Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR
AT EIN GOHEBWYR Oherwydd diffyg gofod gofidus genym ein bod yn gorfod cadw yr ysgrifau canlynol drosodd dan ein rhifyn nesaf Calenig f'Neb ond Iesu Presentation to the Rev. Mrs. Rees Jones ac amryw eraill. 4.
CORWEN.J
CORWEN. Pregethwr Enwog- Y Sabboth nesaf pre- gethir yn Nghapel Annibynwyr Cymreig, Corwen, y bore a'r hwyr, gan y Parch Towyn Jones, A.S., Sir Gaerfyrddin. Cymdeithas Seion.-Nos Wener, traddod- wyd darlith ddyddorol ac adloniadol gan y Parch Berwyn Roberts, ar yr luddew Cym- reig." Yr Illddew oedd Dic Aberdaron, un o gymeriadau rhyfeddaf Oymru ar lawer ystyr Cafodd y rhai oedd yn bresenol ami i wers a llawer o hwyl tra yr oedd Mr Roberts yn dde- heuig yn adrodd ei hanes.—Nos Wener nesaf ceir Mock Parliament," y Hefarydd fydd Mr Davies, Bane; arweinydd yr wrlhblaid, Mr J S Roberts; a'r prif weinidog fydd Mr Dudley Morgan. Marwolaeth- Bore Gwener diweddaf, yn flwydd a phum mis oed, bu farw Eric, anwyl blentyn Mr a Mrs Hugh Edwards, Hill-street, Corwen. Cymerodd yr angladd le ddoe yn mynwent Eglwys Corwen. .Anrheg-Prydnawn Sul diweddaf cyflwyn- wyd anrheg o bendant tlws i Mr J E Thomas, Brynawen, gan aelodau ei ddosbarth Ysgol Sul (W.) fel gwerthfawrogiad o'i wasanl-Jeth iddynt fel athraw. Capel y Bedyddwyr.—Nos Fercher cynal- iwyd y Gymdeithas Ddiwylliadol tan lywydd- I iaeth Mr Dudley Morgan. Darllenwyd papyr I gwir dda ar Elias y Thesbiad gan Miss Annie Roberts, y Stores. Canwyd gan Miss j M. H. Jones a'i pharti Miss E Evans, a Miss i Ceridwen Williams. Adroddwyd gan Miss Evans. Enillwyd am' gyfieithu gan Mr T. | Edwards, a gwobrwywyd Mr Meirion Lewis am ei Iwyddiant rnewn cyfarfod blaenorol. Diolchwyd yn wresog i'r Cadeirydd ar gynyg- iad y Parch H C Williams, eiliad Mr Salisbury Roberts, a chefnogiad Mr D M Davies. Gramophone.-Second-hand-four 10-inch and two 12-inch double-sided records. 21s. the lot, G. M. Wilson, London-road, Corwen.
♦..iBWRDD Y GWARCHEIDWAID,…
♦- iBWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN. Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Thomas Thomas, U.H.; Mr. D. W. Roberts, Blaen Ial, Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistn R. James Jones, Primavera, Corwen; Robert Owen Roberts, Bryn; William Williams, Pandy; William Roberts, Gwnodl Bach; Ed. P. Jones, Cileurych; J Hughes, Llandrillo; T.W. Edwards; R. Meyrick Roberts, Gwylfa; Geo. Evans, Bryneglwys; Thomas Davies, Tynywern John 0. Davies, Maesyrychain E. H. Ellis, Branas T. Williams, Pencraig; W. H. Parry, Bridge End H. Lloyd, Cerrig E. M. Edwards, Brynhowell; David Jones, Brynsaint; Job Evans, Glenside; Pencerdd Williams Mrs. Richards Mrs. R. T. Jones; R. E. Pugh, Penybryn; E. Derbyshire, (clerc), a Lemuel Williams, (meistr). Yn Haw y Trysorydd, 1188p. 2s. 9c. Gohebiaeth. Derbyniwyd llythyr o Fwrdd Llywodraeth Leol i gadarnhau penodiad Nyrs Jenkins. Claddfa Llangollen. Derbyniwyd y prisiau canlynol am feddau i dlodion yn Llangollen :— Cemetery Llan. Marwanedig, ac o dan fis oed 2s6c Mis, a than 12 oed 5s0c Dros 12 oed losoc Ail-agor (8 troedfedd) tro cyntaf 9s0c „ ail dro 7s0c trydydd tro 5s0c Mynwent yr Eglwys. Bedd (9 troedfedd) 20s0c Ail-agor, tro cyntaf 18s0c ail dro 16s0c trydydd tro 14s0c Trosglwyddwyd y mater i aelodau Llan- gollen ei vstyried, a dyfod ag adroddiad i'r