Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

----------Lith Ned Llwyd.

News
Cite
Share

Lith Ned Llwyd. Y MAE un brawd yn anfon ataf i gwyno fod merched rhyw le yn mlieli iawn o Golwyn yn dweyd, os nad yn gwneud, ystraeon am ddyn ieuane sydd yn meddwl priodi. Dywedant fod y llanc yn dilyn merched eraill o G-. Y mae yn gofyn a ydynt hwy yn gallu profi hyny am dano. Os y gallant, y mae yn eu cymhell i wneud hyny yn y "Pioneer." Doethach fyddai myned at yr un sydd yn euog, a siarad a hi. An- hawdd iawn ydyw llywodraethu tafodau merch- ed-a dynion hefyd, o ran hyny. Mi fydd llawer yn chwilio tir a mor, ac yn wir tu drSSw i'r mor, am gael rhywbeth i ddweyd am lawer, os bydd hyny yn ateb eu pwrpas hwy. Nid ydyw addaw cyhoeddi eu henwau yn cael fawr Go effaith ar cyhoeddi eu henwau yn cael fawr o effaith ar gors" a minau dr-eio rhyw gynllun arall. LLYTHYR TOM BRIAN. Fe gofir imi addaw cyhoeddi llythyr caru don- iol y brawd hwn. A ydyw ef yn frawd i "Will Bryan, tybed, ynte mab i hwnw ydyw? Un o'r llythyrau anfonwyd i'r gystadleuaeth ydyw, ac fel y gwelir y mae yn ddoniol iawn, ond wn i ddim a fuasai yn ddydgel iddo gyfarfod "Mary Jane" tasa to wedi anfon y llythyr hwn ati. Ond dyma fo — Glan-y-Mor, T.lanfair y Medd, December 7, 1901. Fy Anwyl Mary Jane,—Bydd rhywbeth rhyf- edd yn myned drwy fy hoil gyfansoddiad bob tro y clywaf eich henw. Mae rhyw fiwsig rhyfedd iawn ynddo. Wel, mi dderbyniais eich llythyr, a chefais fy meddianu gan y fath lawenydd fel ag y bu'm agos iawn i bedair awr heb dd'od ataf fy hun, a sylweddoli mai ar ganol godro'r fuwch yma yr oeddwn. Peth rhyfedd iawn ydyw buwch, ynte? Mae yn ddefnyddiol iawn i lawer 00 bethau, a byddaf yn meddwl am dani rywfodd bob tro y gwelaf chwi. Wel, mi ddarllenais eich. llythyr i gyd drosto, o'r dechreu i'r diwedd. Bu'm yn cusanu yr envelope am amser hir iawn, ac mi 'roeddwn yn clywed eich bias arno o hyd. 'Rwyf yn nabod1 y bias yn iawn rwan, fyddai i byth yn clywed yr un Mall yr un flas rywsut. Tro iawn wnaethoch hefo Wil Morris os daw o yna i gynyg i hun eto, deudwch wrtho fod 00 yn wirion iawn, ac y dyla fod yn ddiolchigar am i fod o yn rhydd. Yr wyf yn methu yn lan a gwei'd yr amser yn myned heibio yn ddigon buan er mwyn i mi gael d'od i edrych am dan- och y Nadolig yma. Mi gawn hwyl iawn; mae genyf lot 0 bres wedi cadw, agos i bedwar a chwech. Cawn fyn'd i 'steddfod Bron y Gwynt, ond y chwi sydd yn fy meddwl o hyd. Fel y byddaf yn eich gwasgu, a'ch cusanu. Felly y buasai pawb yn gwneud pe buasent yn eich gwei'd mor glws a fi. Mae harddweh eich Ily- gaid a'ch trwyn mor anghyffredin rywsut fel na fyddaf byth yn eu hanghofio. Anhawdd iawn ydyw anghofio pet'hau mawr rywsut. Mi welais y Wyddfa unwaith, a byddaf yn meddwl am dani bob tro y gwelaf ryw fryw bychan am ei bod hi Igymaint yn fwy, ac felly am eich llygaid a'ch trwyn chwithau. Does dim cydmariaeth rhyngddynt a rhyw ferched eraill y byddaf yn edrych arnynt, ond waeth i mi heb siarad. Wel- ais "i neb tebyg i chwi yn lle'n byd. Rhaid fy mod wedi bod yn lwcus iawn i dd'od ar eich traws. Noson. dywyll iawn oedd hi pan ddois i os ydych yn cofio. Mae yn dda iawn genyf eich bod yn son am briodi; buasai yn dda iawn genyf gael gwneud. Mi brynais ornament neis iawn yn sale Ty Mawr; bu agos iawn i mi brynu gwely hefyd, ond nid oedd genyf ddigon o. bres, ond yr oeddwn yn meddwl fod yn well dechreu prynu rhywbeth bellach. Mi fydd yn barod er- byn y daw yr amser pan fyddaf i a chwithau yn wr a gwraig i rywun. Yr wyf wedi cael llythyr o Danyfron eisiau i ni dd'.od yno i swper. Y maent yn myn'd i ladd yr hen geiliogwydd gwyn hwny 'leni, hwnw oedd yn rhedeg ar eich hoi pan oeddych yn hogan bach. Mae'n siwr y cawn ni hwyl iawn. Mae o wedi cael amser i fatu sa'im bellach. Mae dwfr yn d'od o fy nan- edd wrth feddwl mor flasus fydd. Drwg genyf glywed eich bod yn methu cysgu tan y boreu. Go oer ydyw, mae'n debyg, ond daw yn well cyn bo hir. Gwell dau nag un ynte? Peth iawn fu- asa priodi yn y gwylia yma. Biti na chawn i fwy o gyflog. Pe cawswn i chwecheiniog yn yr wyth- nos at gael te mi fuaswn yn mentro wed'yn. Mae fy mhapur yn darfod; buaswn yn debyg 0 ddal i ysgrifenu am dridiau pe buasa fo'n dal. Peth rhyfedd ydi cariad; mae yn dal heb flino, dal i fyn'd yn ei flaen o hyd; rhyw "felly yn y blaen" fydda i yn glywed gin y cariadau yma o hyd. Yr wyf yn falch dros ben eich bod am aros am danaf, ac yr wyf yn teimlo fy hun fel brenin wrth feddwl am danoch. Fydd neb mor ddedwydd a fi ar ol priodi. vVel yr wyf yn an- fon tair ar ddeg a chwaneg o gusanau i chwi, rhyw gysgod bycilan o'r rhai fydd genyf i chwi y Nadolig yma. Cofiwch anfon eto i ddyweud lie byddweh yn fy nghyfarfod rhag i mi anghofio eich bod yn disgwyl am danaf. x x x x x x x x x x x x x x, a nos dawch. 'Rwyf yn cpfiq atoch yn arw iawn y tro yma eto. Hyn oddiwrth eich cariad, TOM BRIAN. Y mae cael llythyr caru yn gwneud llawer o ddaioni weithiau. Yr oeddwn yn clywed y dydd o'r blaen am eneth oedd mewn poenau mawr, ond daeth y postman a llythyr iddi a mi fend- iodd yn y fan. Dylai y rhai sydd yn anfon yn nno peth fel hyn; Y mae rhai merched nas gallant aros ond yc'hydig heb glywed neu wreled eu cariadau. Y mae merch sydd heb fod yn mhell o Golwyn Bay y mae yn rhaid iddi hi gael myned i'r shop at ei chariad bob dydd tua'r adeg ciniaw, ac er hyny mi gewch eu gweled gyda'u gilydd y Sabboth wed'yn. Mi gewch we-ed ei llun yn fuan i edrych fyddwch yn ei hadnabod. PRYNU Y "PIONEER." Nid ydyw ei bris ond ceiniog, ac nid ydyw hyny yn llawer i neb, ond yr wyf wedi clywed fel y mae ambell un yn cael arbed eu ceiniog. Mi gewch eu gweled yn cymeryd arnynt fod ar- nynt eisiau y papyr i rai sydd yn ei brynu yn rheolaidd. Y mae y dosbarthwr, wrth gwrs, yn eu credu. Yna wedi iddynt hwy weled "LIIth Ned Llwyd" a phris y tatws yn Llanrwst neu rhywle arall ant ag ef i'r un sydd yn talu am dano. Tro go wael ydyw peth fel hyn. Mi 'rwyf wedi clywed am rai yn gwneud yn ami Tawn, ac