Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
Hide Articles List
24 articles on this Page
TY YR ARGLWYDDI.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI. Dvdd Mawrth, Mawrth 3ydd.—Bu y Ty Tn eistedd am ryw ychydig aros awr hedd- pan v cvnnygiodd Arglwydd Courtney ei 'fesur er" galluogi cyngborau danesig 1 gario eu hetboliadau yn mlaen ar y gyfun- drefn o gynnrychioliad cyfartal.. Arglwvdd Crewe, yr hwn a siaradai dros T Llywodraeth, a ddywedodd na byddai iddo wrtliwynebu y penderfyniad; ond na ddyhd casglu oddi wrth hyny eu bod hwy yn dad- gan nac yn gwadu m»i y cy"!1™ cyn"/J,?_I ioliadol oedd yr 1111 a ddyhd ei fabwjsiadu os oedd unrhyw un i gael ei fabwysladu- ar gvfer cvfarfod ag anhawsderau cjnniyca ioliad y lleiafrif ar raddfa h el aeth. Wedi i Arglwydd Belper, Arglwydd As.li- fcourne Arglwvdd Eversley, ac eraill, gyni- weryd rhan yn y ddadl, darllenwyd y mesur yr ail waith.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dydd Mawrth, Mawrtli 3ydd.-—Cymmer- odd y Llefarydd y gadair am chwarter i dri.
Afiechyd y Traed a'r Cenau.
News
Cite
Share
Afiechyd y Traed a'r Cenau. Mr. J. A. Pease, mewn attebiad i Mr. Court hope, a ddywedodd fod y Llywodraeth yn gobeithio gallu cyxiooddi yr Archeb yn gwanardd dadi'orio gwair a gwellt o wledydd He yr oedd afiechyd y traed a r genau o fewn 48 o oriau.
Cwleidyddwyr y Llythyrdy.
News
Cite
Share
Cwleidyddwyr y Llythyrdy. Mr. Buxton, mown attebiad i gwestiynau, a ddywedodd nad oedd yn ei hystyritd yn gyfaddas i ffurfio, yn ngwasanaeth y Llyth- yrdv gyngbrair nad oedd yn ifurfio ond cangen o gymdeithas a gymmerai ran mewn gwleidyddiaeth.
Amcangyfrifon y Llynges.
News
Cite
Share
Amcangyfrifon y Llynges. Ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar amcan- gyfrifon y Llynges. Mr. E. Robertson! a ddywedodd rod boll gwestiwn y gallu hwn i gael ei ystyriecl o newydd. Dywedodd y byddai i'r Morlys, yn fuan, godi y tal i swyddogion peiriannol y llynges. # Mr. A. Lee a ddadleuai dros adeiladu pedair a deugain o Dreadnoughts yn ys- tod yr wyth mlynedd nesaf, a'u bod yn sefyll mewn angen am amryw ddociau mawr- ion ar y glanau dwyreiniol. Syr C. Dilkea ddywedodd fod ysgrifen- ydd- diweddar Pwyllgor Amddiffvniad wedi gwneyd mynegiad yr haf diweddaf fod ein sefyllfa lyngesol yn hollol foddbaol. Galwodd Mr. Gulland sylw at roddi cefn- ogaeth i ddirwest yn y llynges; a chynnyg- iodd benderfyniad yn dadgan barn, er man- tais i'r dynion oedd yn y llynges frenhin- ol, y dylid cario allan awgrymiadau Pwyll- gor Lluniaeth y flwyddyn ddiweddaf; trwy godi y swm o arian ganiateid yn lie diod- ydd meddwol; ac nad oedd y ddarpariaeth gyda golwg ar ddiodydd meddwol yn cael ei roddi allan i filwyr ieuaingc, end eu bod hwy yn cael arian yn lie hyny. Ar ran y Llywodraeth addawyd y cawsai y diwygiad cynnygiedig lawn ystyriaeth. Oafodd y gwelliant ei wrthod heb ymran- iad.
Y Chlneaitf ar Longau Prydeinig.
News
Cite
Share
Y Chlneaitf ar Longau Prydeinig. Yn yr eisteddiad hwyrol galwodd Mr. Fenwick sylw at yr ammodau o dan ha rai yr oedd y Chineaid yn cael eu cym- meryd i wasanaeth ar longau Prydeinig; a cbynnygiodd benderfyniad, yn dadgan fod yr ammodati, o dan ba rai yr oedd y morwyr Chineaidd yn cael eu cymmeryd ar longau Prvdeinig mewn portbladdoedd yn y Deyrn- as" Gyfunol yn gahv am ymcliwiliad dioed gan bwyllgor detholedig, gyda'r amcan o gael allan pa un a oedd Cyfraith Llongaii Marsiandiol, 1906, yn ddigonol i alluogi Bwrdd Masnach i attal camwri ynglyn a cbyflogiad y Chineaid yn y llongau marsian- diol Prydeinig. Wedi i amryw gymmeryd rhan yn y ddadl gwnaeth Mr. Kearley, ar ran y Bwrdd Mas- nach, fynegiad. Yna cafodd y penderfyniad ei alw yn ol. Cododd y Ty am un ar ddeg o'r gloch.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dvdd Mercher, Mawrth 4ydd.—Cymmer- odd y Llefarydd y gadair am chwarter i dri.
Arolygwyr Mwnawl yn Nghymru.
