Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. Dydd Ian, Mawrth 4ydd.—Cvmmerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei sedd am chwarter wedi pedwar. Mesur Cynghorau India. Ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor er cymmer- yd Mesur Cynghorau India odian ys-tyriaeth. Wedi i Arglwydd Morley egluro tuedd gy- ffittl'iK.l v rheolau, mor bell ag y pendeifyn- vv d arnynt, gwadai iddo fod yn frysiog gyda gynllun, a dadganodd ei oba-itli na eh'i'V^-xi ddim ei wneyd mewn pwyllgor, i (lyliu d ni oddi wrth ei effeithiolrwydd. Cyttunwyd ar yr adran gyntaf a'a* ail. Gwrthwynebodd Arglwyddi Curzon, Lans- downe, ac eraill, adran y drydedd, yr lion oedd yn darparu ar gyfer cyfansoddi Cy- nghorau Gweiihiol Talaethol. Pan ymnanwyd, gwrthodwyd yr adran trwy 59 o bleidleisiau yn erbyn 18. Croeswyd yr adran allan. Pasiodd y mesur trwy bwyllgo-r, a goshir- iodd y Ty hyd dydd Mawrth.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd lau, Mawrth 4ydd.—Cymmerodd y Llefarydd y igadair am cliwarter i dri. Y Ddedfryd ar Dinuzulu. Y Mil. Seely, mewn attebiad i Mr. Mac- karness, a ddywedodd nad oedd ofe opd new- ydd: dderbyn gwefreb oddi wrth Lywodraeth- iwr Natal, yn hysbysu y ddedfryd oedd wedi cael ed phasic ar Dinuzulu, ac yr oedd yn ammbosisibl iddo ef wneyd unrhyw fynegiad. Mewn attebiad i gwesrtiynau pellach, dy- wedodd1 y Mil. Seely y byddai yn angen- rheidiol i'r Llywodraeth gael miyj o hysbys- rwydd cyn y gallai ef ddyweyd pa gwrs a gymmerent gyda golwg ar y ddedfryd. Sefyilfa y Fyddin. Gwnaeth Mr. Haldane, Ysgrif enydd Rhy- fel, wrth gynnyg fod y Ty yn ymffurfio yn bwyllgor ar ameangyfrifon y fyddin, fyneg- iad cyffredinol gyda golwg ar sefyilfa y fydd- in. Yr oecklynt wedi cael blwyddjrn neill- in. Yr oecklynt wedi cael blwyddjrn neill- duol o dda gyda golwg ar ymrestru i'r fydd- in. Yr oeddynt wedi ymrestru dros 2,250 o ddynion mwy i'r bataliynau rheolaidd nag yn y blynyddoedd blaenorol. Credai mai yr achos o hyny ydoedd, fod y fyddin yn dyfod yn alwedigaeth fwy poblogaidd nag ydoedd. wedi cymmeryd lie yn yr adranau eraill o'r Yna aeth yn mlaen i nodi y llwyddiant oedd fyddin. Cymmerwyd! rihan yn y ddadl gan Syr C. Dilke, Mr. Seddon, y Mil Ifor Herbert, a Mr. J. Ward. Wedi htyny, galwodd Mr G. Howard sylw at- gyfiwr cymdeithasol y milwr preifat. a'i siawnsl am waith yn y gwasanaeth gwladol, ar derfyn y cyfnod o diaysgyblaeth filwrol; a chynnygdodd y penderfyniad canlynol:— Tra yr oedd y Ty hiwn yn cydnabod y cyn- nydd amlwg oedd wedi cael ei wneyd i wella cyflwr cymdeithasol bywyd v milwr preifat, y b -a,i iddo groesawu gweithrediadau pellaoh yn y cyfeiriad hwn. yn fwyaf neill- duol trwy agor ystafelloedd dirwestol yn y lluesttai lie nad oedd rhai, trwy ddadblygu cyfundrefn o addysgu y milwr preifat ar gyfer gwaith! ar ol hyny, yn y gwasanaeth gwladol, a thrwy liosogi cyfleusderaii y cyf- ryw waith.' Cymmenvyd rhan yn y ddadl gan Mr. Maclean, a Mr. Acland. Gwrthodwyd penderfyniad Mr. Howard heb ymraiiiad. Gohdriodd y Ty am bum' munyd ar hugain i hanner nos.
. TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd Gwener, Mawrth 5ed.—Cymmerodd y Dirprwy Lefarydd y gadair am hanner dydd. Mesur Arbed Coleuni Dydd. Mr. Dobson, Plymouth, a gynnygiodd ail ddarlleniad Mesur Arbed Goleuni Dydd, yr hwn oedd yn darparu i'r cloc gael ei droi awr yn gynt yn y boreu ar y trydydd Sab- bath. yn mis Ebrill bob blwyddyn, ac iddo gael- ei droi awr yn ol ar y trydydd Sabbath yn mis Medi. Adgofiodd y Ty fod mesur tebyg eisoes wedi pasio ei ail ddarlleniad, ac iddo gael ei drosglwyddo i bwyllgor dethol- edig. Yr oedd y pwyllgor wedi holi 42 o dystion, a rhoddodd y rhan fwyaf o honynt dystiolaeth ffafrdol i'r cynllun. Ar fhyn. galwodd yr Uchgadben Renton sylw y Ty nad oedd deugain o aelodau yn bresennol. Wedi aros am ryw ddau funyd, yn unol a'r arrer o dan amgylchiadau o'r fath, cyf- rifodd y Diirprwy Lefarydd ddeugain. Wedi hyny, aeth Mr. Dobson yn mlaen gyda'iÎ araeth. Dywedai fod llawer o'r cyrph cyhoeddns, mavviion yn rhoddi eu cefnogaeth i'r mesur. Ond i'r mesur gael ei baisio, dyvvedai y byddai i ryw 30,000,000 o bobl o leiaf, fwynhau 154 mwy o oriau dydd. Syr H. Norman a gefnogodd y penderfyn- iad. Mr. R. D. Holt a gynnygiodd fod y mesur yn cael ei wrthod. Nid oedd efe yn meddwl y byddai y rhai a ddechreuent Aveitliio yn awr am chwech o'r gloch yn y bo-reu yn barod i wneyd hyny awr yn gynnarach. Diau y byddai cynnorthwywyr mewn siopau yn well allan trwy gael ychydig chwaneg o amser yn yr awyr agored; ond y ffordd i fcicrbau hyny ydoedd, pasio cyfradth i gau y siopau awr yn gynnarach. Mr. Courthope a wrthwynebai y mesur, a dadleuai yr aclwsai y mesur hwn angh vflpup- dra mawr i amaethwyr, heb iddynt dderbyn dim mewn ffordd o ad-dalind o gwbl. Mr. A. H. Crosfield, yr hwn. mewn can- lyniad i airbrawfiadau wnaed yn ei ffirm, a roddodd gefnogaeth gynnes i'r mesur. Syr F. Banbury a ddadleuai yr achosai y mesur anghyfleusdra mawr ar y Stock Ex- change. Mr. Winston Churchill a roddodd gefnog- aeth wresog i'r mesur. Am buimp o'r gloch, cynnygiodd Mr. Dob- son y cloadur, yr hwn a gariwyd trwy 173 yn erbyn 86. Wedi hyny ymranodd y Ty ar welliant Mr. Holt. Dros y gwelliant 108 Yii eityn 141 Mwyafrif yn erbyn 33 Ymranodd y Ty drachefn ar y cynnygiad i ail ddarllen y mesur— Dros yr ail ddarlleniad 130 T Yn erbyn 94 Mwyafrif dros 36 Cynnygiodd Syr F. Banbury i'r mesur gael ei drosglwyddo i bwyllpor o'r holl dy. Gwrthodwyd y penderfyniad trwy 124 o bleidleisiau yn erbyn 91. Ar gynnygiad Mr. Dobson, t-rosglwydd- wyd y mesur i bwyllgor detholedig. Cododd y Ty am bum' munyd i chwech,
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd Lhm, Mawrth 8fed.