Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
25 articles on this Page
[No title]
Gohebydd o St. Petersburg a ddywed fod y Cadfridog Syr John French yn myned i Persia. C-esglir oddi wrth hyn fod Prydain a Rwss,ia yn bwriadu ym- uno i gyfryngu yn achos Persia. Dy- wedir fod Twrci yn symmud ei byddin yn nghyfeiriad Persia gyda brys. Cred- ir na fyn y Sultan eu galw yn ol; ac os felly, y bydd Rwssia. yn anfon ei byddin hithau yno, i amddiffyn Persia. Gan rai ni roddir dim pwys ar y sibrwd hwn.
[No title]
Amcan penaf Llywodraeth Unol Dal- aethau yr America yn anfon ei llynges o'r Werydd i'r Tawelfor, yn ol yr hyn a ddywedir yn awr, ydyw, bod yn barod i amddiffyn y buddiannau American- aidd yn China pe digwyddai cyffroad- au vno mewn canlyniad i farwolaeth yr Ymherodres Waddolog, yr hon, medd- ir, sydd mor wael fel y disgwylir ei marwolaeth unrhyw ddiwrnod.
[No title]
Dechreu yr wythnos hon aed a'r oil o'i gwarcholdu ymaith o Tangier. Nid oes yno neb i'w hamddiffyn yn awr.
[No title]
Yn y dyddiau presennol cerir trafod- aeth rhwng Pryclain," Ffraingc, yr Al- maen, a Rwssia, ynghylch cyfander No: v. f.y.
[No title]
Y dydd o'r blaen teithiai Brenin Ys- paoa yn ei fodur, gyda'i brifweinidog, tr-w ran o'i wlad, pan y digwyddodd anffawd i'r cerbyd. Hyrddiwyd ei fawrhydi i'r afon ger Haw, ond diang- odd heb gaol dim gwaeth na throchfa.
[No title]
Yn y synagog Iuddewig, yn Berlin, ID 0 n dydd Llun, bu golygfa hynod a. digrifol. Priodas oedd yno. Gweinyddasid hi, a deuai y cwpl dedwydd trwy y drws. Eisteddodd y briodferch yn y cerbyd oedd yn eu disgwyl. Y priod a'i dilyn- 0 1 ai. Ond ymaflwyd ynddo ef a Ilaw hai- arn beili y llys, a'i daliai am ddyled.
[No title]
Rlloddweh eich oriawr a'ch cadwen i mi,' ebai y beili. Ufuddhaodd y priodfab.
[No title]
'Rhoddwch eich pwrs etto i mi.' Drachefn yr ufuddhaodd y dyn oedd newydd briodi. Ond nid digon hyn, chwaith.
[No title]
Gwaghewch eich llogellau,' oedd y gorchymyn nesaf, a'r ufudd-dod yr un mor barod; ond y wyneb yn brudd ei wala. Yna, gollyngwyd ef i fyned at ei anwylyd.
[No title]
Profedigaethus fu mel-fis priodas y Barwn a'r Farwnes Von Alvensleben, yn Nice, yn Ffraingc, hefyd, y Llun diweddaf. Lladratawyd perlau y wraig ieuangc, gwerth rhyw deng mil ar hugain o francs.'
I Y DDIRPRWYAETH AR YR EGLWYS…
I Y DDIRPRWYAETH AR YR EGLWYS YN NGHYMRU. HYSBYSODD Mr. R. M. Thomas, ysgrifenydd y Ddir^rwyaeth ar yr Kg wys yn Nghymru, un gohebydd newyddiadurol, dydd Llun, nad oedd un dyddiad wedi cael e. bennodi i ail agor yr ymchwiliad ar yr Eglwys yn Nghymru; ond yn'ol pob tebyg, y byddent yn eistedd yr wythws nesai.
STREIC Y MEDDYGON YN NGWRECSAM.
STREIC Y MEDDYGON YN NGWRECSAM. GWRTHOD Y TELERAU. Y mae Cym-eithas Feddygol Cymdeithasaa Cyfetflgar Gwrecsain wedi penderfynu peidio derbyn y rheolau i gael til chwanegol, &c., a os. dwyd i Jawr gan y saith o feddygon oedd yn dwyn cyssylltiad a hwy; ac yn lie hyny, i sefydlu ysbytty, gyda meddyg o'r eiddynt eu hunain Un o gynnygio i y meddygon ydoedd, cyfyngu eu triciaeth i'r aelodau i bobl yr oedd cyfartaledd eu cyflog heb fod dros 40,. yn yr wythnos.
