Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

Y GOG LEDD.

News
Cite
Share

Y GOG LEDD. Cypnaliwyd eisteddfod Iwyddiannus yn Llanrairfechan, yr wythnos ddiweddaf. Gwneir ymgaia i sicrhau Hysoedd man- •ddyledion gael eu cynnal yn yr Abermawr. Ymgymmerodd Syr Robert Palmer, Cefn Hall, a darparu ciwrad chwane-gol i hlwyf Gwrecsam. Dywedir i dreth gyffredmol nesaf bwrdeis- dref Gwrecsarn ddangos gostyngmd o 6c. y bunt, o leiaf. Cafodd glowr o Coedpoeth, o'r enw Frank C'arrington, godwm dros ymylfaen (kerb- stone), i lyn yn agos i'w dy, nos Sadwrn, a mygodd. Cafodd y Parch. R. E. Davies, Dinas Mawddwy, alwad o eglwys Ann: bynol Tal-y-bont, Bangor, yr hon sydd yn wag er's rhai blynyddoedd. Cvnnelir cymdeithasfa chwarterol nesaf Methodistiaid" Calfinaidd Gogledd Cymru yn Oakfield Road, Liverpool, ar y 24ain, y 25ain, a'r 26ain o'r mis hwn. Dyma ganlyniad yr etholiad yn y Ward Ddeheuol, yn Llanfairfechan, er llenwi sedd ar y Cynghor Dosbarth :-J, Rowland Wil- liams, 126; W. Timmins, 68. Trefnir i ddathlu dydd Gwyl Calanmai yn Rhyl, ar y 7fed o Fai. Miss Louie Hubbard, merch Mr. C. Hubbard, a ddewiswyd yn uil- frydol yn frenhinea Mai eleni. Erbyn hyn y mae Mr. 0. Arnold Evans, B.A., o Goleg y Bala, wedi dechreu ar ei weinidogaeth yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Saesnig yn Garston. Y mae Dr. E. C. Humphreys, yr hwn sydd newydd ei bennodi yn swyddog meddygol iechyd dros sir Drcialdwyn, yn aelod o'r egl- wys Wesleyaidd yn Llanfair Caereinion. Allan o chwech o ymgeiswyr, pennodwyd Miss Florence Wykes, Rhosddu, merch Mr. C. H. Wykes, prifathraw Ysgol Rhosddu, yn nyrs yn Ysbytty y Tlotty yn Ngwrecsam. Cynnaliodd eglwys Saesnig Treffynnon "goncert,' yr wythnos ddiweddaf, tuag at gael Beiblau i'r Ysgol Sul. Pabyddion oedd y prif gantorion yn ei gynnal! Go dda, onid ø. Bwriada Cwmni Glofeydd Wyddgrug, Cyf- yngedig, adeiladu 400 o dai ar gae ar Ffordd Gwrecsam, a gofynasant i'r CYllghorJ dydd Mawrth, wneyd trefniadau o garthffosydd i'r cae hwn. Cyfiwynodd trigolion Bangcr-Is-y-Coed, ger •Gwrecsam, anrheg i'r Parch. Geoffrey Brown, ciwrad y plwyf, .ar ei symmudiad i fod yn giwrad eglwys St. Pedr, Eaton Square, Llundain. Dydd Ian claddwyd gweddillion Mr. W. P. Evans, Llangollen, yr hwn a fu farw yn sydyn y nos Sabbath blaenorol, ar ol dy- chwelyd adref oddi wrth y tan mawr. aorodd allan y diwrnod hwnw yn Oak Street. Trwy farwolaeth Mr. Charles Pozzi, mas- nachwr cyffredinolj Bangor, yr hyn a gym- merodd le nos Fawrth, yn nhy ei fab, Friars Road, Bangor, nos Fercher, colhvyd un o'r masnachwyr hynaf yn Ngogledd Cymru. Hysbysir y bydd i wyr meirch ymherodrol y Due o Lancaster wersyllu yn agos i Rhyl o Mai 26ain i Gorphenaf 9fed, ac y bydd i wyr meirch ymherodrol sir Lancaster wer- syllu yno o'r 20fed o Fehefin i Gorphenaf 4ydd. Penderfynodd eglwys y Methodistiaid Cal- finaidd yn Anfield Road, Liverpool, eu bod yn myned at y gwaith o ethol gweinidog, fel olynydd i'r Parch. Owen Owen, yr hwn oedd wedi llafurio yno am bymtheng mlynedd ar hugain. Gwnei^r trefniadau gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru er yswirio yr oil o'r y gweinidogion, organwyr, glanhawyr y capel, &c., o dan un polisi, er cyfarfod a'r sefyllfa grewyd trwy Gyfraith Rhwymedigaeth Meistriaid, 1906. 