News
Cite
Share
Arolygwyr Mwnawl yn Nghymru. Mr. Gladstone, mewn attebiad i Mr. J. D. Rees, a ddywedodd na fwriedid gwneyd! y Gymraeg yn bwngc arholiad i rai fyddai yn ymgeisio am y swydd o arolygydd mwnawl yn Nghymru. Nid oedd un anhawsder wedi cael ei deimlo hyd yma pa un a oedd arolyg- wr gynnygid ei anfon gan y Swyddfa Gai'tref- ol i ranbarth Cymreig yn gydnabyddus a'r 'iaith Gymraeg.
Amcangyfrifon y Fyddin.
News
Cite
Share
Amcangyfrifon y Fyddin. Wedi i'r Ty ymffurfio yn bwyllgor ar am- cangyfrifon y fyddin, gwnaeth Mr. Haldane fynegiad gyda golwg ar y cynnydd oedd wedi cael ei wneyd i gario allan y rhaglen osododd efe o flaen y Ty y flwyddyn ddiweddaf. Bu yn siarad am agos i ddwy awr. Edrychai yn obeithiol am ragolvgon y trefniadau newydd- ion gyda golwg ar y fyddin, a dywedodd, er y byddai i'r trefniant hwn gostio hanner mil- iwn mwy, y byddai iddo arbed y swm hwnw mewn cyfeiriadau eraill. Cytamerwyd rhan 'yn y ddadl gan Syr Charles Dilke, Mr. Wyndham, ac eraill. Am chwarter wedi wyth gohiriwyd y ddadl.
PRIS BARA.
News
Cite
Share
PRIS BARA. Penderfyniad Syr Joseph Leese. Cynnygiodd Syr J. Leese benderfyniad' yn Sadgan fod y pris a delid am fara yn ddi- weddar i'w briodoli i achosion naturiol yn unig; ac mewn araeth rymus, condemniodd ymgais aelodau neillduol.yn y blaid Doriaidd I osod ar y Llywodraeth y cyfrifoldeb am y codiad diweddar yn mhris bara. Cred'ai fod Cynglirair Diwygio y Tollau wedi ennill ael- odau cyffredin y blaid Doriaidd, a'r hyn oedd yn fwy pwysig, yr oeddynt wedi cael gafael yn ei harweinydd, er nas gellid dyweyd, ?meddai, yn nghanol chwerthin, ei bod wedi cnnill ei dynion mwyaf deallus, tra yr oedd y Due o Ddyfneint, Arghvydd James, Argl- G. Hamilton, Arglwydd Hugh Cecil, a Mr. A. Elliot yn aro3 yn Rhyddfasnachwyr. Yna, aeth yr aelod anrhydeddus yn mlaen i d-dangoa, a hyny mewn modd grymus, fod y eodiad yn mhris y bara i'w briodoli i'r prin- der yn y cyflenwad o wenith. Dadganodd fod y blaid yr ochr arall yn benderfynol o redeg Diwygio y Tollau ar delerau teg ac annheg. Y Mil. Seely a gefnogodd y penderfyniad1, « chondemniodd gynnygiad y Toriaid i osod toll ar fara, yr hwn oedd ymborth y dyn tlawd i raddau llawer hclaethach na'r dyn cyfoetbog. Ni wnai toll felly ddim ond I achosi mwy o ddioddefaint mewn amseroedd anocheladwy o brinder. Mr. Goulding a gynnygiodd welliant, yn ffafr gosod toll ar gyiinyrchion amaethyddol, er cefnogi amaethyddiaeth. Dadleuai y gell- id gosod y doll heb chwanegu dim at faich y dosbarthiadau gweithiol, yr hwn sylw a dderbyniwyd yn nghanol chwerthin. xVrghvvdd AVilitertoii. a gefnogodd y gwrell- iant, a dywedodd y byddai i'r. Rhyddfrydwyr ganfod fod eu hagwedd tuag at roddi y, flaenoriaeth i'r trefedigaethau yn faen melin o gwmpas eu gyddfau. Tra yr oedd ei arglwyddiaeth yn siarad, d'aeth Mr. Balfour i mewn, a chymmerodd ei sedd ar faingc gyntaf yr Wrthblaid. Mr. A. Chamberlain a ddywedai fod y Rhyddfrydwyr yn dyfod i'r Ty dan gwyno, am fod y rhai yr oeddynt hwy wedi eu camar-, wain a'r waedd o ymborth rhad,' wedi can- i fod eu camgymmeriadj ac yn troi yn erbyn y Llywodraetli ar bob cyfleusdra. Gwadai ef y gwnai toll ar yd godi pris y bara. i Mr. Lloyd-George, yr hwn a. dderbyniwyd j gyda chymmeradwyaeth IK-1 1 y gweimdog- j ion, a attebodd fod y ddadl yn dangos yn glir fod y pwngc yn parhau yn fyw. Da iawn oedd ganddo iddo gael ddadleu ar lawr y Ty hwnw. Y cyhuddiad a ddygid yn erbyn y Llywodraeth ydoedd eu bod yn gyfrifol am y codiad yn mhris