Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

LLANBEDR-PONT-STEPHAN.

CORRIS.

SEION, GER TREFFYNNON.

ELLIS WYNNE 0 LASYNYS.

News
Cite
Share

ELLIS WYNNE 0 LASYNYS. Can Morien Mon Huws. Ganwyd y Oymro galluog y mae ei enw uwch ben ein ber-ysgrif mewn fferm o'r enw Y Lasynys. Pan yr a y teithydd o Talsarnau i Harlech ramantus, tua banner y Sordd rhwng y ddau Ie, daw o hyd golwg eglur ar fangre genedigaeth enwog awdwr 'Y Bardd Cwsg;' sef, Ellis Wynne. Gan- wyd ef yn y flwyddyn 1671, a threuliodd ei holl fywyd ar yr ysmotyn difyr hwn o ddaear Duw, ac yma yr oedd pan y galwodd ei Dad Nefol ef adref, yn y flwyddyn 1734, yn 63ain mlwydd oed. Yma, hefyd, y cafodd y gweledigaethau' a safant heddyw (yn mhen dau can mlynedd) mor odidog o ran chwaeth ac arddull tlws-Gymreig, ynghyd a chyfansawdd meddwl, a dim sydd gyda ni fel oenedl fach. Yn sicr, y maent yn nerth- ol ac argyhoeddiadol, a dylai y llyfr gael as- tudiaeth fanwl ieuengctyd yr oes hon. Y mae Ellis Wynne, ni welwn, yn hanu o deulu cyfoethog, canys mewn palasdy o'r enw Glyn Cywarch, lie heb fod yn mhell o'r Las Ynys, y ganwyd ei dad, a phriododd ferch ac etifeddes y Lasynys. Y mae y ddau le a enwais i'w gweled o reilffordd y Cam- brian.' Mwynheais deithio ar y rheilffordd hon yn fawr, gan ei bod yn miyned drwy ol- ygfeydd morfa, mynydd, a mor, ae yn sym- mud yn ddigon araf i gael cipdrem ar hen leoedd enwog Gwalia fy ngwlad. Yn y Glyn Cywarch y mae y pendefig anrhydeddus (o ran cyfoeth am ddim a wn i), o'r enw Argl- wydd Harlech, yn byw yn awr, a Sais rhongc yw, mae n dra thebyg. Gwr duwiol a sanctaiddfryd iawn oedd Ellis Wynne, rhyw Jeremy Taylor Cymreig. Hwyrach ei fod wedi ceisio ymdebygoli i'r duwiolfrydig wr a nodais, canys ymgydnabyddodd lawer a'i weithiau, a chyfieithodd ei Holy Living' (Byw yn Sanctaidd), a chyhoeddodd ef yn y flwyddyn 1701. TJnig blentyn ei rieni oedd Ellis Wynne, a chan eu bo<l yn perchenogi ar dda y byd liwn, rhoddasant yr addysg oreu allent gael i'w bachgen, ac yr oedd yntau yn fachgen gwerth yttrxdrechu er ei fwyn. Gallai ddysgu pob !peth yn bur rhwydd, a chan ei fod o duedd grefyddol o'i febyd, yr oedd yn nat- uriol iddynt feddwl am wneyd offeiriad o'u mab. Yr oedd cyfieithu llyfr Jeremy Tay- lor i hen iaith gadarn y bryniau wedi achosi gwyr lien y wlad i edrych arno fel dyn ieu- angc o allu dianimheuol, ac yn eu plith Es- gob Bangor, yr hwn a wnaeth ei oreu i ar- wain ei feddwl i benderfynu cymmeryd urddau offeiriadol, ac yn hyn o'r diwedd llwyddodd, ac urddwyd Ellis Wynne yr un dydd yn ddiacon ac yn offeiriad, a thranoeth yr oedd wedi ei sefydlu_ yn ei faes llafur; sef, perigloriaeth Llanfair, ynghyd a Llan- dapwg a Llanbedr. Y mae y He cyntaf rhyw ddwy filldir o Harlech, a phedair o Lasynys. Bellach, dyma y bachgen ieuangc gobeithiol wedi tyfu i fyny yn ddyn ieuangc gwybodus, ac yn cael ei anfon i offeiriadu mewn pethau sanctaidd i'r gymmydogaeth y ganwyd ac y magwyd ef ynddi. Eithriad- ol oedd ac ydyw hjn yn hanes un gwr. Oes benrhydd ac anniwylliedig oedd yr oes ag yr oedd ein harwr yn byw ynddi. a daeth yntau allan yn fath o loan Fedyddiwr i'w rhybuddio i ffoi (yn ei lyfr), rhag y digof- aint oedd ar ddyfod :â Er cael y gwawl a'r gair coeth I'w gafael, nefawl gyfoeth, Nifwl dros ein henafiaid, Nos erehell ar gell a gaid, D'ai chwil-lys diochelyd, Anghenfil bwysfil y byd. Dan yr orthrom freiclidrom fryd-erlicliawg Fer hoedlawg Fari Waedlyd. Dau Iago'n llarpio mewn llid; Dau Siarlvs fu'n dwys erlid, Cymylau ar gyrau'r gwawl. Ar guddio'r Haul tragwyddawl. Credir yn ddiysgog i