PROFFESWR NEWYDD I GOLEG Y…
PROFFESWR NEWYDD I GOLEG Y BALA. PENNODWYD y Parch. W. Porter, M-A., D. Litt., Edinburgh, yn ddarlithiwr yn Hebraeg yn Ngholeg Duwinyddiol y Bala, i lenwi y Bwydd w»g a achoswyd trwy bennodiad y Pro- ffeswr Stevenson i r gadair Hebreig yn Mbrifys- ol Glasgow. Cafodd y Proffeswr Porter ei jjythvyno mewn modd^ ffurSol ir myfyrwyr boreu ddydd Mawrth, gan y Piifathraw Ed- waids, a thraddodwyd anerchiadau o grcesaw gan yproffeawrinugh Williams a'r Proffeswr Stevenson a chaed anerchiad fer, hefyd, gan i-r. Porter.
[No title]
Addawodd Dr. R. D. Thomas gydsynio a, chais Cynghor Trefol Trallwm, trwy sefyll yn faer y dref hono y flwyddyn nesaf. Y mae'r Parch. J. Stephens Roose, gwein- idog eglwys Bresbyteraidd Whalley Range, Mancemion, wedi derbyn galwad i eglwys Up- per Tooting, Llundain. Derbyn yr alwad i gylchdaith Wesleyaid Treffynnon, fel olynydcl y Parch. David Ro- berts, Caerwys, ddarfu y Parch. J. Lloyd Hughes, Ffynnongroew. Cydsyniodd y Parch. G. O. Owen, Llanfach- j reth, sir Feirionydd, a galwad a dderbyniodd oddi wrth eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Pontcyssyllte, ger Llangollen. Dydd Iau agorodd Mr. Bridgeman, yr ael- od Ceidwadol dros Groesoswallt, nodachfa gynnelid gan eglwys y Bedyddwyr yn y dref hono, gyda'r amcan o godi y swm o 350p. Ar gais eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn America, y inae y Parch. H. Barrow Williams yn bwriadu aros yn yr Unol Dalaethau am ddau fis mwy nag yr oedd yn ei drefnu ar y dechreu. >
HELYNT Y FFYRDD HAIARN.
HELYNT Y FFYRDD HAIARN. TEA yr ydys yn ysgrifenu nid oes dim cyf- newidiad o bwys wedi cymmeryd Ile yn Myd y Ffyrdd Haiarn.' Yr oedd pen- derfyniad yr amrywiol ddosbarthiadau o weithwyr i ymuno mewn cydweithrediad yn yr argyfwng yn cael edrych arno gan lawer fel yn taflu y gobaith am heddweh yn mhellach draw. Ond, nid dyma y golygiad a gymmerir yn gyffredinol. Yn ninas Llun- dain ddechreu yr wythnos hon cododd prisiau rhai railv,ay stocks, ac mewn un yn unig llinell Brighton y bu unrhyw ostyngiad; a'r gostyngiad hwnw i'w briodoli nid i anhunedd rhwng y cwmni a'i wasan- aethyddion, ond i adroddiad eithriadol o anffafriol am y drafnidiaeth. Effaith y gynnadledd a fu yn Manchester fu gwneyd i'r dynion deimlo i fesur yn fwy hyderus ac os a yr holl weithwyr a gynnrychiolid yn y gynnadledd hono allan ar streic, nid ydyw yn hawdd gweled pa fodd y gellir cario gwasanaeth ein ffyrdd haiarn yn mlaen o gwbl. Cred cyfarwyddwyr y ewmniau, neu o leiaf dyna a ddywed y rhai a broffesant eu bod yn gwybod eu meddyliau ydyw, na bydd i'w gweithwyr eu gadael. Er y gall y mwyafrif mawr o honynt ddadgan eu hunain yn y bleidlais yn barod i streicio, etto, tybiant mai nifer fechan iawn o hon- ynt a wnant hyny yn weithredol, eithr dal at eu gorchwylion. Pa sail sydd gan y cyfarwyddwyr a'u cyfeillion dros goleddu y syniad hwn, nid ydym yn gwybod ac nid oes neb. gyda'r eithriad, o bossibl, o Lywydd y Bwrdd Masnach, yn debyg o gael gwybod. Rhaid rhoddi prawf gweithredol ar y peth cyn y caiff y cyhoedd wybodaeth sicr yn ei gylch. Pan y daw Mr. Lloyd George wyneb-yn-wyneb a'r cyfarwyddwyr, nid cwestiynau ynghylch cydnabod nac ail drefnu cymdeithas y dynion yn unig a fydd ganddo i'w gofyn. Yn mysg amryw bethau eraill, y mae efe yn Weinidog y Eheilffyrdd neu, o'r hyn lleiaf, y peth agosaf i Weinidog y Rheilffyrdd, a feddwn ni yn y wlad hon ac am hyny bydd efe heddyw yn rhwym o ofyn cwestiynau i'r amrywiol gyfarwyddwyr ynghylch y modd y bwr- iadant hwy gario eu gwaith yn mlaen ar hyd eu llinellau, os digwydd streic yn mysg eu gweithwyr. Teimla pawb, ar wahan i bob syniadau politicaidd yr ymddiried llwyraf yn Mr. Lloyd George i ymgymmeryd a'r dasg o wneuthur cymmod rhwng y meistriaid a'u gweithwyr. Hyderus obeithir y llwydda yn ei amcan. Yr ydym yn sicr y defnyddia efe ei holl ddoethirieb, a phob awdurdod a fedd, i gadw llinellau ein ffyrdd haiarn rhag myned dan deyrnasiad streic.