—Cymmerodd y Dirprwy Lefarydd y gadair am cliwarter i dri. Mesurau Preifat. Ar gynnygiad Mr. H. Samuel mabwysiad- wyd penderfyniad yn darparu i bennoeli pwyllgor, i gael ei alw Pwyllgor Deddfwr- laeth Leol, i ymwneyd a'r holl fesurau prei- fat a gefnogid gan awdurdodau dinesig, ac awdurdodau lleol eraill, fyddai yn cynnwys cynnygibn yn dwyn cyssylltiad a'r heddgeid- waid, deddfau iechyd, neu ryw reolau Hyw- odraethol ar wahan i'r gyfraith g-yffredin. Bydd i'r pwyllgor newydd gymmeryd lie yr lien bwyllgor heddgeidwadol, &c. Y Cyllideb. Mr. Asquith, mewn attebiad i Mr. LoUH- dale, a ddywedodd' nad oedd mewn sefyilfa i wneyd ainrhyw fynegiad o berthynas i ba adeg y cawsai y Gyllideb ei chyflwyno i'r Ty. Aeiodau Newydd. Cafodd Mr. Scott Dickson, yr aelod Ceid- wadol newydd dros Ganolbarth Glasgow ei gyflwyno i'r Ty gan Mr. A. Acland-Hood (Chwip yr Wrthblaid), a Mr. Cochrane, yn nghanol cymmeradwyaeth yr Wirthblaid. Rlioddwyd derbyniad gwresog, lief yd, i Mr. Arthur Dewar, y Cyfreithiwr Cyffred- inol dros Ysigotland, gan gefnogwyr y Llyw- odraeth, air ei waith yn cymmeryd ei sedd, ar ol ei ail etholiad dros ddeheu Edinburgh. Amcangyfrifon y Fyddin. Ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar amcan- gyfrifon y fyddin. Ar y bleidlais yn pen- nodi nifer y corphluoedd tirol yn 183,200, agorodd Mr. Wyndham ddadl gyffredinol ar bolisi y fyddin. Talodd deyrnged i Mr. Haldane am ei ,se1, ac ymosododd arno am ei gynnyg- ion ynglyn a'r imagnelau. Cynnygiodd Dr. Rutherford ostwng 10,000 yn nifer y jdynion, a sylwodd y geHid galw corphluoedd o'r Aipht, Affrica, ac India. Amddiffynodd Mr. Peel v meiiStriaid a gefllogent ymrestru i'r fyddin. Mr. Haldane a wawdiai y meddylddrych y byddai i lynges lenwi lie byddin gartrefol, a dywedodd fod y Llywodraeth yn tjenderfyn- o t o wneyd yr amddifFyniad cartrefol yn ddi- ogel. Nid oedd a wneio ef a gwaith cwmniau ysiwiriol ynglyn ag ymrestru i'r fyddin, ond yr oedd yn cymmeradwyo yr hyn oedd wedi cael ei wneyd, yr hyn nad oedd yn wahanol i feiistr yn gwrthod cymmeryd neb ond 11 wyrvmwrthodwyr, neu aelodau o lundebau crefftol. Cafodd y ddadl ei gohirio hyd dydid Mawrth. Codüdd y Ty am hanner awr wedi un ar ddeg. Dydd Mawrth, Mawrth 9fed.—Cymmerodd yr Argliwydd Ganghellydd ei sedd am cliwar- ter wedi pedwar. Mesur Cynghorau India. Cynnygiodd Arglwydd Morley, Ysgrifen- ydd India, fod adran 3 yn cael ei hail osod yn y jmesur, yr hon oedd yn rhoddi awdur- dod i ffurfio cynghorau talaethol, a'r hon a wrthodwyd gan y T'y y dydd lau blaenorol. Diarllenwyd cenadwrl oddi wrth Lywodr- aeth India, yn cefnogi gweithrediad Argl- wydd Morley, ac yn dyweyd y hyddai i'r awd- urdod oedd yn cael ei estyn trwy yr adran gael ei roddi ar waith yn raddol a gofalus. Argliwydd Lansdowne a ddadganodd ei farn nad oedd digon o reswm dros ddyfod i bendefyniad newydd ar y mater. Wedi rhyw gymmaint o siarad pellach, gwrthodwyd yr adran. Cynnygiodd Arglwydd Morley adran new- ydd. yn darparu fod rheolau o dan y Gyf- raith yn cael en. gosod ger bron y ddau dy seneddol mor fuan ag y byddai iddynt gael eu gwneyd. Argliwydd Midleton a gynnygiodd well- iant ond ar annogaeth Arglwydd Lons- downe, galwodd ef yn ol. Trefnwyd y trydydd darlleniad dydd lau. Mesur yr Esgobaethau. Pasiodd Mesur yr Esgobaethau heb unrhyw vYelliant o bwys. Darllenwyd amrylw fesurau preifat, yn mysg pa rai yr oedd Ffordd Haiarn Dyffiryn Taf (Ffordd Haiarn Rhymni). Ffordd Haiarn Dyffryn Taf (Ffordd Hadarn Caerdydd), a Mesur Ffordd Haiarn y Barry, yr ail waith Cbdodd y Ty am ugain munyd i eaith.
_. TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd Mawrth, Mawrth 9fed.—Cymmerodd y Dirprwy Lefarydd (Mr. Emmott), y gadair am chwarter i dri. Cwestiwn y Balkan. Syr E. Grey, mewn attebiad i Mr. Dillon, a ddywedodd fod gohebiaethau yn parhatu i gael eu cario yn mlaen rthwng v Galluoedd, gyda'r amcan o gefnogi cyttundeb cyffredin- ol yn y Dwvrain Agos. Nis gallai wneyd mynegiad pellaoh yn bresennol, ac nid oedd y drafodaeth wedi cael ei chario yn ddigon pel-l i'w alluogi i ddyweyd pa bryd yr oedd y Gynnadledd yn debyg o gyfarfod. Cymmeryd Personau i'r Ddalfa yn India. Rhoddwyd amryw gwestiynau i Is-ysgrif- enydd India (Mr. Buchanan) gyda'r amcan o gael allan yn fanwl, ar ba dir yr oedd naw o bersonau yn India wedii cael eu cymmeryd i'r ddalfa, a'u halltudio heb gael eu profi. Dywedodd Mr. Buchanan nad oedd Ys- yifenydd India yn ei hystyried yn ddoeth i wneyd iunrhyw fynegiad ar y mynegiad hwn. Gofynodd Mr. Belloc a fyddai ef mewn trefn wrth gynnyg i'r T'y gael ei ohirio, er r;alw sylw at waith gweinidog cyfrifol i'r Ty yn gwrthod rhoddi y rhesymau dros y gweithrediad oedd efe wedii ei gymimeryd. Wedi hyny gofynodd Dr. Mackarnesis a fyddai ef mewn trefn wrth gynnyg fod y Ty yn cael ei ohirio; er galw sylw at y ffaitli fod deiliaid Prydeinig yn India yn cael eu cym- meryd i'r ddalfa, a'u halltudio. heb i gy- huddiad gael ei ddwyn yn eu herbyn, na sef- yll prawf. Gwrthododd y Dirprwy Lefarydd dderbyn un o'r ddau gynnygiad uchod. Yr Aelod Newydd dros Hawick. Cyfliwynwyd Syr John Barran, yr aelod newyd'l dros Hawick, gan Brif Chwip y Llywodraeth, a Mr. Runciman, i'r Ty, yn nghanol cymmeradwyaeth cefnogwyr y Llywodraeth. Attal y Rheol Un ar Ddeg. At-taliwyd y rheol un ar ddeg trlwy 267 o bleidleisiau yn erbyn 62. Amcangyfrifon y Fyddin. Ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar amean- gyfrifon y fyddin. "Caed trafodaetli ar bolisi y fyddin, yn pen- nodi nifer y corphluoedd ar v tir yn 183,200. Cynnygiodd Dr. Riutlherford, drachefn, os- tyngiad o 10,000 yn y corphluoedd tirol. Wedi dadl hirfaith, gwrthodwyd y gwell- iant trwy 247 o bleidleisiau yn erbyn 100- mwyafrif y Llywodraeth, 147. Cododd y Ty ryw: ychydig cyn hanner nos.
