Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Trengholiad ar gorff Baban…

News
Cite
Share

Trengholiad ar gorff Baban gafwyd mewn tomen yn Glyndyfrdwy. Prydnawn ddydd Gwener diweddaf ger- bron yr is-grwner Mr Guthrie Jones, Dolgellau a'r rheithwyr canlynol :—Mri Hugh Hughes, Meirion Boot Stores (blaenor); Ellis Roberts, Butcher J Williams, Edeyrnion Shop; J. T. Garner, Glyndwr Terrace; J Francis Jones, London Road J. 0. Jones, XL David Jones, Cafe; J D Hughes, Bristol House D. Davies Brynteg; E E Hughes, Royal Oak; E Elias Jones, Beehive; J. Henry Evans, Wenallt, a L. E. Rees, Reliance House cynaliwyd treng- holiad ar gorff babah a gaed wedi ei guddio mewn tomen yng nghefn Sun Terrace, Glyn- dyfrdwy. Tystiodd Edward Richard Davies, gwas yn Tycerrig, Glyndyfrdwy, iddo fod yn symud tomen o gefn Sun Terrace, i'r ffordd Iddydd Mawrth diweddaf mewn berfa, a'r dydd di- lynol yr oedd yn ei chludo mewn trol i gae Tycerrig, yr oedd ei feistr yn arwain y ceffyl, pan yr oedd y tyst yn dadlwytho syrthiodd rhywbeth o'r llwyth, a galwodd arei feistr i edrych beth ydoedd, ni wyddai ei feistr beth oedd, a dywedodd y tyst ei fod wedi gweled Haw, chwalodd ei feistr y lludw ac hysbysodd ef mai corff plentyn bach ydoedd. Yna cudd- iasant ef rhag y cwn, ac aeth ei feistr ymaith i hyshysu yr heddwas. Mr J D Hughes: Ai tu ol i'r tai oedd y domen ? Y tyst: Ie. Mr. Ellis Roberts A ddarfu chwi notisio rhywbeth y dydd cyntaf ? Y tyst ? Aeth fy fforch i rywbeth, ond ni welais y corff yr adeg hono. John Jones, ffermwr, Tycerrig, Glyndyfr- dwy, a dystiodd ei fod gyda'i was yn cario y lludw dydd Mercher i gae perthynol iddo ef; galwodd y bachgen ei sylw at rhywbeth a syrthiasai o'r drol, a gofynodd iddo beth oedd, atebais ef a dywedais ei fod yn debyg i hen wningen ond atebodd y gwas ei fod wedi gweled dwylaw, yna chwiliais a canfuais mai corff plentyn bach ydoedd, ac wedi pydru dipyn. Cleddais ef rhag y cwn, ac euthym i hysbysu yr heddwas, yr hwn a ddaeth i'r cae ac a gymerodd ofal y corff. Mr. D. Davies Ai chwi sydd yn arfero] a chael y lladw oddiyno ? Y tyst: Ie. Mr. D. Davies: rob faint i'yddwch yn clirio y domen ? Y tyst: Yn ol y cyfleustra. Mr D. Davies Felly, gallasai fod yno er's peth amser ? Y tyst: Gallasai. Yr Heddwas Parry, Glyndyfrdwy, a dyst- iodd iddo gael ei alw i Tycerrig oddeutu 5-30 prydnawn Mercher, pan gyrhaeddodd yno aeth y gwas ag ef i lawr i'r cae i ddangos y corff, a chafodd ef wedi ei gladdu yn y lludw, aeth ag ef gartref a golchodd ef, yna rhoddodd ef mewn 'bocs' a daeth ag ef i Gorwen. Y Crwner: A ydych wedi ceisio d'od o hyd i fam y plentyn ? Y tyst: Do, ond hyd yn hyn yn aflwydd- ianus. Tystiodd Dr. Walker, Corwen, iddo weled y corff yn Nghorsaf yr Heddlu fore Gwener, ac yn nghwmni Dr. Edwards gwnaeth arcbwiliad arno corff geneth fach oedd, ac mewn cyflwr pydredig; mesurai 16 modfedd o hyd, a phwysai ddau bwys, yr oedd y fraich dde yn goll, ond hyny yr oedd y corff yn gyfan. Ar ol gwneud archwiliad daethom i'r penderfyn- iad ei fod yn blentyn cyn-amserol, ac yn farw-anedig. Y Crwner: Faint o amser fu y corff yn y domen ? Y tyst: Oddeutu mis. Cadarnhawyd tystiolaeth Dr. Walker gan Dr. Edwards. Hysbysodd Mr. Hugh Hughes (y blaenor), fod y rbeithwyr yn unfrydol yn dod a rheith- farn yn unol a thystiolaeth y Meddygon.

CORWEN.I1

Y diweddar Mr. William B.…

Advertising