. YNYSOEDD Y 'COCOA.'
YNYSOEDD Y 'COCOA.' DEFNYDDIA y darllenydd gymmaint ar ei gOCOl. fel y gallwn yn ddiogel gymmeryd yn ganiataol y carai efe wybod rhywbeth yn ei gylch ef, a'r ynysoedd sydd yn ei gynnyrchu. Yr ydym yn galw sylw arbenig at hyn heddyw, modd bynag, er mwyn in diolch i Gymdeithas Fasnachol Liverpool am ei gwaith yngljn a. cbaothwasanaeth yn yr ynysoedd yn mha rai y tyfir y planhigyn y gwneir trwyth y cocoa o hono. I'r Portugeaid y perthyna yr ynysoedd hyn. Ni cheisir lleihau dim ar y drwg sydd ynglyna sicrhau y Ilafur angenrheidiol i gasglu y defnyddiau sydd erbyn hyn mor gynnefin i bawb. Ni cheisir esgusodi y drwg chwaith. Ami ymosodiad sydd wedi ei wneyd o bryd i bryd ar y ewmniau Prydeinig sydd yn y fasnach hon. Ymosodiadau hollol annheg ydyw y rhai hyn, canys y. gwirionedd ydyw fod y ewmniau wedi ymuno a'u gilydd i ddinystrio y nodwedd gaethwasiol sydd ar y llafur. Gwnaethant hyny trwy arfer eu dylanwad gyda Llywodraeth Portugal. Anfonasant ddirprwywr arbenig i'r ynys- oedd i wneyd ymchwiliad annibynol i'r ffeithiau. Cyflwynasant adroddiad y dir- prwywr hwn i'r Llywodraeth Brydeinig, hefyd, a thrwyddi hi i'r Llywodraeth Bortugeaidd; ac yr ydym yn deall eu bod, os na wrandewir ar yr adroddiad hwn, wedi penderfynu dilyn yr unig gwrs anrhydeddus iddynt. Gellir gofyn pa ham na baent hwy wedi cymmeryd y cwrs hwnw yn mhell cyn hyn neu, mewn geiriau eraill, pa ham na fuasai ewmniau Cristionogol Prydain Fawr wedi boycotio' yr ynysoedd Portugeaidd hyn, a myned i fanau eraill am eu cocoa ? Ond, nid Prydain ydyw yr unig wlad sydd yn ei defnyddio. Rhyw un ran o ugain o'r hyn a ddefnyddir gan yr holl fyd a ddefn- yddir ganddi hi. Anetfeithiol hollol i ladd y drwg a fyddai pob boycotiaeth' gan Brydain. Ni fynai y ewmniau mewn gwled- ydd eraill ymuno yn y cyffrawd Prydeinig yn erbyn y caethwasanaeth annynol hwn. 0 ddiffyg yr undeb hwn ofer ydoedd pob ym- drech; a ffynu y mae y drwg, er cywilydd i Lywodraeth Portugal a chwmniau gwledydd eraill. 0 dan yr amgylchiadau hyn ni fuasai boycotiaeth gan y ewmniau Prydeinig yn cyrhaedd unrhyw amcan ond tynu y tir o dan eu traed i wneuthur unrhyw wrth- dystiad o gwbl. Parheir i wneyd y gwri,h- dystiad. Amser a ddengys pa lwydd a fydd arno, Os nad llwyddiannus a fydd, diau mai tynu ynol oddi yno fydd y cam diwedd af a gymmerir, wedi y cwbl.