ymborth, tanwydd, a dillad. Yr oedd hyny yn gyhuddiad difrifol iawn i'w j wneyd, ac yr oedd ef yn meddwl y buasai yr Wrthblaid yn ei hystyried yn un o'i dy- ledswyddau cyntaf i ddwyn cyhuddiadau yn erbyn y Llywodraeth am bolisi oeddynt hwy yn ddyweyd a ddygodd y fath niwed i bob dyn a merch yn y wlad. Ond nid oedd dim gair wedi ei cldyweyd. Yr oedd efe yn lloa gyfarch ei hun fod yr. Wrthblaid wedi rhydd- hau y Llywodraeth o bob cyfrifoldeb ynglyu a'r tywydd (chwerthin). a'r tywydd (chwerthin). Mr. Balfour:—' A ydych chwi yn dyweyèc ein bod yn gyfrifol am y tywydd? (cym. T Wrthblaid). Mr. Lloyd-George a ddywedodd fod arwein- ydel yr Wrthblaid wedi uno a'i blaid ar y pwngc hwn braidd yn ddiweddar (chwerthin uchel yn njysg y gweinidogion); ac felly, nid oedd yn deall yn iawn beth oedd wedi ei gari) yn mlaen. Ei gwyn ef ydoedd ei fod wedi cael ei adael iddynt hwy i edrych am gyfle i alw ar foneddigion o'r ochr arall i gyfiawn- hau y cyhuddiadau oeddynt wedi ei wneyd > bob banllawr yn y wlad (cym.). Yr oe(11 Ffraingc wedi chwareu rhan bwysig yn y | ddadl hon, ond yr oedd Ffraingc newydd gael; cynhauaf eithriadol. Mantais Masnach Rydd ydoedd, nad oedd yn dibynu ar ddam- wain o'r fath yna, yr hon nad oedd yn dig- wydd ond rhyw unwaith mewn ugain mlyn- edd. Nid oedd ganddo ef amser i ddilyti Arglwydd Winterton i Ddeheudir Ffraingc, ond gallai ei hysbysu fod y dorth 4 pwys, o leiaf, yn ddrutach yn Paris nag yn Llundain (cym.). Ond yr Almaen oedd yr enghraifft oreu o'r cwbl; a dylai ein gosod ni ar ein gwyliadwriaeth. Aclgofiodd y Ty ar y pwngc hwn o eiriau Mr. Chamberlain, yr hwn a ddy- wedodd unwaith, os oeddych yn myned i osod toll ar fara y bobl, effeithiai hyny ar bob teulu yn y wlad, a thaflai y gweithwyr yn I 01 i dderbyn y cyflogau bychain, ac i'r tlodi oddi wrth ba un yr oedd Mr. Gladstone a Syr Robert Peel wedi eu rhyddhau (cym.). Ymranodd y Ty ar welliant Mr. Goulding. Dros y gwelliant 90 Yn erbyn 293 Mwyafrif yn erbyn 203 Derbyniwyd y ffigyrau gyda chymmeradwy- ¡ aeth mawr gan y Rhyddfrydwr. Cododd Mr. Corbett i gario y ddadl yn mlaen; ac felly, llwyddodd i siarad y pender- fyniad allan. Cododd y Ty am chwarter wedi un ar ddeg.
TY YR ARGLWYDDI.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI. Dydd Iau, Mawrth 5ed.—Cymmerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei sedd am chwarter, wedi pedwar. I Ail ddarllenwyd mesur yn ymwneyd a, gwerthiant gwenwyn, a rheoliad siopau cy- fferiau. Cafodd y mesur ei drosglwyddo i bwyllgor I o'r ddau dy. Ymdriniwyd a thri mesur o gyflenwad try- danol i Lundain yn yr un modd, ar awgrym- j iad Iarll Onslow. Darllenwyd Mesur Cau y Tafarndai ar y Sabbath y waith gyntaf. I
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dydd Iau, Mawrth 5ed.—Cymmerodd y Llefarydd y gadair am chwarter i dri. I
Athrawon Sir Feirionydd.;
News
Cite
Share
Athrawon Sir Feirionydd. Mr. Bridgeman, yr aelod dros Gro-esos- wallt, a ofynodd a oedd yr oil o'r olddyled mewn eyflogau oedd yn ddyledus i athraw- on mewn ysgolion cenedlaethol yn sir Feir-! ionydd wedi cael eu talu yn awr; ac os felly, pa un a oeddynt wedi cael eu talu gan yr aw- j durdod leol ar addysg, neu y Bwrdd Addysg. Mr. M'Kenna.—' Y mae yr oil o'r gofynion dderbyniodd y Bwrdd, a'r oil y gellir eu cadarnhauj wedi cael eu talu, neu ar gael eu talu gan y Bwrdd. Arglwydd Balcarres.—' Felly, a ydyw Cyf- j raith yr Awdurdodau Esgeulus mewn gweith- rediad vn bresennol? I Mr. M'Kenna.—' Ydyw.'
Cyfraith y Own yn sir Caernarfon.
