Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
TRANSVAAL WAR FROM DAY to…
TRANSVAAL WAR FROM DAY to DAY. Two farther lists of casualties among the troops engaged in the THURSDAY. operations at Venter's Spruit and 011 Spion Kop, between January 17 and 24, were issued by the War Office yesterday. They relate to the Fifth Division and mounted troops, and are with the men only. The names of the officers who were killed or wounded or who are missing have already been given- The new lists contain nearly 800 names, the majority belonging to the Lancashire Brigade. Of the 800" some 600 of the casualties occurred at Spion Kop. Altogether during the whole campaign we have lost 9,660 men, of whom ■ c~ 1,500 have been killed. The Boer losses in the fighting on Spion Kop are officially reported at Pretoria as 53 killed and 120 wounded. The courage and devotion of the garrison at Ladysmith are beyond praise. Naturally disappointed at the failure of Sir Redvers Buller's movement by Trich- ardt's Drift, it obstinately refuses to despair. A strong camp rumour states that General Buller is advancing on another line. According to a Central News telegram, Sir H. Rawlinson, Deputy Assistant Adjutant General in Natal, yesterday sent, the following telegram to his wife from the beleaguer- ed town "Very fit and confident." The corres- pondent of the Times in Ladysmith telegraphed on Sunday, "We can hold on here," Many arguments have been put forward in the last few days in fav- our of the abandonment of active operations for the relief of Ladysmith and the transference of our main efforts to an invasion of Cape Colony. There is practically no official news of importance from Natal. The St. FETIDAY. James's Gazette yesterday published the following statement:—" It is re- ported on good authority that General Buller has crossed the Tugela in three places, and that fighting has been going on all day." Up to a late hour last night the War Office had received no confirmation of this report. Though the rumours of the raising of the siege have not been confirmed, there is good news from Mafeking. In a telegram he sent to Colonel Plumer on the 17th of January, and which was forwarded from Lorenzo Marquez yesterday, Colonel Baden-Powell reports that he had forced the enemy to remove the positions of his big guns. The enemy," lie added, still holds two strong works, which I hope to shift shortly with dynamite. The garrison are healthy and cheery." There is no official news whatever from General Buller's headquarters, SATURDAY. but a telegram of Tuesday's date states that on that day Lord Dundonald, with a cavalry division, made a recon- naissance westward from Spearman's Camp to Honger's Poort, a drift over the Tugela near Zunckles. The road was found to be clear. The bridge in course of construction over the Upper Tugela at Giles was found to have two spans destroyed. From no other portion of the theatre of war is there any news of importance to record. Not only does the confidence of the troops in Sir Redvers Buller remain unshaken, but the garrison of Ladysmith still believe that his efforts to relieve them will be successful. A message which has been brought to Estcourt by a runner from Ladysmith describes how the fight for the possession of Spion Kop was watched by the beleaguered garrison. It was at first thought that General Buller had been successful. Even when the truth became known, the garrison remained confident both of their own capacity to hold out and of General Buller's ability to advance. It is stated in a telegram from Dur- ban that General Buller has again MONDAY. crossed the Tugela and is marching towards Ladysmith. The details of the movement are being kept secret, but it is known that the other side of the river was gained on Friday. In Northern Cape Colony some important movements have taken place, but there is no change on the Western Frontier. The Boers have captured a British magistracy in Zululand. Lord Roberts telegraphed yesterday from Cape Town confirming the report that the Boers at Mafeking have been compelled ts evacuate their big gun battery and to move backwards on two sides of the town to avoid rifle fire from the trenches. There is still no confirmation, official or otherwise, of the reported recross- TUESDAY. ing of the Tugela by General Buller on Friday night last. An important forward movement is announced from Hensburg. A despatch reached Capetown yesterday from Naauwpoort stating that great activity pre- vailed at that place (General French's headquarters), at Rensburg, and at Hanover Road, owing to the fact that an overwhelming force of infantry bad been sent to seize Norval's Pont, the cavalry, having completed a reconnaissance of the Boer position, being retired in order to make good their losses.
[No title]
Over 4,000 people have been rendered homeless in Honolulu by a fire caused through the authorities burning some plague infected buildings, the flames from which spread to adjacent houses. During a heavy gale last week a large schooner was wrecked on the Margate Sands, and it is believed that the captain and crew—numbering about fifteen-were all drowned. The vessel is thought to have been of Scandinavian ownership, but her name is not known. The lifeboat put off to her assistance, but was too late to be of use. A sad tale of death among, a ship's crew is telegraphed from Portland, Oregon, U.S.A., where Captain Pritchard, of the British barque Haddon Hall, reported, on arriving from Panama, that of six young men of Carnarvon, whom he shipped at the commencement of the voyage, two years ago, only one survives, three having succumbed to yellow fever, while two othere were killed by accidents.
