Hide Articles List

9 articles on this Page

MARW " TAD " TY Y CYFFREDIN.

Y GWLAWOGYDD YN PARIS. j

CAERNARFON.

News
Cite
Share

CAERNARFON. BENTHYCA ARIAN YN MYSG Y TLODION. Mewn llys ynadol arbenig a gynnaliwyd yn Nghaernarfon, ddydd Mawrth, ger bron Mr. J. R. Pritchard, ac ynadon eraill, cy- huddwyd Elizabeth A. Edwards, 8, Twthill; Elizabeth Jones, 35, Mount iln Street, ac Elizabeth J. Nanney, 11, Mountain Street, gan swyddog yr Erlyniadau Cyhoeddus, am droseddu o dan Gyfraith Benthycio Arian. Mr. J. H. Jenkins, yr hwn a erlynai, a ddywedodd fod Edwards wedi bod yn arferol A rhoddi benthyg i bobl dlodion yn y dref symiau o arian yn amrywio o 2s. 6 i 10s., ac yn codi 116g yn ol 1,000 y cant yn y flwyddyn. Yn gyffredin, byddai i'r arian gael eu ben thycq, ddechreu yr wythnos, tynid allan y 116g, a thelid yr arian yn ol ar ddiwedd yr wythnos. Mewn achosion eraill, byddai i'r ddiffynyddes roddi benthyg dilladau, pi rai" a gymmerai y benthycwyr i'r gwystlwyr, a thalu lldg y gwystlwr, a swm o arian i'r ddiff- ynyddes. Wedi i dystiolaeth gael ei rhoddi nad oedd y ddiffynyddes yn fenthycydd arian cofrestr edig, Ellen Phillips, Clarke Street, a dyst- iodd iddi fenthyca symiau o arian yn ami gan "y ddiffynyddes, i'r lion y talai chwe- cbeiniogyrwythnos am fenthyca hanner coron. Arferti hefyd fenthyca dillad, y rhai a wystl- ai, hyd nes o'r diwedd y gwelortd ei hnn mewn cymmaint anhawsder fel y darfu iddi ymgy- nghori â chyfreithiwr. Rhoddodd dwy wraig arall dystiolaethau cyffelyb, ond dywedasant fod yr hyn a roddid ganddynt hwy fel ad-daliad am y,1 enthycion i'r ddiffynyddes, yn cael eu hewyllus rydd eu hunain. Nid oedd swm neillduol yn cael ai rodi. Rhoddodd y ddiffynyddes ei thystiolaeth, a dywedodd mai newydd ddychwelyd o gladd- edigaeth eig*r yd oedd. Gwadai ei bod yn gwneyd busnes o fentbyca arian. Yr oedd hi yn gwneyd ei bywoliaeth trwy werthu pysgod, ac yr oedd ei g*r wedi bod yn wael am ddwy flynedd, fel nad oedd ei holl gyfalaf yn cyr- haedd ond 12s. yn yr wythnos. Yr oedd yn ami, allan o garedigrwydd, wedi benthyca arian a dilhd i'w chymmydogion, ac yr oedd- ynt hwythau, ar adegau, yn rhoddi ychydig iddi fel cydnabyddiaeth. Unwaith darfu iddi roddi benthyg ei modrwy briodasol. Yr oedd ei phrotiad yn un byr, a phrofodd yn ddinystriol. Mr. R. Roberts, dros yr amddiffyniad, a ddywedodd fod yr erlyniad yn un hollol an- nheg, ac nad oedd erioed yn cael ei olygu yn y gyfraith. Dywedodd y fainge fod yr achos wedi ei brofi, ond gan ei bod y cyntaf o'r fatb i ddyfod ger bron y llys, nid oedd ganddynt eisieu bod yn rhy arw gyda'r ddiffynyddes. Gosodent ddirwy o 108. a chostau y llys. Yn achos Elizabeth Nanney dywedodd tyst o'r enw Susannah Roberts ei bod hi wedi benthyca arian a nwyddau gan y ddiffynydd- es, yr lion a godai 2s. am fenthyg 10s. am wythnos. Ar un achlysur gorfu ami dalu holl gyflog ei g*r i'r ddiffynyddes, a gadawyd hi heb ddim i gael bwyd i'r ty yr wythnos hono. Yr arnddiffyniad ydoedd nad oedd unrhyw 16? yn cael ei godi am y benthycion a wneid. Gosodwyd yr un ddirwy yn yr achos hwn. Amddiffynid gan Mr. R. Roberts. Profwyd y cyhuddi.td yn erbyn y drydedd "ddiffynyddes, a dirwywyd hithau i'r un swm tft'r ddwy arall.

IY GOGLEDD.

?Y DEHEU

LIVERPOOL.

BRAWDLYS SIR DDINBYCH. )

Rrai Camojsmir.eria au Costus.

iYSTAD Y PLEIDIAU.