yr wyf yn gofyn am i'r enwau oil gael eu hanfon i mi a chyhoeddi list gyflawn o hon- ynt. Os ydyw yn werth ei ddarllen ganddynt fe ddylai fod yn werth talu am dano. a gobeithiaf y gwnant felly o hyn allan. Y mae rhagor i ddweyd ar y mater hwn, a phethau eraill, ond rhaid gadael ar hyn y tro hwn. COR LLYSFAEN. Yr wyf yn ddiolchgar am y ddau lythyr anfon- wyd ac a gyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf. Yr wyf yn mawr gymeradwyo y syniad o roddi cofadail ar feddrod y diweddar Mr Henry Hughes. Ni wneir yn fuan, mae yn debyg, a chan fod yr amgylchiad mor eithriadol beth pe byddai i un o bwyllgorau y cyfarfodydd llenydd- 01 sydd mor fynych yn y cylchoedd roddi gwobr am gael englyn teilwng i'w roddi ar y golofn. Os nad oes hyny, tybed nad oes rhyw nifer o gyfeillion yn barod i gyfranu rhyw swm at wneud i fyny haner gini o wobr? Os oes, anfoner hwy i fyny haner gini o wobr? Os oes, anfoner hwy i mi i'r swyddfa a chyhoeddir yr enwau a'r swm a gyfrenir. Yr wyf yn sicr y gallwn gael gan y ddau frawd teilwng, Penllyn a Liew Tegid, 1 farnu y cyfansodaiadau. l.'wy anfona gyntaf? Nis gallwn wrth feddwl am hyn beidio crybwyll fy mod wedi gweled yn "Papur P.awb" am yr wythnos hon ddarlun da o Mr E. T. Davies, Col- wyn, ac ychydig o hanes ei yrfa fel arweinydd. Y mae y darlun yn rhagorol iawn, ac yn werth i'w gadw. Y mae Catrin yn meddwl am ei roddi mewn ffram o dderw. CONWY. Llawer o ddiolch i'r brawd sydd wedi anfon gwahoddiad i ni ein dau i fyned i'r "coffee sup- per" sydd i fod yn y Town Hall ar y 2gaill o'r mis hwn, ond yr wyf yn ofni na fydd troed Catrin wedi gwella yn ddigon da mor fuan a hyny. Tybed a fyddai yn ddiofal i ni ddwad? Pwy oedd un o'r ddau oedd yn ymyi y Castell y noson o'r blaen yn dweyd y buasai "yn taraw Ned Llwyd a bricsan pe y delai yn agos iddo fo byth." Yn ara deg, machgen i, byddai'n llawer gwell i chwi fod gartref ac yn elch gwely ar haner nos na bod yn wel, mi wyddoch chi, a gwn inau hefyd. "Tasa fatar am hyny, wel tase." JUNCTION. Yr wyf yn cael cwyn fod yma niter o lanciau yn ,smocio ar eu ffordd i'r addoldai ar y Sul, ac yn aros wrth y drysau i orphen smocio eu "cig- arettes" cyn myned i mewn, a'u bod drachefn yn chwilio am. rai eraill i'w llosgi y foment y byddent wedi codi o'u seti ac yn cychwyn allan. Y mae enwaU rhai o'r euogion mewn llaw. Mi fyddai yn ddigon cas ganddynt, 'rwy'n siwr, imi eu cyhoeddi. Y mae digon o. amser i ysmocio, gyfeillion, heb fyned mor eithafol a hyn. Y mae yn arferiad wrthun iawn. A gwnewch beidio rhag bod yn achos cwyno i'r hen ffyddloniaid sydd yna. Newch chi ddim eto, reit siwr? O'r goreu. Da iawn. AT OHEBWYR. J. P. R. (Colwyn Bay).—Gwell genyf beidio ymgeisio am y sedd wag, ond yr wyf yn h,ollol yr un farn a chwi y dylid rhoddi gweithiwr i fewn. Diolch i chwi am addaw eich cefnogaeth pe deuwn allan. Cyfaill.