Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

----------Lith Ned Llwyd.

Helynt Arianol Rhwng Perthynasau…

--,-------__-------- ------_.---------------_-Barddonaeth.

Trefriw.

News
Cite
Share

Trefriw. Nos Iau, Ionawr i6eg, gwahoddwyd parti Mr R. Williams, Church-square, i swper yn Craf- nant House. Eisteddodd tua pedwar ar hugain wrth y byrddau, y rhai oedd wedi eu hulio a phob math o ddanteithion er gvasaiiaeth y corph. Ar ol clirio- y byrddau cafwyd cyfarfod adloniadol, dan lywyddiaeth Mr D. Bibby, pan y cafwyd caneuon, adroddiadau, etc., gan y rhai canlynol :-Mr R. Roberts, Forge; Mr Johnnie Williams,, Miss Lizzie Jones, Min Afon; Miss E. Jones, Crafnant House; Mr R. Williams, Mr R. Evans, Cratnant House Mr Pierce Evans, Mr Edward Williams, Llys Derwen, etc. Y Llyw- ydd a ddywedodd fod yn bleser o'r mwyaf gan- ddo ef gyflwyno diolchgarwch gwresocaf y parti i Mr a Mrs Evans am y modd yr oeddynt wedi darparu ar eu cyfer y noson hono, ac hefyd am yr adeiladaeth i'r meddwl oeddynt wedi ei gael yn y cyfarfod. Dymunai ddatgan ei ofid eu bod yiicolli o'u plith Mr P. Evans, cigydd, yr hwn oedd ar ymfudo i'r Gorllewin pell. Dymunai, ar ran y parti, iddo gael mordai-th. lwyddianus, ac y byddai i'w symudiad fod yn fendith iddo yn mhob ystyr, ac y byddai iddo barhau yn y dyf- odol i roddi ei wasanaeth yn y da, y pur, a'r dyrchafedig, ac y byddai ei fywyd yn y Gorllew- in yn nodweddiadol am fod yn mysg y rhai sydd yn teimlo mai braint a dyledswydd ydyw arnynt wneud yr oil a allont er dyrchafu eu cyd-ddyn- ion mewn rhinwedd a moes. Eiliwyd gan Mr G. Williams, Canol Pentref. Dymunai yn galon- og Dduw yn rhwydd i Mr Evans ar ei ymadaw- iad a'r hen wlad. Dywedodd fod yn dda ganddo et gael gwneud yr oil a allai er gwneud y byd yn well er bod ynddo.. Teimlai yn ddiolchgar am y cariad brawdol oedd yn nodweddu y cyn- ulliad, a gwnaeth sylw fod canu yn rhan gysegr- edilg o addoliad, ac mai nid enill elw bydol oedd y nod uchaf mewn canu. Dylem ddysgu canu er mwyn yr hyn wna er ein dyrchafu mewn syn- iadau am ein Creawdwr a'n Cynhaliwr, ac hefyd er mwyn dwyn ein cyd-ddynion i awyr bur ac iach addoliad ac edmygedd. Iaith y Nefoedd yw canu. Gwnawn ein goreu i'w feithrin a'i ddyrchafu yn y cysegr ac allan o hono. Diolch- odd y llywydd i'r oil a gymerasant ran er dwyn y cyfarfod yn mlaen ac i Mrs Evan Williams, Bryn Neuadd, am gyfeilio, yn ol ei harfer, mor feis- trolgar. Dygwyd y cyfarfod i derfyniad drwy i Miss Jones, Cornel Crafnant, ganu alaw o'r don "Ebenezer" ar y geiriau "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," a'r parti yn uno- yr ail waith. Buan y caffom gyfarfod cyffelyb eto.

Marchnadoedd yr Wythnos Yd.

Anifeiliaid.

Marchnadoedd Eraill.

Advertising