Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLYS TRWYDDEDOL CORWEN.

News
Cite
Share

LLYS TRWYDDEDOL CORWEN. Cynaliwyd yr uchod yn Nghorwen ddydd Gwener gerbron David Davies, Thos. Lloyd Jones, a W. 0. Williams, Ysweiniaid. Darllenwyd adroddiad yr Heddlu gan Mr. Lloyd John, yr hwn a hysbysodd fod deunaw o dafarnau yn y dosbarth, a'r oil ar y cyfan wedi cael eu cadw yn dda. Yr oedd trwydd- ed achlysurol wedi cael ei chaniatau i'r Owen Glyndwr Hotel yn ystod flwyddyn. Gan fod y Golden Lion Hotel wedi cael ei gwerthu i Mr Alfred Parry, Crown Shop, i'r perwyl o'i gwneud yn fasnachdy dilladau, nid oedd cais am drwydded i'r Golden Lion. Rhif y bobl- ogaeth yn ol census diweddaf ydoedd 5,132, yr hyn rydd gyfartaledd o 285 2 ar gyfer bob trwydded. Yn ystod y flwyddyn cospwyd 11 am feddwdod, sef yr un nifer a'r flwyddyn flaenorol, o'r nifer hwn yr oedd naw heb fod yn trigiannu yn y Dosbarth. Nid oedd gan yr Heddlu unrhyw wrthwyn- ebiad i'r trwyddedau, felly adnewyddwyd yr oil. > Mater pwysig. Galwodd y Cadeirydd sylw at gylch-lythyr a dderbyniwyd o'r SGyddfa Gartrefol yn anog y trwyddedwyr i gadw llyfrau cyfrifon priodol o'r hyn a werthir allan ac a brynir i mewn. Y mae hyn yn dra phwysig i bob trwyddedwr oherwydd y Sllyfrau hyn fydd y safon pan y daw achos o iawn (compensation) gerbron. Caniatawyd 'rebate' oddiar y Gronfa Iawnol o dan Ddeddf Drwyddedol 1910, ynglyn a'r Refreshment Room yng Nghorsaf Corwen i Mr Plack, Crown Hotel. ♦

Penny Reading at Plas Adda.

Cynghor Plwyf Corwen.

I IGWYDDELWERN.

GLYNDYFRDWY.

I INDIGESTION, WIND OR A SICK,…

Advertising