1 Da fydd gan lawer ddeall fod y Parch. T. J. Wheldon, gweinidog eglwys y Tabernacl (M.C.), Bangor. wedi gwella yn ddigon da o'r ymosodiad o'r parlys a gafodd yn mis Medi diweddaf fel ag i allu myned allan am ddreif mewn cerbyd. Gadawodd y diweddar Barch. Owen Wil- liams, Caernarfon, yn ei ewyllys, gasgliad gwerthfawr o rai miloedd o gyfrolau mewn duwinyddiaeth, philosophi, a hanesiaeth tuag at gychwyn llyfrgell yn Mangor at was- anaeth ymgeiswyr am y weinidogaeth yn Nghymru, fvddai yn myned o dan gwrs o addysg yn Mangor. Cyflwynwyd anrheg o tray arian i faer a maeres Gwrecsam (Mr. a Mrs. Edward Hughes), gan y ficer, y wardeniaid Eglwysig, ac amryw eraill o aelodau eglwys plwyf Gwrecsam, fel arddangosiad o'u gwerthfawr- ogiad o'r dyddordeb mawr gymmerwyd gan y maer a'r faeres yn y gwaith o ail osod y clychau, ac i sicrhau tanysgrifiadau. Cymmerodd etholiad le y dydd o'r blaen yn Llanxhidno Junction, a'r gymmydogaeth, er dvchwellyd aelod ar Gynghor Birol sir Gaernarfon, yn lie y diweddar Mr. John Jones, Dinarth Hall. Mr. Hugh Owen, Llandudno Junction (R.), ddychwelwyd gyda mwyafrif o 13 ar Mr. Ephraim Wood, Pabo Hall (C.). Yr oedd y Rhyddfrydwyr felly yn ennill sedd. Y mae y Parch. F. D. Roberts, Bont- newydd, pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig, yr hwn sydd yn awr yn astudio yn un o brifysgolion yr Almaen, wedi ei bennodi yn gynnorthwywr i'r Parch. W. B. Stevenson, Proffeswr Hebraeg yn Mhrifvsgol Glasgow. Cyn myned i'r Al- maen bu Mr. Roberts yn astudio yn Ngholeg Duwinyddol y Bala, pan yr oedd y Prorfeswr Stevenson yn y sefydliad hwnw. Y mae Syr Watkin Williams Wynn wedi .pennodi Mr. Richard Macaulay Thomas, Caerfyrddin, ysgrifenydd y Ddirprwyaeth ar yr Eglwys yn Nghymru, yn oruchwyliwr ys- tad Wynnstay. Hysbysir fod Mr. Thomas wedi derbyn y swycld, yr hon sydd yn wertb tua 2,000p. yn y flwyddyn, ac y bydd yn de- chreu ar ei ddyledswyddau newydd yn mhen tua thri mis. Mr. Thomas ydyw ysgrifenydd trefol Caerfyrddin, a chlerc ynadon bwrdeis- iol Caerfyrddin. Wrth siarad mewn ciniaw Gwyl Dewi yn Llangollen nos Luiij dywedodd y Parch. L. D. Jenkins, ficer Llangollen, ei fod ef yn credu pe buasai Dewi Sant yn fv w yn awr y cawsid ef yn gefnog- wr yr un mor wresog i'r ^Mesur Trwyddedol gyfiwynvvyd yn ddiweddar i Dv y Cyffredin ag a fuasai o wrthwynebydd "i y Cyffredin ag a fuasai o wrthwynebydd i fesur arall, a'r hwn, os eawsai ei basio, a wnai niwed mawr i'r bobl ieuaingc trwy roddi dvrnod i addysg grefvddol. I

Y D E N E U.

PERSONOLI UCHELSIRYDD 0 GYMRU.

0 YNYS ENLLI I YNYS GIFFTAN.¡

BRWYDR RHWNG DWY DDYNES.

ACHOS EITHRIADOL.

A WARANTIWYD Y BUCHOD?

LLANAELHAIARN.

RHYBUDD I BERCHENOGION DEFAID.

PENRHYNDEUDRAETH.

GARN.

HELYNT YNGHYLCH A DDA WEB.

PENTRE'RFELIN.

Y WYBODAETH NEWYDD.

WESLEYAETH LLEYN.

DYDD GWYL DEWI.

ABERGYNOLWYN.

Cyfarfod yr hwyr.I

IBALA.

CYNGHERDD.

UNDEB DIRWESTOL Y G.W.R.

DARGANFYDDIAD YMBORTH PRIODOL.

TOLSTOY YN 80AIN.