. MR. MORLEY AR YR INDIA,
MR. MORLEY AR YR INDIA, TRADDODODD Ysgrifenydd yr India araeth i'w gynnrychiolwyr yn Arbroath, yn Ysgot- land, nos Lun, ar agwedd bresennol yr am- gylchiadau yn ein Hymherodraeth Ddwyr- einiol. Yr ydym yn sier y bydd pob Rhyddfrydwr cywirgalon yn derbyn ei sylw- adau gyda o leiaf y cydymdeimlad llwyraf. Nid oes Ryddfrydwr uwch ei barch yn yr India, fel yn y wlad hon, na Mr. John Morley. Mae efe, mewn gwirionedd, yn rhwym o fod yn wrthddrych ein cydym- deimlad dyfnaf. Efe o bawb a yrwyd gan yr amgylchiadau i uniawnu y dirfawr gamwri a wnaethpwyd gan Arglwydd Curzon yn ystod ei deyrnasiad fel Rbaglaw yr India. Prin y mae yn bossibl i rai oddi allan feddu dirnadaeth glir am yr anhaws- derau yr oedd gan Mr. Morley i'w gwynebu. A sylfeini ei wladweiniaeth nid oes un dyn ystyrbwyll, yn Mhrydain na'r India, a ddichon anghyttuno. Gan nad pa un ai er da ai ynteu er drwg, y mae gan y wlad hon ei dyledswydd i'w chyflawni nas gall ei hosgoi nac ymwrthod a, hi bellach. Nid oes angen yn y cyssylltiad hwn i ddadleu pan un ai mantais ai anfantais i'r ddwy wlad ydyw fod yr India o dan reolaeth Prydain. Fel Mr. John Morley, yr ydym oil yn cydnabod fod yn rhaid i'r rheolaeth hono barhau. Nid ydyw y cwestiwn hwn mewn dadl o gwbl. Hyd yn oed yr Hindwiaid eu hunain ni ddisgwyliant i ni droi ein cefnau ar eu gwlad. Nid am y gwyddant na wnawn yn gymmaint ag na ddymunant i ni wneyd. Os felly, ni ddy- wedodd Mr. Morley gymmaint a gair yn ormod am y drwgo bregethu anfoddogrwydd i'r bobl iwyaf anwybodus yn yr India. Ar yr un pryd, gwyliwn wneyd y pwngc yn dywyllach nag ydyw trwy haeru nad oes eisieu, gan hyny, gwneyd dim ond sefyll wrth gefn yr oil a wnaed neu a wneir gan ein swyddogion yn y wlad neu, dim ond anfon gwefreb i Arglwydd Kitchener,' chwedl tin. Dywedodd y prif fardd Al- maenaidd Goethe unwaith fod v bobl pan y gwrthryfelant bob amser yn iawn.' Hwyrach fod gormod o farddoniaebh yn y dywediad hwn i fod yn hollol wir. Credwn, modd bynag, fod hyn yn wir:—Pa le bynag y ceir anfoddogrwydd mawr rhaid fod ang- hyfiawnder wedi neu yn cael ei wneyd. Yn awr, y mae anfoddogrwydd cryf a chyffred- inol yn yr India. Nid anfoddogrwydd<pobl eithafol, ychydig o rif mewn cymmhariaeth, ydyw chwaith. Ceir y bobl gymmedrol a dysgedig dano, hefyd pobl yn cj^drubad fod y rbeolaeth Brydeinig yn hanfodol i hvydd y India. Y camgymmerlad mwyaf y gallem ei wneyd fyddai meddwl mai ds- dwrdd gelynion ydyw y cyfan. Mae ein cyfeillion diledryw yn anfoddog. A'r hyn a ofnwn ydyw fod y camgymmeriad dybryd I- y hwn wedi ei wneyd, ac mai arwyddion di- gamsyniol o hono ydyw erledigaeth yr awdurdodau lleol ar y wasg frodorol, y gwaharddiadau ar gynnaliad cyfarfodydd politicaidd, ac alltudiaeth dynion tebvg i Lajput Rai. Y pwngc mawr yn y dyddiau presennol, heb os nac oni bae, ydyw deall cwynion y corph mawr o bobl gymmedrol sydd yn gofidio o herwydd y wladweiniaeth a roddodd fywyd newydd yn yr hen elyn- iaeth rhwng y Mahometaniaid a'r Hindwaid, a'r hon cyn hyny oedd yn prysur ddiflann. Gwladlywiaeth ydoedd hon a sylfaenasid ar y cyfeiliornad mwyaf gorphwyllog y gellir meddwl am dano, nid amgen mai diogelwch ein rheolaeth ni ar yr India ydyw ei chael nid yn un, eithr yn rhanedig. Neu, mewn geiriau eraill, rhoddi swewr i eiddigeddau cryfion y gwahanol genedloedd a wnant boblogaoth yr India i fyny. T6n ddigllawn oedd yn ngeiriau Mr. Morley, nos Lun, pan yn son am ein swyddogion Indiaidd yn dy- chwelyd adref, ac yn y fan yn cymmeryd rhan weithredol yn ein dadleuon ynglyn a llywodraethiad y wlad. Ac nid at y dos- barth hwn yn unig y dylai efe gyfyngu ei anghymmeradwyaeth yn unig. Dylai, hefyd, ymdrechu cael cyfnewidiad trwyadl a di- ymdroi yn null ac agwedd y llywodraeth- wyr tuag at y rhai a lywodraethir. Nid ydyw ,yn ddichonadwy i ddyrnaid o bobl wynion lywodraethu yr India heb eu bod yn meddu ymddiried a chydymdeimlad ei phobl. Yr ymddiried a'r cydymdeimlad hyny a gloddiwyd o dan eu sylfaeni gan wladweiniaeth ffrystiog Arglwydd Curzon. Gresynus i'r eithaf ydoedd gwneyd ei fath ef yn Rhaglaw yr India o gwbl. A Llyw- odraeth Doriaidd yn unig a geid yn barod i'w wneyd.
