Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

26 articles on this Page

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

GYDA'R PELLEBYR.

AM8ER COLEU LAMPAU,

YN MERW Y LUF. --

Y TRYDYDD DYDD AR DDEG.

Y PEDWERYDD DYDD AR DDEG.

Y DIWRNOD OLAF.

PA BKrrn NESAF,

Y PA FODD,

News
Cite
Share

Y PA FODD, Mewn geiriau eraillAi y ffordd oreu fyddai cymmeryd Pwngc y Ty Uchaf mewn llaw yn mlaenaf dim a'i ynteu pasio y Gyllideb a dorfynyglwyd, ac befyd y Gyllideb am y flwyddyn nesaf—1910 —111 Nid ydym yn dyweyd Dad oes lie i ddadleu yn deg a chryf ar y ddwy wedd hyn i'r pwngc. Rhai Rhyddfrydwyr selog a deiml- ant yn awyddus am weled Mr. Asquith a'i gydswyddogion yn gwrthod aros mewn swydd oni ch nt hwy addewid bendant gan y Brenin y bydd efe, os cyfoda yr angen- rheidrwydd am hyny, yn barol i greu nifer digonol o bendefigion i gario Mesur y Cwt- togiad trwodd; byny ydyw, fod y Ty pres ennol yn cael ei 'swampio;' ei liw yn cael ei newid yn hollol; a bod ynddo o hyny allan fwyafrif oRyddfrydwyryn lie mwyaf- rif o Doriaid, fel sydd wedi bod ynddo ar hyd y cenedlaethau. Byddai byn, ni a addefwn, yn ddefnydd llwyrach a chryfach ar ei hawlfraint gan ei fawrhydi na dim y bu galw ar benadur Prydeinig erioed i'w wneyd. Hyd yn oed yn y flwyddyn 1832 -yr enghraifft ddiweddaraf ar y pen hwn— ni ofynid ond am i rhyw bedwar ugain o bendefigion newyddion gael eu I creu;' ond, o dan yr amgylchiadau presennol byddai yn angenrheidiol caol o dri chant i dri chant a hanner o arglwyddi newyddion danlli spon. Y rhai a soniant am yr ymrwymiad hwn gan ei fawrhydi a ddylent edrych peth ar yr ochr rralT hefyd; sef, pa beth a ddigwyddai pe bae efe yn gwrthod myned dan y cyfrifoldeb o'i roddi, Yn y cyfwng hwnw, anfon at Arweinydd yr Wrthblaid, 'a gofyn am iddo ef i ffurfio Gweinyddiaeth a wnai. Balch a fyddai Mr. Balfour o'r cyfleusdra, ac yna myned yn mlaen i ddad. gorphori y Senedd, a thaflu y wladwriaeth yn ddiymdroi i ganol borw etholiad cyff- redinol arall. Dengys hyn ei bod yn ang- enrheidiol i Mr. Asquith a'i Weinyddiaeth gerdded yn araf, a gweithredu yn dra goch- elgar, rhag eu bod mown dim yn chwareu i ddwylaw eu gelynion. 0 un peth gallwn fod yn sier, nid amgen y bydd yn rhaid creu' chwaneg o arglwyddi neu ynteu gael etholiad cyffredinol arall. Os mai ail appeliad at y bobl a fydd ar gwestiwn Ty yr Arglwyddi, yr ydys yn rhwym o deimlo ei bod yn anhebgorol angenrheidiol goleuo ac addysgu siroedd deheuol Lloegr. Yn ofer y gofynir am farn pobl baganaidd a thywyllion y siroedd Hengistaidd hyn. Maent i raddau gormodol o dan ysgriw y dafarn, y parsondy, a'r palasdy.

Y GWYDDELOD ANNIBYNOL.

SEFYLLFA BERYGLUS.

iYSTAD Y PLEIDIAU.

[No title]