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. Y mae y rhyfel wedi para 120 o ddiwrnodau. Y mae Ladysmith wedi bod yn warchaeedig am 100 diwrnod Kimberley am 115 diwrnod a Mafeking er Hydref 15fed. Wythnos yn ol teimlai pawb yn ddigalon o herwydd methiant ail ymgais Buller i ryddhau Ladysmith. Ond heddyw mae agwedd y wlad yn wahanol, a disgwylia yn obeithiol am yr byn sydd i gymeryd lie yn fuan. Gellir priodoli amryw achosion o'r cyfnewidiad yn y teimlad cenedlaethol. Mae newyddion drwg bob amser yn gwasgu awyr- fesurydd teimlad y cyhoedd i bwynt islaw i'r hyn a gyfiawnheir gan wir sefyllfa pethau—a thebyg fod gwrthweithrediad anocheladwy fel rheol yn ei gario yn rhy bell i'r cyfeiriad gwrthgyferbyniol. Ond, ly heblaw achosion meddyliol yn unig, y mae seiliau gwir a sylweddol dros deimlad mwy gobeithiol. Mae y gweithrediadau oddeutu Ladysmith, os oedd- ynt yn dangos cadernid y Boeriaid mewn amddi- ffyniad o amddiffynfaoedd naturiol, hefyd wedi brofi yn mhellach eu gwendid mewn gwrth- vmosodiad. Mae yr un gwendicl yn ganfyddadwy yn nhiriog- aeth y Penrhyn, He yr eistedda y gelyn yn segur yn eu hamddiffynfa naturiol yn Stormberg, gan aros yn ddiallu, hyd nes daw yr adgyfnerthion Prydeinig i'w gorfodi i encilio neu i'w dal. Gwisga y rhyfel, pa fodd bynag, agwedd neillduol iawn, ac nis gall y gwrthwynebydd chwerwaf i r Boeriaid llai nag addef fod golvgfa o allu a gyfrifid fan bellaf yn ddim ond 59,000, vn llwvddo i gadw yn ol fyddin ddisgybledig o 120,000, yn un ag sydd yn glod i'w gallu fel rhyfelwyr. Cyn pen ychvdig wythnosau bydd y fyddin Brydeinig yn Neheudir Affrica wedi ei chynyddu i gyfanswm o 180,000 o ddynion, gyda 410 o ynau o bob math, yn cynwys gynau gwarchae trymion, "howitzers" mawrion, a maesgvflegrau. Mae arwyddion hefyd fod oyflenwadau y Boeriaid. o bob math, yn decbreu rhedeg yn isel, ac mae y Rydd Daleithwyr hefyd yn dechreu gweled perygl eithafol y sefyllfa i'r hon y gadawsant i bleidwyr liunan-fu Idianol Llywodraeth y Transvaal eu har- wain. Dylai dwy neu dair o fuddugoliaethau ar ein hochr ni newid cwrs y rhyfel fel ag i wneyd y symudiad yn mlaen i gymeryd meddiant o Pretoria yn bosibl yn fuan. COLOFN FRENCH. GWEITHREDIADAU Y MEIRCHFILWYR GER RENSBURG. 7,000 O'R BOERIAID WEDI EU HAMGYLCHU GAN FRENCH. Mae y Cadfridog French wedi amgylchu 7,000 o'r Boeriaid, ac yn ymarferol wedi eu cau i mewn yn y bryniau cylchynol i Colesberg. Mae y gelyn- ion wedi symud eu gwersyll i ganol y bryniau, ychydig yn rhy bell i'n maesgyfiegrau ni allu eu cyrhaedd. Gyda dau o ynau llvniresnl mawrion credir y gallai French or'fodi v Boeriaid i ymostwng ar un- waith. Trwy holl ogleddbar. h Tiriogaeth y Pen- rhyn mae y gelynion yn dechreu cyffroi. Yn Stormberg y maent yn gweled ein gallu yn cael ei gryfhau yn eu gwyneb gan y Cadfridog Gatacre, tra ar en hochr y mae y Carlfridog Kelly-Kenny, ac yn union bydd y Cadfridog Brabant yn peryglu eu cysylltiadau o'r tu cefn iddvnt. IVfewn ffaith, mae cin cynlluniau milwrol yn adclfellu ar bob Haw, a gwyr y Boeriaid hyny. Dygwyd helfa fawr o y I I wartheg a defaid o ffermydd y gwrthryfelwyr yn nghymydogaeth Dordrecht, jiae ou gwiagedd a'u perthynasau yn cyfaneddn yn y ffermdai, ond gadawsom ar ein holau ddigon o stoc i'w cadw rhag eisian. Mae y New Zealandevs," y Remington Rifles," ua- i,, .'1 ar ochr dde gallu cryf o'r Boeriaid ger Rensburg. Y dydd o'r blaen ysgubodd y New Zealanders dros amryw o'r bryniau cymydogaethol. Rhuthrasant a chymerasant feddiant o amryw fryniau a i'edd- ianid gan y gelyn. Ciinodd y gelyn yinaith heb wneud ond ychydig wrthwynebiad. Yn y cyfamser yr oedd y Carabineers yn ysgubo y wlad yn mhellach i'r gog'lcdrl. Mor belled a Rateiport a Hebron ni ddaethpwyd ar draws ond ychydig o'r Boeriaid, ond gwelid cwmnioedd bychain o honynt yn cilio yn ol yn y pellder. Parhaodd y gweithrediadau trwy y dydd. GLANAU Y TUGELA. S^MUDIADAU BULLER. Nos Wener diweddaf croesodd Buller y Tugela ar ei ymdaith i waredu Ladysmith. Ni wyddis ar hyn o bryd yn inha le y croesodd colofn Buller yr afon, a chedwir yn ol bob newyddion yn nghylcb ei synmdiaclau hyd nes y bydd wedi cyrhaedd Ladysmith. Yn ol pob tebyg fe groesodd ei allu y tu uchaf i Tritchardt's Drift, a chan adael y gelyn ar ei dde, tebygol ei fod yn ymdaith yn mlaen drwy wlad weddol agored. Dwedir fod Mr. Walton, perchenog Fferm Spion Kop, yr bwn fu yn aros yn Durban er amser dyfodiad y Boeriaid i Natal, wedi cael ei alw gan y Cadfridog Buller i Spearman Camp. Hysbysodd Mr, Walton ef fod dwy ryd yn uwch i fyny yr afon, y rhai nad oeddid wedi bod yn eu defnyddio er ys hir amser. Nid oes un amheuaeth nad drwy un o'r rhai hyn y croesodd Buller a'i allu. Dwedir fod y ffyrdd sydd yn arwain i Ladysmith wedi cael eu cloddio i fyny gan y Boeriaid, mewn trefn i wneud cludiad ar hyd-ddynt yn anhawdd. Maent hefyd yn parhau i osod y glaswellt ar dan ar aswy Mount Alice, gyda'r diben o ddinystrio cysgod, ac i'w galluogi i ganfod ein milwyr tra yn symud yn mlaen. SAFLE SPION KOP. Mae y manylion swyddogol a gobebyddol a roddir o frwydr Spion Kop yn cynwys un neu ddwy o arweddau, cvsurlawn, er holl echryslondeb y gyfiafan a fu yno. Mae vn anmhosibl peidio teimlo yn falch o ddewrder ardderchog a diguro y milwyr Prydeinig. Erioed ni roddodd unadran o'r milwyr Prydeinig brawf perffeithiach i'r byd o ddefosiwn di ildio i ddyledswydd nag yn y frwydr hon. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf yr ydym wedi clywed llawer am gauar hir heddweh—ac wedi darllen crybwyllion fod y milwyr ieuanc Prydeinig yn israrddol i'r dynion a ddalient i fyny anrhydedd y genedl pan ydoedd rhyfel yn cyfansoddi sefyllfa naturiol ein gwladweiniaeth dramoraidd. Am y dyfodol mae yn rhaid i ddaroganwyr o'r fath fod yn ddistaw. Nid ydyw y defnydd o'r hwn y mae ein byddin yn awr yn gyfansoddedig un mymryn yn israddol i'r hyn fu yn gwneud y bvddinoedd dcwraf ac enwocaf mewn lianesiaeth. Nid oedd y dewrion a fuont feirw yn Pass Thermopylae yn deilyngach o enwogrwydd anfarwol na'r bechgyn Prydeinig a roisant eu bywydau i lawr dros eu gwlad ar lethrau tan- ysgubol Spion Kop. Ymddengys yn fwy eglur o hyd fod ein llanciau dewrwych wedi cerdded i rwyd ag ydoedd wedi ei darparu yn ofalus ar Spion Kop. Arweinid ein cadfridogion i gredu fod y gribyn a enillasent yn ystod y nos yn lie manteisiol i ymosod ar safle y Boeriaid, yn -Ile hyny yr ydoedd yn hollol i'r gwrthwyneb. Yr oedd y lie o'r naill ben i'r llall yn agored i dan magnelau a rhych ddrylliau y gelyn o amryw gyfeiriadau. Hyd yn nod pe gallesid eu gadw, ni roddai ei werth fel safle milwraidd, iawn digonol am y golled a gynyrchid drwy wneud hyny. Diameu fod y penderfyniad i symud oddiyno yn un o'r cynlluniau doethaf. Bu ein colled ni oddeutu 845 rhwng lladd, clwyfo, ac ar goll. Addefir hefyd fod colled y Boeriad yn drom iawn. Nid oeddynt hwy yn ddarostyngol i'r fath dan y "I magnelyddol ag oedd gan ein dynion ni i'w wrth- sefyll, ond hwy oeddynt yn ymosodwyr, ac yn eu rhuthiadau ar y safleoedd Prydeinig yr oedd eu colled yn chwerw iawn. Gwyddis yn awr nas gellid llusgo gynau o unrhyw faintioli i fyny i'r mynydd serth a ohlogwynog mewn pryd i amddifyn y lie tranoeth, ac heb ynau nis gellid gobeithio ei ddal yn erbyn byddin adgyfnerthedig y Boeriaid. PENAETH BASUTOAIDD AR Y RHYFEL. CYNLLUN DOETH. PAHAM GYRU'N UNIONSYTH YN ERBYN MURIAU Y BOERIAID 7 Y MODD I WAGHAU AMDDIFFYNFAOEDD Y BOERIAID. Cyhoedda y Cape Argus lythyr oddiwrth benaeth Basutoaidd lleol, yr hwn a ddywed-" Y mae yn ofidus genyf glywed am y Prydeiniaid dewrion yn colli cynifer o ddynion yn ddiangenrhaid. Nid wyf o'u brodor yn unig, ond yr wyf yn adnabod y Boeriaid. Yr ydych chwi yn alluog i ymgynghori 11 Ily a'r awdurdodau Prydeinig, a gallwch drosglwyddo yr hyn yr wyf fi yn ei ddweyd iddynt. Dymunwn fod wedi marw, yna gallaswn ehedeg at y Penaeth- iaid Prydeinig a gwasgu fy nghynlluniau arnynt. Mae y Boeriaid yn amgloddedig mewn nawdd ffosydd, a thu ol i furiau man dyllog. Gadawer iddynt newynu yno. Gadawer i'r Cadfridog Gat- acre i'w gwylio yn Stormberg, a bydded i fyddin arall symud yn mlaen tua Bloemiontein. Yna fe ddywed y Boeriaid, Beth yn awr? A ydyw y Prydeiniaid am fyned o'r tu cefn i ni, neu a ydynt am fyned yn eu blaenau i Bloemfontein Yna ymadawant er mwyn amddiffyn eu cartrefi, a byddai y Cadfridog Gatacre yn rhydd i ymuno a'r gallu- oedd Prydeinig eraill. Yna dechreuai y Boeriaid yn Natal newynu; ceir eu gwersylloedd un diwrnod yn wag. Mae y Boeriaid yn caru eu gwragedd, eu plant, eu cartrefi, a'u defaid, a byddai iddynt fyned yno i edrych ar eu holau. Paharu mae y Prydein- iaid yn gyru yn unionsyth yn erbyn muriau y Boer- iaid ? Mae cath wyllt mewn twll yn rhwygo trwyn dywalgi. Gwylier y twll, ac yna eler o'r tu cefn iddo. Mae fy nghalon a'm meddwl ar ddn. Dy- rnuna ein rhyfelwyr weled y Boeriaid wedi eu din- ystrio. Y maent yn trafod y brodorion yn ddrwg. Yr ydym yn cael heddwch aphyfartal gyfiawnder o dan y Prydeiniaid. Dymunwn allu gweled y Pen- aethiaid Prydeinig a gwasgu arnynt yr hyn sydd yn fy ngbalon." MAFEKING. Y BOERIAID YN PARHAU I DANBELENU. Mae y Boeriaid weii symud eu gynau mawrion ddwy filldir tua'r gogledd, oherwydd fod eu hen safleoedd wedi eu gwneud yn anmhosibl i'w dal gan ein craff saethwyr a'n magnelwyr ni. Mae ganddynt un gwn mawr ryw ddwy filldir a haner ar y tu dwyreiniol i'r dref, yr hwn sydd yn tanio yn awr ac yn y man. Weithiau bydd rhai oriau rhwng y gwahanol ergydion, bryd arall gollyngir amryw ergydion yn gyflym ar ol eu gilydd, ac yna bydd distawrwydd drachefn. Taniwyd ar yr ysbvtty un diwrnod, ond yn rhaglumaethol diangodd pawb yn ddianof. Bu orfod arnom eu symud oil i le arall yn nghanol pistyllwlaw trwm. Ddiwrnod arall lladdwyd bachgenyn naw mlwydd oed o'r enw Brown. Tarawa ef yp ei gefn gan ddernyn o dan belen pan yr ydoedd yn ngwersyll y benywaid a'r plant. Bu y Boeriaid un diwrnod yn tanio yn egniol iawn ar ranau gorllewinol y dref, a chyfrifir eu bod wedi taflu dwy dunell o fetal i mewn i'r dref y diwrnod hwnw, heb ddim niwed ond anafu un person yn ysgafn. Daliwyd ysbiwr brodorol un noswaith, a chyf- addefodd ei fod yn euog. Dywedai ei fod wedi dyfod ar ran y Boeriaid i geisio cael Iallan Ile yr ydoedd safle ein gwirfoddolwyr, gyda r bwriad yn ddiameu o danbelenu arnynt.
.— Y Senedd.
