Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

JBWRDD Y OW ARCHEIDW AID,…

CORWEN I

News
Cite
Share

CORWEN Y Clwb Ceidwadol,-Nos Wener diweddaf, cynaliwyd 'smoking concert' yn y lie uchod, y prif ddatgeiniaid, oeddynt :-Mr. Young, o Pwllheli, a Mr. George Jackson, o Langollen. Daeth cynulliad da ynghyd a chaed cyfarfod hwyliog. Deallwn i oddeutu dwsin ymaelodi nos Wener. Yr Ystorm.-Nos Sadwrn a dydd Sul di- weddaf gorlifodd y Ddyfrdwy ei glanau. Gofidus genym ddeall fod amryw o amaethwyr gwaelodion dyffryn Edeyrnion wedi derbyn colledion trymion trwy i amryw o ddefaid gael eu hysgubo ymaith gan y llifeiriant. Dadgyssylltiad.—Y nifer o Ymneillduwyr dros 21ain oed, yn esgobaeth Llanelwy, ag y sydd wedi arwyddo y ddeiseb ynerbyn Dad- waddoli a Dadgyssylltu yr Eglwys yw 15,321. Cynwysa y nifer hwn 5,309 o Fethodiatiaid Calfinaidd, 3,834 o Wesleaid, 2;771 Annibyn- wyr, 1,586 Bedyddwyr, a 1,821 o enwadau eraill. Ymysg y rhai arwyddasant ceir 29 o weinidogion neu bregethwyr, 158 diaconiaid, 56 yn dal awyddau eraill, ag 18 o ynadon. Y syndod yw fod cynifer wedi gwneud pan y cymerir i ystyriaeth fod ceisiadau wedi cael eu gwneud o bronipob eefc fawr drwy y dos- barth am i'w gwrandawyr wrthod arwyddo y ddeiseb.

Advertising