Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

At y Golygydd SIR, Fel un a hoffai gael eglurhad ar fater a I ymddangosodd yn eich rhifyn diweddaf o berthynas i Lys Trwyddedol Rhuthyn yn mha un yr adroddid fod Gweinidog yr Efengyl ac Aelod Eglwysig Ymneillduol o'r un Enwad a mi wedi rhoddi "Testimonials i ddyn gael gofalu am dy tafarn. Carwn wybod pa le y mae cyssondeb ac egwyddor yn d'od i mewn yn hyny o beth ? Yn neillduol pan gofir mai y Ddiod Feddwol ydyw un o elynion penaf Crefydd yr Arglwydd lesu yng Nghymru heddyw. Byddaf yn dra diolchgar os bydd i rhywun o'ch Darllenwyr roddi goleuni i mi ar y pwnc. Yr eiddoch, METHODIST. I

Advertising