— Y Senedd. Agorwyd y Senedd yr wythnos ddiweddaf; darllenwyd anerchiad y Frenbines dydd Mawrth- ei phrif nodwedd ydoedd y Rhyfel presenol. Dywedai fod yn rhaid cael rhagor o arian i gario yr ymgyrch yn mlaen, ac oherwydd hyny nad oedd fawr obaith am unrhyw welliantau cartrefol. Golwg bruddaidd iawn oedd ar bawD yn y Ty; yr oedd olion galar ar llawer gwyneb. Talwyd sylw manwl i ymddangosiad Mr. Chamberlain-prif awdwr yr helynt truenus. Aeth i'w le yn llonydd a llechwraidd—ni chroesawyd ef a chymaint ag unawd o un sedd. Tra arwyddocaol, omde. Yr oedd yr aelodau Cymreig yn eu He yn dra chryno a hvnar. Yr oedd vn amlwg fod pawb yn sylweddoh difrifoldeb y sefyllfa; a bu Lawer o siarad didderbyn wyneb o bob ochr i r Ty. Arweinwyd y Blaid Rvddfrydig yn fedrus a gwrol gan Syr Henry Campbell-Bauno-man a gwnaeth araetb alluog. Dywedodd nad oedd dim i gynawnhau y rhyfel yma ac yr oedd y weinyddiaeth wedi bod esgeulus ac afler dros ben—cyn ac ar ol iddi dori allan. Paham na wrandcwid ar Syr William Butler. Rhoddodd ef rybudd mewn pryd-ac os oedd ryfel yn anocheladwy o'r dechreu fel y dywed y Weinyddiaeth paham na wnaent ddarpariadau digonol. Ac wedi iddi dori allan paham yr anfonid y milwyr yn finleiadd man i'r gad. Mr. Balfour mewn attebiad a ddywedodd fod y Llywodraeth wedi credu am dymor yn diddadl y gallesid gocliel rhyfel, ond fod amgylchiadau wedi peri iddynt newid eu barn. Nid oedd y Weinyddiaeth wedi celu dim parthed y Boers yn arfogi. Camgymeriad a. milwrol a wnaed, ac y mae y fath gamgymeriad ,,a wedi eu wneyd gan genedloedd ereill. Credai ein milwyr ar y cyntaf fod digon o allu wedi ei anfon al.a.i ar y dechre i gyiariody gelyn. Arglwydd Fitzmaurice a ddywedodd fod yn ddrwg ganddo nas gallai gad ddigon o resymau i gefnogi y Llywodraeth. Dylasai Mr. Chamberlain (i'eisio osgoi tramgwvddo y Boeriaid. Gan fod C" t' f 1 I" U," 11, 1 for? yn fwy pwyHog ac amyneddgar. Yr oedd y Wein- yddiaeth yn liaeddu cerydd am eu hesgeulusdra. Dywedodd Mr. Buxton fod y modd gwahanol oedd y ddau brif aelod o'r Weinyddiaeth wedi llelaru yn ddigon i alw am bleidlais o ddiifvg ymddiriedaeth yn y Llvwodraeth. Mvnai Mr. iialr'our i ni gredu fod pobpeth yn iawn—cystal ag allesid ddisgwvl—nad oedd bai yn un man, tra v dywedai yPnr >Vemidog fod bai ar Gangneiiyaa y Trysorlys am beidio rhoi digon o arian i ddirgel- waitli (secret-service) y rhan filwrol. Gwadodd y Canghellydd hyn oil mor belled ag oedd a fyno ef. Yna daliai Mr. Buxton yn gryf fod y rhyfel yn ddyladwy i waith y Llywodraeth yn gwyngalchu Cecil Rhodes—prif elyn y Boeriaid. Dywedai Sir R. T. Reid nad oedd ef yn bwriadu dilyn yr aelod anrhydeddus yn ei ymdriniad o ar- weddau milwrol y sefyllfa bresenol, er y meddyliai fod yn rhaid i bobdyn sydd yncaru ei wlad deimlo pryder dwys o barthed i'n sefyllfa filwrol, a gofid mawr o herwydd nad ymddangosai fod unrhyw ym- wybyddiaeth digonol ar ran y Llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa i'r hon y mae ei gweithred- iadau wedi ein harwain. Dymunai siarad ar achosion o'r rhyfel a ï amgy lchoedd gwleidyddol, ac i ddatgan ei grediniaeth fod y Llywodraeth drwy ddiffyg barn a diffyg uniawnder yn gyfrifol am un o'r sefvllfaoedd mwyaf dyrys ag y mae ein gwlad wedi cael ei hun am lawer o flynyddoedd. Gwir achos y rhyfel, yn ei farn ef, oedd cam- ddealltwriaeth rhwng dwy genedl, yn cael ei faethu gan ddrygioni a ffolineb ychydig o ddynion, ac yn cael ei ategu a'i wneud yn bosibl gan angerddol- deb y Wasg, a thrwy anwireddau a ledaenid gan y Wasg. Mor belled ago yr oedd Gweriniaeth y Transvaal a'r Rhydd Dalaeth yn y cwestiwn, buont am flyn- yddau yn cael eu meddianu gun y ddrwgdybiaeth ddwysaf o barthed i fwriadau Llywodraeth ei Mawrhydi tuag atynt. Dywedodd Arglwydd blaenaf y Trysorlys yn un o'i areithiau fod y Boeriaid yn gwneud cynygiad eofn am ymerodraeth, ac fod cydfradwriaeth wedi bod yn bodoli yn mhlith y "Dutch" yn Neheu Affrica, am ba nifer o flynyddau nis gwyddai, i yru y Prydeiniaid i'r mor, ac i gyfiawnliau uchelgais y bobl Dutcbaidd. Mr. Bryce, mewn araeth odidog, a ddywedodd Y mae pawb yn gofyn paham yri ym yn rhyfela. Y mae y wlad a'r Senedd eisiau gwybod beth ydyw yr achosion sydd wedi ein dwyn i'r sefyllfa bresenol, ac yr oedd y sawl a garent y wlad mewn gwirionedd yn annheilwng o sedd yn y Ty os na wnaent eu goreu i ddwyn yr holl fater i drengholiad mawr y genedl. Trachwant oedd wrth wraidd y rhyfel hon nid yr etholfraint. Yr oedd yn werth cofio fod etholfraint y Transvaal yn fwy eang a rhydd- frydig nag un Prydain; yr oedd holl ddinasyddiony Transvaal eu hunain yn meddu yr etholfraint. Nid oedd ein dwylaw ni yn lan oddiwrth orthrymu y brodorion, ond nid oeddem efallai cynddrwg a'r Boer. Syr Edward Clarke (yr Undebwr) a gondemniai y syniad o beidio terfynu y rhyfel nes cyrhaedd Pretoria. Daliai ef y dylasid gwneyd cytundeb boddhaol ar ol ymlid y gelyn gwrol o'n tiriogaeth- cytundeb a roddai i'r Boeriaid eu hannibyniaeth. Ni fyddai cysylltu y Transvaal o un lies i'r wlad hon. Bu golygfa wyllt rhwng yr aelodau Gwyddelig a Curnel Saunderson, yr hwn a edliwiodd iddynt eu teyrngarwch a'u cenedlgarwch. Gwaeddent arno 9 dynu ei eiriati yn ol, ei fod yn llwfr, ac iddo fyn'd i ymladd a'r Boers. Wedi iddi fyn'd yn lied boeth tynodd ei eiriau yn ol. Syr William Harcourt a ddadleuai fod y rhyfel wedi codi oherwydd diystyru policy Mr. Gladstone yn 1881. Mr. Chamberlain a ddywedodd nad oedd bai ar un Weinyddiaeth, ond fod y drwg yn codi oddi ar wahaniaeth cynhenid rhwng y Boer a'r Briton- mewn cymeriad, dysg, a gwareiddiad. Yr oedd y Boer am ysgwyd ymaith bob edau o'r fantell Brydeinig. Yr oedd y rhyfel yn gyfiawn ac yn angenrheidiol.