News
Cite
Share
Cyfraith y Own yn sir Caernarfon. Mr.. Ellis Davies a ofynodd, pa un a oedd! ynadon wrth ganiatau i bersonau o dan Gyf- raith Cwn i'w cadw heb dalu, yn gweithredu mewn modd gweinyddiadol yn unig; pa un a oedd ynadon Caernarfon wedi gwrthod y cyf- ryw ganiatad i bawb oedd yn dal llai na chwe I, erw, tra mewn rhanbarth arall nad oedd y gwrthodiad ond yn unig i'r rhai oedd yn dal llai na dwy erw, er fod gan y tenant- ¡ iaid yn mhob achos ddefaid a gwartheg, a'u bod yn meddu hawliau porfa ar y commins;' a pha unj yn ngwyn- eb y ffaith fod personau yn cael eu rhydd- hau rhag talu yn yr amser aeth heibio heb un gwrthwynebiad, a fyddai i'r Ysgrif- en.ydd Cartrefol, gyda'r amcan o sicrhau un- ffurfiaeth yn ngweinyddiad y gyfraith, roddi cyfarwyddiadau fod personau yn cael eu I rhyddhau ar yr un egwyddor ag yr arferid gwneyd. I Mr. Gladstone.—' Nid wyf wedi derbyn un hysbysrwydd gyda golwg ar hyn; ond os bydd i'm cyfaill anrhydeddus fy hysbysu pa rai ydyw y meingciau o ynadon y mae yn cyfeir- io atynt, bydd i mi wneyd ymchwiliad Honiad o Drenau Peryglus. Mr. Clement Edwards a ofynodd a fyddai i Lywydd Bwrdd Masnach roddi gorchymyn i ymchwiliad swyddogol gael ei wneyd yn ddi- oed i'r amgylchiadau o redeg y tren pump o'r gloch o Hastings i Victoria, y Sabbath blaen- orol, ar linell y Deheu-Ddwyrain, er cael allan pa un a oedd y tren yn neidio ac yn hongcian mewn modd brawychus mewn troad- au neillduol yn Tunbridge Wells a Penge; ac os felly^ beth oedd yr achos o'r cyfryw pa un a oedd yna oediad rhy hir cyn attal y tren, ar ol i'r cortyn cymmundeb gael ei dyiiu gan deithwyr neillduol; a pha un a oedd y 'brake' mewn trefn dda at weithio. Mr. Kearley a attebodd fod y Bwrdd Mas- nach yn gwneyd ymchwiliad gyda chwmni y ffordd haiarn ar y mater, ac y byddai iddo hysbysu yr aelod anrhydeddus am y c-anlyn- iad.
Y Corphluoedd ac Anghydwelediadau-Masnachol.,
News
Cite
Share
Y Corphluoedd ac Anghydwelediadau Masnachol. Pan gynnygiwyd ymffurfio yn bwyllgor cyf- lenwad ar amcangyfrifon y fyddin, cynnyg- 1 iodd Mr. Wardle y penderfyniad caiilynol:- Yn marn y Ty hwn fod y gallu oedd y prif ynadon yn ei feddu yn awr i alw ar y Swydd- fa Rhyfel i gyflenwi corphluoedd yn ystod amseroedd o anlghydwelediadau masnachol yn agored i gamddefnydd pwysig, ac yn fygythiad ar ryddid y deiliaid, ac y dyiid gwneyd ymchwiliad iddo, ac i bwyllgor o'r Ty hwn wneyd adroddiad arno.' Cefnogodd Mr. G. Roberts y penderfyijjad Wedi rhyw gymmaint o ddadleu, av/trnym- od Mr. Haldane eu bod yn gwrthod pender- fyniad Mr. Wardle, ac yr ymgymmerai y LIywodraeth wedi hyny a chydsynio i Len- nodi pwyllgor i wneyd ymchwiliad i'r mater hwn. Cyttunwyd ar yr awgrym hwn, a cliyttim- wyd i ymffurfio yn bwyllgor. Yn yr eisteddiad hwyrol caed trafodaeth ar Fesur Cynghor Sirol Llundain, yn ystod yr hon yr hysbysodd Mr. John Burns fod yn mwriad y Llywodraeth i ddwyn mesur yn mlaen i ymwneyd a'r cyfiemvad o laeth yn y wlad.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dydd Gwener, Mawrth 6ed.—Cymmerodd y Llefarydd y gadair ganol dydd.
Mesur Addysg (Yr Awdurdodau…
News
Cite
Share
Mesur Addysg (Yr Awdurdodau Lleol. Cynnygiodd Mr. H. de R. Walker fod Mesur Addysg (yr awdurclodau Lleol) yn cael ei ddarllen yr ail waith. Y mae y mesur hwn yn cynnwys y darpariaethau oedd yn mesur Mr. Birrell am 1906, mewn perthynas i drosglwyddiad gallu i bwyllgorau lleol mewn rhanbarthau poblogaidd. Cefnogodd Syr F. Sharp Powell y pender- fyniad i ail ddarllen y mesur. Arglwydd Morpeth a gynnygiodd fod y mesur yn cael ei wrthod. Dywedai fod y mesur hwn yn un mor eang fel na ddylesid ei adael i aelod preifat. Mr. Gordon Harvey a ddywedodd ei fod yn disgwyl y cawsai y mesur gefnogaeth gyffred- inol yn y Ty. Nid oedd yn myned yn erbyn un egwyddor yn Nghyfraith 1902; mewn gwirionedd, yr oedd yn gwneyd peiriannwaith y gyfraith hono yn fwy perffaith. Y Mil. Williams a wrthwynebodd y mesur. Syr W. Anson a ddadganodd ei gydym- deimlad ag amcan y mesur; ond nid oedd yn cydolygu a'r modd yr oedd hyny yn cael ei gario allan. Mr. T. Lough, Ysgrifenydd Bwrdd Addvsg, a ddywedodd mai egwyddor y mesur ydoedd, trosglwyddiad, ac nad oeddynt hwy yn dadleu dim pellach na'r egwyddor. Tra yr oedd efe yn meddwl fod rhai o ddarpariaethau y mesur wedi cael eu tynu allan ychydig yn rhy lym, yr oedd yn meddwl y gallent dderbyn yr egwyddor fel un oedd yn gwiic-yd am effeithiolrwydd a chynnildeb. Wedi i'r cloadur gael ei roddi ar waith ymranodd y Ty ryw ychydig cyn pump o'r gloch ar y mesur:— Dros y mesur 196 Yrn erbyn 58 Mwyafrif 138 Darlleinvyd y mesur yr ail waith. Cododd y Ty am bump o'r gloch.