. RHY HEN I
RHY HEN I PATRIARCHIAID a ddylasent dreulio eu hwyrddydd mewn tawelwch, a dwysfyfyr- dod am y gagendor y maent yn ol trefn amser ar ei throthwy yw nifer liosog o gyf- arwyddwyr ewmniau y ffyrdd sydd yn y dyddiau hyn yn dangos y fath gyndynrwydd tuag at eu gwasanaethyddion ar linellau ffyrdd haiarn y deyrnas—gwasanaethyddion y cyboedd yn llawn cymrnaint, os nad mwy nag iddynt hwy. Ein gosodiad dibetrus ni ydyw eu bod yn rhy hen i ddal y fantol mewn argyfwng o fath hwn. Gadawer i ni roddi ychydig esiamplau. Cyfartaledd oedran cyfarwyddwyr Llinell y De-Ddwyr- ain ydyw 68ain mlwydd. Dyma y bwrdd hynaf at ei gilydd trwy y deyrnas. Ei Fethusaleh ydyw Syr John Hollams, yn 87ain mlwydd. Y Milwriad Mellor a Syr Myles Fenton ydynt 77ain; Arglwydd Burton 70ain, ac Arglwydd Hothfield flwyddyn ieuengach. Ar fwrdd y Great Easttrn ceir pump wedi cyrhaedd dros í yr addewid': -Mr. J. Foster, 75ain; Arglwydd Eustace Cecil a Syr William Birt 73ain; Mr. Mills 7lain, ac Arglwydd Rnollys 70ain, tra y mae Syr Henry Tyler yn 80ain. Llangc' 64ain yw eu cadeirydd, yr AlgI. wydd Claud Hamilton. Cadeirydd llinell fawr Brighton ydyw yrhynafgtfr Arglwydd Cottesloe, yn 75ain, ac yn cael ei gynnorth- wyo, yn mysg eraill, gan Syr Arthur Otway, patriarch,85ain. Amryw o gyfarwyddwyr y South Western ydynt dros eu 70ain, a'u cadeirydd, Syr Charles Scotter, yn 72ain. Y bwrdd mWyaf yn mysg y rhai yr ydym yn s6n am danynt ydyw un Llinell Llundain a'r Gogledd-Orllewin. Ceir g-wr ieuangc 33ain yn eu mysg, gyda Mr. P. H. Chambres 85ain, a Syr William Lowther 86ain, yn yr eithaf arali. Bwrdd y Midland ydyw yr ieuengaf. Cyfartaledd ei oedran ef yw trigain mlwydd. Yn 84ain helpa Arglwydd Cross i hwylio y Great Central yn ei blaen. Nid oes gan y Great l'l01 them o'r braidd un ar ei fwrdd dan drigain oed, tra y mae y cadeirydd yn 67ain, a Syr Henry Oakley yn 84ain. Oed Mr. Alfred Baldwin, cadeirydd y Grent Western, ydyw 66ain; Mr. Alexander Hubbard 85ain, dau gyfarwyddwr arall yn 77ain, ac amryw eraill dros eu deg a thrigain. Ar fwrdd y iVorth J! astern y mae y dynion goreu am fusnes, megys Arglwydd Airedale, Syr Hugh Bell, Mr. Arthur Wilson, Arglwydd Joicey, Arglwydd Armstrong, Mr. A. F. Pease, ac eraill, a'u hoedran yn llai nag eiddo aelodau unrhyw fwrdd. Ai y ddwy ffaith hyn yw y rheswm digonol mai y North Eastern ydyw yr unig gwmni sydd wedi cydnabod Undebau y Crefftwyr ? A'r boblach oedranus hyn y bydd gan Mr. Lloyd George i ymwneyd heddyw (ddydd Gwener).
Y DDAMWAIN YN YR AMWYTHIG.