^ Rhyfeloedd y Ganrif. --
Rhyfeloedd y Ganrif. Yn ystod y ganrif ho yr ydym yn cael hanes rhai o'r brwydrau mwyaf gwaedlyd a dinystriol a ymladdwyd erioed. Mor fore ag 1806, ar y 14eg o Hydref, yr oedd tua chant a deg o filoedd ar faes brwydr Jena, a lladdwyd dros un fil ar ddeg ar hugain pryd y gorchfygwyd y Prussiaid gan y French. Ar y 18fed o Mehefin, 1815, yn mrwydr Waterloo, yr oedd cant a deugain mil yn ymladd, a lladdwyd dros naw mil a deugain y diwrnod hwnw. Yn mrwydr Magenta, Mehefin 4, 1859, yr oedd cant a deg ar hugain o filoedd yn ymladd, pryd y gorchfygwyd yr Awstriaid gan y French a'r Sardin- iaid, ac y lladdwyd un fil ar hugain. Wedi hyny yn mrwydr Sadowa, Gorphenaf 3, 1866, pan y gorchfygwyd yr Awstriaid gan y Prussiaid, lladd- wyd tair mil ar ddeg ar hugain, a dywedir fod agos trl chan mil yn ymladd. Eto yn mrwydr Ffrainc a Germany ar y 18fed o Awst, 1870, yr oedd agos pedwar can mil yn ymladd yn Gravelotte, a lladdwyd tri ugain a dwy o filoedd; ac eto yn Sedan ar Medi laf, yr un flwydd- yn, yr oedd tri chant a phedair ar ddeg o filoedd yn ymladd, a lladdwyd saith mil a deugain. Gallwn hefyd alw sylw at frwydrau ofnadwy Bull Run yn y wlad hon, Gorphenaf 21, 1861. Yr oedd tua thri ugain mil yn ymladd, a lladdwyd pedair mil chwech cant a thri ugain a phymtheg. Wedi hyny, Medi 17, 1862, yn mrwydr Antietam, lladdwyd un fil ar ddeg ar hunain; ac yn mrwydr Gettysburc, Gorpli. 1-3, 1863, yr oedd cant a haner o filoedd yn yr ymdrechfa, a lladdwyd yn ymyl tri ugain mil. Er cynifer gofnodwyd uchod, nid ydynt ond rban fecban o'r hyn ellid gofnodi yn ystod y ganrif, a thrueni na fuasai heddwch wedi dyfod i deyrnasu yn lie rhyfel. Yn lie hyny nid oes ond swn rhyfel yn cael eu gludo i lenwi ein newyddiaduron yn ddyddiol, a thra thebyg yn ol yr arwyddion presenol, mae mewn swn rhyfel, a rhuadau'r magnelau, a chlinciau y bidogau a'r cleddyfau yr a y flwyddyn a'r ganrif hon heibio. Ofnwyf fod cymylau duon yn hongian uwchben, ac y bydd i'r ymryson presenol yn Affrica ymledu ac arwain y prif deyrnasoedd i r ym- drechfa.
LLITH HEN GARDI.
LLITH HEN GARDI. Ma'r rhyfel waedlyd yma yn ddigon i wneyd i un dyn gredu nad yw'r byd yn dyfod fawr gwell o'r naill ganrif i'r llall, ac nad yw'r elfen fwystfilaidd- yr epa a'r teiger medde'r bardd-yn marw ond araf, araf, os o gwbl yn yr hil ddynol o genhedl'eth i genhedl'eth. Yr 'ym ni wedi bod yn wa'th os dim dowt, ond fuon ni ariod yn ffolach. Ma rhai pobol dysgedig yn dyweyd ma' gwareiddio yn raddol iawn ma'r ddynoliaeth. Bu amser, mynte nhw, yn y gorffenol pell pan yr o'dd pob llwyth a chenedl ar y ddeiar 'ma yn gannibalied rhongc. Wedi hyn fa wellodd pethe yn raddol—ond yr o'dd pawb yn farbaried eto, dyma'r ail gam i'r lan. Wedi'n fe dorodd gwawr gwareiddiad, dyma'r tryd- ydd cam, ac fe gododd llawer cenedl yn ardderchog. Y ma'r tri gradd yma i'w ca'l yn y byd yn bresenol y cannibal, y barbar, a'r gwareidd'edig, ac y ma llawer o olion yr hen radde isaf yn aros hyd heddi yn y dyn gwar. Ma olion barbari'eth yn rhy gyffredin i mi geisio dechreu eu henwi-y ma' nhw yn too numerous to mention," ys dywed yr auctioneers ac am olion cannibali'eth, wel, os dim ise dim amlyccach na r hen arfenad o rytela. re bydde cannibalied y gwledydd tywyll yn 'n gweld ni yn rhyfel a heddi fe fusen yn shwr o weyd 'n bod yn gan ffolach na nhw. Achos o nhw ddim yn lladd 'i gilydd ond er porthi 'u hunen, ond am dano ni y rhai sy wedi eu civiliso 'os dywed y Sais, yr ym ni yn lladd 'n gilydd heb angen o gwbwl—hen fwtchwr dwl iawn yw'r civilised man yma, taw i ba genedl bynag y ma e'n perthyn. <- Wel ma'r 'nifeiled gwyllt 'u hunen yn shwr o fod y sefyll mewn braw, a synu wrth wel'd y fath lanastra y ma' bode rhesymol yn wneyd y dyddie hyn yn Sowth Affrica. Fe all hyd yn od y teiger a'r llewpard ddyweyd 'u bod hwy yn hollol ddieuog o'r fath beth a hyn; ac ma'r Hew yn shwr o fod yn synu nachaiff e' chware teg allcnyddi ladd ambell i ych yn awr ac yn y man pan fo eis'e arno tra ma'r dynion yma yn ca'l pob chware teg i ddifa eu gilydd wrth y milo'dd—a hyny i ddim un diben ond yn unig er lladd a difa yn ofer. Ma'r bwystfil druan ar ol ladd yn gwneyd y gore o'r gelain-yn pilo hyd yr asgwrn. Bydde yn ddyddorol ca'l gwybod barn y cr'aduried gwyllt sydd yn Hochesu ar lane y Tugela a'r Modder am waith dyn yn rhyfela. Wel, efalle nad all cr'aduried gwylit ddim barnu, medde chi, am nad oes-ganddynt reswm. Wel os fel'n y mae y mae lie i gredu fod greddf yn tra rhagori ar reswm. Meddyliwch am foment beth ma hyn yn olygu. Ma' nbw wedi bod yn dvrnu yn ofnadw ar Cham- berlain yn y Senedd yr wthnos ddiwedda'. 