Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CORWEN. -I

LLANGAR, ger CORWENI

News
Cite
Share

LLANGAR, ger CORWEN I Y DDAMWAIN DDIWEDDAR. I Dydd Mawrth diweddaf cynaliwyd treng- holiad yn Ysbytty Dinbych, ar gorpb, Robert Edwards, 34 mlwydd oed, Tynywern Bach, Llangar, ger Corwen, yr hwn a fu farw yn yr ysbytty, mewn canlyniad i niweidiau a dder- byniodd tra yn gyru 'motor tractor' o Gorwen i Cerrigydruidion, y dydd Gwener blaenorol. Cynaliwyd yr ymchwiliad gerbron Mr. Robert Davie3, trengholydd Gorllewinbarth sir Ddinbych. Adnabyddwyd y corph gan Mr John Roberts, Railway Stores, Dinbych, yr hwn a ddywedodd fod yr ymadawedig yn berthynas i'w wraig. Tystiodd Ebenezer Jones, perchenog y 'motor tractor' fod y trancedig yn ei wasan- aeth i wneud rhywbeth allasai. Ar y 5ed o'r mis hwn yr oeddynt yn myned a Ilwyth o Gorwen i Cerrigydrudion. Yr oedd y tyst wedi cael profiad o ugain mlynedd fel gyrwr peirianau a 18 mis fel gyrwr 'motor tractor'. Ar y dyddiad a nodwyd yr oeddynt yn agos i Bontyglyn a'r trancedig yn gyru y peiriant, yr achos am hyny oedd fod y trancedig eisieu dysgu gyru y peiriant, ac yr oedd wedi gyru lawer tro cyn hyny am ychydig bellder. Pan ar dop yr allt sydd yn myned at Bontyglyn gofynais i Edwards a ydoedd yn abl i'w gyru at y lie fyddem arferol a chael dwfr ac ateb- odd, Ydwyf, Eben, yr wyf yn all right." Darfu yr ymadawedig droi yr olwyn yn sydyn gan achosi i'r peiriant droi o ganol y ffordd i'r gwrych. Wedi i'r tyst atal y peiriant collodd Edwards oddiwrth ei ochr, a brawychwyd ef gan dybio ei fod dan yr olwynion. Gwelodd ei fod wedi ei wasgu cydrhwng y peiriant a'r mur. Yr oedd y mur yn orchuddiedig a gwrych o ddrain. Gyda chynorthwy llwydd- ais i ryddhau Edwards yn fuan, ond yr oedd yn anymwybodol. Yr oedd wedi anafu yn y rhan isaf o'i gorph. Bu yn fy ngwasanaeth am ddeng wythnos. Y Trengolydd: Beth oedd. yw gyfrif am i'r trancedig droi yr olwyn yn sydyn ? Y Tyst: Fe'i trodd i gyfeiriad arall i'r un a.fwriadai. Rhoed tystiolaethau gan Dr D R Edwards Corwen, a Dr Lloyd, Dinbych. Dywedodd y Nyrs Broadbent ddarfod i'r trancedig ddweyd wrthi yn yr ysbytty iddo geisio neidio ar y mur, ond iddo lithro. Ni ddywedodd air arall wrthi. Dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth ddamweiniol." Cymerodd yr angladd le dydd Iau diweddaf yn Nghynwyd, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch A. Abel, B.A., rheithor.

Balance Sheet of Pierrots'…

Advertising