Y DDAMWAIN YN YR AMWYTHIG. YMCHWILIAD BWRDD MASNACH. Y Cwmpeini yn Derbyn y Cyfrifoldeb. j Dydd Mawrth ail agorwyd yr yircliwiliad, cyhoeddus ar ran Bwrdd Masnach i'r achos [ o'r ddamwain ar y ffordd haiarn yn Amwyth- ig, yn blygeiniol boreu Hydref 15fed, yn y Guild Hall, Amwythig, gan yr Isfilwriad Yorke, arolygydd Bwrdd Masnach. Parha- odd 'yr eisteddiad am agos i saith awr, ac ar- holwyd tua hanner cant o dystion; ni ddad- guddiwyd ond ychydig o tfeithiau pellach na'r rhai oedd wedi cael eu cyhoeddi eisoes. Yr oedd Mr. Asquith, K.c., yn bresennol, yn absennoldeb Mr. Lloyd-George, Llywydd Bwrdd Masnach; ac yn mysg cynnrychiolwyr Cwmni Ffordd Haiarn Llundain a'r Gogledd Orllewin yn bresennol yr oedd Syr Frederick Harrison, y rheolwr cyffredinol; a Mr. R. Turnbull, arolygydd y llinell. Rhoddodd amryw eu tystiolaeth gyda golwg ar y cyflymder mawr yr oedd y tren ddinystr- iwyd yn dynesu i orsaf Amwythig o Crewe. Dywedodd Mr. W. J. Badger, un o weision y llythyrdy, ei fod ar ddyledswydd yn y swyddfa dosbarthu llythyrau yn ymyl, ac iddo glywed y tren yn dyfod gyda swn nas gallai ei ddisgrifio.' Mr. Geoffrey Dunn, dosbarthwr Ilythyr- au, yr hwn oedd yn y van dosbarthu y tren, ac a dderbyniodd ychydig niwed i'w ben, a ddywedodd iddo sylwi nad oedd y tren yn arafu, fel arfer, wrth fyned heibio y gioes- ffordd rhyw gymmaint o'r Amwythig. Am ryw dri eiliad cyn y ddamwain, modd 'jynag, yr oedd yna rhyw arwyddion ei fod yn arafu. Yr oedd efe yn meddwl fod y brakes w,tii cael eu rhoddi ar waith; ond gallai fod y peiriant wedi myned oddi ar y rheiliau ei'so' s Nid oedd wedi clywed chwibanogl y peiriant. Mr. William Robinson, arolygydd (Ylt. northwyol yn y Llythyrdy, a ddywedodd fo(? y tren yn ymddangos iddo ef yn teithio yn ol deugain milldir yn yr awr. Yr oedd yna swn dychrynllyd. Rhoddodd tystion eraill eu rysti >laeth gyda golwg ar gyflymder eithafol y tren, a dywedai yr oil o honynt nad oedd y gvriodvdd wedi rhoddi y chwibanogl allan. Hyd nes y cymerodd y ddamwain hon Ie) nid oedd eviued wedi gweled tren cyflym yn teithio heibio y troad yn yr Amwythig yn ol mwy nag 2) mill- dir yn yr awr. Galwyd arwyddwr y Crewe Bank, ac ar- wyddwr arolygol, i ddangos fod yr anyyddion yn gweithio yn iawn am 1.20 yn y cyn I y ddamwain, ac am 2.40, hanner awr ar ol y ddamwain. Dywedai John Bedleston, yr ar I wyddwr yn Crewe Bank, nad oedd y gyried- ydd wedi rhoddi y chwibanogl allan pan yn dynesu at foes Crewe Bank, ac yr oedd wedi synu o herwydd hyny, am ei foi yn dyfod gyda'r fath gyflymder anghyffrel ill. Ail alwyd Henry Birch, gwyliwr y rhan claf o'r tren, yr hwn oedd wedi rhoddi ei dysticl- aeth yn yr ymchwiliad yr wythnos ddiwerid- af. Ail ddywedodd iddo, cyn i'r tr.,n sdatl gorsaf Crewe, wneyd archwiliad ar y t va- cuum brake,' ac iddo ei chael trefn AT waith. Wrth ddynesu at yr Amwvthig, y in ddangosai y tren yn teithio yn rhy gyfl/m, ao aeth at y 'vacuum brake' yn ti \w a' gwelodd fod y brake eisoes ar lawn waith. Nid oedd yn teimlo fod y brake fel arfer pan ar lawn waith. Nis gallai rod ii egJr.Had gyda golwg ar yr achos o hyny. Yr oedd amryw gyfreithwyr, y rhai oedd yn bresennol fel cynnrychiolwyr y personau a niweidiwyd, neu a laddwyd yn y ddamwain, yn awyddus am holi y tyst, pan y gwnaeth Mr. Andrews, cyfreitbiwr Cwmpeini y Efordd Haiarn, fynegiad. Dywedodd fod y cyfar- wyddwyr wedi rhoddi llawn ystyriaeth i'r mater; ac wrth edrych ar eu dyledswydd i'r cyfranddalwyr, a phawb