'Ron nbw yn dyweyd yn bendant i fod e' yn euog am y rhyfel ma' i gyd, achos iddo fe ddyrysu yranghyd- fod rhwng y wlad yma a'r hen Kruger, trwy 'sgrif- enu y telerc a'r negeseion fel nas galle un dyn byw w'bod beth o'dd e'n feddwl. Ma' nhw'n dyweyd i bod hi yn anmhosib i Kreger i w'bod beth o'dd Chamberlain yn feddwl yn '1 lythyre. Pa'm na fuse Chamberlain yn 'sgrifeml i feddwl yn blain ac yn onest, dywedwch chi ? Yn awr ar ol bod milo'dd wadi 'n lladd, mai e'n i hesbomo nbw yu i ffurdcl i hunan. Pa'm na fuse fe yn i heshonio nhw mewn pryd? Pan ddarllenodd'rhen Ivruyrer nhw f,'j deonglodd e' nhw yn ifforad 1 uunan. wnh gwrs. A mynte fe wrth i gynghorwyr Duma negfs Shon Darw, ma' e' dipyn yn lletwith, 'dewch i ni i ude- ongli fe. Wel, beth mai e'n feddwl, fechgyn ? mynte'r hen Kruger. Dy deyrnas a gymerir oddi arnat" mynte nhwnte. Dyna chi'r ateb mewn adnod, ac ma' nhw yn gweyd fod pob adnod yn myn'd i lawr fel melyn wy gyda'r hen Kruger. Wel, er mor hen yw'r byd, ma' dynion mor ddwl ag ariod, ag os fowr argol gv/ella ami nhw. Fe allech feddwl y bydde i yn well i'r ddoi yma, yn enw pob *vnwvr "t /^r n v-1 •" lladd milo'dd ar fllo'dd a ddynion diniwed, druen. Ma'u dwli nhw yn 'neyd i fi gofio'r stori am yr hen frenin hyny yn Arabia os dros fil o nyiiyude yn ol. J:1 e ga'd.d yr hen frenin genadwri ryfedd ryw ddiwarnod oddiwrth frenin gwlad arall yn gofyn fel hyn, "Anfon i mi ar unwaith fochyn du a clust gwyn, ac os na Helodd ynte lvthyr ol i'r hen frenin arall fel hvn. "Os gen i duirn un wochyn du a clust gwyn, ac os buse fe Wel i chi ar ol hyn a'th y ddoi hen frenin i ddrwgdybio 'u gilydd, a dyma bob un o nhw yn paratoi i ore glas am ryfel ar ol shwt lytliyron bygythiol; ac fe helson i milwyr ar gar- lam tua'r ffinie, a dyma hi yn ryfel gwyllt ar un- waith. Wedi i'r bobol druen ladd 'u gilydd bron i gyd dyma'r ddoi hen frenin yn dwad o'r diwedd ar draws 'u gilydd. Ac mynte un wrth y llall, Beth oti yn hela shwt ateb a hyna in? Ac mynte'r llall, Beth o tithe yn hela shwt lythyr afresymol i fine?" "Afresymoll" mynte'r un arall. "Ie, afresymol," mynte'r llall, ne' beth o ti'n feddwl wrth ofyn am fochyn du a clust gwyn, ac os na Wel," mynte'r un arall, os nad odd un fel'ny gen'ti am hela un a clust du wrth gwrs, a dyma'r rhyfel ma wel di i gyd o achos dy ateb cas bygythiol di." Bygythiol!' mynte hen frenin Arabia. "Ie," mynte'r Ilail, ne' beth o ti yn feddwl dyweyd nad o'dd gen ti ddim un mochyn du a clust gwyn, ae os buse fe Wel, beth own i yn feddwl o'dd," mynte'r hen frenin Arabia, os buse fe gen i fe helswn i e' i ti wrth gwrs." Wel sobor anwl," mynte'r ddoi," dyma ni yn diall 'n gilydd pan ma'i yn rhy ddiweddar. Ond dyna wers i ni am byth a phawb ar 'n hoi ni i geisio dadrys bob amser cyn tori." f Fe fuodd tipyn o gyffro yr wthnos diwedda mewn pentre heb fod yn mhell o Abarystwyth. Fe dda'th John y SAr ar newydd o'r dre y bydde Buller yn Ladysmith Dy' Sul. 'Rodd John, welwch chi, wedi rhedeg bron bob cam a'i wynt yn 'i ddwrn, ac yr o'dd pawb o'r bron yn 'i gredu e' nes y da'th e' at Shop Twmi'r G6. Ma' Twmi, welwch chi, yn cross-examino pawb. Chymer e' ddim ar dryst; ac mai e' bob amser yn leico myn'd i lygad y ffynon os gall e.' Pwy sy'n gweyd," mynte fe gyda fod John yn tori'r newydd. Telegraph yn y dre," mynte'r Sar. Pwff mynte'r gô, a dyma fe'n curo 'i chalon nes o'dd yr eingon yn adsain a'r gwreichion yn tasgu. Ond dyma fe'n unioni 'i gefen yn y man ac mynte fe wrth y bechgyn, '71 y Welwch chi, boys, ma'r rhyfel ma yn debyg iawn i whare pel droed. Ma' dwy ochor iddi. Ma' Dai 'ma, welwch chi, wedi colli llawer 'whech wrth feto fod y bel yn myn'd i'r gol'hyn ne'r gol arall." Pan o'dd y go yn llefaru fe dda'th Evan y crydd i miwn, ac wedi clywed y news Druan a Buller," mynte fe, "gobeitho y gall e'; ond beth am y line fach 'na ar ben y copi books sy'n gweyd, Man proposes and God disposes." Gobeitho fod Buller yn rhy gall i hero'r Brenin Mowr fel Shami 'r carrier gynt." Fel hyn ma'r hanes am Shami, os nad ych i yn gwbod yn barod. 