DADSEFYDLIAD YR ECLWYS YN…
News
Cite
Share
DADSEFYDLIAD YR ECLWYS YN NGHYMRU. CYFARFOD YN MANCHESTER. Areithiau Arglwydd Stanley o Aiderley a Mr. Ellis Criffith, A.S. Cafodd cyfarfod ei gynnal yn Ysgoldy Cym- reig, Moss Lane, Dwyrain Manchester, nos Wener, yr hwn a alwyd gan Gymdeithas Rhyddhad Crefydd, er dadleu y cwestiwn o Ddadsefydliad yr Eglwys. Cymmerwyd y gadair gan Mr. A. A. Haworth, A.S. Y cadeirydd, yn ei sylwadau agoriadol, a ddywedodd fod y cwestiwn o Ddadsefydliad yr Eglwys yn Nghymru yn addfed i'w bender- fynu, a byddai iddo ef gael ei synu yn fawr os na chawsai rhyw beth ei wneyd tuag at Ddadsefydlu yr Eglwys yn Nghymru gan y senedd bresennol. Arglwydd Stanley o AlclerIey a gynnyg- iodd :— Fod yn dda gan y cyfarfod hwn ddeall y bydd i'r Llywodraeth ar ddyddiad buan ddwyn mesur i mewn i Ddadsefydlu a Dad- waddoli yr Eglwys yn Nghymru. Dadganai ei obaith y byddi iddo gael ei basio yn fuan yn gyfraith, ac y darperir y ffordd ar gyfer mesur cyffelyb yn ymwneyd a'r Eglwys yn Lloegr. Tra yr oedd Eglwys Loegr yn par- hau i fod mewn cyssylltiad a'r Llywodraeth dywedai ei bod yn rhwystr mawr ar ffordd cynnydd cymdeithasol. Byddai yn ddrwg iawn ganddo ef i'r cwestiwn o gydraddoldeb crefyddol ac ammhleidgarwch y Llywodraeth fyned yn gwestiwn o ddewisiad lleol, fel y byddai i'r bobl feddwl fod y mwyafrif lleol, neu y lleiafrif lleol, i benderfynu pa un a oeddym i gadw i fyny yr egwyddor o'r Egl- wys a'r Llywodraeth ai peidio. Yr oedd y cwestiwn wedi myned heibio i diriogaeth ym- resymiad i diriogaeth ymarferiad. Dywedid nad oedd Cymdeithas Rhyddhad Crefydd yn gwneyd y gwaith a wneid ganddi yn y blyn- yddoedd gynt, ac nad oedd yn cael y fath gefnogaeth ag oedd wedi ei gael unwaith. Yr oedd yna ychydig o wirionedd yn hyny. Y rheswm ydoedd, fod yr egwyddor fawr yr oedd Cymdeithas Rhyddhadi Crefydd wedi ei dal i fyny a'i phregethu am ryw beth fel trigam mlynedd wedi dyfod yn rhan bwysig yn y rhaglen Ryddfrydig (clywch, clywch). Yr oedd yn angenrheidiol iawn i bregethu y mater hwn, pan yr oedd y blaid yn y lleiafrif; ond i pan yn y mwyafrif yr oedd yn amser rhoddi yr egwyddor hono mewn gweithrediad. Yr unig gwestiwn yn awr ydoedd y drefn o flaenoriaeth yn y rhaglen hono. Ni thybiai neb am foment y byddai i Eglwys yr Iwerdd- on, er mwyn gwaddoliadau, fod yn awyddus am fyned o dan allu gwladol, neu y buasai yr Eglwys yn yr Unol Dalaethau yn awyddus am wneyd hyny. I ba le bynag yr oeddynt yn myned, He yr oedd eglwys wedi mwvllhau y gallu i reoli ei liachosion ei hun, yr oedd yn llawer hawddach eu dwyn i fywyd cyffredin y dinesydd, ac i gymmeryd golwg mwv cyffred- inoa ar bethau. Credai ef y byddai dadsef- ydliad yn ennill clir i'r wlad. Gwnai ein bywyd gwleidyddol yn fwy hyfryd; symmud- ai y rhwystr oddi ar ffordd diwygiadau cym- deithasol mawrion, a byddai yn gymiorthwy i gynnydd addysg yn y wlad hon. Y Parch. A. Streuli a gefnogodd y pen- derfyniad. Mr. Ellis Griffith, A.S.^ .a ddywedodd, wrth edrych ar y cwestiwn o safbwynt Cymru, fod Dadsefydliad wedi jiasio heibio i diriogaeth ymresymiad i gylch cyflawniad. 1 Nis gallai Cymru wneyd mwy dros Ddadsef- ydliad nag oedd wedi ei wneyd. Yr oedd wedi dychwelyd llais unfrydol yn ei ffafr i Dy y Cyffredin; ac yr oedd'yn eitbaf sicr na I! fuasai un o'r 34 o aelodau dros Gymru yn v Ty oni bae ei fod yn ffafriol i Ddadsefydliad er, hwyrach, mai nid hyny oedd wedi ei anfon { yno. Gellid gofyn, Pwy oedd yn gofalu ami Gymru?' ac archesgob neu esgob oedd wedi dyweyd hyny. 'Siarad am Gymru,' fe ddy- wedid byddai cystal i chwi siarad am sir Gaerefrog.' Wei,' meddai Mr. Griffith, 'darfu i sir Gaerefrog yn yr etholiad di- weddaf siarad yn debyg iawn i Gymru.' Yr oedd Cymru wedi cael ei chydnabod ar waban wrth ddeddfu ai- ddirwest ac addysg, ac yn y mater hwn dylai Cymru gael ei chydnabod ar wahan. Mewn perthynas i addysg, neu drwyddedau, gall fod anhaws- derau; ond byddai i Ddadsefydliad yr Eglwys gael cefnogaeth yr oil o'r Cenedlaethoilwyr Gwyddelig, a phlaid Llafur, heb un eithriad, ac yn ymarferol, yr oil _0'1' blaid Rydd- frydig ac felly, nid oedd yn fater y gellid dyweyd y dylid ei ohirio yn mhellach. Hwyrach dywedid, os cawsai mesur ei basio trwy Dy y Cyfrredin, y teflid ef allan gan yr Arglwyddi. Byddai i'r etholiad nesaf gael ei hymladd, yn benaf, ar gwestiwn Ty yr Ar- glwyddi, ac i chwanegu at hyny y mesurau oedd Ty yr Arglwyddi wedi gwrthod eu pasio yn ystod y senedd bresennol; ac yr oedd efe yn awyddus iawn am i'r Eglwys yn Nghymru fod yn yr appel at y wlad. Cafodd y penderfyniad ei basio, heb ddim ond pedwar yn erbyn. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r cad- eirydd a'r siaradwyr, ar gynnygiad y Parch. g- g- Wilhams, yn cael ei gefnogi gan Mr. It. D. Darbishire.