-Y.chydig wyf yn ei wybod am y gyf- raith, ond buasai yn well genyf ddioddef colli ugain o. ieir na myned i gyfraith am un. W. -Fel yr ydych yn dweyd, nid oes un rheswm o gwbl fod gweithwyr, beth bynag, yn colli eu hamser i fyned yn rheithwyr, pan y mae hyny yn golygu ar iddynt golli dyddiau o'u ham- ser a thalu eu costau teithio. Yr wyf yn synu na byddai hyn wedi ei ddwyngerbron y Senedd er's blynyddau, a chael diwygiad. Cymraes.—Cymerwch gynghor. Peidiwch a meddwl am roddi cam mor bwysig heb ymgyng- hori a'ch rhieni, ac yr wyf yn sicr na fydd yn edifar genych. Dolwenydd.—Yr wyf yn ofni fod y cyfeiriadau wneir genych at yr injan ddyrnu yn rhy beryglus i'w cyhoeddi. Bydd yn dda genyf glywed oddi- wrthych eto. Rhaid gadael y gweddill a'r clywedion .hyd yr wythnos nesaf. Yr eiddoch fel arfer, NED LLWYD. "Pioneer" Office, Colwyn Bay. (o) Buddugol yn Horeb, Llanfairfechan, Nadolig, 1901. Goleuni'r byd ydwyt, 0 Iesu hawddgarol, A'th belydr wasgarant y t'wyllwch caddugol; Tra' n hwylio dros donau cynhyrfus mewn pryd- er, Goleu-dwr yw'r Iesu yn nghanol cyfyngder; Bu ami i ganwyll yn goleu trwy'r oesau Gwan gys'god o Haul y Cyfiawnder yn ddiau; O'r dwyrain y cyfyd yr haul mewn ysblander, O'r dwyrain cyfododd Haul Mawr y Cyfiawnder, Yn mhreseb yr asyn yn belydr bychan Y gwelwyd "Goleuni y Byd" yn wan faban; I wel'd' y Goleuni y doethion a ddaethant, A myrdd o angylion ganasant Ei foliant; Gan faint y tywyllwch nis galIent Ei weled, Nis gallodd tywyllwch y doethion amgyffred Fod sylwedd cysgodau yr oesau aeth heibio Mewn cnawd wedi dyfod at ddynion i drigo. Fob canwyll fu'n gysgod o Haul y Cyfiawnder Ddiffoddwyd gan anadl ddrwg pechod ysgeler; Ar gopa Calfaria megiriau annuwiol Fu'n ceisio diffoddi yr Haul mawr tragwyddol; Ond ofer fu ym'gais a dyfais y diafol, Goleuni'r Byd ydwyt a thraidd dy belydron; Ar unwaith i gelloedd dirgelaf y galon ^Dinoetha bechodau a thwyll annuwiolion; Ond goleu hoff ddyru ar Iwybr y Cristion,- A dyma'r Goleuni r'odd olwg i'r deillion, Iachad i rai clwyfus, a bywyd i feirwon Ar Saul yr erlidiwr tywynodd belydrau Rhy danbaid a disglaer i'w gnawdol synwyrau, Goleuni, er hyny, a drodd mor fendithiol, Wnaeth Saul yr erlidiwr yn Paul yr Apostol, Yn llusern ddewisol i gludo'r goleuni I wiedydd pellenig yn llawn o drueni. Oleuni anwyl, 0 bydded i'th wenau Ar dannau y galon dywynu y goleu Nes dwyn pechadur o'i ddu bechodau Yn nes, nes i'r Nefoedd o'i hir-nos nwyfau 0, arwain fy enaid o'i ddu-oer fannau Da Dy ddwyfol aden i'th dwym belydrau; 0, dos, dos ar gynydd gyda'th lwys genad Ar bob pentewyn, O boed i'th dywyniad Ei arwain ef adref o.'i ofer frwydrau I gael "meddyginiaeth o'th es'gyll" yn ddiau. O ail enyn Dy oleuni Disglaer ar fy llwybrau du Er fy nwyn i at yr Iesu, Hwnw yw'r Goleuni cu; lesu anwyl, paid a gadael I anobaith guddio'th wedd; Dyro'th wenau yn fwy disglaer Tra bu'r ochr hon i'r bedd. JOHN ROBERTS. Milton Villa, Llanfairfechan.

Helynt Arianol Rhwng Perthynasau…

--,-------__-------- ------_.---------------_-Barddonaeth.

Trefriw.

Marchnadoedd yr Wythnos Yd.

Anifeiliaid.

Marchnadoedd Eraill.

Advertising