Jones; Mr. Jonathan Davies; a Mr. Alfred Parry. Disgwylir eto ddarluiiiau o Mr. Evan Williams, Pentre, a Mr. Erasmus Jones. Cyflwynwyd hefyd amryw fapiau gwerthfawr ac edryeha yr Ystafell yn glyd a chysurus. Awgrymudd y Parch Rhys Jones y priodoldeb o agor yr Ystafeil yn ystod y gaeai bob nos, er rhoi cyfie in pobl ieuainc droi i roenii i ddarllen. Trwy garedigrwydd Mr. Ilowell Hughes, Dee Batik, yr oedd gwledd wedi ei darp iru ar derfyn v gweithrediadau. Bu Mrs. Hughes Dee Bank, a Miss Blodwen Hughes yn brysur yn paratoi, a chynorthwyid hwy gan Mrs. Pr see, Wesley House, a Mrs. Edwards, Liverpool Cottages. Ar gynygiad Dr Ed wards I diolchwyd yn wMao? i Mr. Hughes &'r teulu, a phawb a wnaeth eu rhan i lwyddiant ly cyfarfod.

PAHLIWN -CORWEN. j

ER SERCHUS GOF am PTE. WILLIAM…

IEND OF SUMMER TIME.

DARLITH.

Advertising