oedd yn dwyn cys- sylltiad a, hyn, yr oeddynt wedi penderfynu ymgymmeryd a llawn gyfrifoldeb am ganlyn- iadau y ddamwain, gyda hawl briodol mewn perthynas i unrhyw achos neu haIVl. Y Taniwr Nash, o Crewe, a ymdriniodd a'r honiadau pan nad oedd y gyriedyddion yn cadw eu hamser, eu bod yn cael eu dirwyo. Os gosodid ar yriedyddi i dalu y cyfryw ddi- iwyron, gwneid hyny am fod achos o gamreol- aeth wedi cael ei brofi. Dywedai fod Martin, gyriedydd y tren ddinystriwyd, yn gwvlcd -.ttti y ffordd1 o Crewe i'r Amwythig cy.sl.al ag yr oedd yn gwybod ei ffordd adrsf. Yr oedd Fletcher, y taniwr, yn meddu pob cymmhwys- der i'r gwaith, ac fel Martin yn sobr, ac yn un y gellid ymddiried iddo mewn pob ffordd. A phe buasai rhywbeth yn digrvydd i'f gyr- n .,■■■ ledydd, gallasai Fletcher gyrnm-r^cl gofal y peiriant. DYWédödd tin tyst i adroddia'i gael ei wneyd ddwy waith yn erbyn Martin am iddo basio yr arwyddion. Mr. J. P. S. Mayne, arolygydd f iiwy. ol o adran ffordd haiarn Bwrdd a ddywedodd, ar ol yr archwiliad a vrnaer! gan- ddo ar y peiriant ddinystriwyd, trior l;ell ag y gallai ef farnu, dywedai ei fad io.ru ti trefn iawli i weithio. Galwyd tua dwsin o dystion i roddi eu tyst- iolaeth. fod Martiii a Fletcher, y gyriedydd a thaniwr y tren, yn ddynion sobr, ac iach. Wedi hyny dygwyd yr ymchwiliad i der- fyniad. Ail agorwyd llys y crvvner dydd Mercher, a dygwyd y gweithrediadau i derfyniad hefyd. Nid oedd y dystiolaetb a roddwyd yn taflu ond ychydig, os dim, golenni chwanegol ar y ddamwain anfiodus. Citfod (I y rheithwyr tod deunaw o bersonau wedi cyfarfod A'ti marwol- aeth mewn modd damweiniol; a chwanegasant en bod yn unfryd o'r farn nad oedd gallu y brake ar y tren yn ddigonol. Wedi hynv ail agorwyd ymchwiliad Bwrdd Masnach. Yn yatod gwrandawiad pellach dad- ganodd y Mil Y ork ei anfoddlonrwydd o her- wydd cyfnewidiad honedig yn un o lyfran cwm- peini y ffordd haiarn, ac o herwydd yr hwyr- frydigrwydd oedd wedi cael ei arddangos i ddangos potcl y gyriedydd, a bag perthynol i un ai y gyriedydd neu y tanwr! Gohiriwyd yr ymchwiliad hyd amser ammhen- nodol.
---'--------------.-4 NYES…
4 NYES ARISTOCRATAIDD 0 FLAEN YR YNADON. GWNAETII Mrs. Chrissie Gordon Alexander Price, y I iiyrs' a gymmerwyd ir ddalfa, yn ddiweddar, yn Birkenhead, a'r hon sydd yn hawlio fod nidi gyssyJbiadau aristociataidd, ei hymddangosiad yn llys yr ynadon yn Notting- ham, prydnawn dvdd Lhin, a chyhuddid hi o fod wedi sicrhau nwyddau gan fasnachwyv Not- tingham trwy dwyll. Yr oedd y l'ys yn orhwn o foneddigesau. Wedí i Mrs. Price fyned i'r bocs moesymgrym- odd, gyda urddas, i'r faingc, ac dsteddodd wedi hyny i wrandaw y tystiolaethau, gan ysgrifenu nodiadau i'w chyfreithiwr, Mr. J. B. Ander- son. Tra yn ngharchar ysgrifenodd y girehares hanes ei bywyd. Y mae yn ferch i weinidog Ymneillduol, ac yr oedd ganddi fodryb gyf- oethog yn parhau ifyw yn Nghymru, a brawd, meddyg adnabyddns, yn Ysgotland Tra yn eneth, derbyniodd ei haddysg yn Lloegr, Bel- gium, a'r Ahnaen. (Jail ciarad arnryw ieith- oedd yn llithrig. Bii yn gw-sinotettiti fel 'nyrs' iai blynyddoedd yn ol yn Ysbytty Not tingham i Ferched. Bu wedi hyny yn Neheudir America, ac amryw leoedd eraill. Traddodwyd y garchares i sefyll ei phrawf. Ciniatawyd irldi gael meichiafaeth am lOOp. ei hun, a dau feichiaf am 50p. bob un. Ond gan nad oedd neb yn dyfod yn mlaen yn feichiafon, bydd raid i'r garchares aros yn ngharchar hyd ddydd ei phrawf.
TEULU YN NEWYNU.