CYNCHOR CENEDLAETHOL YR ECLWYSI…
News
Cite
Share
CYNCHOR CENEDLAETHOL YR ECLWYSI RHYDDION. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf cynnal- iodd y Cynghor ucliod ei gyfarfodydd blynydd- ol yn Southport. Yr oedd nifer liosog o gynnrychiolwyr ac arweinwyr yr Eglwysi Rhyddion wedi dyfod ynghyd o wahanol ranau o'r wlad. Cafwyd cyfarfodydd llwyddiannus iawn; ac ymdriniwyd: a'r rhan fwyaf o brif gwestiynau y dydd. Yn iighwrs y cyfarfod gynnaliwyd dydd Ian galwyd sylw at
Y Llywydd Newydd.
News
Cite
Share
Y Llywydd Newydd. Darfu i'r cynghor yn unfrydol enwi y I aicJi. Evan Jones fel llywydd ar gvfer cyfarfodydd y flwyddyn nesaf. Y llywydd (Dr. Brook) a sylwodd mai Mr. Evan Jones oedd y Cymro cyntaf i gael ei d Jew is i'r swydd uchel hoii. Mr. Jones oedd 'grand old man' Cymru; a chydna- byddid of gan bawb fel un oedd. yn gym- niaiiic o gynnrychiolydd eglwysi Cymru ag unrhyw ddyn a ellid ei enwi. Yr'oedd Mr. Jones yn lienor; yr oedd y rhan fwyaf o'i gynnyrchion yn yr iaith Gymraeg, ac o herwydd hyny y tebygolrwydd ydoedd. fod y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn bresennol heb Oil darllen, ond yr oedd y rhai oedd wedi eu dadlen yn siarad am danyut fel wedi gadael dylanwad rhagorol ar symmucliadau mawr gwleidyddol, cymdeithasol, a chrefyddol, yn Nghymru am lawer o flynyddoedd.
BWRDD CWARCHEIDWAID LLANELWY.
News
Cite
Share
BWRDD CWARCHEIDWAID LLANELWY. Dydd Gwener cynnaliwyd cyfarfod pythef- nosol y bwrdd hwn, o dan lywyddiaeth Mr. Edwin Morgan. Hysbyswyd mai .nifer y tlodion vn y ty y diwrnod hwnw ydoedd 163—cynnydd o 5'am yr uu cyinod y llynedd. Yn ystod y pythef- nos estynwyd cynnorthwy i 243 o grwydr- iaid-cy.ii,iiydd, o 96 am yr un tymmor y llyn- edd. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr. J. R. Ellis a Mr. Pierce, gwarcheidwaid, Abergele, am ddarparu cyngherdd yn y tlot- ty y noson flaenorol, ac i Mrs. Williams, Rose Hill, am anfon pecyn o gyfnodolion a newyddiaduron i'r ty. Arweiaiiocid gwaith tafarnwr o Lanelwy yn gofyn am i fachgen o'r tlotty gael myned i'w wasanaeth, i edrych ar ol yr ystablau, i ddadl fywiog. Dafileuid ei fod yn erbyn y budd cyhoeddus i osod plant yn agos i'r ddiod. Mr. T. Evans, Abergele, a ddywedodd y dylent hwy gydymdeimlo a'r tafarnwyr, gan fod llaw pawb yn eu her-byn. Yr oedd y taf- arnwyr yn talu y trethi fel y chwegnwydd- wyr a'r dilladwyr; ac etto, gwrthodid idd- ynt gael gwas o'r tlotty. Pan ymranwyd, pleidleisiodd pump dros ganiatau y cais, a 15 yn erbyn. Rhoddodd Mr. Hugh Edwards rybudd y byddai iddo gynnyg yn y cyfarfod nesaf fod rheol sefydlog yn gwahardd bechgyn a genethod i fyned i wasanaethu mewn tafarn. Caed trafodaeth faith ar waith dyn cryf, o gymmydogaeth Abergele, yn gwrthod cymmeryd gwaith, a'r hwn oedd wedi dyfod i'r tlotty. Galwyd y dyn i mewn i'r ystaf- ell, ac addawodd ddychwelyd i fferm Pont- ruffydd, yn hytrach na chael ei erlyn gan y gwarcheidwaid. Cafodd gerydd llym gan y cadeirydd. Ar gynnygiad y cadeirydd, yn cael ei gefnogi gan yr is-gadeirydd, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a, Mr. Mark Cross, gwiar- cheidwad o Llanddulas, yn ei gystudd trwm, gyda dadganiad o obaith iddo gael adferiad buan.
