Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

IBETTWS G.Q., A'R CYLCH. I

News
Cite
Share

BETTWS G.Q., A'R CYLCH. I Ein Milwyr.—Llawenydd mawr i ni oedd gweled y cyfaill ieuanc Driver Bobby Walters, A.SC., Frondeg, Dinmael, ar ymweliad a'i deulu eto o Ffrainc y drydedd waith a golwg rhagorol arno befyd, wedi bod drosodd er's tair blynedd a baner heb glwyf na chlais. Yr cedd yn falch iawn o gael gweled ei anwyl briod a'i blant bach unwaith yn rbagor, Yr oedd yn troi yn oj ddydd Sadwrn diweddaf, ac mae lie cryf i gasglu fod y diwrnod hwnw yn un pur ddu yn ei haues hefyd. Gobeithiwn ei weled adref yn fuan eto a heddweh yn teyrnasu. Newydd trist-Ovrbaedlo,-id y newvdd pruddaidd fod Pte, William Hugh Williams, Welsh Guards, Neuadd Lwyd, Llanfihangel, wedi cael Shell yn ei goes a droea yn angeuol iddo bron yn uniongyrchol. Wele un eto o'n becbgyn anwyl wedi myned yn aberth pan nad cedd ond Slain oed. UJaddwyd ef yn Hill Cemetery, Flesquieres. Cynhaliwyd gwasanaeth wrth ei fedd a dodwyd Croes arno. Cydymdeimlir yn fawr a'i anwyl rierii a'r teulu oil yn eu trallod blin. Mae ganddynt un mab arall yn Ffrainc. Nodded y Nef a fyddo drosto yntau. Dydd Meroher, yr 16eg cyfisol cyrbaeddodd y newydd galarus fod Lce-Corp. R. H. Jones, R. W.F., Tynewydd 1.a, wedi marw o'i glwyfau ar yr 8fed o'r mis hwn. Kid oedd ond mis er pan y gianiodd yn Ffrainc y tro hwn, bu drosodd yn y wlad Lon am ysbaid ar ol eael ei glwyfo yn iiaenorol. Yr oedd y cyfaiil ieuanc hwn wedi ymuno a'r Fyddin er dechreu y rhyfel, nid oedd ond 22am mlwydd oed. Yr oedd yn un o'r beihgyn mwyaf boff a dymunol, end wele ei ddiwedd yntau wedi dyfod. Cyd- ymdeimlir yn fawr a'i rhieni a'r teulu oil yn eu galar dwys, yn arbenig ei anwyl Fam, yr hon sydd wedl cael llanw ei chwpan chwerwder i'r vmy lon. Bydd i Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwondaenu eiadenamddiffynol dros y teulu oil yn eu trailod blin. Heddweh i lwch ein cyfaill anwyl yn naear Ffrainc. Mae brawd i'r cyfaill hwn befyd gyda'r Fyddin yn agos i Lundain. Nodded y Nef fyddo drosto yntau yn y dyfod ol. Newydd da.—Llawenydd digymysg i bawb yma ydyw deall fod teulu trailodus Bodynlliw wedi derbyn gair o'r Red Cross fod Pte. Emrys Bodfan Davies, S.W.B, yn garch- aror yn Germany, a cbyrhaeddodti gair oddi- wrtho ef ei hunan yn dweud ei fod yn garch- aror yn Lemburg, a'i fod wedi ei glwyfo, ac beb fod yn dda ei iechyd, gobeithiwn y goreu am dano druan, gallwn fod yn sicr bellach ei fod yn fyw, ac md wedi ei ladd fel y daeth y newydd unwaith. Mae ar goll er Awst 29ain. Gobeithiwn eto gael ei weled adref cyn bo hir iawn bellach a heddweh yn teyrnasu. Mae yn galoadld mawr i'r teulu ddeall ei fod yn fyw. Mae ganddynt obaith ei gael yn ol bellach.—Myfyr ALWEN. ♦ ——————

EDEYRNION LOCAL FOOD CONTROL…

Advertising

Queen Mary Women's Army Auxiliary…

' MAER NEWYDD PEN Y BIROWY4'

I GWYL Y NADOLIG, LLANDRILLO.