Advertising
) 4 I ..(( c., ). day and night—obstinate resistance of all ordinary methods of trest- 8 I ment, and a tendency of the sores to spread -these are amongst the penalties of *(' 1 1 1 neglecting the first signs of skin disease. | A I Tne worst forms of eczema, scalp disease, and blood-poisoning often spring C/, //ll i from the simplest cause. Maybe the warning signal is a rough angry patch on the arm or « thigh; or a pimply sore on the head. A sore tinger-erid or chapped kriiickls hss over sna ovcrGgsiiipsvea the wsy to S £ tig5 5 II disease. In the ssiue way cuts arid bruises frecjueritly lesd to "Diooa-poisCiiing; xcstcring; v'Tk H and obstinate sores; v n § So long as the skin is whole, the delicate tissues beneath are safe. However, iei the skin become I 1 unhealthy as it often does in Spring when impurities collect in the blood; or broken by a cut or small sore i tfcen gsrms that abound in the air, swoop down, contaminate the flesh, and provoke some itching, inflsiBii's- ^"$^1 I tory disease. Eczema and blood-poisoning, once having gained a foothold, are each most difficult to g&i rid -r I of. Either may bring its victim nights of burning torture or it may cost the amputation of a limb. 1 There is only one safe course. If a little of that rich balm, Zam-Buk, is applied promptly to the affected part I immediate attack is made upon these dangerous germs. Zam-Buk is famous for its antiseptic strength, its aud VC\ 8 its unique herbal character. By the influence of this rare balm (which is entirely different from mere ointeient), the I M dangerous germs are killed and ejected from the tissues along with the other bad matter drawn out. The iicsu is thus • 1 sooUied by Zam-Buk, and completely purified. When the tissues have been made perfectly sound, a new protective 1 layer o! healthy skin is made to grow. H Zam-Buk owes its wonderful success to the peculiarity and richness of its composition, which recalls the pure bslr. s to 2 ighJy prised //■■m ft by the Ancient Greeks and Romans. Prepared only by the Sole Proprietors, at their laboratory, and sold only in staled len s beerfng 'he R If Government Stamp, Zam-Buk marks a great advance upon mere ointments. || Za:n-Bak contains none of the rancid animal fats or mineral poison found in H many of those cheap, antiquated articles. On the contrary, Zam-Buk is a skilful, H scientific combination of certain rare and valuable herbal juices, arvi is truly the The homt that always keeps a box of Zam-Buk handy is f;ir- nishzd with an ever-ready healer and the one reliable remedy (or neglected eczema, scalp sons, piles and bad legs, festering and swell- ings froil. blood-poisoning, ant any of tht burning, Ù r£tati1¡g, and itching sores, which artat;toug the daily penis of this season. Of all chemists', at tm, 2,9, or 41G a box. Post free at samt prices f)out. the Zam-Buk Co., 45, COVJ Cross St., London, E.C. r>-1 CUT OFF i THIS CGF?N £ R. f SRNTD 8 'vit your name 8 aii.l address 8 f snil lil. s-1 :nip (for S Leeds. fur a free sample. B B^ror sc Amserau Cymru, H !rf' "< ,h.
NODION 0 SIR BENFHO
NODION 0 SIR BENFHO Mae mis Mawrth wedi dyfod i fewn yn y iSir hon gan ddwyn gydag ef fwy o eira nag ydym wedi ei gael er's llawer hlwydd'yn--o leiaf deng mlynedd. Mae hyd yn oed trefi glanau y mor, niegys Solfach, Ty Ddewi, &c., wedi cael eira eleni, yr hyn sydd beth eithr- iadol yn eu hianes. Heddyw (dydd Sadwrn), mae yr heolydd yn Hwlffordd yn anhawdd i'w troedio, o' herwydd yr eira darlethol sydd arnynt, ac nid yw yn debyg fod neb yn dy- fod i'r farchnad ond y sawl sydd raid idd- ynt.