TEULU YN NEWYNU. TAD YN CAEL EI DKMTIO I YSBEII.IO EGLWYS. DAETII achos difrifol o deulu yn newynu ger bron llys yr ynadon yn Tower Bridge, LInn- dain, dydd Mawrth, pan y rhwymwyd Henry Adams, 301in mlwydd oed, Hafurwr, Vine Street, o dan Gyfraith y Trosedd Cyntaf, ar y eyhuddiad o ladi-ata dwy 4-anwyllbren bres fawr oddi ar ,tllor f glwys St Io.in, Horaelydown. Y cuddswyddog Darby a ddywedodd iddo wel- ed Adams yn caiio un o'r canwyllbreni mewn papnr, tra yr oedd y llall yn ei boced. Y Parch. H. Williams, y rheithor, a ddywed- odd iddo wneyd ymchwiliad i'r achos, a chael fod Adams yn meddu cymmeriad rhagorol. Yr oedd wedi bod allan o waith am dymmor maith; ac yr oedd ef, ei wraig, a'i b'ant, mewn gwir- ionedd yn newynu. Dangos^i yr olwg oedd ar- nynt y caledi mawr yr oeddynt wedi myned trwyddo. Dywedodd Adams fod yn ddrwg iawn ganddo iddo ysbeilio, oid yr oedd fy mhedwar plentyn yn newynu. Aeth tri o honynt i'r ysgot y diwrnod hwnw heb damaid o fwyd, ac nid oedd yna ddim iddynt pan ddeuent gartref. Yr oedd wedi cael ei deaitio. Y Rhingyll Darby a ddywedodd fod Adamfi wedi gwe rthu agos bob peth possibl i brynu yin- borth. Yr holl ddillad gwely oedd un blanced, ac yr oedd y plant yn gorfod rhedeg o gwmp is heb ddim yn mron am danynt tra yr oedd en crysau yn cael eu golchi. Yr oedd Mrs. Adams yn enniil 8?. yn yr wythnos, ac yr oedd 4s. 6c. o hyny yn myned at dalu y rhent. fel yr oedd y teulu wedi gorfod byw, am fhoedd, ar y gweddill o 3. 6, a rhyw ychydig dderbyniadau. Hysbysodd Adams y llys nad oedd wedi en- niil ceiniog er diwrnod Gwyl y Bangciau yn Awst. Yr oedd wedi bod allan yn foreu, ddydd ar ol dydd, yn ceisio cael gwaith. Mr. Rose.—'Y mae pawb yn rhwym odostur- io wrthych a bydd i mi eich t hwymo o dan Gyfraith y Trosedd Cyntaf i ddyiod i fyry i dderbyn eich dyfarniad, os gelwir arncch. Er rnwyn pob peth, peidiw:11 a gadael i dlodi eich arwain i ladrata.' Addawodd Mr. Williams wneyd pob peth a allai i estyn cynnorthwy i Adams.
I : 'SARDINES' YN ACHOS 0…
'SARDINES' YN ACHOS 0 FARWOLAETH. MEWN trengholiad yn Lliindain, dydd Mawith ar Lily George, gwraig i wehyrwr, dansosai y dystiolaeth fod y wi-aia wedi agor t, n o sardines, cynnwys pi un na ddarfu iddi ei fwyta am ddau ddiwrnod ar ol hyny. Cymmerwydhi ya sO yn mron yn union, a symmndwyd hi i'r ysbytty, lie y bu farw ydiwrnod dilynol. Dang- osai y dystiolaeth fod y farwolaeth i'w phriod 011 i wenwyniad. Dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth trwy Anffawd.'
YR EGLWYSWYR A CHYFRAITH PRIODAS.'
YR EGLWYSWYR A CHYFRAITH PRIODAS. ANFONODD Arglwydd Halifax, nos Lan, at archesgob Caergaint, anerchiad wedi ei har. wyddo gan 8,700 o glerigwyr, yn cynnwys wyth o esgobion, yn diolch iddo am yr ymdrechion oedd wedi ei wneyd yn N h yr Arglwyddi, i amddiffyn Cyfraith Fjglwys Loegr gyda golwg ar briodas gyda chwaer gwraig drangeedig, ac yn hyderu y byddai iddo amddiffyn hawliau yr Eglwys i gadw y gyfraith hono mewn cyssyllt iad a'i haelodau ei hun. Dywed Arglwydd Halifax fod yr enwau oedd wrth y ddeiseb, y rhai a gasglwyd mewn llai nag wythnos o am ser, yn cynnrychioii gwahanol farnau, ac nad oeddynt yn perthyn i un blaid neillduol yn yr Eglwys. Trefnai yr esgobion i gyfarfod yn brei- fat yn Mhalas Lambeth, dydd Mawrth.
[No title]
Ymgynnullodd gryn lawer i gystadleuaeth wn defaid yn Mynyddelwyn dydd Meroher,
[No title]
gan ei argyhoeddiadau. Bu yn bleidiol iawn i ddwyn y Chineaid i'r wlad. Ond nid ydyw mwyach. A gallem dybio fod ei gred yn nyfodol y drefedigaeth yn gydryw ag eiddo ei gymmrawd.