Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

JBWRDD Y OW ARCHEIDW AID,…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

JBWRDD Y OW ARCHEIDW AID, CORWEN, Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Thomas Thomas, U.H.; Mr. D. W. Roberts, Blaen Ial, Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistri R. James Jones, Primavera, Corwen; 0. A Lloyd, Waterloo House William Williams, Pandy William Roberts, Gwnodl Bach; Ed. P. Jones, Cileurych R. 0. Roberts, Bryn; E. D. Jones; R. Meyrick Roberts, Gwylfa; Geo. Evans, Bryneglwys; John Hughes, Llandrillo; John 0. Davies, Maesyrychain E. H. Ellis, Branas T. Williams, Pencraig; E. E. Jones, Pentrellawen; John Jones, Carrog; Miss Walker; Mrs. R. T. Jones; Mrs Richards Hugh Lloyd Samuel Davies David Jones, Rhospengwern E M Edwards Job Evans:; Dr Drinkwater E. Derbyshire, (clerc), a Lemuel Williams, (meistr) Yn Haw y Trysorydd, 633p. lis. Ie. Tlodion yn y Tlotty. Nifer y Tlodion yn y Tlotty yn ystod y bythefnos ddiweddaf :-Yr wythnos gyntaf, 84, ail wythnos, 80. Crwydriaid. Nifer y crwydriaid gynorthwywyd yn ystod y bythefnos ddiweddaf Y r wythnos gyntaf, 59; yr ail wythnos, 77. « Y Rheidweinyddion. 1 Pasiwyd i ganiatau y symiau canlynol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol :-Mr. D. L. Jones, Corwen, £ 23 Mr. R. 0. Davies, Llan- gollen, £ 34. Adroddiad y Meistr. Hysbysodd y Meistr fod un marwolaeth wedi digwydd yn y tlotty yn ystod y bythef- nos ddiweddaf, sef Mr Jonathan Edwards, o Gynwyd, yn 87 oed. Cydymdeimlad. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Samuel Williams, Llangwryd, yn diolch am gydym- deimlad y Bwrdd ag ef a'i deulu yn y profed- igaeth ddiweddar. Cadarnhad. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llyw- odraeth Leol yn cadarnhau ychwanegiad o 5p yn nghyflog Mr. R. 0. Davies. Cynrychiolydd. I Derbyniwyd cais oddiwrth Bwyllgor Mam- aethol Dosbarth Corwen yn gofyn i'r Bwrdd benodi un o'r Bwrdd ar eu Pwyllgor. Penodwyd Mr R. M. Roberts. Gorsafoedd bara. I Ar gynygiad Mr E P. Jones pasiwyd i ad- newyddu y contract a'r masnachdai sydd yn gyflenwi yr uchod am fis eto. Tocynau. I Rhoddodd y Meistr adroddiad o'r nifer o docynau ynglyn a'r gorsafoedd uchod yn ystod y mis diweddaf w Tocynau bara a chaws 43 „ bara yn unig] 19 11 Nifer wrthododd docynau 25 Foster Mother. 1 Yn y cyfarfod blaenorol derbyniwyd chwech o geisiadau am y swydd uchod, a tynwyd y nifer i lawr i un, a penderfynwyd fod hono i ddod o flaen y Bwrdd nesaf. Mewn canlyniad daeth Miss Annie.Williams, Conwy, gerbron i gael ei arholi gan Mr. Thos. Thomas (y cadeirydd), Atebodd Miss Williams pob gofyniad yn drwyadl. Darllenwyd llythyrau cymeradwyaeth o'i phlaid oddiwrth Gadeirydd Gwarcheidwaid Conwy Parch J Rice Roberts, Rhiwlas, Pen- traeth, Mon; ac oddiwrth Mr a Mrs Evans, meistr a meistres Tlotty Conwy (gynt o Gorwen ). Pasiwyd i'w dewis yn unfrfdol ar yr amod ei bod yn llwyddianus dan arholiad Dr. H E. Walker, ar gynygiad Mr E D Jones, a chefn- ogiad Mr R M. Roberts. Tenders. Derbyniwyd y prisiau canlynol am gyflenwi I I llyfrau cyfrifon:— Knight & Co 14 10 0 Haddon Best 13 12 6 Shaw & Sons 12 3 0 Ellsworth Bros., Leeds 9 4 6 Pasiwyd i dderbyn yr isaf ar gynygiad Mr. R James Jones a chefnogiad Mr 0 A Lloyd. I Adroddiad. Cafwyd adroddiad pwyllgor yr Adeiladau gan Mr J 0 Davies, hysbysodd iddynt dder- byn llythyr oddiwrth Mrs Eyton Jones yn datgan ei bod yn foddlawn i garthffos Fron- hyfryd fyned trwy tir perthynol iddi. Pasiwyd i Mr Aneurin Jones tynu allan gynllun o'r garthffos. +

CORWEN I

Advertising