Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
ICARROG.
CARROG. Rhyddfrydiaeth.-Nos Iau diweddaf bu Mr Roily Williams, y Bala, yn anerch cyfarfod rhyddfrydol yn y lie uchod, a chafodd dder- byniad brwdfrydig. Siaradodd ar Ddad- ;gyssylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru, Ymreolaeth i'r Iwerddon, Pwnc y Tir, a Mesur Un Dyn Un Bleidlais. Yr oedd ei glywed yn ymdrin a'r materion uchod yn wledd o'r mwyaf. Hefyd cyfeiriodd at y ddeiseb a gymerwyd o gwmpas yr Ymneilldu- wyr. Cafodd Mr Williams hwyl ragorol, a chaed cyfarfod nad anghofir yn fuan. Caed araeth ragorol gan y llywydd Mr. E. P. Jones U.H., Cileurych, a cyfeiriodd at y gwaith mawr a wnaed gan y Weinyddiaeth bresenol. Yn ystod y cyfarfod cynygiodd Mr Robert Roberts, Fedw, y penderfyniad canlynol:- Ein bod yn datgan ein hymddiriedaeth yn Mr Haydn Jones a'r Weinyddiaeth bresenol, ac yn llawenhau yn y rhagolwg y gwelir y mesurau Dadgyssylltiad a Dadwaddoliad Eglwys Loegr yn Nghymru, Ymreolaeth i'r Iwerddon, a mesur Un dyn un bleidlais, ar ddeddf-lyfr y Wlad yn ystod y tymhor pres- enol." Pasiwyd hyn yn unfrydol ar gefnogiad y Parch. W. Foulkes, Llangollen, gan yr hwn y caed araeth ar Paham yr wyf yn Rhydd- frydwr ? Ymdriniodd ar mater o dan ddau agwedd (1) am yr hyn oedd wedi ei gael gan- ddynt, ac yn (2) am yr hyn oedd yn ddisgwyl gael yn y dyfodol. Barn y mwyafrif ydoedd inai hwn ydoedd y cyfarfod mwyaf brwdfrydig a gaed yn yr ardal ers blynyddau. Newidiad-Sylwer mai Ser y Bore (Dan Protheroe) yw y dernyn cystadleuol i Barti o Feibion yn Nghyfarfod Cystadleuol Carrog wythnos y Pasg, ac nid y Gwanwyn ddaeth' fel yr hysbyswyd yn flaenorol. Gweler ein colofnau hysbysiadol am fanylion pellach. ♦
I Colledion Ffermwr..
I Colledion Ffermwr. Y dydd o'r blaea yn Nhrallwm, cyhuddwyd morwyn bymtheg oed o'r enw Annie Evans, rhieni yr hon sydd yn byw yn Boat Street, Trallwm, o archolli nifer o wartheg. Dywedwyd i'r eneth fod yn gwasanaethu gyda Mr Owen, Groespluan, er Mai diweddaf, ac yn ddiweddar trengodd deg o wartheg i Mr Owen. Trengodd amryw o'r anifeiliaid o fewn ychydig amser i'w gilydd, ac ymddang- osai'r anifeiliaid mewn poenau dirfawr wrth, drengu. Nid oedd yr archollion yn weladwy ac felly bernid i'r anifeiliaid gael eu gwen- wyno. Modd bynag, dywedodd y Dirpwy Brif Gwnstabl Williams wrth y Fainc nad oedd y ffaith i'r anifeiliaid gael eu gweuwyno yn wir. Yr oeddynt wedi bod yn gwylio yr eneth yn ddiweddar. Ni fedrai fod yn dawel, ac o'r diwedd addefodd wrth ei Meistr iddi gloffi yr oil o'r gwartheg a drengodd. Hydref diweddaf, torodd tin allan ar fferm Mr Owen, ac addefodd yr eneth wrtbo mai ei gwaith hi oedd hwnw hefyd. Yn ystod y gweithrediadau gwenai 'r eneth ac atebai y cwestiynau yn hyf a chyflym, Taflwyd yr achos i'r Frawdlys.
I YR IS-ETHOLIADAU.
I YR IS-ETHOLIADAU. Dydd Iau, pleidleisiwyd yn Rhanbarth De Orllewin Bethnal Green, Llundain. Wele'r canlyniad Major Syr M Wilson (C) 2,828 C F G Masterman (R) 2,804 J Scurr (Sos) 316 Mwyafrif Ceidwadol 24 Canlyniad is-etholiad 1911 ydoedd :— Masterman (R) 2,745 Hoffguard (C) 2,561 Scurr (Sos.) 133 Mwyafrif Rhyddfrydol 184 ETHOLIAD DE BUCKS. Pleidleisiwyd dydd Mercher fel y canlyn:— Mr B du Pre (C) 9,044 Mr Tonman Moseley (R) 6,713 Mwyafrif Ceidwadal 2,331 ETHOLIAD POPLAR. Mr A W Yeo (R) 3,548 Mr R Kerr Clark (C) 3,270 Mr J Jones (Llaf.) 893 Mwyafrif Rhyddfrydol 278
Advertising
FOR SALE. SEED POTATOES Factor," Scotch Grown, 1912. Cheap. Apply I ADSAIN OFFICE. CROWN SHOP, CORWEN. Tl> "t.c .4'¿, REMBVAL SMI NOW I^ROCEEIDIMO BARGAINS for One Month only. 10 Men's Overcoats 12s6d to clear. Worth from 21s. to 30s. 15 Gent's Mackintoshes 15s6d. (Guaranteed Waterproof). 10 Ladies Blanket Coats 12s6d. 12 Girl's Paletots 12/6. Ladies Mackintoshes 2/6. Wonderful Value. REMNANTS UNDER COST PRICE!! ALFRED PARRY.