'Rodd Wil White Lion wedi rhoi sein ar i van fel hyn, This van will run to town every Monday (D.V.) ac i geisio ffusto dyn White Lion, welwch chi, fe roiodd Shami sein ar 'i un e' yn dyweyd This van will run to town every Monday D.V. or not," ond y ma' pawb yn gwbod i hen van Shami fyn'd yn yfflon lawer tro cyn myn'd i ben ei thaith. Wy' i wedi ca'l llythyr ar deimlad v wlad oddi- wrth ddyn sy'n galw i hunan yn Fynvddwr," ac yn byw yn mhlwyf Llanbadarn Fawr. Rhaid i fi altro tipyn ar i lythyr e' achos mai e' yn spelian gormod o'i eire fel Northyn, a neith hyny byth o'r tro i'r Cardis. Dyma 'i lythyr e.'—" Beth yw'r achos fod Pryden Fawr yn cael cyment o golled yn y Transvaal ? Mi wn i; am i bod nhw yn salach seithwyr na'r Bwriaid. Beth yw'r achos o hyny, medde un brawd wrthw i y dydd o'r blan. 0, mi wedai wrthyt, mynte fine. Yr wyf fi wedi bod yn America, ac yr oeddwn yn meddwl fy mod yn seithwr da fel y gwyddest; ond mi es mewn syn- dod pan weles blant bach dim ond peder-ar-ddeg oed yn seithu un o'r moloc. Wy'n gwel'd yn awr ma beth ma Pryden yn feddwl neid yw myn'd yn mlaen i Faursmith er mwyn tynu y Bwriaid i lawr i'r gwastadedd i ymladd; y maent yn gweld eu Dod yn colli efo'r seithu, ac y maent am dreial efo'r cleddyf 'blegyd y ma^it yn dda cfo hwn. 'Rwan peta Pryden Fawr ween rhoddi y gynau yn rhydd, a thynu y Drwydded ffwr os tua dwy flynedd ar hugen yn ol oes dim dowt na fysaint wedi congcro os tua chwech wythnos yn ol. Tyny trwydded gynau i lawr a chodi trwydded am gadw moch. (beth ar deiar ma'r dyn yn feddwl gwedweh; ond jiyma fe'n gweyd). Tyny y trwydded i lawr er mwyn i'r wlad gael dysgu seithu y ma' llawer yn rhy dlawd i dalu trwydded, ac yn seithwr da hefyd, ond y ma gwyr mawr y wlad yn ddigon am y cwbwl." Go lew on' te fe. Mi ofala i fod y llythyr yma yn ca'l myn'd o fla'n y Chancellor of the Exchequer ac i'r War Offis ar unwaith ma' digon o ise help arni nhw, ond wy i yn gobeitho na 'na nhw ddim specto fod y scrifenwr yn dipyn o hen botsher welwch chi, am i fod e' ise y drylle yn rhydd. Ma' cyng- horion yn tshep iawn y dyddie hyn ac ma' gyda ni lond y wlad o Generals penpentan; ond ma' tipyn o wahaniaeth cofiwch chi rhwng neid plans rhyfel pan fo dim ond mwg ych cetyn cwta o fla'n ych llyged chi a phan bo mwg bwmshells y Boers oboiti chi i gyd. Ond ma point reit dda yn llythyr Mynyddwr," ac os dim dowt gen i nag yw e' yn go gyfarwydd a'i ddryll p'un a os leisens gyda fe ai peido. 0 ie, cofied Mynyddwr pan fo fe yn 'scrifenu i'r wasg y tro nesa' am beido iwso ond un ochor i'r ddalen a mwy na'r cwbwl am ofalu peido rhoi 'i enw priodol a'i address o fla'n i ffugenw fel mai e' wedi gwneyd y tro hwn. Mai e'n lwcus mai i law Hen Gardi 'ma i lythyr e' wedi do'd.
ALAETH RHYFEL.
ALAETH RHYFEL. I ryfel ag erch elyn-yw y cri, Ac ar ol ami lewddyn Y wlad blyg i dawel lyn—marwolaeth, A llwyth o alaeth yn dryllio'i thelyn. A'u chwerw unllais dychrynllyd—hau alaeth Wna'r magnelau enbyd: A lief rhai 'n marw hefvd El yn boen drwy galon byd. 0 ein Duw, mae gwaed yn dal i redeg, Gwridir llawer ardal: I ystig feib yn gystal Truenus fedd yw'r Transval. Rhoed du ysigiad i'r Dywysogaeth: Ni wena seren drwy'r nos o hiraeth; Rhai anwyl welir a'r anial alaeth Mewn cwyn i holi am wen cynhaliaeth; Wele dlodion ami dalaeth—heb fara,— Fy Nghymru welaf yng ngwae marwolaeth. r, Ymaegwaedd dromvgweddwon. yn rhoi in Drwy y byd yr awrhon Er eu braw rhydd pob brwydr bron Lawenydd i'r gelynion. Heddyw'r myrddiynau waeddant—tua'r nef, Trwy eu nos y llefant; A'u Duw gwyn, ei weled gant Ar hyll ferw'r llifeiriant. Pengarn. DEWI TPIFL,
♦ CWYNFAN AM Y DIWEDDAR P.…
♦ CWYNFAN AM Y DIWEDDAR P. P. PRYSE YSWAIN, LODGE PARK. 0 mor glaf yw'n gwlad gan hiraeth, 0 waclod calcn mynega'i halaeth: I Ysig yw, ei thvwvsog aeth, Ar fvr dro, i fro marwolaeth. Ptysc Pryse, y penaf o feibion bonedd, Sydd heddy w'n ddvstaw orwedd yn ei fedd, Mor o alar, mawr yw'r wylo, Ddaeth fel diluw dros ein bro. Amaethwyr, arwyr aiddgar ei blaid, Wylo iddynt heddyw sydd yn rhaid, Pob dosbarth sydd yn teimlo'r Si'llli- Mae ein gwlad bellach yn wlad lom. Boed i'r urddasol berth'nasau hamdden Yn nghydymdeimlad eu gwlad wen, Ei alarus, weddw anwylaf Mwy bydded ? dan nnrlrlerl Naf. A rhagluniaeth i helaeth weini, Goludog gysuron, yn ei gwir galedu, Boed Duw mewn cvf°.^°d iddi yn ?-nTr<~>3 A chaed nefolion roddion ras. Talybont. HUGH JûXES. ^Vf;*r>cr\ddw7vd V n0p',t'\ a'.n WT t?"171 (\0 T'; lwrlrl dim yn fwy dymunol na'i (pceled yn areraphedig yn y Welsh Gazette, CYFAILL.