Ellis Wynne lwyddo i ymlid ymaith liawer o'r tywyllwch, trwy ei weledigaethau7 (yn y 'Bardd Cwsg '), yn dangos erchyllra pechod a'i gospedigaeth. Nodedig o ddarluniadol yw ei daith i'r byd tu hwnt i'r lIen.' Credir nad oes un llyfr yn yr iaith Gymraeg, oddi eithr gwir Air y Gouchaf, wedi myned drwy fwy o argraph- iadau na'r Bardd Cwsg.' Yn y flwyddyn 1703, ac yn Llundain hynodol, yr argraphwyd y cyntaf o hono. Yn 1886 cyhoeddwyd yr ugeinfed angraphiad o hono. Nis gwn a gy- hoeddwyd argraphiad arall o hono. Y mae'n debyg mai y rheswm y gelwir y llyfr yn Bardd Cwsg yw y /faith ei fod wedi ei gyfansoddi fel math o freuddwjd. Cafodd y llyfr gryn wrtliwynebiad ar y cyntaf, am ei fod yn fath o fflangell reffynog, yn disgyn yn drwm ac erwinog ar bechodau amlwg yr oes, ac yn eu dynoethi yn ddidrugaredd. Cyhoeddodd y cyfieithydd rhagorol George Borrow gyfieithiad gwych o hono i iaith y Sais, yn y flwyddyn 1861. Credir mai- efe yw y text book gbreu sydd gyda ni pan y mae y myfyriwr eisieu dysgu priod-ddulliau a thlysni yr iaith Gymraeg. Yr oedd yr awdwr dysgedig wedi parotoi ail ysgrif gogyfer a chyhoeddi llyfr arall. gan ei alw yn Weledigaethau y Nef,' ond dinystriodd hi o blegid iddo gael brath o dan ei fron gan rnyw greadur gwenwynllyd ar lun dyn, a ddywedodd fod yr awdwr wedi cymmeryd Ilawer o gynnwysiad y llyfr oddi ar rhyw awdwr Yspaenaidd, eithr nid oedd y Cymro galluog erioed wedi gweled cysgod o waith Yspaenaidd. Hen arferiad yw hyn, a ffolineb dybryd yw talu y sylw lleiaf i en- syniadau o'r fath. Cafodd yr awdwyr gor- eu, o Homer, Virgil, ac i lawr rhestr yr oesau, eu, cyhuddo o'r un peth. Y mae y 'gweledigaethau' yn cael eu rhanu yn y modd canlynol, yn gyntaf Owrs y byd,' lie y gwel yr awdwr, o ben un o fyn- yddoedd uchel Cymru, tra y mae mewn trwmgwsg, ac o dan arweiniad angel, yr hwn atteb ei gwestiynau ac a fenthyciodd iddo ei ddrych ysbio,' gyda'r hwn y gwel- ai mewn goleuni disglaer y castell harddaf a welodd erioed, a dywedai yr angel mai ei enw oedd Castell Hudol, a, pherthynai i Bel- ial, tywysog llywodraeth y ddinas hono, ond yr oedd yno ddinas uwch law iddi yn eiddo y Brenin Immanuel. Gwelai, hefyd, dair hudoles ar yr heolydd, a'u henwau oedd Balchder (merch hynaf Belial), Pleser ac Elw; ac yr oedd heolydd Bedlam fawr yn Hawn iawn. Darluniadau cyffrous sydd gan yr awdwr o Dywysoges yn cadw lladron, ac y mae yr angel yn dyweyd wrtho, Beth gymmhwysach na hi yn ben lladrones ei hun ?' A dywed, Both yw teiliwr a ddwg ddarn o frethyn, wrth wr mawr a ddwg allan c'r mynydd ddarn o blwyf ?' Aiff o Stryd 'Elw' i S'tryd Pleser/ a daw o'i flaen Dywysoges Pleserâhardd yr olwg, gyda gwin cym- mysg yn y naill law, a chrwth a thelyn yn y naill, er cael cwsmeriaeth pawb a'u cadw yn ngwasanaeth ei thad.' Y mae y Bardd wedi cael digon ar yr ys- tryd hon, ac a yn mlaen i Bedlam, lie gdr- lawn o bob math o beehod. Y eampwyr mewn yfed a meddwi oeddynt y person an a ganlyn Eurych, a llihydd, a gof, mwn- gloddiwr, ysgubwr simneiau, prydjxld ac offeiriad.' Ceir ef yn y lie nesaf yn Llyg Cariad, ac i lys knerch Belial, enw pa un oedd Rhagrith. Yno yr oedd pawb yn rhag- rithio. Gwelai gynhebrwng gwr ar yr lieol, a'r wraig yn wylo yn rhagrithiol, ae wedi croesawu gwr arall cyn claddu y cyntaf. Y gweledigaethau' eraill ydynt Angeu ac Uffern. Diwedda ei lyfr hynod gyda'r wel- edigaeth fawr hon, Y mae y Bardd Cwsg' yn werth astudiaeth a pherchenog- aeth pob Cymro,âO'r Drych.'

GYMMERWCH HWN HEDDYW AT EICH…

Advertising

I TG CYNGHOR GWLEDIG CONWY.I…

CYFARFOD RHYDDFRYDIC YN SHOTTON.

[No title]