Bwrdd nesaf. Bwyd i Grwydriaid. Ynglyn a'r gyfundrefn er atal i Grwydriaid fegera, derbyniwyd llythyr oddiwrth Mr. Harding Roberts, ysgrifenydd y mudiad, yn hysbysa nad oedd pris penodol wedi ei osod am y bwyd-ond mai 'r swm ar gyfartaledd trwy Ogledd Cymru ydoedd I Haner pwys o fara a 3 owns o gaws 2c Haner pwys o fara lc | hx gais y Ulerc derbyniwyd prisiau o r ileoedc1 canlynol: — Brynsaithmarchog, bara a chaws, 3c bara, lc J Rowlands & Co,, Llangollen., bara a chaws, 5e bara, 2c. ■ J Parry & Co., Llangollen, bara a chaws, 4c bara, l-|c. Bryneglwys, bara a chaws, 4c bara, l?c. E H Williams, LJa?driHo, bara a chaws, 2?c bara, lc I II 0 Roberts, Cerrig, yr un bris a Llandrillo. Ar gynygiad Mr J 0 Davies. a chefnogiad MrW H Parry, pasiwyd i dderbyn yr isaf yn mho b adrall, am fis. Mamaeth. Hysbyswyd fod ehwech o geisiadau am fod yn famaetii yn nghartref y plant. Gan fod hwn penodiad pwysig, pasiwyd ar gynygiad Mr Meyrick Roberts i wahodd yr Arolygydd i fod yn bresenol pan wneir y penodiad. Codi Cyliog Pasiwyd i godi 5p yn nghyflog Mr Davies, rheidweinydd, Llangollen, Adroddiad y Meistr. Yn ystod y bythefnos derbyniwyd y rhai a ganlyn i'r tlotty :• -.Alex Kelly, 77; James! Fergusson, 52; R. E Jones, 32 Minnie Jones a'i phlentyn Jane Wolff, 27 E Hughes, 44. Am wrthod cyflawni eu tasg anfonwyd Michael Morrison a R E Jones i garchar am saith niwrnod. Tlodion yn y Tlotty. Nifer y Tlodion yn y Tlotty yn ystod y bythefnos ddiweddaf Yr wythnos gyntaf, 81, ail wythnos, 75. Crwydriaid. Nifer y crwydriaid gynorthwywyd yn ystod y bythefnos ddiweddaf :—Yr wythnos gyntaf, 55; yr ail wythnos, 34. Y Rheidweinyddion. Pasiwyd i ganiatau y symiau canlynol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol :-Mr. D. L. Jones, Corwen, 125; Mr. R. 0. Davies, Llan- gollen, £ 38. Calenig. Hysbysodd y Meistr ei fod wedi derbyn gini oddiwrth Mrs Lloyd, Rhagatt, i brynu myglys i'r dynion, eiwgr i'r gwragedd, aur- afalau a melusion i'r plant, sydd yn y tlotty. Pasiwyd # pleidlais o ddiolchgarwch i Mrs Lloyd am ei haelioni.
Advertising
PRELIMINARY NOTICE. {. A GRAND Operatic CONCERT (By kind permission of Mr. Charles Manners), Will be held in eERRIG-Y-QRUI DION, —on— MONDAY, FEBRUARY 2nd, 1914, In aid of the Nurse Fund." Hon. Treasurer :—Mrs. G. Mainwaring. Hon. Secretary Mrs. Amey Jones. CANADA, Australia, De Africa. Unol Dalaothau etc., etc. OS YDYCH AM WYBOD Y FFORDD OREU A RTTATAT I FYNED ALLAN I UNRHYW BARTH O'R BYD, GWNEWCH YMHOLIAD A Mr. ROBERT JONES, 18, Town Hill, Wreesam, Y SwiDDFA YMFUDOL OREU YNG NGHYMEU. Mae eisieu Canoedd o Weision Ffermwyr a MercLed Gweini ac Eraill i weithio gyda ffermwyr yn Ontario, ac yn y Talaethau Gor- llewinol yn Canada. Cyflogau goreu. Ceir manyJion (I llyfrau vn rhad drwy y post. A — ERT Will be held in the PAVILION, CORWEN, -n_ On WEDNESDAY, FEB. 4th, 1914 ARTISTES lis. I9SS WILLIS, MR. TED DAYIE8, AND THE CORWEN PIERROTS. Orchestra Leader, Mr. Bradwen Jones. Proceeds towards the Nursing Fund. Further particulars in future advertisements. EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how all Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recommended by eminent Physicians, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. Thousands of Testimonials. Established 1862. MR. PAUL BLANCHARD, jCEaremont House. Dalston Lane, London*