DY'GWYL DEWI.
DY'GWYL DEWI. Er fod y dydd uchod yn cael ei gadw a'i ddathlu bron yn anhob rhan o'r bvd: er's blynyddoedd bellach, etto ychydig mewn cymmhariaeth oedd o hono yn eir Benfro. Ond, eleni gellid meddwl fod riiyw ddeffroad ynglyn a'r mater yn y sir hon. Da-thlwyd ef yn Noc Penfro trwy gynnal cyfarfod yn y Nenadd. Ddii*wetsol, yn yr hwyr, o dan lywyddiaeth y Parch. W. Evans. Yn gyntaf, cyfranogwyd o'r dan- teithion arlwyedig ar y byrddau, ac yna, aed yn mlaen ag yfea. y llwngcdestynan, y penaf o ba rai oedd Coifadwriaeth Dewi Sant. Dywedai y cadeirydd y byddai, cyn nemawr o fisoedd, lyfr newydd gwerthfawr yn ym- ddangos ar Gristionogaeth Geltig yn y parthau hiyn, a'i fod yn liyderu j ceid gwy- bod y ewbl a, ellir ei wybod am Dewi Sant yn hwnw. Hyd hyny, fod yn rhaid i ni ym- foddloni. ar ei goffiadwriaethu yn nnig-mai un o'r pethau amlycaf ynglyn ag ef, mor bell ag y gellir gwybod, ydoedd, ed ysbryd cen- hadol, &e. Diau genym y bydd yn hyfryd- well gan lawer gael golwg ar Dewi Sant mewn llyfr, er addefwn mai gwaith anhawdd iawn fydd hyd yn oed i Dr. Hugh Williams, neu unrhyw wr arall, wneyd c-yfiawnder ag ef, ac a'i hanes, am ei fod yn byw mewn oes mor bell yn ol, a bod cynnifer o draddodiad- au ammheus yn cael eu hadrodd am dano. Cof genyf glywed y diweddar Dd'eon Howell yn tradclodi darlith arno yn Neuadd Drefol, Ty Ddewi, flynyddoedd yn ol, yr hon a ddygai olion lawer o ymchwil o eiddo y gwr parchedig, a'i bwynt cyntaf oedd ceisio profi fod y fath berson a chymmeriad wedi bod ar y ddaear. Yna, edrychai ar ragorol- deb ei gymmeriad, &c. Er y cwbl, rhaid addef mai prin yw y defnyddiau i'w wir bor- treadu. Ond fe allai y ceir goIeuni newydd yn y llyfr sydd i ymddangos. Cynnaliwyd cyfarfod i ddathlu yr wyl yn nhref Hwl- ffordd—peth newydtd hoilolyn nghapel y Tiabernacl (A.), pryd y pregethwyd gan y Parch. E. Nicholson Jones. Cymmerwyd y rhan arweiniol gan y Parch. W. Mendus (M.C.), a chaed cynnulliad lied liosog o Gymry ynghyd. Onid yw vn isyndod nad oes un achos Cymreig, nac un bregeth Gym- reig i'w chly'wed mewn tref lie mae cynnifer o Gymry. Heb law hyny, Cymry glan gloyw yw pump o'r gweinidogion Ymneillduol yn y dref. Owyna llawer o Gymry yn herwydd hyn. ond a geir diwygiad ar y pen hwn. nis gwyddom, am fod cryn anfoddlonrwydd a rhagfarn gan y Saeson yn ei herbyn. Er hyny, dylai Cymry gael gwasanaeth Cymreig un waith yr wythnos, o leiaf. Dylent hawlio hyn. Llawenydd genym fod yr hen iaith yn cael ei lie mewn rhai o ysgolion dyddiol y sir, ond ni sonir am dani yn un o ysgolion Hwl- ffordd. Ceir digon (a gormod, fe allai), o Ladin, Ffrangcaeg, &c. yn yr ysgolion ail raddol yno, ac esgeulusir iaith y wlad yn mha un y cynnelir hwynt.
ABERLLYDAN.I
ABERLLYDAN. Nos lau diweddaf mynodd yr eglwys fech- an Fedyddiedig yn y He uchod anrhegu ei gweinidog (y Plarch. Gwilym Davies), ar ei ymadawiad am Gaerfyrddin. Ni fyfiai Mr. Davies gael areithiau, ac yn herwydd hyn, ar ddiwedd y cyfarfod gweddi arferol, y cym- merodd y cyflwyniad Ie; sef, oriawr aUT, a phyrsiad o aur. Yn wir, llawenydd mawr i mi oedd gweled un brawd yn gwneyd i ffwrdd a'r cyfarfod sebon.' v Onid yw yn bryd i'r fath gyfarfod farw bellach. Mae clywed y canmawl ar y dyn (ac, weithiau, yn wir, personau yn ei gablu tu ol i'w gefn), yn ddigon, ys dywedai Cynddelw, i godi bwrn ar gylla-' estrys.' Ymadawodd Mr. Davies gan adael llu o gyfeillion anwyl ar ei ol yn y lie ac yn y sir. Eiddunwn iddo fawr iwyddiant yn ei fae$newydd, a Duw y nef a'i bendithio.