Advertising
PRINTING of every kind done neatly and cheaply at the "Welsh Gazette" Offices, Bridge strpd Aberystwyth. Memorial cards of the newest designs printed at the shortest notice. The most nutrition c. EPPS'S COCOA Grateful aitci comforting jEPPS'S COCOA =- d ;ü}''1H. EPPS'S COCO V Business Notices. .,} )'" -J,¡'- "T!r':mt!li: ,> ,'c .IT 't;,¡,o'd!i CARDIGANSHIRE CAKKIAGE "yy 0;;K< J. G. WILLIAMS, PRACTICAL CARRIAGE BUILDER, C^LYBEATE gTREET, (Near Railway Station,) A B E It Y S T W Y 17.11. NEW CARRIAGES of own Manufacture on -L* hand, of Best Material and Finest work- manship throughout. Rubber Tyres fitted to all Vehicles if required. J. G. WILLIAMS invites inspection of works, which is the largest and best equipped in the county. PRIVATE ADDRESS—13, BAKER STREET DAVID HOWELL, GENERAL DRAPERY ESTABLISHMENT, 334 35, GREAT DARKGATE ST., AND 2, M ARRET STREET, A B E R Y S T W Y T HI w ELSH AND (^HAlVLf, CARPETS AND LINOLEUMS. W. R. JONES WATCHMAKER JEWELLER, &" 32, Great Darkgate Street, ABERYSTWYTH A large Assortment of JEWELLERY, in Gold, Silver, and Pebbles, Suitable for Presents, &c., also LADIES' AND GENTS' GOLD AND SILVER WATCHES. SPECTACLES AND EYE-GLASSES TO SUIT ALL SIGHTS. A Good Assortment of WEDDING, KEEPER, and GEM RINGS. :SPLENDID BARGAINS. BEES JONES, EMPORIUM, TREGARON [_Now offers for Sale at Low Clearance Prices a fine lot of MEN'S, YOUTH'S, AND BOYS'] | OVERCOATS. FURNITURE. FURNITURE. FURNITURE. J. L. EVANS, (COMPLETE HOUSE FURNISHER CABINET MAKER & UPHOLSTEKER, tiREAT D ARKGATE S TREE A BERYSTWYTH. FURNITURE, FURNITURE, FURNITURE DAVID WATKINS, WORKSHOP SEA VIEW PLACE. PK I VATE ADDRESS CUSTOM HOUSE STREET. PAINTER. PLUMBER, PAPERHA XGER, GLAZIER A\T,,) HOUSE DECORATOR. CHOICE ASSORTMENT OF PAPER- HANGINGS ALVT.W? IN STOCK. sm 'T LEAD Pin '"TSTERNS, &c., &c. 1101. COMMERCr 110USE. BRIDGE C<TREET .V OTEEN CJTREEI If FANCY GOODS AND CYCLING ACCESSORIES I Business Notices. ~— HUSBANDS I STUDY YOUR WIVES EASE AKD COMFORT By OXE OF SELLERS' WASHER8. r q p E-í rl 2 di ;¡ :L 2 rn H W œ z p <(:- 0 ifl too s;: >t:2 w. ¡;r.¡ po ':£x o 0 > ¡- æ f$ Z r- o z :=: 0 t= :5 w. t': >- E= P !WatsOu's r-trj ¡: rl" ;:s z = if1 Z m w 7 ¡¡;. o Z 8 00 -h- NO WELSH HOME COMPLETE WITHOUT ONE. SOLE A GENTS MARY DAVIES & SOX, J^LANON JJOUSE, A BERAYRON. Also Agents for the leading Makers of all kinds of Implements. -Nlr. HUGHES DA VIES attends Monthly Markets at Tregaron.. R. SAYCELL, FISH, GAME, AND POULTRY DEALER. GREAT DARKGATE STREET, ABERYSTWYTH. HORNER'S CLOTTED CREAM AND CREAM CHEESE. FRESH DAILY. SOLE AGENT FOR Palethorpe's celebrated Cambridge Sausages in the district TELEGRAPHIC ADDRESS SAYCELL, ABERYSTWYTH." TELEPHONE NO. 6. CAMBRIAN FACTORY. LAMPETER. DAVIES BROS.' BOOTS AND SHOES ARE POPULAR IX ALL TOWNS, A BOON TO LAMPETER AND DISTRICT. IMPORTANT NOTICE. OPENING OF A NEW STEAM BAKERY Wholesome Bread, Cake, and Pastry. CHARLES EVANS, MARK LANE STORES, Bridge Street, LAMPETER, Begs to call the attention of his customers and the public generally to the Opening of a NEW STEAM BAKERY, and the facilities he can now offer. WEDDING, BIRTHDAY, AKD SCHOOL CAKE TO ORDER. PASTRY OF EVERY DESCRIPTION. All Orders receive prompt and careful attention. YAKS WILL DELIVER IN AND AROUND THE DISTRICT DAILY. The Public are cordially invited to inspect the New Bakery, which is a marvel of ingenuity and perfection. IF YOU WANT GOOD, RELIABLE FURNITURE AT A LOW PRICE. GO TO DAVID ELLIS AND SONS, FURNISHERS, 6. CHALYBEATE STREET, ABERYSTWYTH FOR THE LEADING jpALNTING, IP LUMBING, & JQECORATIYF. B USINESS J FOR ABERYSTWYTH AND MID-WALES DISTRICT, GO TO R. PEAKE, JJATH STREET, ABERYSTWYTH. J. B. EDWARDS, FAMILY GROCER, FWUR AND PROVISION MERCHANT, 40, B RI D*G E STREET A BERYSTIVYTH. Jams, Marmalade, Jellies, Pickles, Cheese. Lard, and all kinds of Potted Fruits Best Quality in Home-cured Bacon, and Fresh Butter and Eggs Daily. TRY OUR SPLENDID TEAS NOTED FOR STRENGTH PURITY AND FLAVOUR. All crders promptly attended to, and sent out to any part of the Country. WM. THOMAS, COAL AND LIME MERCHANT, ABERYSTWYTH. BRICKS, SLATES PIPES of every description always in Stock. DAVID MORGAN, DRAPERY AND MILLINERY ESTABLISHMENT, 18, pIER STREET, ABERYSTWYTH HOPKIKS & SON, BUILDERS AND CiNTR ACTORS, kpr.i YSTWTTH. CASTLE HOUSE, ABERAYRON. John Hugh Jones, The oldest established Draper in Aberayron. LARGE STOCK OF DRAPERY OF EVERY DESCRIPTION. FOR WELSH MATERIALS Of all description unsurpassed in the Town MODERN SHOWROOMS. Ladies and Gentlemen are respectfr.llv requested to visit the above Establishment. They will be surprised at the variety of the Stock. THOMAS ELLIST 33 AND 35, TERRACE ROAD (OPPOSITE THE POST OFFICE). FANCY DRAPERY. MILLINERY IN ALL ITS BRANCHES. SPECIALITES-LACES, RIBBONS & MUSLINS. T. E. has just returned from London with New Styles in all Branches of Millinery and Drapery. BOYS', YOUTHS', & MEYS CLOTHING OF EVERT DESCRIPTION MADE TO MEASURE -AT LOWEST CASH PRICES— BY DANIEL THOMAS, GENERAL DRAPER, OUTFITTER, TAILOR, &.c.t 22, 24, L ITTLE D ARKGATE J^TREET A BERYSTWYTH. I R. DO UGHTON, I RONMONGER, CHriA JJEALER AND CYCLE A GENT, (OPPOSITE THE TOWN CLOCK). CYCLES FOR SALE AND HIRE USE THE CRYSTAL PERISCOPIC SPECTACLES J TO BE HAD Ar ABOVE ADDRESS.