PENMACHNO.
News
Cite
Share
PENMACHNO. CYFREITHIWR 0 LANRWST YN GWAREDU PLENTYN. Tra yr oeld Mr. E. Da vies-Jones, cyfreith- iwr, Llanrwst, yn croesi Pont Penmachno, tua hanner awr wedi pedwar prydnawn Sadwrn, sylwodd ar ryw wrthddrych du yn nofio ar wyneb yr afon Machno, yr hon oedd yn uchel iawn ar ol y gwlaw y diwrnod blaenorol. Gan edrych yn fwy manwl gwelodd wyneb dynol. A chan ei fod yn nofiwr da, neidiodd i'r afon a'i ddillad am dano sicrhaodd y gwrthddrych, a dygodd ef i'r lan. Corph bachgen ydoedd, yr hwn a ymddangosai yn farw. Yn y Machno Hotel, gweinyddwyd ar y bachgen; ac ar ol i gryn amser fyned heibio, arddangosai arwyddion ei fod yn adfeddiannu ei ymwybodolrwydd. Symmudwyd ef i dy ei rieni. Mab pum mlwydd oed Mr. R. Morris, stationer,' Penmachno, ydoedd y bachgen, yr hwn oedd wedi syrthio yn ddamweiniol i'r afon.
TYSTIOLAETH UWCH LAW AMMHEUAETH…
News
Cite
Share
TYSTIOLAETH UWCH LAW AMMHEUAETH 0 FANGOR. PAN y deil hanesyn brawf amser mae el wir- ionedd yn cael ei sicrhau tu hwnt i bob am- mheuaeth, ac felly y mae gyda'r hanesyn hwn o Fangor sydd yn cael ei ail adrodd wedi tair blynedd o amser. Mrs. Ellen Williams, 21, Rathbone Street, Bangor, a ddywed Y mae dros dair blynedd er pan adferwyd fi drwy Belenau Doan at y Cefn a'r Elwlenod, ac yr wyf yn parhau mewn iechyd rhagorol. Yr wyf yn myned i oed, ac yr wyf cystal ag y gallaf yn rhesymol ddis- gwyl fod. Gallaf gymmeradwyo Pelenau Doan, o herwydd profasant yn fendith i mi.' A ganlyn yw manylionoddadganiad cyntaf Mrs. Williams: Am flynyddoedd bum yn dioddef yn ofnad- wy oddi wrth boenau yn fy nghefn—y rhan sydd dros yr elwlenod. Byddai poenau yn fy nghefn drwy gydol y dydd; a phan yr ymos- tyngwn, byddai yn waeth nag erioed-a gcr* fodid fi gymmeryd gafael mewn rhyw wrth- ddrych cyn y gallwn ymuniawni. Blinid fi, hefyd, gan gur yn fy mhen a phenysgafnder, a byddai fy anadl mor fyr ar amserau fel na fedrwn gerdded fawr i gyd ar adegau. Ym- gynghorais a meddyg, a threiais bob meddyg» iiuaeth y gallwn feddwl am dano, ond,*ni wnaeth dim gymmaint o ddaioni a Phelenau Cefn Doan. Pan ond wedi cymmeryd y pelenau hyn am ond ychydig ddyddiau teiml- wn yn llawer gwell; a thrwy barhau i'w cym- meryd, adferwyd fi i iechvd. Yr wyf yq hollol sicr fod y pelenau hyn wedi adfer fy elwlenod, o herwydd y mae pob arwydd o'r hen anhwylder wedi diflanu. (Arwyddwyd), Ellen Williams.' Y mae pelenau Doan yn rhai y gellir di- bynu arnynt yn mhob ffurf o anhwylderau yr elwlenod a'r yswigen ddwfr; poen yn y cefn, crydcymmalau, penysgafnder, colli cysgu, chwyddiadau dyfrllyd, lumbago, sciatica, ac anhwylderau y nerfau. Gwellhant y grafel, ceryg, ac anhwylderau ydwfr. Y mae Doan's Backache Kidney Pills yn ddau swllt a naw ceiniogy blwch (chweblwch am dri swllt-ar-ddeg a naw ceiniog). I'w cael gan yr holl fferyllwyr a'r ystorfeydd, neu yn rhad trwy y llythyrdy ar dderbyniad y pris, yn uniongyrchol oddi wrth Foster Mo ulellan ai Gyf., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Pelenau Doan iachaodd Mrs. Williams,
Ryddhau y Rhanbarthau Gwiedig,
News
Cite
Share
Ddiadsclydliad yr Eglwys yn Nghymi'u. Y Parch. Evan Jones, Caernarfon, llywydd y Cynghor am y flwyddyn hon, a gynnyg- iadd:— Fod y Cynghor blynyddol hwn yn cofnodi ei grediniaetlx ddiysgog yn egwyddorion cyd- raddoldeb crefyddol, a rhyddhad yr holl egl- wysi oddi wrth iiawcldogaetli a rheol- aeth y Llywodraeth. Yr oedd yn croesawu yn galonog benderfyniad Llywodr- aeth ei Fawrhydi i ymwneyd yn ystod y senedd bresennol a, hawliau pobl Cymru a sir Fynwy, y rhai sydd wedi dychwelyd i'r senedd yr oil o'u haelodau oedd wedi ym- rwymo i hawliau Dadsefydliad Eglwys Loegr yn