Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CORWEN. I

News
Cite
Share

CORWEN. I Per-gonol.-Y mae mudiad ar droed i godi Capel Coffadwriaethol i'r diweddar Barch. Cadwaladr Jones, cyn-weinidog eglwysi annibynol Dolgellau a'r cylch. Bu Mr Jones yn gweinidogaethu yno am yr ysbaid maith ddeugain mlynedd, ac yn golygu y Dysged- ydd am flynyddau lawer. Trwy garedig- rwydd Cyrnol John Vaughan o Nannau, mae y cyfeillion yn Llanelltyd wedi llwyddo i sicrhau lie priodol i adeiladu arno. Deallwn mai ein cyd-drefwr ieuangc Mr. Aneurin Foulkes Jones, Colomendy, sydd wedi cael ei benodi yn archadeiladydd. Damwain.-Dydd Iau diweddaf, djgwydd- odd damwain echrydus ar ffordd Cerigydrud- ion gerllaw Pont-y-glyn, trwy ba un y derbyniodd Mr. Robert Edwards, Tynywern, c Cynwyd, niweidiau difrifol trwy gael ei ddir- wasgu cydrwng 'traction engine' a c'lawdd y ffordd-bu raid chwalu rhan o'r clawdd er cael y truan yn rhydd. Cyrchwyd ef :i'w gartref yn ngherbyd Mr Roberts, Bronant. Yr oedd ei fraich wedi thori ac yr oedd wedi derbyn niweidiau mewnol mor ddifrifol fel y gorfu ei symud y dydd dilynol i Infirmary Dinbych—yn yr hwn le y bu farw pddeutu haner awr wedi deg nos Sabboth diweddaf mewn canlyniad i'w niweidiau. Gadawodd weddw a dau o blant bach i alaru ar ei ol. Cymer y trengholiad le heddyw yn Ninbych. Rheithfarn "marwolaeth ddamweinicl." Trwyddedol.-Yn Llys Trwyddedol Ruthyn a gynhaliwyd Chwefror 2il, gwnaeth Mr. Sydney Watkins, cyfreithiwr, Dinbych, gais am i drwydded y Cymro Inn, Clawddnewydd, gael ei throsglwyddo gan Mr William Addis, i Mr T H White, gynt o'r Golden Lion Hotel, Corwen. Darllenwyd llythyrau cymeradwy- aeth o blaid Mr White, oddiwrth Dr Walker, y Parch J. Williams, a Mr. T LI Jones, D.H., Corwen. Caniatawyd y cais. Cymdeithas Lenyddol Seion. Nos Wener, traddodwyd darlith gan Mr J. P. Hughes, yn cael ei gynorthwyo gan Mr Lettsome gyda llusern, ar ei daith i Switzerland yr haf di- weddaf. Daeth nifer dda ynghyd a mwynha- wyd y ddarlith yn fawr. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr R H Morris, Caxton House. —Nos Wener nesaf ceir noson gydag Enoc Hnws." Cofus genym gael noson ddifyr iawn gyda Daniel Owen a'i waith ddwy flynedd yn ol. Pafiliwn-Derbyniwyd yr wythnos ddi- weddaf tuag at gronfa y Pafiliwn, ddeg punt oddiwrth y National Provincial Bank, a dwy gini oddiwrth Mr Meyrick Roberts. Ym- ddengys rhestr gyflawn o'r tanysgrifwyr to-date yn fuan. Howel Harris.-Gweler ein hysbysiadau am fanylion y ddarlith. Deallwn fod y dar- lithydd yn awdurdod uchel ar y testyn gan mai efe sydd wedi ei benodi gan Gynghrair Eglwysi Rhyddion Cymru i ysgrifenu pam- phled ar achlysur dau canmlwyddiant Howel Harris. Cofier y dyddiad, sef nos Wener, Mawrth y 13eg.

Cymdeithas Amaethyddol Edeyrnion.I

Advertising