----- -----__--__--_-------------TY…
TY DDEWI. Mae y si ar led fod y Parch. R. Williams, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref uchod, wedi derbyn galwad oddi wrth yr eglwys Bresbyteraidd Saesnig yn Llan- elli ond lid wyddis etto pa un a ettyb efe yn gadarnhaol ai peidio. Mae Mr. Williams yn un o'r brodyr mwyaf gwyneb-agored i ddy- I weyd ei feddwl, ac wedi profi llawer o nerth- ol weithrediadau ysbryd y diwygiad1. Bydd yn golled i Dy Ddewi os a, ond yn gaffaeliad i Lanelli. Arweinied Duw ef. Lanelli. Arweinied Duw ef. Yr unig fodd v dathlwyd Gwyl Dewi yn ei dr ef enedigol (Ty Ddewi), oedd trwy gynna] cyfarfod te a chyngherdd yn nghapel y Methodistiadd Calfinaidd y no son hono, dan lywyddiaeth y Parch. R. Williams, y gwein- idog. Eisteddodd tua 300 i yfed o Nrwyth y ddalen ddu; ac ar ol hyny areithiwyd, canwyd, lac adroddwyd gan lu o Gymry y dref a'r cylch. Tybed nad yw yn dipyn o syndod na fuasai rhywbeth ar raddfa eang- ach yn cael ei gynnal yn nhref enedigol y I Sant Cymreig. Oni ellid agor drws yr Eglwys Gadeiriol am unwaith yn y flwydd- yn i weinidogioii Ymneillduol gyd-bregethu ag offeiriaid Eglwys Loegr? A yw hyn yn ormod o aberth er ceisio dwyn mwy o tyndeb rhwng dynion crefyddol a'u gilIdd.-Goheb.
TAN-Y-FRON, LLANSANNAN.
TAN-Y-FRON, LLANSANNAN. Nos lau, y 4ydd cyfisol, cynnaliwyd cy- ngherdd yn y lie uchod er budd yr achos yn Hebron. Yn y prydnawn rlioddwyd te i'r plant, a phawb sydd yn dal cyssylltiad a'r achos yn y lie. Yn y cyngherdd cymmer- wyd y gadair (yn absennoldeb Dr. Collins Lewis, Dinbych), gan yr Henadur Bennett Jones, Hafod Cefn Plas Onn, a chafwyd anerchiad hynod o liapus ganddo, yn mha un y dadganai ei lawenydd o weled cy- nifer wedi d'od ynghyd. Cymmenvyd gofial y rliaglen ac arweiniad y cyfarfod gan Mr. R. E. Roberts, yr ysgolfeisftr. Aed trwy y rhaglen ganlynol:—ton gvnimlleid- faol, Marchog lesu yn Uwyddiannus.' Can gan Mr. Owen Jones, Y bwtliyn bach to gwellt;' adroddiad gan Mr. Tom Hughes, Fainvood, 'Tori ammod priodas;' dadl. Newyddion drwg, gan J. Jones, Fo-el Eryr, a Miss Lloyd, Cil Llidiart; can, Y pennill adroddai fy nbad,' Miss Davies, Dinbych; fedroddiad, Pawb at y peth y bo,' Mr. Thomas Roberts, Deunant; can, '0 rhowch i mi bregeth Gymraeg,' Mr. Owen Jones; adroddiad, hhial-iod Pen- rhyn Gwyr,' Mr. John Evans, BryntrilJyn. Triawdl, gan Mr. John Roberts, Nantglyn, a'i gyfeillion. Adroddiad, Shon Jones a'r Cloc,' Mr. J. Jones, Voel Eryr. Anerch- iad barddonol gan Mr. Tom Hushes, Fair- wood. Adroddiad, 'Siengcvn yr Hen Langc,' Mr. Thomas Roberts. Can, Fy Ffarwel Cyntiaf,' Mr. Owen Jones. Adroddiad, '0 Dduw rho i'm dy hedd.' Mr. John Evans. Cydgan, Rwy'n liefain o'r anialwch.' Mr. j Mortimer a'i barti. Ymgom. 'Y Forwyn Newydd.' Miss K?tie Jones a'i cbyfeillion. Can, Dvna'r Fel,' Mr. John Davies Can, 'Y Fatn a'i Baban.' Mr. Jones Cervg. Caii. 'Gwlqd y Delvn.' Mr. Owpn Jones. Terfynwvd y cyfarfod trwy ganu Hen wlad fy rdiadau,' Mr Arthur Rob- erts, Pentrefoelas, yn arwain yn yr unawd. Tystioliaeth pawb oedd yno oedd, eu bod wedi cael cyfarfod da odiaeth. Ar gynnygiad y Parch. R. Williams, pasiwyd pleidlais o ddi- olchgarwch i bawb oedd wedi cymmeryd rhan yn y cyfarfod. Gwasanaethwyd wrth y berdoneg gan Miss Hayes Jones, Rhyd- galed. Gobeithiwn yn fawr fod cvfeillioii Hebron wedi gwneutiiur elw da oddi wrth v cyfarfod a'r te.—Un oedd yno.
