Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Marwolaeth a Chladdedigaeth…

News
Cite
Share

Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs. Davies, Penybont, Tre'rddol, Corwen. Dydd Llun, Ion. 13, bu farw yr hen chwaer uchod yn yr oed ran teg o 73, ac wedi bod yn briod a Mr John Davies am dros haner can' mlynedd. Perchid hi gan bawb o'i chyd- nabod oherwydd ei hysbryd llednais a'i thymer addfwyn ac nid bendith fach yw cael gras i lywodraethu ein tymherau. Yr oedd achos crefydd yn agos at ei chalon, a bu yn un o'r aelodau ffyddlonaf yn nghapel M.C., Moeladda tra y ganiataodd ei hiechyd. Erbyn hyn y mae wedi cael ei rhyddhau oddiwrth pob gofid, Joes, a chlwy. Huned yn dawel, y mae huno yn rhagdybied di-huno—ei chorff yn unig sydd yn huno, a mae ei henaid yn effro yn y ncfoedd ni a hyderwn. Fel y can- odd y bardd Paham y wylwn am y rhai Sydd wedi cyraedd fry heb fraw ? Yn rhydd oddiwrth bob poen a bai Maent eto'n fyw yr ochor draw. Cymerodd yr angladd Ie dydd Iau diweddaf yn mynwent Eglwys Llandderfel. Gwasan- aethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. John Pritchard, a J. Foulkes Ellis (ei gweinidog). Heddwch i'w llwch; a bendith y nefoedd a ddilyno ei phriod, ei hunig ferch a'i thri mab, a'r perthynasau oil ydyw dymuniad ( CYMYDOG.

Advertising