Nghymru.' Gallaf gymmeryd yn ganiataol,' meddai, y bydd i bawb ddyweyd 'Ie,' wrth y rhan gyntaf o'r penderfyniad. Nid ydyw hwn yn bwngc sydd yn appelio at y lliaws. Nid pwngc bara ac ymenyn ydyw. Nid ydyw yn bwngc gwleidyddol (clywch, clywch). Beth ydyw, ynte ? pwngc ysbrydol mawr ydoedd, ac yn mhob oes yr oedd hwn wedi appelio, nid at y lliaws, ond at yr ychydig— yr ychydig ddeiliaid ysbrydof, duwiol, a j'fyddlawn hyny o eiddo y Meistr (cym.). Wrth gyfeirio at yr ail ran o'r penderfyniad, dywedodd y buasai yn dda ganddo fod mor sicr yn ei feddwl ei hun a'r. un oedd wedi tynu y penderfyniad allan. Modd bynag, dadganodd1 fod ganddo barch mawr i weinid- ogion ei Fawrhydi, ac i'r Prifweinidog. Yr oedd ganddo ffydd gref yn y seren oedd yn codi o Gymru, yr hon oedd yn tywynu mor ddisglaer dros y siroedd gogleddol y dyddiau hyn (cym.). Yr oedd ganddo gydymdeimlad gref a'r Llywodraeth yn ei bywiogrwydd uchel; ond a dyweyd yr holl wir wrthynt, yr oedd wedi myned: braidd yn fyddar. Nid oedd yn clywed neb, os na waeddent yn uchel iawn. Os oedd genych eisieu cael rhywbeth, rhaid i chwi waeddi (clywch, clywch). Yn awr, yr ydym ni yn Nghymru wedi anfon 34 0 aelodau i'r senedd. Yr ydym wedi gwneyd ein dyledswydd. Yr oeddym wedi dysgu llafurio, ac yr oeddym wedi gorfod dysgu disgwyl (chwerthin). Yr oedd Cymru yn wlad yr Eglwysi Rhyddion. Nid oedd genym eisieu gwneyd dim i Eglwys Loegr. Nid oedd genym eisieu ond tori ei llyffetheiriau, a'i gwneyd lu yr leuengaf a'r oreu o'r Eglwysi Rhyddion, ac yr ydym yn gofyn i chwi em cynnoT'thw^ o (cym.). Y Parch. T. Eynon Davies, Llundain, a gefnogodd y penderfyniad. Yr ydym iii meddai, 'sydd wedi cymmeryd gofal o'r pen- derfyniad yma heddyw ,a.r neges genbadol. Y mae Cymru yn addfed—yn addfed iawn. 1 mae genym eisieu, trwyddo chwi, annog em hawliau ar y bobl sydd heb gael eu har- gyhoeddi o'r tu allan, heb help y rhai yr oedd yn rhaid i Ddacisefydiiad yr Eglwys yn Nghymru aros yn bresennol yn beth pos- sibl. Aeth Mr. Davies yn mlaen i ddyfynu rhai ffigyrau tarawiadol, yn dangos yr anghyfartaledd rhwng pobl yr Eglwys ac aelodau yr Eglwysi Rhyddion yn y Dywys- ogaeth. Ychydig oedd nifer aelodau yr Eglwys Sefydledig, etto yr oedd eu gwein- idogion yn mwynhau 300,000p. yn y flwyddyn am feithrin bywyd crefyddol y genedl. Mewn pedwar o blwyfi yn sir Aber- teifi nifer y personau a roddent eu presen- noldeb yn yr Eglwys ydoedd 15, 14r 12, ac 18; ac yr oedd ugeiniau o blwyfi yn daiWs presennoldeb cyffelyb yn yr Eglwys. Gall Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi, ar achlysuron mawr, gasglu cynnulleidfa o 100; ar Sab- bothau cyffredin gall y gyiinulleidfa fod yn 00. Mewll gwasainaeth Cymraeg hwyrach y byddai dwsiu yn bresennol. Yn y gwas- anaeth dyddiol, fel rheol, ni byddai neb yn bresennol ond y swyddogion a'r cor. Etto, yn yr Eglwys Gadeiriol hon vr oedd 3,500p. yn y flwyddyn yn myned 'i'r ystaff, a 4.500p. i'r esgob. Yn 1891 yr oedd Mr. W. E. Gladstone wedi dadleu ,dros Ddadsefydl- lad yn Nghymru, ac yr oedd y rhesyniau a ddygid yn mlaen yr adeg hono yn dal yn dua yn awr. Yr oeddym,' ehwaftegai MF. Davies, wedi gwmeyd ein goreu mewn ffordd gyfansoddiadol. Trefnwyd 34 o seddau i ni yn y senedd, ac nid oeddym wedi anfon neb ond dynion oedd yn ffafriol i Ddadsefydliad. Yr oedd y cyfryw beth yn un digyffelyb yn hanes y eenedd. Pan yr oedd yr Iwerddon yn hawlio Eglwys Rydd nid oedd dim tebyg iddo. Pan yr hawl- iodd hi Ymreolaeth nid oedd dim tebyg ictdo. Er y flwyddyn 1868, pan yr anfon- odd Morganwg Henry Richard i'r senedd, nid oedd Cymru erioed wedi edrych yn ol ar y cwestiwn hwn.' Cafodd y penderfyniad ei gario gyda ehymm-erad wy aeth.