SALEM, GEP CASTELL-NEWYDD-EMLYN,
SALEM, GEP CASTELL-NEWYDD- EMLYN, Cynnaliwyd cyfarfodl cystadleuol yn y lie uchod. nos Fercher, Mawrth y 3ydd, ac fe ddaeth tyrfa liosog ynghyd er ga-rwed yr hin. Y cadeirydd oedd y Parch. Dr. Eva-ms, Hawelti. Arweinydd, Parch. Hughes, Bettwfe Evan. Y beirniaid cerddoria e'oh, Mr. Williams, Caerfyrddin; traethodau, Parch. J. Green, B.A., barddoniaeth, Parch. Symlog Morgan (B.). Castellnewydd Emlvn; 'drawing,' Mr. J. T. Evans, Hull; etcMiss JonePengelly. Cyfeilyddes, Miss Evans, Brynhawen. Ysgrifenvdd, Mr. Daniel Rees. Trysorydd, Mr. B. H. Evans. Dyfarnwyd y gwobrau yn ol y idlrefn ganlynol:—Adroddiad i blant laf, Miss M. Owen, Porthgwyn; 2il, Miss H. James, Bryniiaulog. Unawd i blant; laf, Mr. J. T. Evans, Bankyfelin; 2il, Mrs. Davies, Penffos. Unawd etto laf, Miss M. E. Morris, Palitybwla; 2il, Miss Maggie Evans, Capel Farm. Englyn i'r Peiriiant Clymu.—laf, Mr. Evan Rees, Pengelly. Deuawd i blant; laf, Miss Esie Evans a'i chyfaill; 2il, Miss Tegwen Morgan a'i chyfaill. 'Drawing;' Mr. H. B. Thomas, Green. Unawd tenor' Mr. James., Ffyn- ilongripil; Unawd 'baritone,' Mr. James, Ffynnongripil. D'Oiley, Miss Thomas, Pantfrodyn, 'Tic),' laf, MIls. Evans), Bwlchyddol; 2il, Miss Owen, Burryporfc. Bag,' laf, Miss Thomas, Ty cornel; 2il, Miss Thomas, Aberarthen. Pennillion er cof am Evan Thomas, Aberarthen; Mr.. Evan Rees. Adroddiad i rai mewn oed; laf, Mr. Dan Davies, Penffos. 'Dictation;' cydflaidkl, Mr. J. Evans Ffosybeilv a Mr. J. Jones, Pilbach. 'Dictation,' i blant-; laf, Miss M. A. Morgan. Ysgrif ar Ddv- ledswydd Brongest a'r Cylch i fanteisio ar gyfieusderau addysgawl y Cynghor Sirol;' Mr. David Rees, Gwynfryn. Cystadleu- aeth ar y don,, Sylhet,' daeth tri chor yn mlaen; sef, Bryngwenith, Salem, a Bwlch- ygroes; dyfarnwyd yr okf yn oreu. Tuch- angerddi, 'Ty yr Arglwyddi Mr. Evan Rees. Ysgrif dan 21 oed; Mr. David Evans Penbank. Unawd un na fu yn fuddugol o'r blaen; Miss Rachel Watkins. Pen and Ink Sketch' o'r Milgi la'r Ysgyfarnog; laf, Mr. Thomas, Green. Unawd Soprano,' Miss Thomas, Abarhanlc Table Centre;' Miss Thomas, N. C. Emlyn. Gwisg nos; Miss Jones, Pare llyn. Cush- ion coverMiss Thomas, Aberarthen. Pedwarawd, Mr. David Davies a'i gyfeill- ion, N. C. Emlyn. Her-unawd; Miss Jenny Jones, N. C. Emlyn, gwobr, Cwpan larian, rhodd Mr. Ben Owen, Ysgoldy y Cyng- hor. Gwnaeth y beirniaid eu gwaith yn ar- dderchog, a throdd y cyfarfod allan yn llwyddiant yn mhob yscyr.—Gohebydd.
Advertising
LET SCIENCE HELP yOU! Science has discovered ameans of storing the oxygen from pure country air in the new bleaching preparation called OMO. By using pmo the housewife in thickly-populated districts can make her linen as spotless as her sister's in the country, and in half the time. Read the directions to be found on every packet of HUDSON'S BLESCHE9 & CLESNSES OMO MUST NOT BE USED 03 FOR COFOURED FABRICS-